llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gwella Mynediad at Lwybr Leete

Mae Parc Gwledig Loggerheads wedi bod trwy gyfnod prysur yn gweithio ar brosiect i wella Llwybr Leete yng Ceubwll y Diafol. Mae gan lwybr Leete arwyddocâd pwysig i hanes lleol gan ei fod yn dilyn y sianel ddŵr a oedd yn cael ei chymryd o Afon Alyn yn Loggerheads ac ymlaen yr holl ffordd i Rydymwyn i weithredu olwynion dŵr yn yr ardaloedd cloddio plwm. Ar y ddaear gellir gweld y cafn a oedd yn cario dŵr yn yr ardal hon o galchfaen mân-dyllog. Gwyddom fod yr ardal hon yn rhan bwysig iawn o’r diwydiant cloddio plwm a chafodd effaith fawr ar yr ardal leol o ran diwydiant a chyfleoedd cyflogaeth yn y gymuned.

Mae prosiect llwybr Leete yn rhan o raglen waith ehangach ar hyd Dyffryn Alyn sy’n cynnwys gwella mynediad at Geubwll y Diafol, rheoli coetiroedd, gwella glaswelltir calchfaen ac adfywio nodweddion archeolegol ym Mharc Gwledig Loggerheads.  Mae’n debyg mai llwybr Leete yw un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru rydym wedi gallu buddsoddi yn rhai o’r nodweddion sy’n gwneud y llwybr mor arbennig.

Yn ogystal â’r uchod, mae’r prosiect hefyd wedi canolbwyntio ar wneud y llwybr yn llawer mwy hygyrch fel bo pawb yn cael ei fwynhau. Er enghraifft, rydym wedi gosod wyneb newydd ar sawl ardal o’r llwybr gan gynnwys lledu rhan ohono trwy ychwanegu cynalfuriau i’w wneud yn fwy hygyrch ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio pramiau a chadeiriau olwyn wedi i nifer o bobl ddweud fod hynny’n anodd yn y gorffennol. Rydym hefyd wedi newid un o’r giatiau i ddarparu gwell mynediad. Gan hynny rydym yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi’r cyhoedd i gysylltu ymhellach â’u hanes lleol gan fwynhau’r amgylchedd naturiol o’i amgylch ar yr un pryd.

Leethe Path Collage

Fforwm Blynyddol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cynhaliwyd y ddarlith flynyddol gan Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy'n ddiweddar ym Mhafiliwn Llangollen. Roedd darlithoedd eleni’n canolbwyntio ar ‘Hamdden mewn Tirweddau Dynodedig’.

Cafwyd anerchiadau allweddol gan Rob Dingle, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa; Hannah Arndt, Swyddog Mynediad Cefn Gwlad; Ian Owen, Cyfarwyddwyr One Planet Adventure; Mair Huws, Pennaeth Gwasanaeth Mynediad a Wardeniaid, Parc Cenedlaethol Eryri; Katrina Day, Swyddog Cerdded dros Iechyd a Helen Mrowiec, Uwch Swyddog Hamdden AHNE a Cyngor Sir Ddinbych. 

Arweinwyr y noson oedd Andy Worthington OBE, Cadeirydd Partneriaeth Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Dewi Davies, Cadeirydd Gweithgor Hamdden, Twristiaeth a Busnes Partneriaeth AHNE.

Roedd yn noson ddiddorol iawn a llawn gwybodaeth, gyda nifer o bobl yn bresennol.         

AONB Forum

Ogofâu Sir Ddinbych ar gamera

Bydd cyfres deledu sy’n cael ei darlledu ar S4C yn y flwyddyn newydd yn dangos safle hanesyddol yn Sir Ddinbych lle darganfuwyd y gweddillion dynol hynaf.

Darganfuwyd gweddillion 19 dant Neanderthalaidd, yn dyddio yn ôl 230,000 o flynyddoedd yn Ogof Pontnewydd ger Cefn Meiriadog, ar ôl cloddio dros sawl blwyddyn.

Roedd Neanderthaliaid yn rywogaeth gwahanol o bobl a oedd yn arfer byw yn y dirwedd hon. Mae astudiaethau wedi dangos bod y dannedd yn dod o o leiaf pump unigolyn yn amrywio o blant i oedolion.

Daethpwyd o hyd i tua 1,000 o fwyelli llaw hefyd, yn ogystal â gweddillion anifeiliaid eraill, fel penglog arth, sy’n ei wneud yn un o’r safleoedd archeolegol mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.

Mae’r ogof wedi’i diogelu oherwydd ei chysylltiadau daearegol ac archeolegol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr ogof fel storfa arfau ac adeiladwyd wal ar draws mynedfa’r ogof. 

Bydd y safle yn ymddangos fel rhan o gyfres Cynefin ar S4C, lle bydd yr archeolegydd Iestyn Jones yn dweud wrth bobl am bwysigrwydd y safle ac yn dangos y tu mewn i’r ogof.

Mae Ogof Pontnewydd hefyd wedi bod yn destun rhaglen ymchwil tymor hir yn Amgueddfa Cymru.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ewch i’n tudalen facebook: www.facebook.com/DenbighshireCountrysideService

Pontnewydd Cave 1Pontnewydd Cave 2

Ymgyrch Mynediad Cyfrifol i Rostiroedd

Bydd Beicio Gogledd Cymru a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lansio ymgyrch ar-lein yn tynnu sylw at natur sensitif rhai o’n cynefinoedd mwyaf sensitif yn yr AHNE.

Mae Rhostir Rhiwabon, sy’n ymestyn o Fwlch yr Oernant tuag at Goed Llandegla ac ymlaen at 'World's End' yn un o esiamplau gorau Prydain o rostir grug a gorgors yng Nghymru. Mae oddeutu 80% o boblogaeth Cymru o Geiliogod Du yn byw ar y rhostir hwn, ynghyd â nifer o adar eraill sy’n nythu ar y ddaear fel yr ehedydd, y cwtiad aur a’r bod tinwen. Mae rhostir yn sensitif i fynediad hamdden ac weithiau gall hyn gael effaith negyddol ar yr holl ardal.

Gall diraddiad grug a llus drwy sathru arwain at golli gorchudd daear, sydd yn ei dro’n arwain at golli pridd yn arbennig yn y gaeaf drwy’r amodau caled a wynebir ar dir uchel. Yn y gwanwyn, mae’r ardal yn llawn adar sy’n nythu ar y ddaear, yn bridio, nythu ac yn magu eu hifanc.

Bydd yr ymgyrch mynediad cyfrifol yn tynnu sylw at y llwybrau i gael mynediad i’r rhostir ar droed, beic neu ar gefn ceffyl er mwyn lleihau’r effaith ar y cynefin. Chwiliwch am y fideos, lluniau a ffeithiau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol @RideNorthWales a @Clwyd_Dee_AONB i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tirlun hudolus a bregus hwn.

Darganfod Tirluniau Calchfaen

Mae calchfaen yn un o nodweddion arbennig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn creu rhai o dirluniau mwyaf hardd ac unigryw Sir Ddinbych, mannau fel Loggerheads, Sgarp Eglwyseg, Bryniau Prestatyn a Bryn Alyn.

Mae cyhoeddiad newydd a gynhyrchwyd gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn dathlu’r tirluniau hyn ac yn darparu canllaw arweiniol ynglŷn â sut y ffurfiodd calchfaen, ei nodweddion daearegol, nodweddion archeolegol cysylltiedig, treftadaeth ddiwydiannol a naturiol, ynghyd â chyfres o awgrymiadau o deithiau cerdded i annog pobl i brofi’r gorau o dirluniau calchfaen yr ardal. Gallwch weld copi o’r llyfryn ar http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/geoamrywiaeth/, neu codwch gopi o Barc Gwledig Loggerheads.

Mae treftadaeth arbennig y tirlun calchfaen ym Mharc Gwledig Loggerheads hefyd wedi cael ei ddal mewn ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion o Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl gan weithio gyda’r artist Rob Spaull o Mediapod. Daeth y disgyblion yn ysgrifenwyr ffilm, cynhyrchwyr, cyflwynwyr, darlunwyr a chriw camera, ac roedd y canlyniadau’n ffantastig. Mae ail ffilm yn dangos y plant yn cyfweld â John Morris, Warden y Parc ynglŷn â’r parc a’i waith, sydd â thro annisgwyl ar y diwedd.  

Mewn ail brosiect celf, mae’r Grŵp Cerdded Cymunedau yn Gyntaf o’r Rhyl wedi creu mosaig hardd wedi’i ddylunio gan Julie Rogers o Illuminarte. Mae’r darn yn cipio’r hyn sy’n arbennig am Loggerheads, y calchfaen, gorffennol diwydiannol y Parc, mwyngloddio, planhigion fel y llysieuyn paris, y cor-rosyn a phig yr aran ruddgoch, yr adar a’r gloÿnnod byw sydd i’w cael a hefyd y cysylltiad rhwng yr ardal â Lerpwl a Chwmni Bysiau Crosville.

Cafodd y ddau brosiect celf hyn eu darparu fel partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cefn Gwlad a Chelf Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau ond yn bosibl drwy gefnogaeth yr arianwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor Celfyddydau a’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sydd wedi cefnogi sawl agwedd ar y gwaith, sy’n cael ei ddarparu fel rhan o ddau brosiect ehangach, Dyffryn Alyn Gweithredol a’r Waddol Galchfaen. Mae gwaith rheoli cynefin Calchfaen a gwella mynediad hefyd wedi cael eu cwblhau dan y cynlluniau hyn. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiectau hyn yn dangos i bobl y dreftadaeth ddaearegol ardderchog sydd gennym yma ar ein stepen drws, cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl am galchfaen a gobeithio y byddwn yn gofalu am ei nodweddion arbennig yn y dyfodol.

I dderbyn diweddariadau am waith AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, hoffwch ein tudalen facebook.

Y Nadolig yn Loggerheads

Mae ysbryd y Nadolig wir wedi cyrraedd Parc Gwledig Loggerheads  Mae gennym brofiad Nadoligaidd hudol eleni lle bydd plant, wedi eu tywys gan y corrach yn cwrdd â gwraig Sion Corn yn ei hystafell fyw i glywed stori a neges fach gan Siôn Corn ei hun, ynghyd â her llwybr y goedwig o amgylch y Parc, i wneud ychydig o grefftau ac addurno bisgedi, cyn derbyn anrheg fach i'w gymryd gartref. Mae ymweliadau cyhoeddus yn dechrau o 9 Rhagfyr a gallwch eu harchebu am £8 y plentyn (oed targed 4-8 oed) ar http://plasderwforestschool.co.uk/product/christmas-visits-loggerheads/

Beth am bicio draw i Loggerheads i wneud ychydig o siopa Nadolig yng Nghanolfan Loggerheads sydd ag amrywiaeth wych o anrhegion Nadolig ar gael, gan gynnwys hamperau bwyd lleol. Cwblhewch eich ymweliad gyda brecwast, cinio, cacen, te neu goffi yng Nhaffi Florence.

A phan fyddwch chi’n teimlo’n llawn twrci, ysgewyll a mins peis, bydd hefyd gennym daith gerdded y flwyddyn newydd er mwyn i’r teulu ddechrau cerdded yn y flwyddyn newydd.

Gobeithiwn eich gweld chi yn ystod yr ŵyl, Nadolig Llawen gan bawb ym Mharc Gwledig Loggerheads.

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol ym Mharc Gwledig Loggerheads, dilynwch ni ar facebook.

 Christmas at Loggerheads Collage

Anrhegion Nadolig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Chwilio am ysbrydoliaeth am anrhegion i’r Nadolig?  

AONB Collage

Beth am un o bosteri Dyffryn Dyfrdwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?  Mae gennym ystod o olygfeydd o Langollen i Gorwen, gan gynnwys y rheilffordd mewn meintiau A3 ac A2.   Mae'r rhain ar gael o Ganolfan Groeso Llangollen (01978 860828) neu gallwch ymholi Parc Gwledig Loggerheads (01824 712738).  Gallwch weld y casgliad llawn yn www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/ <http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/>

Fel arall, gallech godi un o'n Hampers yn llawn o gynnyrch lleol sydd bellach ar gael yn y siop ym Mharc Gwledig Loggerheads!

Hamper 1   Hamper 3

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid