Cyrsiau cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau i ddod i arfer â bod ar-lein
Mae cyfres arall o gyrsiau hyfforddiant i fusnesau lleol ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ddinbych.
Ar ôl cael ymateb brwdfrydig yn y sesiynau yn gynharach eleni, bydd mwy o gyrsiau Facebook a Twitter yn cael eu darparu yn y sir.
Mae'r rhaglen newydd yn cynnwys sesiynau lefel uwch a rhai cychwynnol ar gais y busnesau a ddaeth i'r sesiynau diwethaf.
Y tiwtor Helen Hodgkinson o Academi Sgiliau Manwerthu Grŵp Llandrillo fydd yn darparu’r cyrsiau ar ran y Cyngor.
Dywedodd: “Bydd sesiynau ar wahân ar gyfer technegau lefel uwch a rhai cychwynnol yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ar y pynciau sy’n bwysig i’r grwpiau penodol.
“Mae 'na enghreifftiau gwych yn Sir Ddinbych o fusnesau sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu mwy o gwsmeriaid a bydd y sesiynau lefel uwch yn caniatáu iddyn nhw wneud y gorau o'r gynulleidfa honno gan ddefnyddio dulliau effeithiol sy’n fwy technegol.
“Bydd y sesiwn ‘sylfaenol’ yn rhoi arweiniad i’r rhai sydd heb arfer efo'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion busnes, gan eu rhoi nhw mewn gwell lle i ddechrau ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a rhai newydd ar-lein. Bwriad y cyrsiau hyn yw trosi cyswllt gyda’r cyhoedd yn werthiant."
Bydd y cyrsiau rhyngweithiol poblogaidd yn cael eu cynnal yn y Rhyl, Dinbych a Llysfasi rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.
Gallwch gael gwybod mwy am y cyrsiau ar www.sirddinbych.gov.uk/digwyddiadaubusnes