llais y sir

Adran Busnes

Agoriad swyddogol canolfan fusnes a gefnogir gan y Cyngor

Mae canolfan fusnes ar safle cyn adeilad llys yn y Rhyl wedi cael ei agor yn swyddogol.

Mae Hannah James wedi trawsnewid yr hen Lys Sirol ar Stryd Clwyd, a gaeodd yn 2016, yn ganolfan fusnes gydag ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Cafodd gefnogaeth ar ffurf grant gan y Cyngor i brynu offer i’w helpu i baratoi’r adeilad, dan ei enw newydd, Clwyd Chambers, a chafodd gefnogaeth hefyd gan Busnes Cymru.

Yn ystod yr agoriad, cafodd dros 50 o westeion eu harwain o amgylch y ganolfan newydd, sy’n cynnwys 13 o unedau hyblyg ar gyfer busnesau bach.

Meddai Hannah, sy’n Syrfëwr Adeiladau Siartredig: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd diddordeb a chael cyfle i ddangos iddynt beth sydd gan Clwyd Chambers a’r Rhyl i’w gynnig. Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth draw i wneud y diwrnod yn un mor anhygoel.

“Mae busnesau eisoes wedi cofrestru i gymryd rhai o'r unedau ac rydym wedi cymryd archebion ar gyfer yr ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau."

Dewisodd Hannah, cyn fyfyrwraig Ysgol Uwchradd Y Rhyl, ei thref enedigol gan ei bod yn edmygu faint o fuddsoddiad cyhoeddus sydd yna yn y Rhyl, a dywedodd ei bod yn frwd ynglŷn â chefnogi’r dref trwy dyfu a datblygu busnesau.

Mae hefyd yn darparu canolfan hyfforddiant er mwyn galluogi busnesau bach i gydweithio ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn falch o allu cefnogi’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yn y ganolfan fusnes newydd wych hon.

“Mae’n dangos bod hyder yn y Rhyl. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnig y cyfle i fusnesau newydd a rhai sy’n tyfu i ehangu a manteisio ar gyfleusterau modern yng nghanol tref brysur. Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau yn y dref a helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.”

Rhyl Business Hub

 Yn y llun mae Hannah James gyda Maer y Rhyl, y Cynghorydd Alan James

Buddsoddiad ym mwyty yn y Rhyl yn arwain at fwy o fusnes

Mae bwyty bwyd cyflym yn y Rhyl wedi gweld cynnydd mewn busnes ers iddo gael ei ailwampio.Rhyl Fast Food

Dywedodd Stewart Williams, sy’n berchen ac yn gweithredu ar wyth bwyty McDonald yn Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam, gan gynnwys yr un ar Stryd Fawr y Rhyl, bod y buddsoddiad diweddar yn y safle wedi cynyddu busnes.

Y llynedd cafodd y bwyty weddnewidiad digidol newydd, gan greu 15 o swyddi ychwanegol.

Cyflwynwyd ciosgau hunan-archebu er mwyn sicrhau bod y broses archebu mor gyflym a hawdd a phosibl, a chyflwynwyd gwasanaeth i’r bwrdd hefyd.

Dywedodd Mr Williams y dewisodd fuddsoddi yn y dref yn dilyn arwyddion cadarnhaol am y dyfodol, a ddaeth yn sgil buddsoddiad cyhoeddus parhaus yn y dref oddi wrth y Cyngor Sir.

Dywedodd: “Hyd yma, mae adborth y cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol. Rwy’n falch o ddweud bod fy muddsoddiad diweddar yn McDonald y Rhyl wedi arwain at fwy o gwsmeriaid yn ymweld â’r bwyty.

“Rwy’n falch iawn o fuddsoddi yn y Rhyl a bod yn un o’r busnesau sy’n arwain y ffordd o ran rhoi mwy i mewn i’r ardal leol. Mae’r dref yn gwella ym mhob agwedd ar y funud ac rwy’n rhagweld bydd y datblygiadau newydd yn denu mwy o fusnesau i’r ardal.

“Mewn amser bydd y Stryd Fawr yn dod yn fwy bywiog a deniadol i siopwyr, a gyda gobaith byddwn yn gweld cynnydd o ran ymwelwyr."

Yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Sir Ddinbych ar barc dŵr newydd y dref, adnewyddu Theatr y Pafiliwn ac agor 1891, bydd gwesty Premier Inn yn agor fis Chwefror ac mae gwaith ar godi Travelodge 73 ystafell wely a bwyty teuluol yn mynd rhagddo.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Mae’n braf gweld perchnogion busnes yn buddsoddi yn ein sir ac yn gwella’r cynnig ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.

“Mae’r buddsoddiad mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Rhyl eisoes yn cael effaith, gyda buddsoddiad preifat yn ei ddilyn. Bydd hyn yn creu mwy o swyddi yn Sir Ddinbych ac yn codi incwm aelwydydd, a fydd yn ei dro yn helpu’r economi leol i dyfu.

“Bydd y parc dŵr newydd, a fydd yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn creu 60 o swyddi ac yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Mae’n wych gweld busnesau yn cyfarparu ar gyfer y cyfleoedd cynyddol a ddau yn sgil hyn.”

Mawrth Busnes Sir Ddinbych yn llwyddiant

Mae cymuned fusnes Sir Ddinbych wedi cymryd rhan ym mis busnes mwyaf erioed y sir.

Yn ystod mis Mawrth Busnes y Cyngor Sir, bu bron i 400 o bobl yn cymryd rhan mewn 25 o ddigwyddiadau amrywiol.

Gan weithio gyda darparwyr cefnogi partneriaeth, roedd mis busnes y Cyngor, a gynhaliwyd drwy fis Mawrth, yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, gweithdai ar allforio ar ôl Brexit, brandio a marchnata, yn ogystal â digwyddiad bwyd i arddangos cynnyrch lleol.   

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Ein trydydd mis busnes oedd y mwyaf llwyddiannus eto. Hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau, darparwyr cymorth ac arbenigwyr sydd wedi cymryd rhan a helpu i adeiladu ar waith y Cyngor i wneud yn siŵr bod y sir yn ‘agored ar gyfer busnes'.

“Fel Cyngor, rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau, a’u hunain, oherwydd rydym yn angerddol am gefnogi ein cymuned fusnes leol.

“Y targed go iawn i ni yw gweld llwyddiant y rhaglen yn troi’n llwyddiant busnes lleol, ac mae rhai arwyddion cryf bod hyn yn digwydd.”

Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Cyngor, drwy ein Tîm Datblygu Economaidd a Busnes, wedi ymdrin â gwerth dros £20,000,000 o ymholiadau am fuddsoddiadau, gan helpu busnesau i greu 250 o swyddi a buddsoddi mwy na £200,000 mewn 60 o fusnesau newydd ac estyniadau trwy grantiau’r Cyngor.

Meddai Colin Brew, Prif Weithredwr Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Caer: “Mae mis Mawrth Busnes Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac mae’n tynnu sylw at awydd yr awdurdod lleol i ymgysylltu â chwmnïau lleol a darparu amgylchedd sy’n cefnogi eu twf parhaus.

“Mae aelodau’r Siambr sydd wedi manteisio o’r prosiect wedi cadarnhau eu hawydd i weld cynlluniau tebyg yn ein rhanbarth ac wedi canmol Sir Ddinbych am eu hagwedd arloesol.”

M4B1

Dafydd Evans, Rheolwr Rhanbarth Gogledd Cymru Busnes Cymru yn annerch cinio’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn 1891 yn y Rhyl.

M4B2

Helen Hodgkinson o’r Academi Sgiliau Adwerthu yn rhoi gweithdy cyfryngau cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, y Rhyl

M4B3

Cyn economegydd Banc Lloegr Neil Ashbridge yn rhoi cipolwg ar Brexit yn ystod digwyddiad Brexit Siambr Masnach Gogledd Cymru a Gorllewin Caer fel rhan o fis Mawrth Busnes

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid