Gwasanaeth carolau elusennol yn codi £500
Casglwyd cyfanswm o £500 yng ngwasanaeth carolau blynyddol y Cyngor nos Lun, Rhagfyr 4 gyda’r arian yn mynd tuag at y Bad Achub yn y Rhyl a Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy.
Yn ystod y gwasanaeth, roedd perfformiadau cerddorol gan Only Boys Aloyd, Cor Ysgol Glan Clwyd, Taya Castley o Ysgol Dinas Bran, yr unawdydd Beca Fflur Edwards o Ysgol Twm o’r nant, y delynores Julia Bugelli o Ysgol Glan Clwyd, darlleniad gan Libi Owen o Ysgol Pendref, yn ogystal â darlleniadau gan gynghorwyr a staff.