llais y sir

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn 2001 i gefnogi prosiectau arloesol a chynaliadwy ym mhum Ardal o Harddwch Eithriadol Cymru a, gorau oll, rydym ni newydd Sustainable Development Fundsicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn arall. Mae’r gronfa yn cefnogi cynlluniau byw a gweithio’n fwy cynaliadwy yn ogystal â gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, diwylliant, tirwedd, defnydd tir a chymunedau yng nghyd-destun nodau ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gall nifer o bobl wahanol wneud cais am gyllid:

  • Grwpiau cymunedol, gwirfoddol a phartneriaeth
  • Cynghorau Cymuned
  • Unigolion a sefydliadau sector preifat (ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd)

Mae’r gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n:

  • Cynnal a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
  • Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd
  • Hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol
  • Hyrwyddo mwynhad tawel o'r AHNE

Er enghraifft, prosiectau cynaliadwy mewn ysgolion, fel rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt neu fentrau ynni, gwastraff a lleihau traffig; prosiectau cludiant cynaliadwy i leihau ein defnydd o geir ac i wella iechyd; prosiectau gwella mannau agored mewn pentrefi at ddefnydd lleol a bywyd gwyllt; gwaith adfer nodweddion hanesyddol fel pwll pentref, perllan gymunedol neu ffiniau traddodiadol; rhaglenni hyfforddiant i warchod sgiliau traddodiadol fel plygu gwrych, codi waliau cerrig a rheoli cadwraeth.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnig grantiau prosiect, grantiau rheoli i gwrdd â chostau staff a grantiau datblygu i hybu camau gweithredu neu bartneriaethau newydd, ac mae modd derbyn grant i gwrdd â 50% o gostau’r prosiect.

Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy, ar 01824 712757 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk.

Y flwyddyn olaf i brosiect Ewropeaidd adar y môr

Yn anffodus, yr haf hwn fydd diwedd Prosiect Adfer Môr-wenoliaid Bach LIFE+ Nature yr UE. Roedd y prosiect 5 mlynedd, gyda’r RSPB fel yr aelod arweiniol, yn cynnwys 11 o bartneriaid ac yn gweithredu dros 20 safle bridio allweddol ar draws y DU. Mae wedi caniatáu i wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wneud gwelliannau sylweddol i'r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant ac fe gyfrannodd y cyllid at brynu cyfarpar a darparu aelod ychwanegol o staff. Mae’r prosiect wedi darparu llwyfan i rannu syniadau ar draws y sir ac wedi annog arloesi wrth oresgyn problemau sy'n effeithio ar yr aderyn môr prin hwn. Dros gyfnod y cynllun, mae’r duedd o ddirywiad sydyn ym mhoblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Bach wedi sefydlogi, o leiaf, ond mae llawer o waith dal angen ei wneud i'w hadfer.

Little Tern

Credyd llun:  Michael Steciuk

Yn ffodus, mae Sir Ddinbych wedi dod yn un o’r lleoedd gorau i weld yr aderyn môr prin yn agos. Daeth Gronant i fod â’r nythfa fwyaf o Fôr-wenoliaid Bach ym Mhrydain ac Iwerddon am y tro cyntaf yn 2017. Mae’r cyfanswm o 161 o barau bridio yn cyfrannu at dros 10% o boblogaeth y DU ac mae gennym ni gyfraddau llwyddo da o ran oedolion yn magu cywion. Mae hyn i raddau helaeth wedi bod oherwydd ymdrechion staff Cefn Gwlad, sefydliadau eraill a gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Rydyn ni wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu ein hymdrechion i sicrhau bod y Fôr-wennol Fach i'w gweld yn y dyfodol. Cysylltwch â swyddfa Pwll Brickfields ar 01824 708313 i gael gwybod mwy. Gallwch hyd yn oed ymuno â Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru – grŵp o wirfoddolwyr sy'n rhoi cefnogaeth sylweddol i'n gwaith yng Ngronant.

 

Ysbrydion Corwen

Mae 2018 yn flwyddyn darganfod Croeso Cymru felly mae plant Ysgol Caer Drewyn, Corwen wedi creu ffilm fer sy’n dathlu eu tirwedd a’u chwedlau lleol.Ghosts of Corwen

Rhoddwyd y prosiect ynghyd gan Wasanaeth Celfyddydau, Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a gyflogodd yr artist Rob Spaull i weithio gyda'r plant.

Yn dilyn trafodaethau ynglŷn â ble mae eu hardaloedd arbennig, datblygodd y plant fwrdd stori eu hunain cyn troi eu llaw at fod yn gyfarwyddwyr ffilm, criw camera ac actorion. Mae’r ffilm yn sôn am gysylltiadau Celtaidd yr ardal a Bryngaer hynod Caer Drewyn o Oes yr Haearn a choetir Pen y Pigyn a'i gysylltiad ag Owain Glyndŵr.

Dywedodd Charlotte Davies, athrawes yn Ysgol Caer Drewyn, ‘Mae’r plant wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn, maen nhw wedi dysgu am eu hardal leol, meithrin sgiliau newydd ac wedi cael eu hysbrydoli gan y prosiect'.

Dywedodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 eu bod wedi mwynhau’n arbennig dysgu am onglau camera, mynd ar y trên stem, defnyddio’r feddalwedd olygu ar y cyfrifiadur a chreu’r effeithiau arbennig.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: "Mae Corwen mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n cydnabod yr ardal fel un â thirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol, fel y ‘Great Barrier Reef’. Mae’n ysbrydoledig gweld plant lleol yn ymgysylltu â’u tirwedd ac yn llawn brwdfrydedd amdani."

I wylio’r ffilm fer cliciwch yma, neu yn well fyth beth am ymweld â Chorwen ar y trên yr haf hwn a mynd i weld Caer Drewyn a Phenypigyn. Gellir lawrlwytho teithiau cerdded i’r safleoedd hyn ar y gwefan.

Hoffai’r prosiect ddiolch i Jude Wood a Claire Sandland am eu cyfraniadau i’r ffilm hon a Rheilffordd Dreftadaeth Llangollen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu cefnogaeth.

Arweinwyr yr AHNE

Llongyfarchiadau i arweinwyr newydd gymhwysedig AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.AONB Group

Hon yw’r bedwaredd flwyddyn i’r AHNE ddod â phobl ynghyd o Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddysgu am rinweddau arbennig y dirwedd anhygoel hon.

Mae Cwrs Arweinwyr yr AHNE yn gwrs ar gyfer y rheiny sydd eisiau dysgu mwy am ddiwylliant, treftadaeth, bioamrywiaeth a thirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – fel bod modd iddyn nhw drosglwyddo’r wybodaeth i eraill fel llysgenhadon ar gyfer yr ardal a gwella eu dealltwriaeth o’r dirwedd a ddiogelir.

Yn ystod y cwrs bu i'r arweinwyr ymweld â safleoedd archeolegol gyda Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, ac archwilio Dyffryn Alun gyda Joel Walley (Ecolegydd) a John Morris (Warden Loggerheads). Maen nhw wedi bod allan am 5 o’r gloch y bore i wylio’r rugiar ddu, wedi dysgu am reoli rhostir ac wedi ymweld â chae sêl Rhuthun i siarad efo ffermwyr. Maen nhw hefyd wedi bod yn dysgu ymadroddion Cymraeg pwysig.

Dyma sy’n gwneud tirwedd yr ardal hon yn un arbennig.

Bu i chwe arweinydd gwblhau’r cwrs eleni, a chynhaliwyd cyflwyniad iddyn nhw yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.

Dyma’r arweinwyr gydag Andy Worthington, Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.

AONB Guides

Awyr Dywyll

Yn 2016 dechreuodd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy archwilio'r cyfleoedd i wella ansawdd ei awyr dywyll a chadw dynodiad priodol y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. Dark SkiesAmlygodd astudiaeth ddichonoldeb y byddai Statws Cymuned Awyr Dywyll yn ddewis hyfyw. Ym mis Chwefror 2018 cymeradwyodd Cydbwyllgor yr AHNE i fwrw ymlaen â’r achrediad. Rydym ni wedi sicrhau £10,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y broses ymgeisio ac wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau Awyr Dywyll fel rhan o’n rhaglen O Gwmpas. Cadwch lygad am y logo uchod. Gall gymryd hyd at ddeunaw mis i gwblhau’r cais.

Mae copi o'r astudiaeth ddichonoldeb ar gael ar wefan yr AHNE.

Gwirfoddolwr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 'Eithriadol'

Mae John Roberts wedi ennill 'Gwobr Gwirfoddolwr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’ eleni.

AONB Volunteer Award

Yn y llun mae Cadeirydd Cyd-Bwyllgor AHNE, y Cynghorydd Hugh Jones, yn cyflwyno John Roberts gyda Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae John wedi bod yn aelod gweithgar o Bartneriaeth yr AHNE a'r cyn-Bwyllgor Ymgynghorol ar y Cyd am nifer o flynyddoedd, ac mae ei gyfraniad at yr AHNE wedi mynd y tu hwnt i’r rôl wreiddiol y cafodd ei benodi ar ei chyfer, nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth, a phan ofynnir am ei gyngor, mae John bob tro yna, yn ddoeth ac yn gadarn!

Mae John yn frwdfrydig iawn dros yr awyr agored a cherdded, ac yn Ysgrifennydd Pwyllgor Llwybrau Cerdded Cymdeithas Cerddwyr Sir y Fflint. Mae John yn anelu at sicrhau bod Hawliau Tramwy’n cael eu cynnal a’u rheoli i gerddwyr, ac fe gynrychiolodd Cymdeithas y Cerddwyr ar y cyn-Bwyllgor JAC. Mae John yn aml yn prawf ddarllen cyhoeddiadau ar gyfer yr AHNE, sy’n cael ei werthfawrogi. Mae John hefyd wedi bod yn aelod sefydlu amlwg o ‘Gyfeillion AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’ ac yn Ysgrifennydd a Golygydd newyddlen y 'Cyfeillion', sy’n helpu i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac mae hyn wedi cynorthwyo gyda’i lwyddiant, drwy gael bron i 200 o aelodau. Mae John hefyd yn aelod o ‘Bwyllgor Grŵp Llywio Ein Tirwedd Hardd’.

Mae John yn byw gyda’i wraig yn Sychdyn ger yr Wyddgrug ac yn gefnogwr chwareon brwd, ac wedi chwarae criced a phêl-droed, ac mae ganddo docyn tymor i gemau pêl-droed Wrecsam. Fe wnaeth John hyd yn oed helpu gyda digwyddiadau bowlio ym Mhlas Newydd, Llangollen, ar ran yr AHNE.

Mae’n amlwg i unrhyw un weld bod John ag ymrwymiad gwirioneddol i'r AHNE a bydd yn cynorthwyo ar unrhyw lefel i geisio diogelu ei dyfodol.

Dywedodd Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE, “Rwy'n falch iawn fod John wedi ennill gwobr 'Gwirfoddolwr y Flwyddyn', mae John yn gefnogol ac yn ddibynadwy, a bob amser yn hapus ac yn gyfeillgar a dymunol, ac wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol iawn ar yr AHNE”.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd y Cydbwyllgor AHNE, a gyflwynodd y Wobr i John “Ar ran Partneriaeth a Thîm yr AHNE, hoffwn ddiolch i John am ei waith diwyd i’r AHNE, rydym yn ddiolchgar iawn iddo".

Galwadau i warchod a gwella Rhos Rhiwabon

Fe lansiwyd ymgyrch wedi’i anelu at amddiffyn rhostir y grug mewn rhannau o dde Sir Ddinbych.Ruabon Moor

Nôd ymgyrch Mynediad Cynaliadwy ydi atal rhagor o ddifrod i’r rhostir sydd yn cael ei erydu oherwydd defnydd cynyddol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ardal y rhostir o gwmpas Llandegla ac Eglwyseg yn cael ei ddefnyddio fel llwybr poblogaidd mewn i Langollen.   O ganlyniad, mae llwybrau a thraciau’r anifeiliaid yn cael eu difrodi ac mae’r rhostir y grug yn dirwyio. Mae hyn yn cael effaith ar fywyd gwyllt yn yr ardal, yn enwedig adar sy’n nythu ar y ddaear.

I fynd i'r afael â hyn mae tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Ride Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Oneplanet Adventure sydd yn rhedeg canolfan beicio mynydd yng Nghoed Llandegla yn lansio ymgyrch, sydd yn annog beicwyr a defnyddwyr eraill i lynu at y llwybrau swyddogol.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys fideos a fydd yn amlygu rhai o’r problemau, gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'u hanelu at feicwyr a defnyddwyr cefn gwlad eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Mae'r cefn gwlad bendigedig a'r dirwedd unigryw hon yn denu miloedd o bobl yn flynyddol. Mae’r ymgyrch yma’n gofyn iddynt lynu wrth y Cod Defnyddwyr Llwybrau a dilyn y llwybrau swyddogol penodedig. Rydym yn dymuno amddiffyn y dirwedd unigryw hon ac atal rhagor o niwed damweiniol i’r llwybrau troed, rhostir y grug a’r bywyd gwyllt sydd wedi ymgartrefu ar y rhostir.

“Mae’r tirlun hwn yn unigryw ond hefyd yn fregus. Ac felly mae’r AHNE a’i bartneriaid wedi bod yn gweithio i ddiogelu’r lleoliad unigryw hwn, ond mae angen i’r cyhoedd helpu hefyd.

“Rydym yn apelio ar bobl i fod yn ystyriol o gefn gwlad a chydweithio i’w amddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.beiciogogleddcymru.co.uk/ neu http://www.ridenorthwales.co.uk/  

Gwobr AHNE Flynyddol

Bob blwyddyn mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) yn dewis unigolyn neu grŵp y mae eu cyfraniad i’r dirwedd a chymunedau AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn eithriadol.

Dyfarnwyd gwobr eleni i Grŵp Archeoleg Bryniau Clwyd – CRAG.

Sefydlwyd y grŵp o ganlyniad i brosiect y Grug a Bryngaerau'r AHNE ychydig flynyddoedd yn ôl ac maent wedi cloddio ardal ar lethrau gogleddol Moel Arthur, wnaeth ddatgelu ‘canfyddiadau’ diddorol o’r Oes Efydd.

Maent yn griw brwdfrydig o archeolegwyr amatur, a arweiniwyd tan yn ddiweddar gan ddau neu dri o bobl mwy cymwys. Oddeutu 30 yw nifer eu haelodaeth gan gynnwys aelodau gweithredol a chefnogwyr.

Y llynedd fodd bynnag, fe gollwyd gwasanaeth dau o’u harweinwyr, allai fod wedi golygu y byddai’n amhosib parhau â’r cloddio.

Fodd bynnag fe wnaethant gais llwyddiannus am Grant Treftadaeth y Loteri, ac maent wedi derbyn cymorth gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE, a gyda’r cyllid maent wedi penodi archeolegydd proffesiynol i hyfforddi rhai ohonynt yn nhechnegau cloddio safleoedd hynafol, yn ogystal â’r broses bwysig o gofnodi eu gwaith dyddiol ac unrhyw ganfyddiadau.

Maent wedi cynnal Diwrnod Agored yn Loggerheads, ac yn ddiweddar fe gynhaliwyd arddangosfa yn yr Oriel yn Loggerheads.

Mae nifer o gerddwyr ar y Llwybr Cenedlaethol wedi aros i ofyn cwestiynau, ac maent yn cael sgwrs fer gan un o’r tîm, mae hyn yn ei dro yn ysgogi diddordeb yn y bryngaerau, sy’n gyhoeddusrwydd da i'n AHNE.

Nid Gwobr yr AHNE yw’r unig wobr i’r grŵp ei hennill. Ar ddiwedd 2017 fe wnaethant deithio i Lundain i dderbyn gwobr ‘Marsh Archaeology Community Award’. Fodd bynnag ‘rwy’n siŵr bod y wobr hon yn golygu mwy i’r grŵp gan ei bod gan yr ardal lleol ac wedi’r cwbl maent wedi eu henwi ar ôl rhan o’n AHNE arbennig ni. Llongyfarchiadau i CRAGs!

AONB Amateur Archaeoligist

Aelodau CRAG yn cael eu cyflwyno gyda Gwobr Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gan Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Cynghorydd Hugh Jones (Is Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam) yn Neuadd y Sir, Wyddgrug.

O'r chwith:  Pat Daley, Wendy Whitby, Cynghorydd Hugh Jones, Keith Lowery, Karen Lowery

Ymgyrch Cymryd yr Awenau

Bydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio gyda phartneriaid i lansio ail flwyddyn yr ymgyrch Cymryd yr Awenau dros wyliau’r Pasg. Nod yr ymgyrch yw targedu ymwelwyr a thrigolion lleol sy’n cerdded eu cŵn yng nghefn gwlad i gadw eu cŵn ar eu tenynnau wrth gerdded ar dir gydag anifeiliaid pori.

Bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo cerdded yn gyfrifol â’ch cŵn drwy gyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, ffilmiau byrion a digwyddiadau mewn safleoedd cerdded poblogaidd yn yr AHNE fel Parc Gwledig Moel Famau, Penycloddiau a Dinas Brân. Nod yr ymgyrch fydd ymgysylltu â pherchnogion cŵn i’w haddysg am oblygiadau cŵn yn poeni anifeiliaid ac ymosodiadau ar anifeiliaid fferm, a all achosi anafiadau dychrynllyd, sy’n aml yn angheuol i anifeiliaid fferm a gallant arwain at orchymyn difa gan y llys i’r ci anwes.

Y geiriau cyntaf y mae Ceidwaid AHNE yn aml yn eu clywed wrth weld digwyddiad lle mae ci yn poeni anifeiliaid yw nad yw’r ci erioed wedi gwneud hyn o’r blaen ond yn anffodus mae'n rhy hwyr erbyn hynny. Bydd yr ymgyrch yn gofyn i berchnogion beidio a chymryd siawns a chadw eu cŵn ar denynnau.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads 01824 71 2747.

Dogs on Leads

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid