llais y sir

Busnesau Sir Ddinbych yn parhau’n obeithiol am y dyfodol

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn parhau'n obeithiol am y dyfodol, yn ôl arolwg diweddar.

Cafodd Arolwg Busnes blynyddol y Cyngor fwy na 470 o ymatebion, gyda'r mwyafrif yn dweud eu bod yn fwy hyderus ynghylch y dyfodol nag erioed o'r blaen.

Mae'r arolwg blynyddol yn bwydo i fis Mawrth Busnes y Cyngor, sy'n cynnig ystod eang o sesiynau hyfforddi, rhwydweithio a chynghori i fasnachwyr y sir, yn seiliedig ar adborth yn yr arolwg.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: "Hoffwn ddiolch i'r busnesau a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar anghenion entrepreneuriaid yn y sir ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth yn seiliedig ar eu hanghenion. Fel hyn, gallwn gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fusnesau a fydd o fudd gwirioneddol iddynt wrth geisio tyfu.

"Rwy'n falch bod cymaint o fusnesau yn teimlo'n hyderus yn symud ymlaen. Mae Sir Ddinbych yma i gefnogi busnesau ac mae gennym ystod eang o brosiectau i helpu a chefnogi busnesau yn ein Strategaeth Uchelgais Cymunedol ac Economaidd.

"Rwy'n arbennig o falch o'r adborth ar anghenion hyfforddi, sy'n dangos ein bod wedi bod ar flaen y gad gyda'n ffocws ar sgiliau digidol dros y blynyddoedd diwethaf."

Canfu’r arolwg, a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor, fod mwy na 70 y cant o ymatebwyr yn dweud fod eu busnes yn gryfach nag oedd yn 2016, ac 1 y cant yn unig a ddywedodd ei fod yn wannach.

Roedd mwy na chwarter yn disgwyl cynyddu niferoedd staff, tra bod 63 y cant yn disgwyl i werthiannau gynyddu.

Yn ogystal, canfu'r arolwg fod mwy o fusnesau wedi cymryd band eang a band eang cyflym iawn yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gydnabod bod presenoldeb digidol a'r sgiliau i fanteisio ar hyn yn hollbwysig i lwyddiant busnes yn y dyfodol.

Y llynedd, gwelodd Mis Mawrth Busnes 400 o bobl yn manteisio ar 13 o ddigwyddiadau mewn 10 lleoliad, gyda mynediad at 45 o arbenigwyr busnes. Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau 2018 yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â econ.dev@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706896.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid