llais y sir

Gaeaf 2017

Diweddariad Ysgolion

Yn ystod y misoedd diwethaf mae cynnydd aruthrol wedi ei wneud wrth ddarparu Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Rydym ni’n edrych yn ôl at y cynnydd sydd wedi ei wneud yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn cael ei ddarparu yn ystod 2018, blwyddyn sy’n argoeli i fod yn un gyffrous iawn i addysg yn Sir Ddinbych.

Cwblhau Prosiect Ysgol Glan Clwyd

Mae elfennau olaf y prosiect yn Ysgol Glan Clwyd wedi eu cwblhau ac mae’r holl adeiladau a’r safle wedi eu trosglwyddo’n ôl i’r ysgol. Y rhannau olaf i’w cwblhau oedd y maes parcio a’r ardal fysiau, ailwampio’r ardaloedd addysgu olaf, creu ardal hamdden newydd a chreu man chwarae amlddefnydd newydd ar gyfer yr ysgol.

Mae’r gwaith yma wedi trawsnewid yr amgylchedd dysgu ac addysgu, yn ogystal â chynyddu capasiti addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

Glan Clwyd Collage

Edrych ymlaen at 2018

Bydd 2018 yn flwyddyn allweddol iawn i Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn Sir Ddinbych.

Yn Rhuthun bydd datblygiad Glasdir yn darparu adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Stryd Rhos ac Ysgol Penbarras, a fydd yn barod erbyn Pasg 2018. Ymwelodd rhai plant â’r safle’n ddiweddar i weld y cynnydd ac roedden nhw wrth eu bodd yn gweld eu hysgol newydd yn dechrau siapio. Yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda’r ddwy ysgol i sicrhau cyfnod pontio esmwyth rhwng yr hen a’r newydd.

Mewn mannau eraill yn ardal Rhuthun, yn ystod y gwanwyn bydd gwaith yn dechrau yng Nghlocaenog i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn. Yn ogystal, mae cynlluniau’n cael eu datblygu i godi ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair yn Llanfair Dyffryn Clwyd.

Bydd gwanwyn 2018 hefyd yn garreg filltir bwysig i’r ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl. Mae’r cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar ôl ymgynghoriad cadarnhaol a welodd rieni, disgyblion a thrigolion yn mynychu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori yn y dref. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr achos busnes ddechrau 2018 ac, yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes a’r cais cynllunio, gall y gwaith ddechrau ddiwedd y gwanwyn.

Schools Update Collage Welsh

I dderbyn y newyddion diweddaraf am y datblygiadau cofiwch ddilyn blog Addysg yn Sir Ddinbych.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...