Sir Ddinbych yn Dathlu ar ôl y Gwobrau Twristiaeth
Cafodd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, a noddwyd gan Traveline Cymru, mewn partneriaeth â Heart, eu cynnal ddydd Iau, 16 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.
Roedd y gwobrau yn dathlu ac yn cydnabod rhagoriaeth mewn sectorau lletygarwch a thwristiaeth, yn ogystal ag arddangos a dathlu llwyddiannau, gwaith caled ac ymroddiad y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant.
Partneriaeth Twristiaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) oedd noddwyr y wobr ar gyfer y ‘Newydd-ddyfodiad Gorau’.
Roedd Sir Ddinbych ar ben ei digon ar ôl derbyn pedair gwobr; gan wneud cyfanswm gwobrau’r gogledd-ddwyrain yn 6.
- Llety Gwely a Brecwast Gorau – Manorhaus, Llangollen
- Bwyty Gorau – Manorhaus, Rhuthun
- Atyniad Gwych (digwyddiad wedi ei fynychu gan fwy na 7,500 o bobl) – Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
- Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn – Tommy Davies, Cabanau Coed-y-Glyn
- Defnydd Gorau o Gyfryngau Digidol – FOCUS Wales
- Atyniad Gwych (digwyddiad wedi ei fynychu gan lai na 7,500 o bobl) – O Dan y Bwâu
Bydd yr enillwyr yn mynd yn eu blaenau i gynrychioli gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018, sydd wedi eu trefnu gan Groeso Cymru ar 8 Mawrth yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd.
I gael rhagor o wybodaeth am ogledd-ddwyrain Cymru ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru.
Yn y llun: Tommy Davies, Cabanau Coed-y-Glyn ac Ian Lebbon yn cynrychioli Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen