llais y sir

Treftadaeth

Gwaith y Curadur dros y Gaeaf

Dros y gaeaf mae Carly Davies, Curadur Treftadaeth  newydd Sir Ddinbych wedi bod yn brysur yn gweithio mewn gwahanol fathau o safleoedd yn cyflawni archwiliadau o wrthrychau.

Diben archwiliad o wrthrych yw rhoi trosolwg sydyn ag eglur o gasgliad yr amgueddfa, gan roi cyfle i wirio rhifau derbynodi, lleoliad a chyflwr y gwrthrychau. Mae archwilio o’r fath yn tynnu sylw at anghysondebau ynghylch rhifo, lleoliad, arddangosfeydd a storio, gan helpu i adnabod unrhyw waith a phrosiectau yn y dyfodol fydd angen eu gwneud. I wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych mae’r archwiliad o wrthrychau yn berthnasol iawn gan ein bod yn Amgueddfa Achrededig sy’n cael ein archwilio o ran safonau ym Mawrth 2018.

‘Fel aelod newydd o’r Tîm Treftadaeth mae gwneud archwiliadau o wrthrychau ar draws yr holl safleoedd o fudd mawr i mi allu dod i adnabod y casgliadau.  Mae’n gyfle hefyd i weithio’n agos gydag aelodau staff ar nifer o safleoedd sydd gyda gwybodaeth drwyadl iawn a diddordeb mawr yn y llefydd hanesyddol y maent yn gweithio ynddynt. Rydym yn gobeithio canfod perlau cuddiedig a straeon heb eu rhannu i'w cynnwys mewn unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol o safleoedd treftadaeth Sir Ddinbych.'

Mae gan Treftadaeth Sir Ddinbych gasgliad rhyfeddol gydag ystod eang o wahanol wrthrychau, dim ond rhai o’r rheini wedi’u cofnodi hyd yma yw:

Rhyl Museum Swimsuit

O Amgueddfa’r Rhyl – Gwisg nofio. Defnydd cotwm. Byddai’r rhain wedi cael eu gwisgo gan bobl ar eu gwyliau yn y Rhyl yn y 1920au a'r 30au. Ewch i amgueddfa’r Rhyl i gael golwg ar hanes y byd Adloniant, y Promenâd a Threftadaeth y Rhyl.

Plas Newydd Dog Collar

O Blas Newydd – Coler ci – Mae’r coler ci haearn gyda chadwyn yn gallu cael ei gloi ac yn edrych yn anghyfforddus iawn o’i gymharu â'r rhai sydd ar gael heddiw. Mae’r plât efydd yn dweud 'Plas Newydd' arno a chredir ei fod yn goler i gi o’r enw Chase a oedd yn strae y gwnaeth Sarah Ponsonby ei achub ar ôl ei weld yn crwydro tir Plas Newydd.  Ewch i Blas Newydd i ganfod mwy am stori ddiddorol Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler ac i weld yr ystafelloedd wedi eu haddurno â cherfiadau pren cywrain yn ogystal â mynd am dro drwy’r ardd restredig hanesyddol.

Ruthin Gaol Oakum Picking

O Garchar Rhuthun – mainc plicio ocwm – ocwm oedd y ffibr a gynhyrchwyd o blicio hen raffau, fel arfer y rhai a ddefnyddiwyd mewn morgludiant a oedd yn drwm ac fel arfer wedi'u gorchuddio mewn tar.  Roedd y dasg lafurus o ‘blicio ocwm’ yn waith rheolaidd i’r rheiny wedi eu carcharu mewn carchardai Fictoraidd. Byddai plant neu’r henoed yn gallu ei wneud hefyd felly byddai pob carcharor yn gorfod cyflawni'r dasg. Ewch i Garchar Rhuthun i weld pa fath o gosbau y rhoddwyd i garcharorion yn ystod oes Fictoria a dychmygwch sut beth y byddai bod yn garcharor mewn Carchar Pentonville Fictoraidd.

Mae’r gwrthrychau hyn a llawer mwy yn cael eu harddangos yn ein hamgueddfeydd pan fyddan nhw’n ail-agor yng Ngwanwyn 2018. Bydd oriau agor a phrisiau ar gael ar gyfer yr holl safleoedd ar ein gwefan

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Dreftadaeth Sir Ddinbych dilynwch ni ar facebook @treftadaethsirddinbych

Plas Newydd, Llangollen

Fis Tachwedd bu i Janis Deves a Gail Forrester, Cymorthyddion Treftadaeth, gyda chymorth Carly Davies, Curadur Amgueddfa newydd Sir Ddinbych, roi Plas Newydd, Llangollen, i ‘aeafgysgu’.

Roedd y gwaith yn cynnwys rhoi eitemau bregus mewn blychau storio, glanhau’r paneli pren a gwirio cyflwr llawer o’r eitemau sydd wedi bod ar ddangos yn ystod tymor prysur 2017.

Dywedodd Carly bod y gwaith yma o roi’r plas yn ‘ei wely’ fel petai wedi bod yn ddiddorol tu hwnt, yn enwedig gweld y gofal a’r sylw sy’n cael ei roi i’r plas a’r eitemau dros fisoedd y gaeaf.

Bydd Plas Newydd yn ailagor i’r cyhoedd yn ystod Pasg 2018 ond, cyn hynny, bydd Carly, Janis a Gail yn dychwelyd i lanhau’r tŷ’n llwyr.

Plas Newydd

Teithiau Grŵp y Gaeaf

Ar ôl tymor gwych ar draws yr holl leoliadau mae Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd bellach wedi cau i’r cyhoedd dros y gaeaf.  Fodd bynnag mae teithiau grŵp wedi eu trefnu o flaen llaw dal ar gael i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre.

Trwy gydol 2017 mae’r Carchar yn arbennig wedi cynyddu mewn poblogrwydd fel atyniad i grwpiau ysgol ac mae nifer yr ymweliadau wedi mwy na dyblu eleni ers 2016. Ein wardeniaid Fictoraidd sy'n arwain y teithiau gan roi blas go iawn i'r plant o fywyd yn y carchar yn ystod oes Fictoria gan gynnig adnodd addysgol gwych a phrofiad llawn hwyl i'r plant. Mae gweithgareddau wedi cynnwys llusgo’r rhaff, cyfnod mewn cell dywyll, rhoi cynnig ar 'y cranc’ a chwilio am garcharorion!

Yng Ngharchar Rhuthun a Nantclwyd rydym yn cynnig teithiau ar gyfer pob oed a diddordebau. Dros y flwyddyn rydym wedi croesawu teithiau bws, grwpiau prifysgol, cymdeithasau hanesyddol, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.

Dyma rai sylwadau o adborth gan ymwelwyr â'r Carchar a Nantclwyd dros dymor 2017:

‘Rhagorol! Y plant wedi mwynhau’r gweithgareddau rhyngweithiol ac ymarferol yn fawr. Diolch yn fawr.' Ysgol y Gogarth, Llandudno (Carchar Rhuthun)

‘Golwg rhyfeddol i fywyd carchar yn yr 19eg ganrif. Wedi'i gyflwyno'n dda, diolch yn fawr!’ Andy, Treffynnon (Carchar Rhuthun)

‘Yn llawn straeon gwych, dyma beth yw hanes go iawn!’ Greens and Kights, Caerlŷr (Nantclwyd y Dre)

‘Dyma drysor cuddiedig.  Hanes diddorol a gardd brydferth tu hwnt. Diolch yn fawr.’  Teulu Mitchell, Crewe. (Nantclwyd y Dre)

Os oes gennych grŵp a fyddai’n hoffi ymweld ag un ai Carchar Rhuthun neu Nantclwyd y Dre yna cysylltwch trwy un ai galw 01824 706868 neu drwy anfon e-bost at heritage@denbighshire.gov.uk.

Bydd yr holl safleoedd yn ail-agor i’r cyhoedd yng Ngwanwyn 2018. Bydd oriau agor a phrisiau ar gael ar gyfer yr holl safleoedd ar ein gwefan www.denbighshire.gov.uk/heritage

 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Dreftadaeth Sir Ddinbych dilynwch ni ar facebook @treftadaethsirddinbych

Ruthin Gaol Collage

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid