llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Gwella Mynediad at Lwybr Leete

Mae Parc Gwledig Loggerheads wedi bod trwy gyfnod prysur yn gweithio ar brosiect i wella Llwybr Leete yng Ceubwll y Diafol. Mae gan lwybr Leete arwyddocâd pwysig i hanes lleol gan ei fod yn dilyn y sianel ddŵr a oedd yn cael ei chymryd o Afon Alyn yn Loggerheads ac ymlaen yr holl ffordd i Rydymwyn i weithredu olwynion dŵr yn yr ardaloedd cloddio plwm. Ar y ddaear gellir gweld y cafn a oedd yn cario dŵr yn yr ardal hon o galchfaen mân-dyllog. Gwyddom fod yr ardal hon yn rhan bwysig iawn o’r diwydiant cloddio plwm a chafodd effaith fawr ar yr ardal leol o ran diwydiant a chyfleoedd cyflogaeth yn y gymuned.

Mae prosiect llwybr Leete yn rhan o raglen waith ehangach ar hyd Dyffryn Alyn sy’n cynnwys gwella mynediad at Geubwll y Diafol, rheoli coetiroedd, gwella glaswelltir calchfaen ac adfywio nodweddion archeolegol ym Mharc Gwledig Loggerheads.  Mae’n debyg mai llwybr Leete yw un o’r llwybrau mwyaf poblogaidd yn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru rydym wedi gallu buddsoddi yn rhai o’r nodweddion sy’n gwneud y llwybr mor arbennig.

Yn ogystal â’r uchod, mae’r prosiect hefyd wedi canolbwyntio ar wneud y llwybr yn llawer mwy hygyrch fel bo pawb yn cael ei fwynhau. Er enghraifft, rydym wedi gosod wyneb newydd ar sawl ardal o’r llwybr gan gynnwys lledu rhan ohono trwy ychwanegu cynalfuriau i’w wneud yn fwy hygyrch ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio pramiau a chadeiriau olwyn wedi i nifer o bobl ddweud fod hynny’n anodd yn y gorffennol. Rydym hefyd wedi newid un o’r giatiau i ddarparu gwell mynediad. Gan hynny rydym yn gobeithio y bydd hyn yn galluogi’r cyhoedd i gysylltu ymhellach â’u hanes lleol gan fwynhau’r amgylchedd naturiol o’i amgylch ar yr un pryd.

Leethe Path Collage

Fforwm Blynyddol AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Cynhaliwyd y ddarlith flynyddol gan Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy'n ddiweddar ym Mhafiliwn Llangollen. Roedd darlithoedd eleni’n canolbwyntio ar ‘Hamdden mewn Tirweddau Dynodedig’.

Cafwyd anerchiadau allweddol gan Rob Dingle, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa; Hannah Arndt, Swyddog Mynediad Cefn Gwlad; Ian Owen, Cyfarwyddwyr One Planet Adventure; Mair Huws, Pennaeth Gwasanaeth Mynediad a Wardeniaid, Parc Cenedlaethol Eryri; Katrina Day, Swyddog Cerdded dros Iechyd a Helen Mrowiec, Uwch Swyddog Hamdden AHNE a Cyngor Sir Ddinbych. 

Arweinwyr y noson oedd Andy Worthington OBE, Cadeirydd Partneriaeth Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Dewi Davies, Cadeirydd Gweithgor Hamdden, Twristiaeth a Busnes Partneriaeth AHNE.

Roedd yn noson ddiddorol iawn a llawn gwybodaeth, gyda nifer o bobl yn bresennol.         

AONB Forum

Ogofâu Sir Ddinbych ar gamera

Bydd cyfres deledu sy’n cael ei darlledu ar S4C yn y flwyddyn newydd yn dangos safle hanesyddol yn Sir Ddinbych lle darganfuwyd y gweddillion dynol hynaf.

Darganfuwyd gweddillion 19 dant Neanderthalaidd, yn dyddio yn ôl 230,000 o flynyddoedd yn Ogof Pontnewydd ger Cefn Meiriadog, ar ôl cloddio dros sawl blwyddyn.

Roedd Neanderthaliaid yn rywogaeth gwahanol o bobl a oedd yn arfer byw yn y dirwedd hon. Mae astudiaethau wedi dangos bod y dannedd yn dod o o leiaf pump unigolyn yn amrywio o blant i oedolion.

Daethpwyd o hyd i tua 1,000 o fwyelli llaw hefyd, yn ogystal â gweddillion anifeiliaid eraill, fel penglog arth, sy’n ei wneud yn un o’r safleoedd archeolegol mwyaf arwyddocaol yng Nghymru.

Mae’r ogof wedi’i diogelu oherwydd ei chysylltiadau daearegol ac archeolegol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr ogof fel storfa arfau ac adeiladwyd wal ar draws mynedfa’r ogof. 

Bydd y safle yn ymddangos fel rhan o gyfres Cynefin ar S4C, lle bydd yr archeolegydd Iestyn Jones yn dweud wrth bobl am bwysigrwydd y safle ac yn dangos y tu mewn i’r ogof.

Mae Ogof Pontnewydd hefyd wedi bod yn destun rhaglen ymchwil tymor hir yn Amgueddfa Cymru.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ewch i’n tudalen facebook: www.facebook.com/DenbighshireCountrysideService

Pontnewydd Cave 1Pontnewydd Cave 2

Ymgyrch Mynediad Cyfrifol i Rostiroedd

Bydd Beicio Gogledd Cymru a AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn lansio ymgyrch ar-lein yn tynnu sylw at natur sensitif rhai o’n cynefinoedd mwyaf sensitif yn yr AHNE.

Mae Rhostir Rhiwabon, sy’n ymestyn o Fwlch yr Oernant tuag at Goed Llandegla ac ymlaen at 'World's End' yn un o esiamplau gorau Prydain o rostir grug a gorgors yng Nghymru. Mae oddeutu 80% o boblogaeth Cymru o Geiliogod Du yn byw ar y rhostir hwn, ynghyd â nifer o adar eraill sy’n nythu ar y ddaear fel yr ehedydd, y cwtiad aur a’r bod tinwen. Mae rhostir yn sensitif i fynediad hamdden ac weithiau gall hyn gael effaith negyddol ar yr holl ardal.

Gall diraddiad grug a llus drwy sathru arwain at golli gorchudd daear, sydd yn ei dro’n arwain at golli pridd yn arbennig yn y gaeaf drwy’r amodau caled a wynebir ar dir uchel. Yn y gwanwyn, mae’r ardal yn llawn adar sy’n nythu ar y ddaear, yn bridio, nythu ac yn magu eu hifanc.

Bydd yr ymgyrch mynediad cyfrifol yn tynnu sylw at y llwybrau i gael mynediad i’r rhostir ar droed, beic neu ar gefn ceffyl er mwyn lleihau’r effaith ar y cynefin. Chwiliwch am y fideos, lluniau a ffeithiau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol @RideNorthWales a @Clwyd_Dee_AONB i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y tirlun hudolus a bregus hwn.

Darganfod Tirluniau Calchfaen

Mae calchfaen yn un o nodweddion arbennig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac yn creu rhai o dirluniau mwyaf hardd ac unigryw Sir Ddinbych, mannau fel Loggerheads, Sgarp Eglwyseg, Bryniau Prestatyn a Bryn Alyn.

Mae cyhoeddiad newydd a gynhyrchwyd gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn dathlu’r tirluniau hyn ac yn darparu canllaw arweiniol ynglŷn â sut y ffurfiodd calchfaen, ei nodweddion daearegol, nodweddion archeolegol cysylltiedig, treftadaeth ddiwydiannol a naturiol, ynghyd â chyfres o awgrymiadau o deithiau cerdded i annog pobl i brofi’r gorau o dirluniau calchfaen yr ardal. Gallwch weld copi o’r llyfryn ar http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/geoamrywiaeth/, neu codwch gopi o Barc Gwledig Loggerheads.

Mae treftadaeth arbennig y tirlun calchfaen ym Mharc Gwledig Loggerheads hefyd wedi cael ei ddal mewn ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion o Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl gan weithio gyda’r artist Rob Spaull o Mediapod. Daeth y disgyblion yn ysgrifenwyr ffilm, cynhyrchwyr, cyflwynwyr, darlunwyr a chriw camera, ac roedd y canlyniadau’n ffantastig. Mae ail ffilm yn dangos y plant yn cyfweld â John Morris, Warden y Parc ynglŷn â’r parc a’i waith, sydd â thro annisgwyl ar y diwedd.  

Mewn ail brosiect celf, mae’r Grŵp Cerdded Cymunedau yn Gyntaf o’r Rhyl wedi creu mosaig hardd wedi’i ddylunio gan Julie Rogers o Illuminarte. Mae’r darn yn cipio’r hyn sy’n arbennig am Loggerheads, y calchfaen, gorffennol diwydiannol y Parc, mwyngloddio, planhigion fel y llysieuyn paris, y cor-rosyn a phig yr aran ruddgoch, yr adar a’r gloÿnnod byw sydd i’w cael a hefyd y cysylltiad rhwng yr ardal â Lerpwl a Chwmni Bysiau Crosville.

