llais y sir

Gwanwyn 2018

Agoriad swyddogol canolfan fusnes a gefnogir gan y Cyngor

Mae canolfan fusnes ar safle cyn adeilad llys yn y Rhyl wedi cael ei agor yn swyddogol.

Mae Hannah James wedi trawsnewid yr hen Lys Sirol ar Stryd Clwyd, a gaeodd yn 2016, yn ganolfan fusnes gydag ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Cafodd gefnogaeth ar ffurf grant gan y Cyngor i brynu offer i’w helpu i baratoi’r adeilad, dan ei enw newydd, Clwyd Chambers, a chafodd gefnogaeth hefyd gan Busnes Cymru.

Yn ystod yr agoriad, cafodd dros 50 o westeion eu harwain o amgylch y ganolfan newydd, sy’n cynnwys 13 o unedau hyblyg ar gyfer busnesau bach.

Meddai Hannah, sy’n Syrfëwr Adeiladau Siartredig: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd diddordeb a chael cyfle i ddangos iddynt beth sydd gan Clwyd Chambers a’r Rhyl i’w gynnig. Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth draw i wneud y diwrnod yn un mor anhygoel.

“Mae busnesau eisoes wedi cofrestru i gymryd rhai o'r unedau ac rydym wedi cymryd archebion ar gyfer yr ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau."

Dewisodd Hannah, cyn fyfyrwraig Ysgol Uwchradd Y Rhyl, ei thref enedigol gan ei bod yn edmygu faint o fuddsoddiad cyhoeddus sydd yna yn y Rhyl, a dywedodd ei bod yn frwd ynglŷn â chefnogi’r dref trwy dyfu a datblygu busnesau.

Mae hefyd yn darparu canolfan hyfforddiant er mwyn galluogi busnesau bach i gydweithio ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn falch o allu cefnogi’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yn y ganolfan fusnes newydd wych hon.

“Mae’n dangos bod hyder yn y Rhyl. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnig y cyfle i fusnesau newydd a rhai sy’n tyfu i ehangu a manteisio ar gyfleusterau modern yng nghanol tref brysur. Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau yn y dref a helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.”

Rhyl Business Hub

 Yn y llun mae Hannah James gyda Maer y Rhyl, y Cynghorydd Alan James

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...