llais y sir

Gaeaf 2017

Darganfod Tirluniau Calchfaen

Mae calchfaen yn un o nodweddion arbennig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn creu rhai o dirluniau mwyaf hardd ac unigryw Sir Ddinbych, mannau fel Loggerheads, Sgarp Eglwyseg, Bryniau Prestatyn a Bryn Alyn.

Mae cyhoeddiad newydd a gynhyrchwyd gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn dathlu’r tirluniau hyn ac yn darparu canllaw arweiniol ynglŷn â sut y ffurfiodd calchfaen, ei nodweddion daearegol, nodweddion archeolegol cysylltiedig, treftadaeth ddiwydiannol a naturiol, ynghyd â chyfres o awgrymiadau o deithiau cerdded i annog pobl i brofi’r gorau o dirluniau calchfaen yr ardal. Gallwch weld copi o’r llyfryn ar http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/geoamrywiaeth/, neu codwch gopi o Barc Gwledig Loggerheads.

Mae treftadaeth arbennig y tirlun calchfaen ym Mharc Gwledig Loggerheads hefyd wedi cael ei ddal mewn ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion o Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl gan weithio gyda’r artist Rob Spaull o Mediapod. Daeth y disgyblion yn ysgrifenwyr ffilm, cynhyrchwyr, cyflwynwyr, darlunwyr a chriw camera, ac roedd y canlyniadau’n ffantastig. Mae ail ffilm yn dangos y plant yn cyfweld â John Morris, Warden y Parc ynglŷn â’r parc a’i waith, sydd â thro annisgwyl ar y diwedd.  

Mewn ail brosiect celf, mae’r Grŵp Cerdded Cymunedau yn Gyntaf o’r Rhyl wedi creu mosaig hardd wedi’i ddylunio gan Julie Rogers o Illuminarte. Mae’r darn yn cipio’r hyn sy’n arbennig am Loggerheads, y calchfaen, gorffennol diwydiannol y Parc, mwyngloddio, planhigion fel y llysieuyn paris, y cor-rosyn a phig yr aran ruddgoch, yr adar a’r gloÿnnod byw sydd i’w cael a hefyd y cysylltiad rhwng yr ardal â Lerpwl a Chwmni Bysiau Crosville.

Cafodd y ddau brosiect celf hyn eu darparu fel partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cefn Gwlad a Chelf Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau ond yn bosibl drwy gefnogaeth yr arianwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor Celfyddydau a’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sydd wedi cefnogi sawl agwedd ar y gwaith, sy’n cael ei ddarparu fel rhan o ddau brosiect ehangach, Dyffryn Alyn Gweithredol a’r Waddol Galchfaen. Mae gwaith rheoli cynefin Calchfaen a gwella mynediad hefyd wedi cael eu cwblhau dan y cynlluniau hyn. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiectau hyn yn dangos i bobl y dreftadaeth ddaearegol ardderchog sydd gennym yma ar ein stepen drws, cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl am galchfaen a gobeithio y byddwn yn gofalu am ei nodweddion arbennig yn y dyfodol.

I dderbyn diweddariadau am waith AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, hoffwch ein tudalen facebook.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...