Mae’r Cynllun Corfforaethol 2017-2022 – Gweithio Gyda’n Gilydd ar Gyfer Dyfodol Sir Ddinbych yn amlinellu pum blaenoriaeth:
Tai: Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion
- Cefnogi datblygiad 1000 yn rhagor o gartrefi yn Sir Ddinbych. Bydd hyn yn cynnwys:
- Bydd 170 o’r rhain yn gartrefi’r Cyngor
- Bydd 260 o’r rhain yn gartrefi fforddiadwy a ddarperir gan ddatblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
- Tai Gofal Ychwanegol.
- Tai arbenigol newydd i gefnogi pobl gydag anableddau ac anghenion cefnogaeth lefel isel.
- Cefnogi pobl ifanc i gael mynediad i dai addas y gallant eu fforddio.
- Gwneud defnydd unwaith eto o 500 eiddo gwag a pherfformio ymhlith y gorau yng Nghymru.
Mae Cymunedau wedi eu cysylltu ac mae mynediad ganddynt ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol arlein neu drwy cysylltiad cludiant dda:
- Galluogi pobl yn well i deithio i’r gwaith, addysg a gwasanaethau.
- Buddsoddi mewn ffyrdd a phontydd i gynnal isadeiledd hyfyw, cynaliadwy.
- Darparu band eang cyflym iawn a rhwydweithiau symudol i bawb.
- Sicrhau fod gwybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor yn hygyrch ar-lein lle bo modd. Byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid.
- Targedu’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod wedi eu heithrio’n ddigidol fel fod ganddynt y sgiliau a’r modd i ddefnyddio gwasanaethau digidol.
- Gwella isadeiledd i’w gwneud yn haws i gynnal digwyddiadau.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i feithrin annibynniaeth a gwydnwch
- Cefnogi pobl i gynllunio a llunio eu cymunedau.
- Darparu gwybodaeth sydd ar gael yn rhwydd sy’n cefnogi annibyniaeth a gwydnwch pobl.
- Sicrhau bod pobl yn cymryd rhan wrth lunio a gwella gwasanaethau.
- Gweithredu i leihau Cam-Drin Domestig
- Sicrhau fod pob galwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda.
- Sicrhau fod oedolion a phobl hŷn sydd angen iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn profi gwasanaeth di-dor.
Mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac yn cael ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd:
- Lleihau allyriadau carbon o asedau’r Cyngor gan o leiaf 15% erbyn 2022.
- Gwella effeithlonrwydd ynni tai’r Cyngor.
- Cynyddu darpariaeth ynni adnewyddadwy ar draws y sir.
- Lleihau nifer yr eiddo mewn perygl o lifogydd yn Sir Ddinbych.
- Cynyddu safon bioamrywiaeth cynefinoedd pwysig a rhywogaethau ar draws y sir.
- Codi proffil y sir fel lleoliad i ymweld ag o, er mwyn manteisio ar botensial economaidd Sir Ddinbych.
Mae pobl iau eisiau byw a gweithio yma, ac mae ganddynt y sgiliau i wneud hynny:
- Gweld pob plentyn sy’n cyflawni’r safon a ddisgwylir ar ddiwedd yr ysgol gynradd (Lefel 4, Cyfnod Allweddol 2) yn cyflawni 5 TGAU A*-C (Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4), gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) a Mathemateg, erbyn diwedd yr ysgol gynradd.
- Parhau i foderneiddio ysgolion drwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.
- Helpu pobl ifanc i ddatblygu ‘sgiliau byw’ ymarferol ac ymddygiad sy’n cyfrannu at iechyd a lles da.
- Darparu cefnogaeth i rieni i roi'r cychwyn gorau i’w plant.
- Darparu cyngor gyrfaoedd a mentora effeithiol i bobl ifanc.
- Rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith drwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith ystyrlon.
- Datblygu rhagor o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc.
mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Cynllun Corfforaethol: “Dros oes y Cynllun Corfforaethol diwethaf, darparwyd buddsoddiad o £200 miliwn gennym i wella ein hysgolion, cyfleusterau hamdden a llyfrgell, ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd. Llwyddom i gyflawni hyn a chynnal ein safle fel un o’r cynghorau gyda’r perfformiad gorau yng Nghymru ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol.
“Uchelgais gyffredinol y Cynllun hwn yw sicrhau fod Sir Ddinbych yn lle ble mae trigolion a busnesau wedi eu cysylltu’n dda ac yn wydn; lle mae cyfleoedd i bobl ifanc gael tai fforddiadwy a chael sgiliau a swyddi i fyw bywydau llwyddiannus a boddhaus, lle mae pob un ohonom yn mwynhau amgylchedd deniadol ac wedi ei ddiogelu. Fel y cynllun diwethaf, mae’r Cynllun Corfforaethol hwn yn cynnwys camau penodol a fydd yn cael eu cyflawni dros bum mlynedd ond, efallai’n bwysicach fyth, mae’r camau hyn wedi eu llunio i gael effaith y tu hwnt i’r pum mlynedd nesaf gan ystyried cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym yn cydnabod yr angen i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid a’r gymuned ehangach a dyna pam bod y blaenoriaethau yn y Cynllun Corfforaethol hwn wedi dod yn uniongyrchol o’r ymarferiad Sgwrs y Sir ac ymgynghori gyda phartneriaid”.
“Mae Sir Ddinbych yn credu’n gryf mewn datblygu diwylliant gwasanaeth cyhoeddus unigol, wedi’i arwain gan gymunedau gweithredol iawn. Byddwn, felly, yn mynd ati i edrych ar atebion rhanbarthol ac isranbarthol ac yn sefydlu ‘Panel Dinasyddion’ parhaol a fydd â rhan allweddol wrth fonitro a helpu i lywio gweithrediad y cynllun”.
Fe gewch mwy o wybodaeth ar ein gwefan.