Cafodd y ddau brosiect celf hyn eu darparu fel partneriaeth rhwng Gwasanaethau Cefn Gwlad a Chelf Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau ond yn bosibl drwy gefnogaeth yr arianwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor Celfyddydau a’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy sydd wedi cefnogi sawl agwedd ar y gwaith, sy’n cael ei ddarparu fel rhan o ddau brosiect ehangach, Dyffryn Alyn Gweithredol a’r Waddol Galchfaen. Mae gwaith rheoli cynefin Calchfaen a gwella mynediad hefyd wedi cael eu cwblhau dan y cynlluniau hyn. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiectau hyn yn dangos i bobl y dreftadaeth ddaearegol ardderchog sydd gennym yma ar ein stepen drws, cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl am galchfaen a gobeithio y byddwn yn gofalu am ei nodweddion arbennig yn y dyfodol.

I dderbyn diweddariadau am waith AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, hoffwch ein tudalen facebook.

Y Nadolig yn Loggerheads

Mae ysbryd y Nadolig wir wedi cyrraedd Parc Gwledig Loggerheads  Mae gennym brofiad Nadoligaidd hudol eleni lle bydd plant, wedi eu tywys gan y corrach yn cwrdd â gwraig Sion Corn yn ei hystafell fyw i glywed stori a neges fach gan Siôn Corn ei hun, ynghyd â her llwybr y goedwig o amgylch y Parc, i wneud ychydig o grefftau ac addurno bisgedi, cyn derbyn anrheg fach i'w gymryd gartref. Mae ymweliadau cyhoeddus yn dechrau o 9 Rhagfyr a gallwch eu harchebu am £8 y plentyn (oed targed 4-8 oed) ar http://plasderwforestschool.co.uk/product/christmas-visits-loggerheads/

Beth am bicio draw i Loggerheads i wneud ychydig o siopa Nadolig yng Nghanolfan Loggerheads sydd ag amrywiaeth wych o anrhegion Nadolig ar gael, gan gynnwys hamperau bwyd lleol. Cwblhewch eich ymweliad gyda brecwast, cinio, cacen, te neu goffi yng Nhaffi Florence.

A phan fyddwch chi’n teimlo’n llawn twrci, ysgewyll a mins peis, bydd hefyd gennym daith gerdded y flwyddyn newydd er mwyn i’r teulu ddechrau cerdded yn y flwyddyn newydd.

Gobeithiwn eich gweld chi yn ystod yr ŵyl, Nadolig Llawen gan bawb ym Mharc Gwledig Loggerheads.

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol ym Mharc Gwledig Loggerheads, dilynwch ni ar facebook.

 Christmas at Loggerheads Collage

Anrhegion Nadolig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Chwilio am ysbrydoliaeth am anrhegion i’r Nadolig?  

AONB Collage

Beth am un o bosteri Dyffryn Dyfrdwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol?  Mae gennym ystod o olygfeydd o Langollen i Gorwen, gan gynnwys y rheilffordd mewn meintiau A3 ac A2.   Mae'r rhain ar gael o Ganolfan Groeso Llangollen (01978 860828) neu gallwch ymholi Parc Gwledig Loggerheads (01824 712738).  Gallwch weld y casgliad llawn yn www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/ <http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/dee-valley-posters/>

Fel arall, gallech godi un o'n Hampers yn llawn o gynnyrch lleol sydd bellach ar gael yn y siop ym Mharc Gwledig Loggerheads!

Hamper 1   Hamper 3

 

Twristiaeth

Fforwm Twristiaeth Dan ei Sang

Yn ddiweddar fe gynhaliwyd Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych, a sefydlwyd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddar am y diwydiant i fusnesau, myfyrwyr ac unrhyw un arall a Discover Denbighshire Logodiddordeb yn y maes, ac roedd y lle dan ei sang.

Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith; Arweinydd a Chyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ddinbych; Pro Kitesurfing a Beicio Gogledd Cymru.

Meddai Simon Jones, Perchennog Pro Kitesurfing yn y Rhyl: “Bu i mi fwynhau’r cyfle i amlygu’r gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn Pro Kitesurfing a rhannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yn amlwg, bydd yr holl ddatblygiadau cyffrous sy’n digwydd yn y Rhyl ar hyn o bryd yn cael effaith fawr ar yr ardal ac rydw i’n gobeithio y gallwn ni i gyd fanteisio arnyn nhw i ddenu mwy o bobl i’n hardal.”

Cafodd y cylch nesaf o gyllid twristiaeth sydd ar gael i helpu’r sector preifat a’r sector cyhoeddus gydweithio i ddatblygu a darparu prosiectau arloesol i gefnogi ‘Blwyddyn y Môr’ Croeso Cymru ei gyhoeddi yn y fforwm gan yr Ysgrifennydd Cabinet.

Cafodd Cynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych ar gyfer 2017-20, sy'n cydlynu'r holl agweddau ar gyrchfan sy’n cyfrannu at brofiad ymwelwyr, hefyd ei lansio yn ystod y fforwm. Mae'r cynllun wedi ei gynhyrchu gan Bartneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, Croeso Cymru, busnesau sector preifat a'r sector cyhoeddus ehangach.

Tourism Forum Collage

I weld y newyddion twristiaeth diweddaraf a’r Cynllun Rheoli Cyrchfan, ewch i www.darganfodsirddinbych.cymru.

Sir Ddinbych yn Dathlu ar ôl y Gwobrau Twristiaeth

Cafodd Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, a noddwyd gan Traveline Cymru, mewn partneriaeth â Heart, eu cynnal ddydd Iau, 16 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno.

Roedd y gwobrau yn dathlu ac yn cydnabod rhagoriaeth mewn sectorau lletygarwch a thwristiaeth, yn ogystal ag arddangos a dathlu llwyddiannau, gwaith caled ac ymroddiad y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant.

Partneriaeth Twristiaeth Gogledd-Ddwyrain Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) oedd noddwyr y wobr ar gyfer y ‘Newydd-ddyfodiad Gorau’.

Roedd Sir Ddinbych ar ben ei digon ar ôl derbyn pedair gwobr; gan wneud cyfanswm gwobrau’r gogledd-ddwyrain yn 6.

  • Llety Gwely a Brecwast Gorau – Manorhaus, Llangollen
  • Bwyty Gorau – Manorhaus, Rhuthun
  • Atyniad Gwych (digwyddiad wedi ei fynychu gan fwy na 7,500 o bobl) – Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen 
  • Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn – Tommy Davies, Cabanau Coed-y-Glyn
  • Defnydd Gorau o Gyfryngau Digidol – FOCUS Wales
  • Atyniad Gwych (digwyddiad wedi ei fynychu gan lai na 7,500 o bobl) – O Dan y Bwâu

Bydd yr enillwyr yn mynd yn eu blaenau i gynrychioli gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018, sydd wedi eu trefnu gan Groeso Cymru ar 8 Mawrth yn y Celtic Manor Resort, Casnewydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ogledd-ddwyrain Cymru ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru.

Tourism Ian and Tommy Award

Yn y llun: Tommy Davies, Cabanau Coed-y-Glyn ac Ian Lebbon yn cynrychioli Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Gwasanaeth Dosbarthu Llenyddiaeth Sir Ddinbych

Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn rhedeg Gwasanaeth Dosbarthu Llenyddiaeth chwarterol ar gyfer yr holl fusnesau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn ac o gwmpas y Sir.

Mae'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn yn caniatáu i fusnesau archebu faint o daflenni mae nhw angen a cael nhw wedi dosbarthu a'u hanfon yn ddi-dâl i'w busnes i'w helpu i ddarparu gwybodaeth leol i'w cwsmeriaid.

Os hoffech chi ymuno â'r gwasanaeth dosbarthu am ddim, anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk a fe wnawn ychwanegu eich manylion.

Gwnaeth 223 o fusnesau ofyn am 110,496 o daflenni i’w dosbarthu yn 2017.

Mae'r ceisiadau presennol yn cau ar 31 Rhagfyr 2017 gyda llenyddiaeth yn cael ei gyflwyno wythnos sy'n dechrau ar 8 Ionawr 2018.

 

Adran Busnes

Busnesau Sir Ddinbych yn parhau’n obeithiol am y dyfodol

Mae busnesau yn Sir Ddinbych yn parhau'n obeithiol am y dyfodol, yn ôl arolwg diweddar.

Cafodd Arolwg Busnes blynyddol y Cyngor fwy na 470 o ymatebion, gyda'r mwyafrif yn dweud eu bod yn fwy hyderus ynghylch y dyfodol nag erioed o'r blaen.

Mae'r arolwg blynyddol yn bwydo i fis Mawrth Busnes y Cyngor, sy'n cynnig ystod eang o sesiynau hyfforddi, rhwydweithio a chynghori i fasnachwyr y sir, yn seiliedig ar adborth yn yr arolwg.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: "Hoffwn ddiolch i'r busnesau a gymerodd yr amser i gwblhau'r arolwg hwn.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar anghenion entrepreneuriaid yn y sir ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth yn seiliedig ar eu hanghenion. Fel hyn, gallwn gynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fusnesau a fydd o fudd gwirioneddol iddynt wrth geisio tyfu.

"Rwy'n falch bod cymaint o fusnesau yn teimlo'n hyderus yn symud ymlaen. Mae Sir Ddinbych yma i gefnogi busnesau ac mae gennym ystod eang o brosiectau i helpu a chefnogi busnesau yn ein Strategaeth Uchelgais Cymunedol ac Economaidd.

"Rwy'n arbennig o falch o'r adborth ar anghenion hyfforddi, sy'n dangos ein bod wedi bod ar flaen y gad gyda'n ffocws ar sgiliau digidol dros y blynyddoedd diwethaf."

Canfu’r arolwg, a gynhaliwyd gan dîm Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor, fod mwy na 70 y cant o ymatebwyr yn dweud fod eu busnes yn gryfach nag oedd yn 2016, ac 1 y cant yn unig a ddywedodd ei fod yn wannach.

Roedd mwy na chwarter yn disgwyl cynyddu niferoedd staff, tra bod 63 y cant yn disgwyl i werthiannau gynyddu.

Yn ogystal, canfu'r arolwg fod mwy o fusnesau wedi cymryd band eang a band eang cyflym iawn yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gydnabod bod presenoldeb digidol a'r sgiliau i fanteisio ar hyn yn hollbwysig i lwyddiant busnes yn y dyfodol.

Y llynedd, gwelodd Mis Mawrth Busnes 400 o bobl yn manteisio ar 13 o ddigwyddiadau mewn 10 lleoliad, gyda mynediad at 45 o arbenigwyr busnes. Cyhoeddir rhaglen ddigwyddiadau 2018 yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â econ.dev@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706896.

Busnesau’n rhannu eu hawgrymiadau yn rhifyn cyntaf cylchgrawn Sir Ddinbych

Mae masnachwyr stryd fawr ar draws Sir Ddinbych wedi bod yn rhannu eu hawgrymiadau ar gyfer llwyddiant.Business Magazine Busnes y Dref

Mae'r Cyngor wedi bod yn parhau ei bolisi o siarad a gwrando ar fusnesau lleol drwy gynhyrchu e-gylchgrawn ‘Busnes y Dref’ yn seiliedig ar beth sydd ganddynt i’w ddweud.

Rhoddodd busnesau eu hawgrymiadau am lwyddiant yn ogystal â chyngor ar bynciau pwysig sy’n wynebu masnachwyr yn y sir fel rhwydweithio a hyrwyddo eu hunain drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Busnes y Dref hefyd yn rhoi gwybod pa help a chefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor a sefydliadau eraill.

Mae wedi’i ddosbarthu’n electronig i fusnesau yn y sir ac mae hefyd ar gael i’w weld ar wefan y Cyngor yn ogystal ag ar dudalen Facebook #carubusnesaulleol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r cylchgrawn hwn yn rhoi llwyfan i fusnesau Sir Ddinbych i rannu eu gwybodaeth a’u hawgrymiadau am lwyddiant.

“Ein huchelgais yw cefnogi sector busnes preifat iach sy’n darparu lefelau da o ran cyflogaeth ac incwm i fusnesau a phreswylwyr yn ein trefi a’n cymunedau i gyd.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi canol trefi Sir Ddinbych, pob un gyda’i gymeriad unigryw ei hun, a gallwch weld hyn yn dod allan yn y sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda busnesau.

“Mae’r e-gylchgrawn hwn yn tynnu sylw at rai o’r amrywiaeth o fusnesau a grwpiau busnes sydd gennym ar ein stryd fawr yn Sir Ddinbych i roi blas ar yr holl bethau gallwn fod yn gadarnhaol amdanynt.

“Mae busnesau lleol bach yn cynnig cymaint i’n preswylwyr a’n hymwelwyr ac yn gwneud cyfraniad mawr i’r economi leol ac rydym wrth ein bodd o fod wedi gallu rhoi llais iddynt a rhannu eu stori."

Mae Busnes y Dref hefyd yn rhoi gwybodaeth i fasnachwyr am ymgyrch #carubusnesaulleol sy’n annog busnesau a siopwyr i sôn am gynnyrch lleol gwych ar gyfryngau cymdeithasol.

Gallwch weld Busnes y Dref mewn fformat PDF yma  www.sirddinbych.gov.uk/busnesydref

Parcio Am Ddim ym Meysydd Parcio Canol Tref ar ôl 3pm

Bydd help llaw ar gael i siopwyr Sir Ddinbych dros gyfnod y Nadolig.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn darparu parcio am ddim ar ôl 3pm yn ei feysydd parcio canol tref trwy gydol mis Rhagfyr.

Nod y cynllun parcio am ddim ar ôl 3 yw cefnogi canol trefi Sir Ddinbych ac annog cwsmeriaid i gymryd mantais o’r ystod eang o fasnachwyr sydd ar strydoedd mawr y sir.

Mae'r cynllun yn darparu parcio am ddim ym mhob maes parcio talu ac arddangos a weithredir gan y Cyngor yng nghanol trefi ar ôl 3pm yn ddyddiol hyd at 31 Rhagfyr.

I weld rhestr o’r meysydd parcio sy’n rhan o’r cynllun hwn, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/parcio

Cyrsiau cyfryngau cymdeithasol i helpu busnesau i ddod i arfer â bod ar-lein

Mae cyfres arall o gyrsiau hyfforddiant i fusnesau lleol ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cynnal gan Gyngor Sir Ddinbych.

Ar ôl cael ymateb brwdfrydig yn y sesiynau yn gynharach eleni, bydd mwy o gyrsiau Facebook a Twitter yn cael eu darparu yn y sir.

Mae'r rhaglen newydd yn cynnwys sesiynau lefel uwch a rhai cychwynnol ar gais y busnesau a ddaeth i'r sesiynau diwethaf.

Y tiwtor Helen Hodgkinson o Academi Sgiliau Manwerthu Grŵp Llandrillo fydd yn darparu’r cyrsiau ar ran y Cyngor.

Dywedodd: “Bydd sesiynau ar wahân ar gyfer technegau lefel uwch a rhai cychwynnol yn golygu y gallwn ni ganolbwyntio ar y pynciau sy’n bwysig i’r grwpiau penodol.

 “Mae 'na enghreifftiau gwych yn Sir Ddinbych o fusnesau sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddenu mwy o gwsmeriaid a bydd y sesiynau lefel uwch yn caniatáu iddyn nhw wneud y gorau o'r gynulleidfa honno gan ddefnyddio dulliau effeithiol sy’n fwy technegol.

 “Bydd y sesiwn ‘sylfaenol’ yn rhoi arweiniad i’r rhai sydd heb arfer efo'r cyfryngau cymdeithasol at ddibenion busnes, gan eu rhoi nhw mewn gwell lle i ddechrau ymgysylltu â chwsmeriaid presennol a rhai newydd ar-lein. Bwriad y cyrsiau hyn yw trosi cyswllt gyda’r cyhoedd yn werthiant."

Bydd y cyrsiau rhyngweithiol poblogaidd yn cael eu cynnal yn y Rhyl, Dinbych a Llysfasi rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.

Gallwch gael gwybod mwy am y cyrsiau ar www.sirddinbych.gov.uk/digwyddiadaubusnes 

Addysg

Ysgolion y Sir yn dysgu sgiliau achub bywyd

Mae ysgolion yn Sir Ddinbych wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect partneriaeth i ddysgu sgiliau achub bywyd hanfodol.

Yn ystod mis Hydref, bu partneriaid iechyd proffesiynol amrywiol yn gweithio gydag ysgolion yng Ngogledd Cymru i ddysgu sgiliau achub bywyd a darparu pecynnau codi arian, er mwyn galluogi ysgolion i osod diffibrilwyr.

Nod y prosiect yw lleoli diffibriliwr mewn cabinet y tu allan i ysgolion fel nid yn unig bod gan yr ysgol  fynediad at yr offer achub bywyd hwn mewn argyfwng ataliad cardiaidd, ond bod gan y gymuned gyfan hefyd.

Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ddinbych, mae'r Prosiect Ysgol wedi casglu mwy o fomentwm, gan ddefnyddio defnyddio menter Ambiwlans Cymru "Shoctober" i lansio eu hapêl i ysgolion yn Sir Ddinbych, gan arwain at fwy o ysgolion yn mynd ymlaen i gymryd rhan yn y prosiect parhaus hwn.

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, 'Rwyf yn hapus iawn gyda sut mae'r bartneriaeth hon yn gweithio i ddysgu sgiliau achub bywyd a helpu ysgolion i osod diffibrilwyr.'

Mae'r Elusen Cardiaidd cenedlaethol SADS UK yn cefnogi ysgolion yng Ngogledd Cymru i brynu AED, trwy ddarparu pecynnau codi arian am ddim, llwyfannau codi arian ar-lein ac eitemau hyrwyddo i helpu'r ysgol i godi'r arian sydd ei angen arnynt.

Dywedodd y Cardiolegydd Ymgynghorol, Dr Eduardus Subkovas o BIPBC: Yn ystod mis "Shoctober" mae o leiaf 6 o gleifion wedi cael eu derbyn i YGC yn dilyn arestiad cardiaidd y tu allan i'r ysbyty ac mae pob un wedi goroesi oherwydd bod rhywun gerllaw yn gallu helpu.

Os hoffai eich ysgol gymryd rhan neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â SADS UK, e-bost: info@sadsuk.org neu ffoniwch: 01277 811215

Rhos Street Video ShootSchools Saving Lives

Diweddariad Ysgolion

Yn ystod y misoedd diwethaf mae cynnydd aruthrol wedi ei wneud wrth ddarparu Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Sir Ddinbych, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Rydym ni’n edrych yn ôl at y cynnydd sydd wedi ei wneud yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at yr hyn fydd yn cael ei ddarparu yn ystod 2018, blwyddyn sy’n argoeli i fod yn un gyffrous iawn i addysg yn Sir Ddinbych.

Cwblhau Prosiect Ysgol Glan Clwyd

Mae elfennau olaf y prosiect yn Ysgol Glan Clwyd wedi eu cwblhau ac mae’r holl adeiladau a’r safle wedi eu trosglwyddo’n ôl i’r ysgol. Y rhannau olaf i’w cwblhau oedd y maes parcio a’r ardal fysiau, ailwampio’r ardaloedd addysgu olaf, creu ardal hamdden newydd a chreu man chwarae amlddefnydd newydd ar gyfer yr ysgol.

Mae’r gwaith yma wedi trawsnewid yr amgylchedd dysgu ac addysgu, yn ogystal â chynyddu capasiti addysg Gymraeg yng ngogledd y sir.

Glan Clwyd Collage

Edrych ymlaen at 2018

Bydd 2018 yn flwyddyn allweddol iawn i Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif yn Sir Ddinbych.

Yn Rhuthun bydd datblygiad Glasdir yn darparu adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Stryd Rhos ac Ysgol Penbarras, a fydd yn barod erbyn Pasg 2018. Ymwelodd rhai plant â’r safle’n ddiweddar i weld y cynnydd ac roedden nhw wrth eu bodd yn gweld eu hysgol newydd yn dechrau siapio. Yn ystod y misoedd nesaf bydd y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda’r ddwy ysgol i sicrhau cyfnod pontio esmwyth rhwng yr hen a’r newydd.

Mewn mannau eraill yn ardal Rhuthun, yn ystod y gwanwyn bydd gwaith yn dechrau yng Nghlocaenog i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn. Yn ogystal, mae cynlluniau’n cael eu datblygu i godi ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair yn Llanfair Dyffryn Clwyd.

Bydd gwanwyn 2018 hefyd yn garreg filltir bwysig i’r ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl. Mae’r cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar ôl ymgynghoriad cadarnhaol a welodd rieni, disgyblion a thrigolion yn mynychu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori yn y dref. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr achos busnes ddechrau 2018 ac, yn amodol ar gymeradwyo’r achos busnes a’r cais cynllunio, gall y gwaith ddechrau ddiwedd y gwanwyn.

Schools Update Collage Welsh

I dderbyn y newyddion diweddaraf am y datblygiadau cofiwch ddilyn blog Addysg yn Sir Ddinbych.

 

Cafe R

Cafe R

Mae yna dal digon o amser i chi flasu cinio Nadolig yng Nghaffi R. Gallwch eu ffonio ar 01824 708099 i archebu bwrdd.Cafe R Christmas Menu

Maent hefyd yn gwasanaethu te prynhawn.

 

Nodweddion

Yr eira a syrthiodd yn Sir Ddinbych yn ddiweddar

 

Dyma rhai o luniau o Ddinbych a Rhuthun ar ôl yr eira yn ddiweddar. Rydym hefyd wedi cynnwys y fideo graeanu er gwybodaeth.

Pictures of Denbigh snowPictures of Ruthin snow

 

Tai Sir Ddinbych

Cartrefi newydd Sir Ddinbych yn cwrdd â'r galw lleol am dai o ansawdd

Mae dathliad i deuluoedd yn Sir Ddinbych, gan fod 12 o gartrefi newydd wedi'u dyrannu i bobl leol yn Llangollen, diolch i bolisi gosod lleol.

Ymwelodd cynrychiolwyr cymdeithas tai Grŵp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar â'r tenantiaid newydd yn eu cartrefi newydd yn Llys Brân a Threm yr Orsaf yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Gwelodd y buddsoddiad gwerth £1.2 miliwn y cyn safle Ysbyty yn y dref yn cael ei datblygu i greu'r cartrefi newydd.

"Rydym yn awyddus i geisio cwrdd â'r galw lleol am ein datblygiadau newydd," esbonia Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin. "Mae ein polisi gosod lleol yn golygu bod yna amodau ynghylch pwy all wneud cais am y cartrefi newydd hyn, gan roi blaenoriaeth i’r bobl sydd wedi byw a gweithio yn yr ardal am o leiaf bum mlynedd ar gyfer y cartrefi newydd.

"Rydym yn ddiolchgar i'r tenantiaid newydd am ganiatáu i ni ymweld â'r safle a gweld dros ein hunain y gwaith caled a'r ymdrech sydd wedi mynd i ddatblygu'r hen safle ysbyty dros nifer o fisoedd i chwe chartref newydd gwych a chwe fflat i bobl leol," esboniodd y Cynghorydd Tony Thomas o Gyngor Sir Ddinbych.

Cyn datblygu'r safle, datblygwyd noddfa ystlumod arbennig ar y safle, er mwyn diogelu cytref o'r ystlumod lleiaf cyn i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'r ystlumod wedi ymgartrefu'n dda i mewn i'w cartref newydd, sydd hefyd yn adeilad storio cymunedol ar gyfer y tenantiaid newydd.

"Cartrefi cost-effeithlon o ansawdd yw'r hyn yr ydym yn ymdrechu i’w gael fel un o'r prif gymdeithasau tai yng ngogledd Cymru," parhaodd Rhiannon Dafydd o Grŵp Cynefin.

"Rwyf wrth fy modd bod y tenantiaid newydd yma yn Llangollen wedi cyflawni hynny, cartrefi cynnes cyfforddus sy'n sicrhau y gallant barhau i fyw a gweithio yma yn eu hardal."

Newyddion

Gwybodaeth am y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Picture of Baubls

Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i'w chael ar ein gwefan:

  • Casgliadau sbwriel
  • Pa ddigwyddiadau sydd ymlaen
  • Manylion parcio am ddim ar ôl 3pm
  • Oriau agor llyfrgelloedd
  • Newid amserau agor ar gyfer y Gwasanaeth Archifau
  • Gwyliau ysgol
  • Amserau agor ar gyfer gwasanaethau

 

Sir Ddinbych yn lansio ei fideo siopa Nadolig

Mae'r Cyngor wedi rhyddhau’r clip siopa Nadoligaidd er mwyn hyrwyddo’r amrywiaeth eang o gynnyrch sydd ar gael ar strydoedd mawr y sir.

Mae’r fideo dau funud o hyd yn cynnwys llu o fasnachwyr sy’n dangos beth sydd ar gael yn Sir Ddinbych gyda golygfeydd wedi eu ffilmio ym mhob un o’r wyth tref yn y sir.

Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Hoffwn ddiolch i’r holl fusnesau, preswylwyr a grwpiau sydd wedi helpu i wneud y fideo hwn yn bosibl.

 “Mae gan Sir Ddinbych bopeth y mae siopwyr eu hangen i helpu i ddathlu’r Nadolig yn ogystal â gwasanaeth gwych a staff cyfeillgar.

 “Mae siopa'n lleol o fudd i’r gymuned leol gydag arian yn cael ei wario'n lleol yn aros o fewn economi Sir Ddinbych, sydd o fudd i bawb yn y sir.

 “Mae Sir Ddinbych yn cynnig profiad siopa lle bydd siopwyr yn ymlacio a mwynhau llawer mwy nac wrth siopa yn y dinasoedd mwy a'r parciau siopau tu allan i'r trefi. Felly fe fyddwn yn annog preswylwyr i weld beth sydd gan Sir Ddinbych i'w gynnig y Nadolig hwn."

Y busnesau sydd i’w gweld yn y clip yw Nouveau Riche, Prestatyn; Detour Menswear, Y Rhyl; Gwesty a Sba yr Oriel, Llanelwy; The Little Cheesemonger, Rhuddlan; State of Distress, Rhuthun; Snow in Summer, Dinbych, Siop Fferm Stâd Rhug, Pethau Tlws, Corwen a Llangollen Baby.

Mae Sandra Griffiths wedi bod yn rhedeg Snow in Summer yn Ninbych ers tair blynedd gan werthu eitemau hen ffasiwn, cardiau cyfarch a nwyddau ac anrhegion wedi eu gwneud gan artistiaid lleol.

“Roedd yn braf iawn cymryd rhan yn y fideo siopa'n lleol,” meddai.

“Mae siopa’n lleol yn rhoi’r cyfle i gwsmeriaid i brynu nwyddau sydd wedi eu cynllunio a’u gwneud yn lleol, ac i brynu eitemau unigryw iddynt eu hunain neu ar gyfer y cartref."

Mae Cathy Challand yn rhedeg Nouveau Riche, siop ffasiwn marched ac ategolion ym Mhrestatyn.

“Mae siopa’n lleol yn helpu’r economi leol ac yn creu swyddi lleol,” meddai. “Rydych yn cael gwasanaeth mwy personol wrth siopa mewn siopau annibynnol lleol oherwydd yn hytrach na dilyn y ffasiynau diweddaraf mae gennym ein hunaniaeth a'n steil unigryw ein hunain, ac felly rydych yn fwy tebygol o ganfod rhywbeth gwahanol. 

 “Roedd cymryd rhan yn y fideo Nadolig yn hwyl. Rwyf wrth fy modd gyda fy nghwsmeriaid ac mae'n wych eu bod yn cefnogi busnesau lleol drwy ledaenu’r enw da i deulu a ffrindiau. Hebddyn nhw byddai bodolaeth ein strydoedd mawr byrlymus yn dod i ben.”

Cynhyrchwyd y fideo fel rhan o'r ymgyrch #CaruBusnesauLleol sy'n cefnogi masnachwyr lleol drwy annog cwsmeriaid a busnesau i roi lluniau o nwyddau a phrofiadau gwych ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ar gyfer y golygfeydd terfynol a ffilmiwyd yn Rhuthun, fe aeth busnesau o’r dref yn ogystal â Cherdd Cydweithredol Sir Ddinbych, Clwb Rotari Rhuthun a Chilli Cow Ice Cream, a ddangosodd ei flas pwdin Nadolig, ati i helpu i greu byd siopa Nadolig rhyfeddol.

Heather Powell yw rheolwr gyfarwyddwr Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, a ddarparodd yr ensemble pres DMC6 oedd yn cynnwys disgyblion 12 i 16 oed o Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Dinas Bran.

“Roedd y band wrth eu bodd ac yn falch eu bod wedi cael y cais - maent bob amser yn hoff o gefnogi digwyddiadau lleol ac roeddent wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr,” meddai.

“Roedd y profiad yn wych iddynt. Fel busnes lleol mae siopa’n lleol yn hanfodol - rydym bob amser yn cefnogi busnesau eraill ac yn credu fod yna amrywiaeth eang o siopau lleol hyfryd."

Mae’r Cyngor hefyd yn darparu parcio am ddim ymhob un o’r meysydd parcio yng nghanol y trefi ar ôl 3pm tan Ragfyr 31.

 

Nodyn i olygyddion: Gweler y lluniau sydd wedi eu hatodi a dolen i fideo siopa Nadolig Sir Ddinbych https://www.youtube.com/watch?v=W7OPxWYGZkI

Caniatau blaenoriaethau'r Cyngor

Mae cynghorwyr yn Sir Ddinbych wedi cadarnhau pum blaenoriaeth i’r Cyngor dros y bum mlynedd nesaf.Corporate Plan Photo welsh

Mae’r Cynllun Corfforaethol 2017-2022 – Gweithio Gyda’n Gilydd ar Gyfer Dyfodol Sir Ddinbych yn amlinellu pum blaenoriaeth:

Tai:  Mae pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn cartrefi sy’n bodloni eu hanghenion

  • Cefnogi datblygiad 1000 yn rhagor o gartrefi yn Sir Ddinbych. Bydd hyn yn cynnwys:
  • Bydd 170 o’r rhain yn gartrefi’r Cyngor
  • Bydd 260 o’r rhain yn gartrefi fforddiadwy a ddarperir gan ddatblygwyr preifat a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Tai Gofal Ychwanegol.
  • Tai arbenigol newydd i gefnogi pobl gydag anableddau ac anghenion cefnogaeth lefel isel.
  • Cefnogi pobl ifanc i gael mynediad i dai addas y gallant eu fforddio.
  • Gwneud defnydd unwaith eto o 500 eiddo gwag a pherfformio ymhlith y gorau yng Nghymru.

Mae Cymunedau wedi eu cysylltu ac mae mynediad ganddynt ar nwyddau a gwasanaethau yn lleol arlein neu drwy cysylltiad cludiant dda:

  • Galluogi pobl yn well i deithio i’r gwaith, addysg a gwasanaethau.
  • Buddsoddi mewn ffyrdd a phontydd i gynnal isadeiledd hyfyw, cynaliadwy.
  • Darparu band eang cyflym iawn a rhwydweithiau symudol i bawb.
  • Sicrhau fod gwybodaeth a gwasanaethau’r Cyngor yn hygyrch ar-lein lle bo modd. Byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid. 
  • Targedu’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod wedi eu heithrio’n ddigidol fel fod ganddynt y sgiliau a’r modd i ddefnyddio gwasanaethau digidol.
  • Gwella isadeiledd i’w gwneud yn haws i gynnal digwyddiadau.

Mae’r Cyngor yn gweithio gyda phobl a chymunedau i feithrin annibynniaeth a gwydnwch

  • Cefnogi pobl i gynllunio a llunio eu cymunedau.
  • Darparu gwybodaeth sydd ar gael yn rhwydd sy’n cefnogi annibyniaeth a gwydnwch pobl.
  • Sicrhau bod pobl yn cymryd rhan wrth lunio a gwella gwasanaethau.
  • Gweithredu i leihau Cam-Drin Domestig
  • Sicrhau fod pob galwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda.
  • Sicrhau fod oedolion a phobl hŷn sydd angen iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn profi gwasanaeth di-dor.

Mae’r amgylchedd yn ddeniadol ac yn cael ei warchod, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd:

  • Lleihau allyriadau carbon o asedau’r Cyngor gan o leiaf 15% erbyn 2022.
  • Gwella effeithlonrwydd ynni tai’r Cyngor.
  • Cynyddu darpariaeth ynni adnewyddadwy ar draws y sir.
  • Lleihau nifer yr eiddo mewn perygl o lifogydd yn Sir Ddinbych.
  • Cynyddu safon bioamrywiaeth cynefinoedd pwysig a rhywogaethau ar draws y sir.
  • Codi proffil y sir fel lleoliad i ymweld ag o, er mwyn manteisio ar botensial economaidd Sir Ddinbych.

Mae pobl iau eisiau byw a gweithio yma, ac mae ganddynt y sgiliau i wneud hynny:

  • Gweld pob plentyn sy’n cyflawni’r safon a ddisgwylir ar ddiwedd yr ysgol gynradd (Lefel 4, Cyfnod Allweddol 2) yn cyflawni 5 TGAU A*-C (Lefel 2 Cyfnod Allweddol 4), gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) a Mathemateg, erbyn diwedd yr ysgol gynradd.
  • Parhau i foderneiddio ysgolion drwy raglen Ysgolion yr 21ain ganrif.
  • Helpu pobl ifanc i ddatblygu ‘sgiliau byw’ ymarferol ac ymddygiad sy’n cyfrannu at iechyd a lles da.
  • Darparu cefnogaeth i rieni i roi'r cychwyn gorau i’w plant.
  • Darparu cyngor gyrfaoedd a mentora effeithiol i bobl ifanc.
  • Rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith drwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith ystyrlon.
  • Datblygu rhagor o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc.

mae ganddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein a thrwy gysylltiadau cludiant da

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod y Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Cynllun Corfforaethol:  “Dros oes y Cynllun Corfforaethol diwethaf, darparwyd buddsoddiad o £200 miliwn gennym i wella ein hysgolion, cyfleusterau hamdden a llyfrgell, ffyrdd ac amddiffynfeydd llifogydd. Llwyddom i gyflawni hyn a chynnal ein safle fel un o’r cynghorau gyda’r perfformiad gorau yng Nghymru ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen rhag toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol.

“Uchelgais gyffredinol y Cynllun hwn yw sicrhau fod Sir Ddinbych yn lle ble mae trigolion a busnesau wedi eu cysylltu’n dda ac yn wydn; lle mae cyfleoedd i bobl ifanc gael tai fforddiadwy a chael sgiliau a swyddi i fyw bywydau llwyddiannus a boddhaus, lle mae pob un ohonom yn mwynhau amgylchedd deniadol ac wedi ei ddiogelu. Fel y cynllun diwethaf, mae’r Cynllun Corfforaethol hwn yn cynnwys camau penodol a fydd yn cael eu cyflawni dros bum mlynedd ond, efallai’n bwysicach fyth, mae’r camau hyn wedi eu llunio i gael effaith y tu hwnt i’r pum mlynedd nesaf gan ystyried cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym yn cydnabod yr angen i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid a’r gymuned ehangach a dyna pam bod y blaenoriaethau yn y Cynllun Corfforaethol hwn wedi dod yn uniongyrchol o’r ymarferiad Sgwrs y Sir ac ymgynghori gyda phartneriaid”.

“Mae Sir Ddinbych yn credu’n gryf mewn datblygu diwylliant gwasanaeth cyhoeddus unigol, wedi’i arwain gan gymunedau gweithredol iawn. Byddwn, felly, yn mynd ati i edrych ar atebion rhanbarthol ac isranbarthol ac yn sefydlu ‘Panel Dinasyddion’ parhaol a fydd â rhan allweddol wrth fonitro a helpu i lywio gweithrediad y cynllun”. 

Fe gewch mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

1891 Rhyl

Mae bwyty 1891 ym Mhafiliwn Y Rhyl bellach ar agor. Bwyty a bar llawr cyntaf cyfoes a chwaethus wedi'i leoli ar lan y dŵr yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl.

AMSERAU AGOR

Iau - Sadwrn 3.30pm tan yn hwyr (bwyd ar gael 4.30pm - 9.30pm)

Sul 12.00pm - 9.00pm (bwyd ar gael 12.00pm - 7.00pm)

 Bydd y bwyty hefyd ar agor pan fydd sioeau mwy ar gael, felly holwch am ddyddiadau unigol.

 Mae ganddynt hefyd ddetholiad o gins arbennig ac amrywiaeth o coctêls a moctêls.

1891 Collage

 

I archebu bwrdd ffoniwch 01745 330000 neu anfonwch e-bost at 1891@sirddinbych.gov.uk. Yn anffodus, ni allant gymryd archebion trwy eu tudalen Facebook.

Dilynwch nhw ar Facebook neu ewch i'w gwefan i gael rhagor o wybodaeth ac i weld eu bwydlenni sampl.

Cydnabod llwyddiant staff yn y Gwobrau Rhagoriaeth

Excellence Denbighshire Collage

 

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Sir Ddinbych yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ac mae staff / rheolwyr yn enwebu eu cydweithwyr am y gwobrau hyn. Cynhaliwyd y seremoni ym Mhafiliwn Llangollen ddiwedd mis Tachwedd ac roedd yn gyfle gwych i ddathlu'r gwaith rhagorol ac ymroddedig sy'n digwydd ledled y sir.

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr.

Gwobr arlwyo i Ysgol Dinas Brân

Mae’r Gymdeithas Arweiniol ar gyfer Arlwyo mewn Addysg (LACA), wedi cynnal eu hwythnos prydau ysgol blynyddol ac mae’r trefnwyr wrth eu bodd gydag ymateb a chydweithrediad cymaint o arlwywyr ysgol, rhieni, ysgolion a disgyblion.Ysgol Dinas Bran

Yn ystod yr wythnos brysur, mi gynhaliwyd nifer o weithgareddau, yn cynnwys ‘cartref i gogydd ysgol’, pum marathon mewn pum niwrnod wedi’u pweru gan brydau ysgol a Diwrnod Cinio Rhost Cenedlaethol ond y digwyddiad a greodd y cynnwrf mwyaf oedd y gystadleuaeth hunlun #cookeditmyselfie. Roedd y gystadleuaeth yn annog arlwywyr ysgolion i rannu lluniau o brydau yr oeddynt yn ei weini bob dydd. Anfonwyd cannoedd o luniau yn arddagos prydau bwyd Ysgol ac roedd y safon yn arbennig o uchel.

Penderfynodd panel o feirniaid mai Ysgol Dinas Bran oedd yr enillydd. Dyranwyd gwerth £500 o gefnogaeth marchnata neu cyfarfpar iddynt fel gwobr.

Dywedodd Neil Porter: “Dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld y digwyddiad yn tyfu ac mae’n cynnig cyfle i hyrwyddo proffesiynoldeb, heb son am y bwyd blasus a maethlon. Mae hyn wedi cael ei gyflawni mewn sawl ffordd, o gynnal digwyddiadau uchel eu proffil i weini prydau ar gyfer gwleidyddion yn Nhy’r Cyffredin, gweini prydau yn y bwyty ar ben yr Wyddfa ac arlwywyr mewn ysgolion yn gweithio mewn bwytai gyda ser Michelin.  Roedd y gystadleuaeth #cookeditmyselfie yn lwyfan gwych i hyrwyddo’r diwydiant ac roeddwn yn hynod falch o’r ymateb.  Roedd y gystaldeuaeth yn gref ac roedd Ysgol Dinas Bran yn llwyr haeddu’r wobr.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet ar gyfer Cyllid ac Asedau: “Rhoddodd y gystadleuaeth hon y cyfle i dimau arlwyo ysgol ledled y wlad i arddangos eu gwasanaeth ac nid oedd y lluniau a gyflwynwyd gan Emma a'i thîm yn Ninas Brân o fwyd neu seigiau gafodd eu dyfeisio’n  arbennig ar gyfer y gystadleuaeth – dyma safon y bwyd a weinir yn ddyddiol.

“Mae Emma a’r tîm arlwyo yn frwdfrydig ac ymroddedig ac mae Gwasanaeth Prydau Bwyd Ysgolion Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych yn haeddiannol falch o'u cyflawniad." 

Dywedodd Emma Williams rheolwr arlwyo yn yr ysgol : "Rydym wedi ymwneud yn helaeth â #cookeditmyselfie eleni. Nid oes llawer o ddiwrnodau yn yr ychydig fisoedd diwethaf lle nad ydym wedi gosod lluniau prydau bwyd ar y wefan. Mae'r lluniau yn dangos beth rydym yn ei wneud bob dydd, bod y bwyd yn wych ac mae'r disgyblion wrth eu boddau. Rydym yn defnyddio llawer o gynhwysion lleol a pharatoi’r bwyd gyda chariad ac angerdd”.

Gwasanaeth carolau elusennol yn codi £500

Casglwyd cyfanswm o £500 yng ngwasanaeth carolau blynyddol y Cyngor nos Lun, Rhagfyr 4  gyda’r arian yn mynd tuag at y Bad Achub yn y Rhyl a Hosbis Sant Cyndeyrn yn Llanelwy.

Yn ystod y gwasanaeth, roedd perfformiadau cerddorol gan Only Boys Aloyd, Cor Ysgol Glan Clwyd, Taya Castley o Ysgol Dinas Bran,  yr unawdydd Beca Fflur Edwards o Ysgol Twm o’r nant, y delynores Julia Bugelli o Ysgol Glan Clwyd, darlleniad gan Libi Owen o Ysgol Pendref, yn ogystal â darlleniadau gan gynghorwyr a staff.

Carol Concert 1Carol Concert 2

Moderneiddio'r Gwasanaethau Cymdeithasol - Beth yw Asesiad?

Efallai y clywch eich bod chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael cynnig asesiad, neu gydag asesiad ar gyfer gofal cymdeithasol. Gall hyn swnio’n frawychus, ond mae ‘asesiad’ yn dechrau ac yn gorffen gyda sgwrs yn unig.  Mae’n ein helpu i wybod beth sydd bwysicaf i chi nawr ac yn y dyfodol, i’ch cadw’n iach ac yn ddiogel.  

Byddwn yn trafod yr hyn sy'n mynd yn dda yn eich bywyd yn awr, a'r hyn sydd ddim mor dda.   Byddwn yn gofyn beth yr ydych eisiau o'ch bywyd a'r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni.   

Dylai asesiadau fod yn addas i fodloni eich anghenion cyfathrebu a diwylliannol. Dylai asesiadau fod yn gymesur hefyd, felly ni fyddwch yn cael eich holi am fwy o wybodaeth nag sydd raid.   Byddwn yn trafod yr unigolion o'ch cwmpas ac yn eich cymuned.  Efallai y byddant yn gallu eich cynorthwyo i oresgyn rhwystrau a chyflawni'r hyn sy'n bwysig i chi.

Mae yna bum elfen nawr i ‘asesiad’.  Rhaid ystyried y rhain cyn y gwneir penderfyniad ynghylch a fyddech yn gymwys i gael eich anghenion gofal a chefnogi wedi'u bodloni gan y Cyngor.  

    • Amgylchiadau personol
    • Canlyniadau personol (beth sy’n bwysig i chi)
    • Rhwystrau i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i chi
    • Cryfderau a gallu
    • Risgiau

Byddwn hefyd yn ystyried a fyddech angen unrhyw gefnogaeth fel eirioli.  Mae’n bwysig eich bod yn chwarae rhan mor lawn â phosibl yn y broses. 

Gall yr asesiad ddarfod gyda chyngor am y gwasanaethau ataliol neu dymor byr sydd ar gael, a byddwn yn trafod gyda chi sut i gael mynediad at y rhain. Gall yr asesiad arwain at benderfyniad eich bod yn gymwys am ofal a chefnogaeth tymor hir a drefnwyd drwy neu gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, a chaiff hyn ei gofnodi yn y cynllun gofal a chefnogaeth.

Os ydych yn meddwl eich bod angen cymorth neu’n dymuno cael trafodaeth gyda rhywun, gallwch ymweld â'r Pwynt Siarad, cysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl ar 0300 4561000 neu ymweld â’n gwefan.

Neu gallwch gael golwg ar Dewis Cymru, y lle am wybodaeth lles yng Nghymru.  Gellir dod o hyd i sefydliadau a gwasanaethau lleol i helpu dinasyddion i gynnal eu hannibyniaeth a’u lles ar www.dewis.cymru

Cyn-filwyr - Cyngor ar Eich Carreg Drws

Citizens Advice Rydym yn darparu gwasanaeth cyngor ymweld â chartrefi penodol i gyn-filwyr dros 70 a'u dibynyddion, yn Sir Ddinbych. Mae gennym dîm ymroddedig sy'n cynnwys 1 cynghorydd cyflogedig a 2 wirfoddolwr. Gellir cyfeirio cyn-filwyr atom trwy ein rhwydwaith helaeth o asiantaethau partner a chefnogi neu hunan-gyfeirio. Ein nod yw sicrhau bod incwm cyn-filwyr yn cael eu gwneud i'r eithaf i'w llawn botensial ac maen nhw'n derbyn yr holl hawliadau budd-dal cymwys, gan leihau'r ddyled, gan leihau gwariant y cartref gyda chyngor effeithlonrwydd arbed ynni. Rydym hefyd yn darparu arweiniad ar faterion perthnasol megis ewyllysiau, atwrneiaeth barhaol a pharhaus, pensiynau. Rydym yn nodi dan-hawlio budd-daliadau a chredydau a chefnogi pobl drwy'r broses ymgeisio, hyd at ac yn cynnwys apeliadau. Rydym yn sicrhau bod achosion pob cleient yn cael eu symud ymlaen i'r canlyniad gorau posibl. Rydym yn argymell a thrafod ar unrhyw ddyledion sydd gan gleientiaid, datrys y sefyllfa dyledion, opsiynau ansolfedd (Gorchmynion Rhyddhad Dyled / methdaliad); dileu dyledion, ad-daliadau gostyngedig neu negyddol. Mae ein gwasanaeth cynghori ar ynni yn helpu cleientiaid i leihau gwariant ynni'r cartref, gwneud cais am grantiau i wella effeithlonrwydd ynni cartref a lleihau costau ynni. Mae cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n gysylltiedig ag oedran yn cynnig yr un mor hanfodol, gan gynnwys tai, pensiynau, gofal nyrsio a threth. Bydd cleientiaid yn elwa'n uniongyrchol o'r cyngor a'r gefnogaeth a ddarparwn. Bydd ein cyngor yn gwella iechyd a lles, gwytnwch ariannol a chymorth i leihau unigrwydd cymdeithasol. Mae'r prosiect hwn yn lleoli ein gwasanaeth, nid oes rhaid i gleientiaid ddod atom ni, byddwn yn mynd atynt.Citizens Advice Armed Forces

Cyngor yn Gweithio

Mae'r prosiect hwn yn cael ei redeg gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, yr ydym wedi sicrhau cyllid Ewropeaidd o dan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol. Mae ein prosiect yn brosiect llinyn 2 lle gwnaethom ymgymryd â chyflogaeth â chymorth i 14 o gyfranogwyr sydd dros 25 mlwydd oed; sy'n dod o gartrefi di-waith yn Sir Ddinbych; ac sydd naill ai'n ddi-waith yn y tymor hir, neu'n economaidd anweithgar. Cynigir lleoliadau o gyfranogwyr naill ai o 26 wythnos neu 16 wythnos.

Rydym wedi gosod rhai cyfranogwyr yn allanol ac mae rhai wedi gweithio, neu'n gweithio ar ein gwefannau. Mae'r cyfranogwyr yn gweithio mewn amgylcheddau cefnogol i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder. Maent hefyd yn cael hyfforddiant i wella eu cyflogadwyedd a hefyd tuag at themâu trawsbynciol y prosiect o leihau tlodi a chynhwysiant cymdeithasol; hyrwyddo cyfle cyfartal; ac annog datblygiad cynaliadwy. Yr amcan gor-redol yw y bydd 60% o'r cyfranogwyr yn sicrhau cyflogaeth hirdymor trwy eu hymwneud â phrosiect "Cyngor Gwaith".

Rydym bellach wedi cau i gyfranogwyr newydd gyda'r prosiect i ddod i ben ym mis Ionawr 2018. Rydym wedi ymgysylltu â 13 o gyfranogwyr ar y prosiect. O'r 6 cyfranogwr sydd wedi cwblhau eu hymgysylltiad hyd yn hyn, mae 5 wedi ymuno â chyflogaeth ac 1 yn gwirfoddoli.

Citizens Advice European Funding

Dweud eich dweud ar les yn Sir Conwy a Sir Ddinbych

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn gwahodd pobl leol i gymryd rhan a dweud eu dweud am y Cynllun Lles Lleol newydd.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Conwy a Sir Ddinbych yn gydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r BGC wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu Cynllun Lles Lleol drafft. Mae’n nodi meysydd blaenoriaeth lle gall y BGC wneud cyfraniad, gan ganolbwyntio ar:

  • Y 1000 Diwrnod Cyntaf o genhedliad hyd at ail benblwydd y plentyn
  • Hybu canolfannau cymunedol
  • Hybu lles meddyliol ar gyfer pob oed
  • Hybu gwytnwch mewn pobl hŷn
  • Hybu gwytnwch amgylcheddol
  • Magu pobl ifanc gwydn ac uchelgeisiol

Dywedodd Bethan Jones o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cadeirydd presennol y BGC: “Mae llawer o waith wedi’i wneud yn barod i gyrraedd y pwynt yma, ond mae llawer mwy i ddod. Mae’r cynllun drafft yn rhoi syniad o’r hyn yr hoffem ni ei gyflawni ac fe fyddem wir yn gwerthfawrogi adborth arno.Well Being Plan Photo

“Fe hoffem gael gwybod a ydych chi'n cytuno hefo'r blaenoriaethau; dywedwch wrthym pa rai y dylem ni ganolbwyntio arnynt, a oes rhywbeth ar goll neu a oes angen newid rhywbeth yn y cynllun."

Os hoffech roi eich barn ar y Cynllun Lles drafft, gallwch wneud hynny tan 22 Ionawr 2018 ar www.conwyanddenbighshirepsb.org.uk/cy

Os byddai’n well gennych ymateb ar bapur neu os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd eraill, neu os hoffech chi gael gwybod mwy am yr ymgynghoriad, ffoniwch 01492 574059 neu anfonwch e-bost at sgwrsysir@conwy.gov.uk.

Bydd y Cynllun Lles Lleol terfynol yn cael ei gyhoeddi erbyn Mai 2018.  

Awgrymiadau ar gyfer fy Iechyd y Gaeaf Hwn

BCUHB Winter Health Tips Welsh

Porth gwybodaeth gynllunio i gymunedau Sir Ddinbych yn fyw ar-lein

 

Mae adnodd a gwybodaeth am ddim ar-lein ar gyfer grwpiau cymunedol a chynghorau dinas, tref a chymuned yn Sir Ddinbych bellach yn fyw.

Mae'r adnodd ar-lein wedi'i greu i helpu grwpiau cymunedol a sefydliadau i gael gafael ar wybodaeth a chyngor y gallant ei ddilyn i wella bywydau ac ansawdd bywyd yn eu cymunedau.

Mae’r manylion ymarferol yn cynnwys:

  • Sut i sefydlu Pwyllgor 
  • Dolenni at dudalen wybodaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), gan gynnwys gwybodaeth ar gofrestru elusen
  • Tystiolaeth i gefnogi ceisiadau grantiau gan gynnwys Gwefan Asesu Lles Conwy a Sir Ddinbych
  • Dolenni at Gynghorau Gwirfoddol Sirol lleol
  • Dolenni at arianwyr allanol
  • Y manteision o fod â chynllun
  • Dolenni at DEWIS Cymru, Cynllun Datblygu Lleol Sir Ddinbych a gwefannau ystadegau allanol

Dywedodd y Cynghorydd Richard Mainon, Aelod Cabinet Arweiniol Datblygu Isadeiledd Cymunedol: “Mae gwytnwch cymunedol wedi’i nodi fel blaenoriaeth ar draws Sir Ddinbych gyfan gyda’r pwyslais ar gymunedau’n arwain ar lunio eu dyfodol, gan edrych ar yr hyn y gallen nhw eu hunain ei wneud i wella eu cymunedau.

“Mae’r adnodd cynllunio cymunedol hwn ar y we’n darparu’r offerynnau y mae grwpiau a chynghorau dinas, tref a chymuned eu hangen i allu gwireddu eu huchelgeisiau.  

Yn ogystal â’r adnodd am ddim ar-lein, bydd y prosiect hefyd yn cynnig amser a chefnogaeth swyddogion i gymunedau sy’n dymuno creu eu cynlluniau eu hunain a gwneud cais am gyllid, gan eu cyfeirio at ddarparwr grantiau addas. Bydd cymorth ar gael i aelodau hefyd er mwyn iddyn nhw allu cynnig cyngor ac arweiniad i'w cymunedau eu hunain.

 

Gallwch weld y wybodaeth ar-lein ar: www.sirddinbych.gov.uk/cynlluniocymunedol.

Treftadaeth

Gwaith y Curadur dros y Gaeaf

Dros y gaeaf mae Carly Davies, Curadur Treftadaeth  newydd Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn gweithio mewn gwahanol fathau o safleoedd yn cyflawni archwiliadau o wrthrychau.

Diben archwiliad o wrthrych yw rhoi trosolwg sydyn ag eglur o gasgliad yr amgueddfa, gan roi cyfle i wirio rhifau derbynodi, lleoliad a chyflwr y gwrthrychau. Mae archwilio o’r fath yn tynnu sylw at anghysondebau ynghylch rhifo, lleoliad, arddangosfeydd a storio, gan helpu i adnabod unrhyw waith a phrosiectau yn y dyfodol fydd angen eu gwneud. I wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych mae’r archwiliad o wrthrychau yn berthnasol iawn gan ein bod yn Amgueddfa Achrededig sy’n cael ein archwilio o ran safonau ym Mawrth 2018.

‘Fel aelod newydd o’r Tîm Treftadaeth mae gwneud archwiliadau o wrthrychau ar draws yr holl safleoedd o fudd mawr i mi allu dod i adnabod y casgliadau.  Mae’n gyfle hefyd i weithio’n agos gydag aelodau staff ar nifer o safleoedd sydd gyda gwybodaeth drwyadl iawn a diddordeb mawr yn y llefydd hanesyddol y maent yn gweithio ynddynt. Rydym yn gobeithio canfod perlau cuddiedig a straeon heb eu rhannu i'w cynnwys mewn unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol o safleoedd treftadaeth Sir Ddinbych.'

Mae gan Treftadaeth Sir Ddinbych gasgliad rhyfeddol gydag ystod eang o wahanol wrthrychau, dim ond rhai o’r rheini wedi’u cofnodi hyd yma yw:

Rhyl Museum Swimsuit

O Amgueddfa’r Rhyl – Gwisg nofio. Defnydd cotwm. Byddai’r rhain wedi cael eu gwisgo gan bobl ar eu gwyliau yn y Rhyl yn y 1920au a'r 30au. Ewch i amgueddfa’r Rhyl i gael golwg ar hanes y byd Adloniant, y Promenâd a Threftadaeth y Rhyl.

Plas Newydd Dog Collar

O Blas Newydd – Coler ci – Mae’r coler ci haearn gyda chadwyn yn gallu cael ei gloi ac yn edrych yn anghyfforddus iawn o’i gymharu â'r rhai sydd ar gael heddiw. Mae’r plât efydd yn dweud 'Plas Newydd' arno a chredir ei fod yn goler i gi o’r enw Chase a oedd yn strae y gwnaeth Sarah Ponsonby ei achub ar ôl ei weld yn crwydro tir Plas Newydd.  Ewch i Blas Newydd i ganfod mwy am stori ddiddorol Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler ac i weld yr ystafelloedd wedi eu haddurno â cherfiadau pren cywrain yn ogystal â mynd am dro drwy’r ardd restredig hanesyddol.

Ruthin Gaol Oakum Picking

O Garchar Rhuthun – mainc plicio ocwm – ocwm oedd y ffibr a gynhyrchwyd o blicio hen raffau, fel arfer y rhai a ddefnyddiwyd mewn morgludiant a oedd yn drwm ac fel arfer wedi'u gorchuddio mewn tar.  Roedd y dasg lafurus o ‘blicio ocwm’ yn waith rheolaidd i’r rheiny wedi eu carcharu mewn carchardai Fictoraidd. Byddai plant neu’r henoed yn gallu ei wneud hefyd felly byddai pob carcharor yn gorfod cyflawni'r dasg. Ewch i Garchar Rhuthun i weld pa fath o gosbau y rhoddwyd i garcharorion yn ystod oes Fictoria a dychmygwch sut beth y byddai bod yn garcharor mewn Carchar Pentonville Fictoraidd.

Mae’r gwrthrychau hyn a llawer mwy yn cael eu harddangos yn ein hamgueddfeydd pan fyddan nhw’n ail-agor yng Ngwanwyn 2018. Bydd oriau agor a phrisiau ar gael ar gyfer yr holl safleoedd ar ein gwefan

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Dreftadaeth Sir Ddinbych dilynwch ni ar facebook @treftadaethsirddinbych

Plas Newydd, Llangollen

Fis Tachwedd bu i Janis Deves a Gail Forrester, Cymorthyddion Treftadaeth, gyda chymorth Carly Davies, Curadur Amgueddfa newydd Sir Ddinbych, roi Plas Newydd, Llangollen, i ‘aeafgysgu’.

Roedd y gwaith yn cynnwys rhoi eitemau bregus mewn blychau storio, glanhau’r paneli pren a gwirio cyflwr llawer o’r eitemau sydd wedi bod ar ddangos yn ystod tymor prysur 2017.

Dywedodd Carly bod y gwaith yma o roi’r plas yn ‘ei wely’ fel petai wedi bod yn ddiddorol tu hwnt, yn enwedig gweld y gofal a’r sylw sy’n cael ei roi i’r plas a’r eitemau dros fisoedd y gaeaf.

Bydd Plas Newydd yn ailagor i’r cyhoedd yn ystod Pasg 2018 ond, cyn hynny, bydd Carly, Janis a Gail yn dychwelyd i lanhau’r tŷ’n llwyr.

Plas Newydd

Teithiau Grŵp y Gaeaf

Ar ôl tymor gwych ar draws yr holl leoliadau mae Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd bellach wedi cau i’r cyhoedd dros y gaeaf.  Fodd bynnag mae teithiau grŵp wedi eu trefnu o flaen llaw dal ar gael i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre.

Trwy gydol 2017 mae’r Carchar yn arbennig wedi cynyddu mewn poblogrwydd fel atyniad i grwpiau ysgol ac mae nifer yr ymweliadau wedi mwy na dyblu eleni ers 2016. Ein wardeniaid Fictoraidd sy'n arwain y teithiau gan roi blas go iawn i'r plant o fywyd yn y carchar yn ystod oes Fictoria gan gynnig adnodd addysgol gwych a phrofiad llawn hwyl i'r plant. Mae gweithgareddau wedi cynnwys llusgo’r rhaff, cyfnod mewn cell dywyll, rhoi cynnig ar 'y cranc’ a chwilio am garcharorion!

Yng Ngharchar Rhuthun a Nantclwyd rydym yn cynnig teithiau ar gyfer pob oed a diddordebau. Dros y flwyddyn rydym wedi croesawu teithiau bws, grwpiau prifysgol, cymdeithasau hanesyddol, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Dyma rai sylwadau o adborth gan ymwelwyr â'r Carchar a Nantclwyd dros dymor 2017:

‘Rhagorol! Y plant wedi mwynhau’r gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol yn fawr. Diolch yn fawr.' Ysgol y Gogarth, Llandudno (Carchar Rhuthun)

‘Golwg rhyfeddol i fywyd carchar yn yr 19eg ganrif. Wedi'i gyflwyno'n dda, diolch yn fawr!’ Andy, Treffynnon (Carchar Rhuthun)

‘Yn llawn straeon gwych, dyma beth yw hanes go iawn!’ Greens and Kights, Caerlŷr (Nantclwyd y Dre)

‘Dyma drysor cuddiedig.  Hanes diddorol a gardd brydferth tu hwnt. Diolch yn fawr.’  Teulu Mitchell, Crewe. (Nantclwyd y Dre)

Os oes gennych grŵp a fyddai’n hoffi ymweld ag un ai Carchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre yna cysylltwch trwy un ai galw 01824 706868 neu drwy anfon e-bost at heritage@denbighshire.gov.uk.

Bydd yr holl safleoedd yn ail-agor i’r cyhoedd yng Ngwanwyn 2018. Bydd oriau agor a phrisiau ar gael ar gyfer yr holl safleoedd ar ein gwefan www.denbighshire.gov.uk/heritage

 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Dreftadaeth Sir Ddinbych dilynwch ni ar facebook @treftadaethsirddinbych

Ruthin Gaol Collage

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid