llais y sir

Twristiaeth

Gogledd Ddwyrain Cymru yn Dathlu ei Lwybrau at y Môr

Mae ffilm newydd yn arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi cael ei ryddhau, yn rhan o ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru. Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu'r ffilm, i ysgogi ymwelwyr newydd i brofi Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru at y Môr.Routes to the Sea 1

Wedi’i ariannu gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, mae’r ffilm yn archwilio beth sydd gan y rhanbarth i gynnig i dwristiaeth, o’r ardaloedd mewndirol at yr arfordir; gan amlygu’r llwybr beiciau, llwybr yr arfordir, treftadaeth a thraethau yn ogystal â gweithgareddau gan gynnwys paragleidio a marchogaeth ceffylau yn Nhalacre. Dangosir yr amrywiaeth o brofiadau dŵr awyr agored sydd ar gael yn yr ardal hefyd, gan gynnwys hwylio, pysgota, nofio, padl fyrddio ar eich traed a sgïo dŵr.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2016, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £848m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Yn 2018 rydym yn dathlu arfordir arbennig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig ar ein harfordir, gyda digwyddiadau ac atyniadau arbennig ymlaen gydol y flwyddyn. Rwy’n falch iawn bod cyllid Croeso Cymru wedi galluogi’r Gogledd-Ddwyrain i weithio gyda’i gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth a dangos rhai o deithiau ysbrydoledig yr ardal at yr arfordir eleni."

Routes to the Sea 2Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych, “Diolch i bawb a gyfrannodd at y broses o wneud y ffilm, gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i brofi peth o'n gweithgareddau morol ac arfordirol. Bydd buddsoddiadau allweddol yn ein cyrchfannau arfordirol, fel y datblygiadau yn Y Rhyl, o help i gynyddu ymwybyddiaeth a nifer yr ymwelwyr â’r ardal ac yn creu swyddi a fydd yn hybu'r economi lleol."

Mae’r ffilm yn ddechrau cyfres o ffilmiau byrion a fydd yn cael eu rhyddhau drwy’r flwyddyn, yn arddangos themâu amrywiol gan gynnwys cerdded, beicio, bywyd gwyllt, treftadaeth, bwyd a diod, traethau, yn ogystal â gweithgareddau dŵr awyr agored. Bydd cyfres o flogiau a delweddau proffesiynol Blwyddyn y Môr hefyd yn cael eu rhyddhau er mwyn denu ymwelwyr hen a newydd i’r ardal.

Meddai Cyd Sylfaenydd Follow Films, Graham Cooper, wnaeth gynhyrchu'r ffilmiau, “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru drwy fy oes, ond mae gweithio ar brosiectau fel hyn yn fy atgoffa pa mor lwcus ydym o fyw mewn ardal o’r fath. Rwy’n dod o hyd i gymaint o weithgareddau newydd, gwych wrth gynhyrchu ffilmiau fel hyn, ac mae’r angerdd sydd gan fusnesau tuag at Ogledd Ddwyrain Cymru yn wych i'w weld."

Am fwy o wybodaeth ar y llefydd a'r gweithgareddau sydd yn y ffilm, ewch i http://www.northeastwales.wales/

Ydych chi'n trefnu digwyddiadau?

Mae’r Tîm Twristiaeth wedi lansio proses ddigwyddiadau newydd a symlach ar gyfer trefnwyr digwyddiadau sy'n dymuno ymgysylltu gyda'r awdurdod.Events

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n gwefan.

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen hysbysu o’r dudalen hon a chael llawer o gyngor defnyddiol am gynnal digwyddiad diogel a llwyddiannus.

Gall y Tîm Twristiaeth hefyd hyrwyddo eich digwyddiad drwy’r Llyfryn Be Sy ‘Mlaen a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, unwaith mae ffurflen hysbysu wedi ei dychwelyd.

Rhaglen lawn yn Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych

Gwahoddir busnesau twristiaeth i Fforwm sy’n amlinellu’r datblygiadau diweddaraf yn eu diwydiant ym mis Ebrill. Gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys cynrychiolwyr o Croeso Cymru a Grŵp SweetSpot sy’n trefnu digwyddiadau chwaraeon blynyddol o ansawdd uchel gan Tourism Forumgynnwys Taith Prydain OVO Energy, ras feicio broffesiynol fwyaf y DU, mae’n addo bod yn ddigwyddiad mawr i bawb sy’n rhan o’r sector twristiaeth.

Cynhelir Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych ar ddydd Iau, 12 Ebrill yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy am 10.30am. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau. Bydd amrywiaeth o stondinau gwybodaeth yn bresennol gan gynnwys Cadwyn Clwyd, Cadwch Gymru’n Daclus, Helfa Gelf, Menter Iaith Sir Ddinbych, Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Llangollen, CADW, Croeso Cymru a llawer mwy.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Gyda’r prif dymor twristiaeth yn nesáu’n gyflym; mae’r Fforwm yn ffordd wych i bobl o’r un meddylfryd gyfarfod a chael gwybod am y datblygiadau twristiaeth diweddaraf. Nid yw ar gyfer busnesau twristiaeth yn unig, mae’n gyfle da i fyfyrwyr ac unrhyw un gyda diddordeb mewn twristiaeth i glywed gan y sawl sy’n gweithio yn y diwydiant yn rhannu ei profiadau.”

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych ac yn 2016 roedd cyfanswm yr effaith economaidd dros £479 miliwn, sef cynnydd o 50% o gymharu â 10 mlynedd yn ôl a bron 6 miliwn o ymwelwyr â’r Sir yn 2016.

Mae'r perchennog busnes lleol Tommy Davies a enillodd Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales yn ddiweddar yn rhedeg Cabanau Pren Coed-y-Glyn yng Nglyndyfrdwy ger Llangollen, yn dod i ddweud ei stori. Dywedodd Tommy: “Mae’n wych gweld Sir Ddinbych a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru yn tyfu mewn poblogaeth dros y blynyddoedd diwethaf a chroesawu gwesteion o bob rhan o’r byd i’n hardal hardd. Mae’r Fforwm yn blatfform gwych i bawb yn y sector i ddod at ei gilydd a rhannu eu straeon, syniadau a chynlluniau i sicrhau twf twristiaeth cynaliadwy yn y dyfodol.”

Bydd Croeso Cymru hefyd yn bresennol i rannu gwybodaeth ar Ffordd Cymru – y teulu o dri llwybr cenedlaethol newydd sy’n croesi tirwedd mwyaf epig y wlad fel ffordd o ddangos hanes, arfordir ac atyniadau anhygoel Cymru. Bydd yna lawer o gyfleoedd cyffrous i’r sector fanteisio ar yr ymgyrch arloesol hwn i ddod â mwy o ymwelwyr i’r rhanbarth.

I archebu lle yn y Fforwm anfonwch e-bost i:  tourism@denbighshire.gov.uk, ffôn: 01824 706223 neu https://denbighshiretourismforum2018.eventbrite.co.uk/

5 Taith

5 Journeys 15 Journeys 2

Fel rhan o’r dasg o wrando ar anghenion busnesau lleol a Chynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych, mae adran twristiaeth a marchnata Sir Ddinbych wedi datblygu cynnyrch newydd sbon i hyrwyddo’r Sir i ymwelwyr. Mae’n faint defnyddiol A5 sy'n agor i ddarparu map o atyniadau lleol a phethau i'w gwneud. Bydd ar gael o fis Ebrill mewn Canolfannau Croeso a Phwyntiau Gwybodaeth i Dwristiaid yn ogystal â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.

Os hoffech weld copi gellir ei lawrlwytho yma, neu os hoffech dderbyn copi anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Be sy'mlaen yn Sir Ddinbych

Edrychwch ar ein llyfryn newydd sydd newydd ei rhyddhau. Mae fersiwn electronig ar gael i'w lawrlwytho ar wefan Darganfod Sir Ddinbych. Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o wybodaeth a syniadau eraill ar beth i'w wneud yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf.

Beth sydd ymlaen

 

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn 2001 i gefnogi prosiectau arloesol a chynaliadwy ym mhum Ardal o Harddwch Eithriadol Cymru a, gorau oll, rydym ni newydd Sustainable Development Fundsicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn arall. Mae’r gronfa yn cefnogi cynlluniau byw a gweithio’n fwy cynaliadwy yn ogystal â gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, diwylliant, tirwedd, defnydd tir a chymunedau yng nghyd-destun nodau ac egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gall nifer o bobl wahanol wneud cais am gyllid:

  • Grwpiau cymunedol, gwirfoddol a phartneriaeth
  • Cynghorau Cymuned
  • Unigolion a sefydliadau sector preifat (ar gyfer prosiectau er budd y cyhoedd)

Mae’r gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n:

  • Cynnal a gwella harddwch naturiol yr AHNE, gan gynnwys yr amgylchedd adeiledig
  • Hyrwyddo ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd
  • Hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol
  • Hyrwyddo mwynhad tawel o'r AHNE

Er enghraifft, prosiectau cynaliadwy mewn ysgolion, fel rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt neu fentrau ynni, gwastraff a lleihau traffig; prosiectau cludiant cynaliadwy i leihau ein defnydd o geir ac i wella iechyd; prosiectau gwella mannau agored mewn pentrefi at ddefnydd lleol a bywyd gwyllt; gwaith adfer nodweddion hanesyddol fel pwll pentref, perllan gymunedol neu ffiniau traddodiadol; rhaglenni hyfforddiant i warchod sgiliau traddodiadol fel plygu gwrych, codi waliau cerrig a rheoli cadwraeth.

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnig grantiau prosiect, grantiau rheoli i gwrdd â chostau staff a grantiau datblygu i hybu camau gweithredu neu bartneriaethau newydd, ac mae modd derbyn grant i gwrdd â 50% o gostau’r prosiect.

Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy, ar 01824 712757 neu ceri.lloyd@sirddinbych.gov.uk.

Y flwyddyn olaf i brosiect Ewropeaidd adar y môr

Yn anffodus, yr haf hwn fydd diwedd Prosiect Adfer Môr-wenoliaid Bach LIFE+ Nature yr UE. Roedd y prosiect 5 mlynedd, gyda’r RSPB fel yr aelod arweiniol, yn cynnwys 11 o bartneriaid ac yn gweithredu dros 20 safle bridio allweddol ar draws y DU. Mae wedi caniatáu i wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wneud gwelliannau sylweddol i'r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant ac fe gyfrannodd y cyllid at brynu cyfarpar a darparu aelod ychwanegol o staff. Mae’r prosiect wedi darparu llwyfan i rannu syniadau ar draws y sir ac wedi annog arloesi wrth oresgyn problemau sy'n effeithio ar yr aderyn môr prin hwn. Dros gyfnod y cynllun, mae’r duedd o ddirywiad sydyn ym mhoblogaeth y DU o Fôr-wenoliaid Bach wedi sefydlogi, o leiaf, ond mae llawer o waith dal angen ei wneud i'w hadfer.

Little Tern

Credyd llun:  Michael Steciuk

Yn ffodus, mae Sir Ddinbych wedi dod yn un o’r lleoedd gorau i weld yr aderyn môr prin yn agos. Daeth Gronant i fod â’r nythfa fwyaf o Fôr-wenoliaid Bach ym Mhrydain ac Iwerddon am y tro cyntaf yn 2017. Mae’r cyfanswm o 161 o barau bridio yn cyfrannu at dros 10% o boblogaeth y DU ac mae gennym ni gyfraddau llwyddo da o ran oedolion yn magu cywion. Mae hyn i raddau helaeth wedi bod oherwydd ymdrechion staff Cefn Gwlad, sefydliadau eraill a gwirfoddolwyr dros y blynyddoedd. Rydyn ni wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu ein hymdrechion i sicrhau bod y Fôr-wennol Fach i'w gweld yn y dyfodol. Cysylltwch â swyddfa Pwll Brickfields ar 01824 708313 i gael gwybod mwy. Gallwch hyd yn oed ymuno â Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru – grŵp o wirfoddolwyr sy'n rhoi cefnogaeth sylweddol i'n gwaith yng Ngronant.

 

Ysbrydion Corwen

Mae 2018 yn flwyddyn darganfod Croeso Cymru felly mae plant Ysgol Caer Drewyn, Corwen wedi creu ffilm fer sy’n dathlu eu tirwedd a’u chwedlau lleol.Ghosts of Corwen

Rhoddwyd y prosiect ynghyd gan Wasanaeth Celfyddydau, Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych ac AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a gyflogodd yr artist Rob Spaull i weithio gyda'r plant.

Yn dilyn trafodaethau ynglŷn â ble mae eu hardaloedd arbennig, datblygodd y plant fwrdd stori eu hunain cyn troi eu llaw at fod yn gyfarwyddwyr ffilm, criw camera ac actorion. Mae’r ffilm yn sôn am gysylltiadau Celtaidd yr ardal a Bryngaer hynod Caer Drewyn o Oes yr Haearn a choetir Pen y Pigyn a'i gysylltiad ag Owain Glyndŵr.

Dywedodd Charlotte Davies, athrawes yn Ysgol Caer Drewyn, ‘Mae’r plant wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn, maen nhw wedi dysgu am eu hardal leol, meithrin sgiliau newydd ac wedi cael eu hysbrydoli gan y prosiect'.

Dywedodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 eu bod wedi mwynhau’n arbennig dysgu am onglau camera, mynd ar y trên stem, defnyddio’r feddalwedd olygu ar y cyfrifiadur a chreu’r effeithiau arbennig.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy: "Mae Corwen mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol sy’n cydnabod yr ardal fel un â thirwedd o bwysigrwydd rhyngwladol, fel y ‘Great Barrier Reef’. Mae’n ysbrydoledig gweld plant lleol yn ymgysylltu â’u tirwedd ac yn llawn brwdfrydedd amdani."

I wylio’r ffilm fer cliciwch yma, neu yn well fyth beth am ymweld â Chorwen ar y trên yr haf hwn a mynd i weld Caer Drewyn a Phenypigyn. Gellir lawrlwytho teithiau cerdded i’r safleoedd hyn ar y gwefan.

Hoffai’r prosiect ddiolch i Jude Wood a Claire Sandland am eu cyfraniadau i’r ffilm hon a Rheilffordd Dreftadaeth Llangollen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru am eu cefnogaeth.

Arweinwyr yr AHNE

Llongyfarchiadau i arweinwyr newydd gymhwysedig AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.AONB Group

Hon yw’r bedwaredd flwyddyn i’r AHNE ddod â phobl ynghyd o Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i ddysgu am rinweddau arbennig y dirwedd anhygoel hon.

Mae Cwrs Arweinwyr yr AHNE yn gwrs ar gyfer y rheiny sydd eisiau dysgu mwy am ddiwylliant, treftadaeth, bioamrywiaeth a thirwedd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy – fel bod modd iddyn nhw drosglwyddo’r wybodaeth i eraill fel llysgenhadon ar gyfer yr ardal a gwella eu dealltwriaeth o’r dirwedd a ddiogelir.

Yn ystod y cwrs bu i'r arweinwyr ymweld â safleoedd archeolegol gyda Fiona Gale, Archeolegydd y Sir, ac archwilio Dyffryn Alun gyda Joel Walley (Ecolegydd) a John Morris (Warden Loggerheads). Maen nhw wedi bod allan am 5 o’r gloch y bore i wylio’r rugiar ddu, wedi dysgu am reoli rhostir ac wedi ymweld â chae sêl Rhuthun i siarad efo ffermwyr. Maen nhw hefyd wedi bod yn dysgu ymadroddion Cymraeg pwysig.

Dyma sy’n gwneud tirwedd yr ardal hon yn un arbennig.

Bu i chwe arweinydd gwblhau’r cwrs eleni, a chynhaliwyd cyflwyniad iddyn nhw yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug.

Dyma’r arweinwyr gydag Andy Worthington, Cadeirydd Partneriaeth yr AHNE. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd.

AONB Guides

Awyr Dywyll

Yn 2016 dechreuodd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy archwilio'r cyfleoedd i wella ansawdd ei awyr dywyll a chadw dynodiad priodol y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol. Dark SkiesAmlygodd astudiaeth ddichonoldeb y byddai Statws Cymuned Awyr Dywyll yn ddewis hyfyw. Ym mis Chwefror 2018 cymeradwyodd Cydbwyllgor yr AHNE i fwrw ymlaen â’r achrediad. Rydym ni wedi sicrhau £10,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y broses ymgeisio ac wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau Awyr Dywyll fel rhan o’n rhaglen O Gwmpas. Cadwch lygad am y logo uchod. Gall gymryd hyd at ddeunaw mis i gwblhau’r cais.

Mae copi o'r astudiaeth ddichonoldeb ar gael ar wefan yr AHNE.

Gwirfoddolwr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy 'Eithriadol'

Mae John Roberts wedi ennill 'Gwobr Gwirfoddolwr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’ eleni.

AONB Volunteer Award

Yn y llun mae Cadeirydd Cyd-Bwyllgor AHNE, y Cynghorydd Hugh Jones, yn cyflwyno John Roberts gyda Gwobr Gwirfoddolwyr AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mae John wedi bod yn aelod gweithgar o Bartneriaeth yr AHNE a'r cyn-Bwyllgor Ymgynghorol ar y Cyd am nifer o flynyddoedd, ac mae ei gyfraniad at yr AHNE wedi mynd y tu hwnt i’r rôl wreiddiol y cafodd ei benodi ar ei chyfer, nid oes unrhyw beth yn ormod o drafferth, a phan ofynnir am ei gyngor, mae John bob tro yna, yn ddoeth ac yn gadarn!

Mae John yn frwdfrydig iawn dros yr awyr agored a cherdded, ac yn Ysgrifennydd Pwyllgor Llwybrau Cerdded Cymdeithas Cerddwyr Sir y Fflint. Mae John yn anelu at sicrhau bod Hawliau Tramwy’n cael eu cynnal a’u rheoli i gerddwyr, ac fe gynrychiolodd Cymdeithas y Cerddwyr ar y cyn-Bwyllgor JAC. Mae John yn aml yn prawf ddarllen cyhoeddiadau ar gyfer yr AHNE, sy’n cael ei werthfawrogi. Mae John hefyd wedi bod yn aelod sefydlu amlwg o ‘Gyfeillion AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’ ac yn Ysgrifennydd a Golygydd newyddlen y 'Cyfeillion', sy’n helpu i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ac mae hyn wedi cynorthwyo gyda’i lwyddiant, drwy gael bron i 200 o aelodau. Mae John hefyd yn aelod o ‘Bwyllgor Grŵp Llywio Ein Tirwedd Hardd’.

Mae John yn byw gyda’i wraig yn Sychdyn ger yr Wyddgrug ac yn gefnogwr chwareon brwd, ac wedi chwarae criced a phêl-droed, ac mae ganddo docyn tymor i gemau pêl-droed Wrecsam. Fe wnaeth John hyd yn oed helpu gyda digwyddiadau bowlio ym Mhlas Newydd, Llangollen, ar ran yr AHNE.

Mae’n amlwg i unrhyw un weld bod John ag ymrwymiad gwirioneddol i'r AHNE a bydd yn cynorthwyo ar unrhyw lefel i geisio diogelu ei dyfodol.

Dywedodd Howard Sutcliffe, Swyddog AHNE, “Rwy'n falch iawn fod John wedi ennill gwobr 'Gwirfoddolwr y Flwyddyn', mae John yn gefnogol ac yn ddibynadwy, a bob amser yn hapus ac yn gyfeillgar a dymunol, ac wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol iawn ar yr AHNE”.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd y Cydbwyllgor AHNE, a gyflwynodd y Wobr i John “Ar ran Partneriaeth a Thîm yr AHNE, hoffwn ddiolch i John am ei waith diwyd i’r AHNE, rydym yn ddiolchgar iawn iddo".

Galwadau i warchod a gwella Rhos Rhiwabon

Fe lansiwyd ymgyrch wedi’i anelu at amddiffyn rhostir y grug mewn rhannau o dde Sir Ddinbych.Ruabon Moor

Nôd ymgyrch Mynediad Cynaliadwy ydi atal rhagor o ddifrod i’r rhostir sydd yn cael ei erydu oherwydd defnydd cynyddol.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ardal y rhostir o gwmpas Llandegla ac Eglwyseg yn cael ei ddefnyddio fel llwybr poblogaidd mewn i Langollen.   O ganlyniad, mae llwybrau a thraciau’r anifeiliaid yn cael eu difrodi ac mae’r rhostir y grug yn dirwyio. Mae hyn yn cael effaith ar fywyd gwyllt yn yr ardal, yn enwedig adar sy’n nythu ar y ddaear.

I fynd i'r afael â hyn mae tîm Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Ride Gogledd Cymru, mewn partneriaeth â Oneplanet Adventure sydd yn rhedeg canolfan beicio mynydd yng Nghoed Llandegla yn lansio ymgyrch, sydd yn annog beicwyr a defnyddwyr eraill i lynu at y llwybrau swyddogol.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys fideos a fydd yn amlygu rhai o’r problemau, gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'u hanelu at feicwyr a defnyddwyr cefn gwlad eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, yr Aelod Cabinet Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Mae'r cefn gwlad bendigedig a'r dirwedd unigryw hon yn denu miloedd o bobl yn flynyddol. Mae’r ymgyrch yma’n gofyn iddynt lynu wrth y Cod Defnyddwyr Llwybrau a dilyn y llwybrau swyddogol penodedig. Rydym yn dymuno amddiffyn y dirwedd unigryw hon ac atal rhagor o niwed damweiniol i’r llwybrau troed, rhostir y grug a’r bywyd gwyllt sydd wedi ymgartrefu ar y rhostir.

“Mae’r tirlun hwn yn unigryw ond hefyd yn fregus. Ac felly mae’r AHNE a’i bartneriaid wedi bod yn gweithio i ddiogelu’r lleoliad unigryw hwn, ond mae angen i’r cyhoedd helpu hefyd.

“Rydym yn apelio ar bobl i fod yn ystyriol o gefn gwlad a chydweithio i’w amddiffyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.beiciogogleddcymru.co.uk/ neu http://www.ridenorthwales.co.uk/  

Gwobr AHNE Flynyddol

Bob blwyddyn mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE) yn dewis unigolyn neu grŵp y mae eu cyfraniad i’r dirwedd a chymunedau AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn eithriadol.

Dyfarnwyd gwobr eleni i Grŵp Archeoleg Bryniau Clwyd – CRAG.

Sefydlwyd y grŵp o ganlyniad i brosiect y Grug a Bryngaerau'r AHNE ychydig flynyddoedd yn ôl ac maent wedi cloddio ardal ar lethrau gogleddol Moel Arthur, wnaeth ddatgelu ‘canfyddiadau’ diddorol o’r Oes Efydd.

Maent yn griw brwdfrydig o archeolegwyr amatur, a arweiniwyd tan yn ddiweddar gan ddau neu dri o bobl mwy cymwys. Oddeutu 30 yw nifer eu haelodaeth gan gynnwys aelodau gweithredol a chefnogwyr.

Y llynedd fodd bynnag, fe gollwyd gwasanaeth dau o’u harweinwyr, allai fod wedi golygu y byddai’n amhosib parhau â’r cloddio.

Fodd bynnag fe wnaethant gais llwyddiannus am Grant Treftadaeth y Loteri, ac maent wedi derbyn cymorth gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE, a gyda’r cyllid maent wedi penodi archeolegydd proffesiynol i hyfforddi rhai ohonynt yn nhechnegau cloddio safleoedd hynafol, yn ogystal â’r broses bwysig o gofnodi eu gwaith dyddiol ac unrhyw ganfyddiadau.

Maent wedi cynnal Diwrnod Agored yn Loggerheads, ac yn ddiweddar fe gynhaliwyd arddangosfa yn yr Oriel yn Loggerheads.

Mae nifer o gerddwyr ar y Llwybr Cenedlaethol wedi aros i ofyn cwestiynau, ac maent yn cael sgwrs fer gan un o’r tîm, mae hyn yn ei dro yn ysgogi diddordeb yn y bryngaerau, sy’n gyhoeddusrwydd da i'n AHNE.

Nid Gwobr yr AHNE yw’r unig wobr i’r grŵp ei hennill. Ar ddiwedd 2017 fe wnaethant deithio i Lundain i dderbyn gwobr ‘Marsh Archaeology Community Award’. Fodd bynnag ‘rwy’n siŵr bod y wobr hon yn golygu mwy i’r grŵp gan ei bod gan yr ardal lleol ac wedi’r cwbl maent wedi eu henwi ar ôl rhan o’n AHNE arbennig ni. Llongyfarchiadau i CRAGs!

AONB Amateur Archaeoligist

Aelodau CRAG yn cael eu cyflwyno gyda Gwobr Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy gan Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Cynghorydd Hugh Jones (Is Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam) yn Neuadd y Sir, Wyddgrug.

O'r chwith:  Pat Daley, Wendy Whitby, Cynghorydd Hugh Jones, Keith Lowery, Karen Lowery

Ymgyrch Cymryd yr Awenau

Bydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio gyda phartneriaid i lansio ail flwyddyn yr ymgyrch Cymryd yr Awenau dros wyliau’r Pasg. Nod yr ymgyrch yw targedu ymwelwyr a thrigolion lleol sy’n cerdded eu cŵn yng nghefn gwlad i gadw eu cŵn ar eu tenynnau wrth gerdded ar dir gydag anifeiliaid pori.

Bydd yr ymgyrch yn hyrwyddo cerdded yn gyfrifol â’ch cŵn drwy gyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, ffilmiau byrion a digwyddiadau mewn safleoedd cerdded poblogaidd yn yr AHNE fel Parc Gwledig Moel Famau, Penycloddiau a Dinas Brân. Nod yr ymgyrch fydd ymgysylltu â pherchnogion cŵn i’w haddysg am oblygiadau cŵn yn poeni anifeiliaid ac ymosodiadau ar anifeiliaid fferm, a all achosi anafiadau dychrynllyd, sy’n aml yn angheuol i anifeiliaid fferm a gallant arwain at orchymyn difa gan y llys i’r ci anwes.

Y geiriau cyntaf y mae Ceidwaid AHNE yn aml yn eu clywed wrth weld digwyddiad lle mae ci yn poeni anifeiliaid yw nad yw’r ci erioed wedi gwneud hyn o’r blaen ond yn anffodus mae'n rhy hwyr erbyn hynny. Bydd yr ymgyrch yn gofyn i berchnogion beidio a chymryd siawns a chadw eu cŵn ar denynnau.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads 01824 71 2747.

Dogs on Leads

Adran Busnes

Agoriad swyddogol canolfan fusnes a gefnogir gan y Cyngor

Mae canolfan fusnes ar safle cyn adeilad llys yn y Rhyl wedi cael ei agor yn swyddogol.

Mae Hannah James wedi trawsnewid yr hen Lys Sirol ar Stryd Clwyd, a gaeodd yn 2016, yn ganolfan fusnes gydag ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.

Cafodd gefnogaeth ar ffurf grant gan y Cyngor i brynu offer i’w helpu i baratoi’r adeilad, dan ei enw newydd, Clwyd Chambers, a chafodd gefnogaeth hefyd gan Busnes Cymru.

Yn ystod yr agoriad, cafodd dros 50 o westeion eu harwain o amgylch y ganolfan newydd, sy’n cynnwys 13 o unedau hyblyg ar gyfer busnesau bach.

Meddai Hannah, sy’n Syrfëwr Adeiladau Siartredig: “Roedd yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd diddordeb a chael cyfle i ddangos iddynt beth sydd gan Clwyd Chambers a’r Rhyl i’w gynnig. Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth draw i wneud y diwrnod yn un mor anhygoel.

“Mae busnesau eisoes wedi cofrestru i gymryd rhai o'r unedau ac rydym wedi cymryd archebion ar gyfer yr ystafelloedd cyfarfod a digwyddiadau."

Dewisodd Hannah, cyn fyfyrwraig Ysgol Uwchradd Y Rhyl, ei thref enedigol gan ei bod yn edmygu faint o fuddsoddiad cyhoeddus sydd yna yn y Rhyl, a dywedodd ei bod yn frwd ynglŷn â chefnogi’r dref trwy dyfu a datblygu busnesau.

Mae hefyd yn darparu canolfan hyfforddiant er mwyn galluogi busnesau bach i gydweithio ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn falch o allu cefnogi’r gwaith rhagorol sy’n mynd rhagddo yn y ganolfan fusnes newydd wych hon.

“Mae’n dangos bod hyder yn y Rhyl. Bydd y cyfleuster hwn yn cynnig y cyfle i fusnesau newydd a rhai sy’n tyfu i ehangu a manteisio ar gyfleusterau modern yng nghanol tref brysur. Bydd hyn yn rhoi hwb i fusnesau yn y dref a helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.”

Rhyl Business Hub

 Yn y llun mae Hannah James gyda Maer y Rhyl, y Cynghorydd Alan James

Buddsoddiad ym mwyty yn y Rhyl yn arwain at fwy o fusnes

Mae bwyty bwyd cyflym yn y Rhyl wedi gweld cynnydd mewn busnes ers iddo gael ei ailwampio.Rhyl Fast Food

Dywedodd Stewart Williams, sy’n berchen ac yn gweithredu ar wyth bwyty McDonald yn Siroedd Dinbych, Fflint a Wrecsam, gan gynnwys yr un ar Stryd Fawr y Rhyl, bod y buddsoddiad diweddar yn y safle wedi cynyddu busnes.

Y llynedd cafodd y bwyty weddnewidiad digidol newydd, gan greu 15 o swyddi ychwanegol.

Cyflwynwyd ciosgau hunan-archebu er mwyn sicrhau bod y broses archebu mor gyflym a hawdd a phosibl, a chyflwynwyd gwasanaeth i’r bwrdd hefyd.

Dywedodd Mr Williams y dewisodd fuddsoddi yn y dref yn dilyn arwyddion cadarnhaol am y dyfodol, a ddaeth yn sgil buddsoddiad cyhoeddus parhaus yn y dref oddi wrth y Cyngor Sir.

Dywedodd: “Hyd yma, mae adborth y cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol. Rwy’n falch o ddweud bod fy muddsoddiad diweddar yn McDonald y Rhyl wedi arwain at fwy o gwsmeriaid yn ymweld â’r bwyty.

“Rwy’n falch iawn o fuddsoddi yn y Rhyl a bod yn un o’r busnesau sy’n arwain y ffordd o ran rhoi mwy i mewn i’r ardal leol. Mae’r dref yn gwella ym mhob agwedd ar y funud ac rwy’n rhagweld bydd y datblygiadau newydd yn denu mwy o fusnesau i’r ardal.

“Mewn amser bydd y Stryd Fawr yn dod yn fwy bywiog a deniadol i siopwyr, a gyda gobaith byddwn yn gweld cynnydd o ran ymwelwyr."

Yn ogystal â’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Gyngor Sir Ddinbych ar barc dŵr newydd y dref, adnewyddu Theatr y Pafiliwn ac agor 1891, bydd gwesty Premier Inn yn agor fis Chwefror ac mae gwaith ar godi Travelodge 73 ystafell wely a bwyty teuluol yn mynd rhagddo.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych: “Mae’n braf gweld perchnogion busnes yn buddsoddi yn ein sir ac yn gwella’r cynnig ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.

“Mae’r buddsoddiad mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Rhyl eisoes yn cael effaith, gyda buddsoddiad preifat yn ei ddilyn. Bydd hyn yn creu mwy o swyddi yn Sir Ddinbych ac yn codi incwm aelwydydd, a fydd yn ei dro yn helpu’r economi leol i dyfu.

“Bydd y parc dŵr newydd, a fydd yn agor yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn creu 60 o swyddi ac yn denu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Mae’n wych gweld busnesau yn cyfarparu ar gyfer y cyfleoedd cynyddol a ddau yn sgil hyn.”

Mawrth Busnes Sir Ddinbych yn llwyddiant

Mae cymuned fusnes Sir Ddinbych wedi cymryd rhan ym mis busnes mwyaf erioed y sir.

Yn ystod mis Mawrth Busnes y Cyngor Sir, bu bron i 400 o bobl yn cymryd rhan mewn 25 o ddigwyddiadau amrywiol.

Gan weithio gyda darparwyr cefnogi partneriaeth, roedd mis busnes y Cyngor, a gynhaliwyd drwy fis Mawrth, yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, gweithdai ar allforio ar ôl Brexit, brandio a marchnata, yn ogystal â digwyddiad bwyd i arddangos cynnyrch lleol.   

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Ein trydydd mis busnes oedd y mwyaf llwyddiannus eto. Hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau, darparwyr cymorth ac arbenigwyr sydd wedi cymryd rhan a helpu i adeiladu ar waith y Cyngor i wneud yn siŵr bod y sir yn ‘agored ar gyfer busnes'.

“Fel Cyngor, rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau, a’u hunain, oherwydd rydym yn angerddol am gefnogi ein cymuned fusnes leol.

“Y targed go iawn i ni yw gweld llwyddiant y rhaglen yn troi’n llwyddiant busnes lleol, ac mae rhai arwyddion cryf bod hyn yn digwydd.”

Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Cyngor, drwy ein Tîm Datblygu Economaidd a Busnes, wedi ymdrin â gwerth dros £20,000,000 o ymholiadau am fuddsoddiadau, gan helpu busnesau i greu 250 o swyddi a buddsoddi mwy na £200,000 mewn 60 o fusnesau newydd ac estyniadau trwy grantiau’r Cyngor.

Meddai Colin Brew, Prif Weithredwr Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Caer: “Mae mis Mawrth Busnes Sir Ddinbych wedi bod yn llwyddiant aruthrol ac mae’n tynnu sylw at awydd yr awdurdod lleol i ymgysylltu â chwmnïau lleol a darparu amgylchedd sy’n cefnogi eu twf parhaus.

“Mae aelodau’r Siambr sydd wedi manteisio o’r prosiect wedi cadarnhau eu hawydd i weld cynlluniau tebyg yn ein rhanbarth ac wedi canmol Sir Ddinbych am eu hagwedd arloesol.”

M4B1

Dafydd Evans, Rheolwr Rhanbarth Gogledd Cymru Busnes Cymru yn annerch cinio’r Ffederasiwn Busnesau Bach yn 1891 yn y Rhyl.

M4B2

Helen Hodgkinson o’r Academi Sgiliau Adwerthu yn rhoi gweithdy cyfryngau cymdeithasol yng Ngholeg Llandrillo, y Rhyl

M4B3

Cyn economegydd Banc Lloegr Neil Ashbridge yn rhoi cipolwg ar Brexit yn ystod digwyddiad Brexit Siambr Masnach Gogledd Cymru a Gorllewin Caer fel rhan o fis Mawrth Busnes

Addysg

Y Prif Weinidog yn agoriad swyddogol Ysgol Glan Clwyd

Mae carreg filltir arbennig wedi’i chyrraedd yn hanes Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy wrth i adeilad newydd sbon yr ysgol gael ei agor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones AC.

Ymwelodd y Prif Weinidog â’r safle dydd Iau 15fed o Fawrth i weld canlyniadau'r prosiect gwerth £16.7 miliwn a ariannwyd ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Agorwyd y cymal cyntaf, sef adeilad newydd sbon i ddisgyblion ym mis Ionawr 2017 ac fe gwblhawyd y gwaith i ailwampio hen adeiladau'r ysgol ar ddiwedd 2017.

Gwrandewch ar yr hyn oedd gan y Prif Weinidog i'w ddweud.....

Cyfri’r diwrnodau tan agor ysgol newydd Rhuthun

Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar gyfer agor ysgol newydd yn Rhuthun.

Bydd yr adeilad ysgol newydd, gwerth £11.2 miliwn, yng Nglasdir yn agor ddydd Mawrth 10 Ebrill pan fydd disgyblion Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd Rhos yn symud i'r safle newydd. 

Mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r ddwy ysgol i gynllunio ar gyfer y diwrnod cyntaf. Bydd newyddlen arall yn cael ei hanfon at rieni a bydd staff wrth law ar y diwrnod cyntaf i sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir, drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Prif gontractwr y gwaith adeiladu oedd Wynne Construction.

Mae’r adeilad newydd yn rhan o raglen moderneiddio addysg y Cyngor a’r flaenoriaeth gorfforaethol o greu cymunedau lle mae pobl ifanc yn dewis byw, gweithio a dysgu ynddynt.

Meddai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud yn yr ysgol newydd ac mae’r athrawon a’r myfyrwyr yn edrych ymlaen at eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol newydd sbon.

“Mae’r ysgol yn fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yn ardal Rhuthun. Bydd myfyrwyr yn cael budd ohoni am flynyddoedd lawer, ac roedd gweld y cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn beth braf iawn.

“Bydd y prosiect hwn yn ein helpu ni i wireddu ein blaenoriaeth gorfforaethol o ran sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu potensial a chael cyfleusterau ysgol modern sy’n gwella eu profiadau dysgu.

“Hoffaf ddiolch i Wynne Construction a’r isgontractwyr a oedd yn rhan o’r prosiect am eu gwaith rhagorol wrth ddatblygu’r prosiect.”

Mae rhaglen moderneiddio addysg y Cyngor eisoes wedi gweld buddsoddiad o £56 miliwn a mwy yn ein hysgolion, gan gynnwys adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa yn ogystal â gwelliannau sylweddol i Ysgol Bodnant, Prestatyn ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Ac mae yna nifer o brosiectau yn yr arfaeth.

 

Ysgol Glasdir 1Ysgol Glasdir 2

Ysgol Gatholig newydd i blant 3-16 oed yn cael golau gwyrdd

Mae'r Ysgol Gatholig 3-16 newydd yn y Rhyl wedi symud gam yn nes wrth i ganiatâd cynllunio gael ei roi i adeiladu'r ysgol newydd a gwneud gwaith cysylltiedig ar y safle.  Daeth disgyblion o Ysgol Mair ac Ysgol Y Bendigaid Edward Jones (yn y llun) at ei gilydd i ddathlu’r Rhyl Catholic Schoolnewyddion hwn a fydd yn golygu y byddant yn dechrau cael eu haddysgu mewn cyfleusterau newydd sbon ym mlwyddyn academaidd 2019/2020. 

Hefyd mae Sir Ddinbych yn falch o dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod yr Achos Busnes Terfynol ar gyfer yr ysgol Gatholig newydd yn y Rhyl wedi ei gymeradwyo. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru, drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Mae hyn yn adlewyrchu blaenoriaeth y Cyngor i fuddsoddi yn nyfodol plant a phobl ifanc y sir.

Bydd yr ysgol 3-16 newydd ar gyfer Esgobaeth Wrecsam yn cymryd lle Ysgol Mair / Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones. Bydd yr ysgol newydd yn ysgol Saesneg ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion 11 i 16 oed.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams: "Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n ffynhonnell balchder a hyder cenedlaethol. Mae ein Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif yn chwarae rhan allweddol yn hyn a dyma'r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a'n colegau ers y 1960au. "   Rwy'n falch iawn bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect hwn o £ 24 miliwn yn cael effaith gadarnhaol ar addysg a dysgu yn Sir Ddinbych. Bydd yr ysgol newydd yn adnodd hanfodol i'r gymuned gyfan.

Dywedodd yr Esgob Peter M. Brignall o Esgobaeth Wrecsam: "Rydw i wrth fy modd bod cam pwysig ymlaen i'r prosiect hwn gael ei gyflawni. Bydd y cynnig cyffrous hwn o ysgol 3-16 newydd ac arloesol yn y Rhyl ar gyfer Sir Ddinbych ac Esgobaeth Wrecsam yn gwella'n sylweddol y cyfleoedd dysgu i'n pobl ifanc, y cyfleusterau, yr adnoddau a'r ethos a ddarperir gan bartneriaeth barhaus a ffrwythlon Llywodraeth Cymru , Yr Awdurdod Lleol a'r Eglwys Gatholig. "

Meddai'r Cyng. Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer yr adeilad newydd ar gyfer yr ysgol 3-16 newydd. Rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag Esgobaeth Wrecsam ar y prosiect hwn wrth i’r Cyngor barhau i fuddsoddi i wella amgylchedd dysgu plant a phobl ifanc y sir.”

Mae cwmni adeiladu Kier wedi cael ei benodi i fod yn brif gontractwr ac mae gwaith dechreuol eisoes yn digwydd yn yr ysgolion sef gwaith torri coed hanfodol a chyfyngedig a dymchwel rhan o floc Ysgol Y Bendigaid Edward Jones.

Disgwylir i waith ddechrau ar y safle cyfan ym mis Mai a disgwylir i’r adeilad newydd fod yn barod erbyn Hydref 2019.

Golau gwyrdd ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Carreg Emlyn

Mae cynlluniau cyffrous i adeiladu ysgol gynradd newydd sbon yng Nghlocaenog wedi cymryd cam sylweddol ymlaen - gyda'r Cyngor Sir bellach yn berchnogion balch y tir sydd ei angen ar gyfer y datblygiad.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i lleoli ar ddau safle: yng Nghlocaenog a Chyffylliog. Nawr mae'r gwerthiant wedi'i lofnodi a'i selio, mae'n golygu y gall gwaith adeiladu ar adeiladu'r ysgol newydd ar safle Clocaenog ddechrau dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru trwy ei Raglen Ysgolion a Rhaglen Gyfalaf Addysg yr 21ain Ganrif. Wynne Construction yw'r prif gontractwyr a benodwyd i wneud y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg: "Mae hwn yn newyddion ardderchog i ddisgyblion yng Ngharreg Emlyn ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn byw yng Nghlocaenog, Cyffylliog a'r ardaloedd cyfagos.

"Rydyn ni'n cydnabod bod y newyddion wedi bod yn dod yn amser hir yn cyrraedd ond rydym yn cyflawni ein haddewid i fwrw ymlaen â'r cynlluniau uchelgeisiol hyn. Mae'r buddsoddiad gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r ymrwymiad i wella cyfleusterau i'n plant a'n pobl ifanc a'n cenedlaethau o blant yn fuan yn elwa ar gyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae hwn hefyd yn fuddsoddiad sylweddol arall mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.

"Mae hwn yn ddiwrnod pwysig i Ysgol Carreg Emlyn ac rydym wrth ein bodd yn rhannu'r newyddion gyda'r ysgol a'r gymuned ehangach".

Newyddion

Newid ar y brig

Yn y rhifyn hwn, rydym yn dweud ffarwel i'n Prif Weithredwr, Dr Mohammed Mehmet, a fydd yn ein gadael ni'r mis hwn. Mae Mohammed wedi bod gyda Sir Ddinbych ers dros 10 mlynedd ac wedi cyflawni cymaint yn ystod ei amser gyda ni.Mohammed

Dywedodd Dr Mehmet: "Fy rheswm dros adael yw fy mod yn credu ei bod yn amser am newid: i mi ac i Sir Ddinbych. Dechreuais yn Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr 2007 – ar gytundeb chwe mis! Mae’r deng mlynedd ers hynny wedi bod yn wych i mi. Rwyf wedi gweithio gyda staff gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae aelodau etholedig wedi caniatáu i mi wneud y gwaith yn fy ffordd fy hun ac wedi fy nghefnogi’n gref. Bûm yn ffodus ac yn falch i weithio yma fel y Prif Weithredwr.

"Mae'n debyg nad yw'r amser fyth yn ddelfrydol ar gyfer penderfyniadau o'r fath, ond yr oeddwn am i’r Cyngor newydd i setlo ar ôl yr etholiadau lleol ac i'r Aelodau gytuno ar eu cynllun corfforaethol cyn eu bod yn gorfod poeni am hysbysebu am Brif Weithredwr.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: "Hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad i Mohammed am drawsnewid Sir Ddinbych yn ystod ei gyfnod fel ein Prif Weithredwr.

"Mae Mohammed wedi arwain swyddogion ac Aelodau drwy adegau anodd a heriol i fod yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Mae ei weledigaeth ac ymrwymiad wedi gosod y sylfeini er mwyn i Sir Ddinbych reoli’r dyfodol gyda hyder ac mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr ag ef.

"Dymunaf iddo y gorau ar gyfer y dyfodol”.

Er y bydd y staff a'r aelodau yn colli Mohammed, fe'i disodlir gan unigolyn yr un mor gymwys - Judith Greenhalgh sydd wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr newydd.

Picture of new Chief ExecutiveRoedd Judith Greenhalgh yn gyn- Gyfarwyddwr Corfforaethol: Adnoddau i Gyngor Swydd Derbyshire ac mae hi’n byw ym Manceinion. Mae hi’n gyn Dirprwy Brif Weithredwr Gwasanaeth Prawf Manceinion.

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Rydym yn hynod falch o groesawu rhywun o gystal safon i Sir Ddinbych.

“Roedd nifer o ymgeiswyr hynod o gryf yn y ras ac mi berfformiodd y cyfan i safon hynod o uchel mewn proses ddethol caled”.

Dywedodd Judith: “Rwy’n hynod falch o gael cynnig y swydd ac ymuno a Sir Ddinbych.  Mae hi’n sir hynod o brydferth ac yn agos iawn at fy nghalon.  Rwyf wedi aros yn ardal Bryniau Clwyd nifer o weithiau ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymuno a chyngor sydd mor flaengar.

Mae Judith hefyd yn dechrau ei rôl newydd y mis hwn ac rydym i gyd yn dymuno'n dda iddi hi.

Cafe R

Cynnig Disgownt yng Nhaffi R

Wedi'r bartneriaeth lwyddiannus y llynedd bydd Café R yn gweithio eto gyda Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre i gynnig gostyngiadau i ymwelwyr.

Rhoddir taleb i bobl sy'n ymweld â Chaffi R sy'n rhoi iddynt ostyngiad o 20% pan fyddant yn ymweld â'r Hen Garchar neu Nantclwyd y Dre a bydd pobl sy'n ymweld â'r Hen Garchar neu Nantclwyd y Dre yn cael taleb sy'n rhoi discownt iddynt o 10% yng Nghaffi R.

Bydd yn cynnig yn rhedeg tan fis Hydref.

Gallwch chi weld bwydlenni Café R ar eu gwefan.

Dilynnwch nhw ar Facebook a Twitter

Neu gallwch ffonio nhw i llogi bwrdd ar 01824 708099.

Cafe R Discount

Nodweddion

Ffansi roi cynnig ar hwylio?

Paul Marfleet Sailing Flyer

Am fanylion pellach cysylltwch ag Andrew ar commodore@llynbrenigsc.org.uk

Gwasanaethau Lles a Hamdden Cymunedol

Buddsoddi mewn Hamdden – Pam ymarfer yn unrhyw le arall?

Llanelwy

Rydym wedi bod wrth ein bodd gyda phoblogrwydd canolfan hamdden newydd wych Llanelwy, ers iddi agor y llynedd. Ond, yn Hamdden Sir Ddinbych, nid ydym yn aros yn llonydd, ac ar ôl gwrando ar syniadau ein cwsmeriaid, rydym ar fin ymestyn y ddarpariaeth ffitrwydd ymhellach gyda'n hystafell HIIT newydd, ac rydym yn gobeithio y bydd yn cyflwyno rhywbeth gwahanol a chyffrous i'ch ymarfer corff.

Bydd yr ardal hyfforddi newydd, arferai fod yn ystafell gyfarfod, yn cynnwys offer modern, gan gynnwys Skillmills a Skillrows Technogym a Beiciau Grŵp Cyswllt.  Hefyd bydd offer Arke Technogym a bocsys plyometric.  Yn ogystal â’r offer newydd, byddwn yn adnewyddu’r ystafell gan osod llawr newydd a system awyru.  Bydd gwaith yn dechrau yn ystod mis Mawrth ac rydym yn bwriadu agor ym mis Mai 2018. 

Bydd agor yr ystafell HIIT hefyd yn rhyddhau lle ychwanegol ar lawr y gampfa.  Mae cwsmeriaid wedi bod yn gofyn am ardal ymestyn, a gallwn rŵan ddarparu hyn.

Rydym yn gyffrous iawn am y gwagle newydd, ac, wrth gwrs, gall gwsmeriaid ddefnyddio hwn fel rhan o’u pecyn aelodaeth cyfredol a byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau.

Edrychwch hefyd am ein hamserlen Dosbarthiadau Cyflym newydd, dan arweiniad ein tîm o hyfforddwyr rhagorol.

St Asaph Leisure Centre

Y Rhyl

Mae ymarfer corff yng Nghanolfan Hamdden Y Rhyl ar fin cael ei drawsnewid.  Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio’n galed i greu cyfres o ardaloedd ffitrwydd newydd wedi eu dylunio i ddod a rhywbeth newydd a chyffrous i’ch sesiwn ymarfer. Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf a chwiliwch am y rhifyn nesaf o Lais y Sir lle cewch yr holl fanylion. 

Llangollen yw’r diweddaraf i elwa o fuddsoddiad canolfannau hamdden

Mae’r buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden ar draws Dyffryn Dyfrdwy a chymunedau ehangach Sir Ddinbych yn mynd yn ei flaen, gyda chyfleusterau sydd wedi eu huwchraddio yng Nghanolfan Hamdden Llangollen yn awr ar agor i’r cyhoedd.

Mae'r gwaith uwchraddio diweddaraf yn y Ganolfan wedi canolbwyntio ar yr ystafell ffitrwydd, ac yn cynnwys cyflwyno offer cardio Technogym newydd, yn ogystal â thechnoleg cwmwl Lles sy'n galluogi pobl i wylio fideos a rhaglenni wrth hyfforddi. Mae'r ystafell hefyd wedi ei gweddnewid ac wedi ei hail addurno yn llwyr. Hefyd mae llawr newydd wedi ei osod.

Dyma'r cynllun diweddaraf i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden yn Nyffryn Dyfrdwy. Dim ond y llynedd yr adnewyddwyd y cae pob tywydd yng Nghanolfan Hamdden Corwen, yn ogystal â buddsoddiad yn yr ystafell ffitrwydd.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth: “Dyma garreg filltir bwysig arall yn ein hymdrechion i ehangu ein cyfleusterau hamdden ar draws y sir.

“Rydym yn wirioneddol falch o’n buddsoddiad mewn hamdden, ar adeg pan fo awdurdodau eraill yn cau cyfleusterau neu’n eu trosglwyddo i gwmnïau preifat.

“Rydym yn gweld y budd gwirioneddol i iechyd a lles pobl ac rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion ar draws y sir i sicrhau fod disgyblion, yn ogystal â’r gymuned ehangach yn elwa o’r cyfleusterau a’r dechnoleg hamdden ddiweddaraf.

“Rydym yn gobeithio y bydd defnyddwyr hamdden yn Llangollen, aelodau presennol a newydd, yn manteisio ar y cyfleusterau gwych yn y Ganolfan.

Leisure Centre

Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn un i un am ddim gydag aelod o'n tîm o hyfforddwyr gwych. Gallan nhw adnewyddu eich rhaglen, dangos yr amrywiaeth newydd o gyfarpar i chi a'ch helpu i osod eich cyfrif cloud.

Pêl-droed cerdded ar gyfer y rhai dros 50!

Mae Pêl-droed Cerdded yn cael ei gydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru fel ffurf fechan a chynhwysol o’r gêm. Caiff ei gydnabod fel cyfle i gynyddu cyfranogiad ar gyfer pob grŵp ac i annog cyfranogiad gan chwaraewyr o bob gallu. Os ydych chi dros 50 oed ac eisiau cymryd rhan, mae’r sesiynau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Dinbych bob dydd Mercher o 5pm - 5.45pm.

Walking Football

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Delyth Morgan ar 01824 706 859 neu trwy e-bost ar delyth.morgan@sirddinbych.gov.uk.

Cist Gymunedol

Fyddech chi’n hoffi £1,500 ar gyfer eich prosiect Chwaraeon Cymunedol? Yna gwnewch gais am grant Cist Gymunedol. Pwrpas y grant yw cynyddu cyfranogiad a gwella safonau o fewn clybiau chwaraeon y gymuned.Sport Wales

Bellach caiff ceisiadau eu derbyn ar-lein drwy wefan Chwaraeon Cymru.

Rhaid i ymgeiswyr gofrestru ar-lein cyn cwblhau’r ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â aled.williams@sirddinbych.gov.uk.

 

Arweinwyr Chwaraeon

Yn ystod hanner tymor, cynhaliodd staff Gwasanaethau Hamdden gwrs Arweinwyr Chwaraeon Lefel 1 yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy. Cymerodd 20 o bobl ifanc o glybiau yn y gymuned leol ran yn y cwrs dau ddiwrnod.

Mae cymhwyster Arweinwyr Chwaraeon yn dysgu pobl ifanc sut i gynllunio ac arwain sesiynau.

Mae cwrs Arweinwyr Chwaraeon lefel 2 hefyd wedi cael ei gynnal dros 4 diwrnod yn ystod y Pasg.

I gael rhagor o wybodaeth ar Arweinwyr Chwaraeon cysylltwch â Hollie Collins ar hollie.collins@sirddinbych.gov.uk

Sport Leaders

 

Gwobrau Chwaraeon Anabledd Cymru

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Anabledd Cymru’n ddiweddar yng Ngwesty’r Fro ym Mro Morgannwg, ac fe gafodd y triathletwr lleol, Elan Williams, a’i mam Ceris ac aelod "chwedlonol” Chwaraeon Cymru, Stewart Harris, wahoddiad i fod yn siaradwyr gwadd.

Yn ystod sesiwn cwestiwn ac ateb gyda chyflwynwyr y wobr, fe wnaethant roi manylion ynghylch beth maent wedi'i gyflawni mewn chwaraeon, y teithiau gwahanol maent wedi bod arnynt, gan ddweud sut mae hyn wedi bod o fudd iddynt a newid eu bywydau. Siaradodd Ceris hefyd am ei meddyliau o safbwynt rhiant, a’r gwahaniaeth y mae hi’n teimlo y mae chwaraeon wedi’i wneud i fywyd ei merch. Fe wnaethant i gyd siarad yn gadarnhaol am y cyfleoedd sydd ar gael yn Sir Ddinbych a sut mae clwb insport wedi helpu'r clybiau maent yn eu mynychu i ddarparu cynhwysiant, ac fe wnaethant argymell mwy o glybiau i gyfranogi yn y rhaglen.

Mae Ceris yn aelod o Tristars Rhuthun ac mae Stewart yn aelod o Clwb Golff Y Rhyl.

I gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon anabledd, yn cynnwys clybiau lleol ac insport, cysylltwch â Brett Jones ar 07990 561 024.

Disability Sports

Darparu Hyfforddiant gan Gwasanaethau Hamdden a Ieuenctid

Mae darpariaeth hyfforddiant a datblygu Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Ieuenctid yn cynnwys:

  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatreg
  • Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Diogelu
  • Codi a Symud yn Gorfforol
  • Hyfforddiant Achubwr Bywydau
  • Hylendid Bwyd
  • Hyfforddiant Gwaith Ieuenctid (Dyfarniad a Thystysgrif)
  • Arweinwyr Chwaraeon (Lefel 2)

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Hyfforddianthamdden@sirddinbych.gov.uk

Celfyddydau Cymunedol

Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynnig Sir Ddinbych i Comic Relief am grant 2 flynedd ar gyfer Cronfa Her Cartrefi Gofal wedi bod yn llwyddiannus.  O ganlyniad, bydd tri o gartrefi gofal Sir Ddinbych yn cael gweithdai rheolaidd gyda NEW Dance a cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi’i gydlynu gan Wasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych.  Bydd ymarferwyr celfyddydol yn gweithio’n agos gyda staff y cartrefi gofal i’w huwchsgilio ac i adeiladu ar gynaliadwyedd y prosiect. Yn ogystal â chyfranogi ym mhob sesiwn, bydd staff hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi penodol.

Rydym yn rhagweld y prosiect yn helpu i wella iechyd a lles preswylwyr cartrefi gofal, gan leihau’r risg o gwympiadau, i ostwng unigrwydd a chynyddu ymgysylltiad gyda'r gymuned, gan gynnwys ysgolion cynradd lleol a darparwyr trydydd sector, ac i gynyddu hyder y gofalwyr a’r staff yn y cartrefi. Rydym yn edrych ymlaen at gynnwys teuluoedd a gofalwyr, a chael llawer o hwyl yn y broses.Community Arts

Bu i dri aelod o’r tîm fynychu’r cyfarfod sefydlu ym Mhencadlys Comic Relief yn Llundain, lle cawsant eu cyflwyno i fyd Comic Relief a dysgu sut y byddwn yn gweithio gyda hwy dros gyfnod y grant.  Roedd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod prosiectau llwyddiannus eraill, i ystyried sut i fesur effaith y prosiect ac i ddysgu sut y bydd Comic Relief yn gwerthuso’r fenter ariannu hon.

 

Gwobr Gwaith Chwarae

Mae 13 aelod o’r tîm Lles Cymunedol wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae’n ddiweddar. Bydd y staff nawr wedi’u hyfforddi i wella a darparu cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ar draws y sir. Bydd hyn yn cael ei sefydlu drwy ddarpariaeth o fewn ysgolion, digwyddiadau cymunedol a darpariaeth chwarae mynediad agored. Mae hyn yn ategu at y tîm o 4, i 17 staff cymwys Gwaith Chwarae nawr.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych wedi’i ddyfarnu’n ddiweddar â “Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf”.Family Information Service

Mae’r Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf (FFQA) yn fframwaith gwella ansawdd ac yn broses sicrwydd Ansawdd Cenedlaethol, wedi'u dylunio i'ch helpu i ddarparu gwybodaeth safon aur i deuluoedd a chadw teuluoedd wrth wraidd eich gwaith. Mae Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn cydnabod sefydliadau sy’n dangos rhagoriaeth mewn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd lleol.

Mae’r wobr wedi’i datblygu gyda’r Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant drwy Gymdeithas Genedlaethol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, i helpu gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd fesur eu heffeithiolrwydd wrth gyflawni eu rhwymedigaethau statudol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd, cysylltwch â ni ar 01745 815891.

Medal Efydd Insport

Fe enillodd staff Hamdden Strategol Wobr datblygu lefel Efydd insport, gan banel o weithwyr chwaraeon proffesiynol ac arweiniol.Insport Bronze

Mae rhaglen Datblygu insport yn rhan o brosiect ehangach ganddynt, a’i nod yw cefnogi y sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden gan gynnwys cynnwys pobl anabl.  Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair safon gynyddrannol (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) a nodwyd cyfres o nodau ar eu cyfer.  Yn rhan o'r cyflwyniad, darparwyd gwybodaeth am ddarparu’r rhaglen, datblygu gweithlu a chyfleusterau ymysg pethau eraill.

Bydd swyddogion nawr yn gweithio tuag at y wobr arian.

I gael rhagor o wybodaeth am Chwaraeon Anabledd cysylltwch â Brett Jones, Swyddog Chwaraeon Anabledd ar 07990 561 024.

Y Cyngor yn ennill Gwobr 'Hearts for the Arts' 2018

Cyhoeddwyd yr enillwyr ar gyfer yr Ymgyrch Genedlaethol dros y Celfyddydau, Gwobrau ‘Hearts For The Arts’ 2018.Hearts for the Arts

Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith y Cynghorau, Cynghorwyr a Swyddogion Cyngor sydd wedi goresgyn heriau ariannol i sicrhau fod y celfyddydau yn aros yng nghanol bywyd cymunedol.

Mae ‘Ymgolli mewn Celf’ gan y Cyngor Sir wedi’i enwi fel Prosiect Celfyddydau Awdurdod Lleol Gorau am Annog Cydlyniad Cymunedol. 

Mae Ymgolli mewn Celf yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl gyda dementia a’u gofalwyr. Nôd y prosiect yw archwilio swyddogaeth y celfyddydau gweledol wrth fynd i’r afael â’r materion a all effeithio pobl sy’n dioddef gyda dementia, gan gynnwys ynysu cymdeithasol, hyder, cyfathrebu ac ansawdd bywyd. Datblygwyd y prosiect gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor a’i brosiect ymchwil Dementia a Dychymyg.  Mae yna ddau grŵp yn rhedeg yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, un yn Y Rhyl a’r un arall yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth:   “Hoffwn longyfarch y Gwasanaeth Celf a’u tîm am y prosiect gwerth chweil hwn, mae ymchwil wedi dangos bod cymryd rhan mewn prosiect creadigol yn gallu gwella hwyliau a hyder y rhai sy’n cymryd rhan a gwneud iddynt deimlo eu bod yn perthyn i gymuned.

“Mae’r elfen integreiddio gydag ysgolion lleol hefyd yn ychwanegiad bendigedig.”

Dywedodd Siân Fitzgerald, Swyddog Celfyddydau Cymunedol: “Ar ran y Gwasanaeth Celfyddydau, rwyf wrth fy modd yn derbyn y wobr hon a hoffwn ddiolch i’r tîm artistig oedd yn cymryd rhan a’r holl gyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect.

“Hefyd hoffwn gydnabod y gefnogaeth a’r arbenigedd rydym wedi’i dderbyn gan Ganolfan Grefft Rhuthun, Cyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Bangor.”

Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl

Cynllun Mawr Y Rhyl

Gofynnir i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr gymryd rhan i lunio cynllun ar gyfer canol tref Y Rhyl a helpu i ddylanwadu ar y canol tref y maent yn dymuno ei weld yn y dyfodol.

Rhyl Town

Mae adfywio’r Rhyl wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor,  gyda prosiect Datblygu Glan y Môr bellach yn dechrau ffurfio - gwaith adeiladu SC2 yn cychwyn, agorwyd bwyty 1891 a oedd yn rhan o waith adfywio Theatr y Pafiliwn, adeiladwyd Premier Inn a gwnaed gwelliannu i’r Tŵr Awyr.

Mae’r gwaith uchod yn ychwanegol i’r gwaith a wnaed i adfywio harbwr y dref a chreu tai newydd a man gwyrdd yng Ngorllewin Y Rhyl.

Nawr, mae'r Cyngor yn awyddus i lunio cynllun canol tref i gyd-fynd â’r gwaith sydd wedi’i gwblhau ar y promenâd a’r prosiectau parhaus.

Y bwriad yw datblygu canol tref bywiog gydag amrywiaeth cytbwys o ddefnyddiau, gwella llif cerddwyr rhwng y promenâd a chanol y dref a chreu amgylchedd deniadol.

Dros y misoedd nesaf, bydd cyfle i’r cyhoedd ac ymwelwyr, yn ogystal â busnesau lleol a sefydliadau, gymryd rhan mewn ymgynghoriad i rannu syniadau.

Am fanylion pellach, ewch i http://www.sirddinbych.gov.uk/cynlluncanoltrefyrhyl

Cyffro mawr wrth i enw’r parc dŵr newydd gael ei ddatgelu

Mae enw’r parc dŵr blaenllaw newydd sbon sy’n dod i’r Rhyl wedi cael ei ddatgelu wrth y cyhoedd.Rhyl Waterpark 3

Bydd yr atyniad hamdden ac ymwelwyr gwerth £15 miliwn yn cael ei alw yn SC2 ac mae’n ffurfio rhan o ddatblygiad glan y môr y dref.

Bydd SC2 yn agor i’r cyhoedd yng ngwanwyn 2019 a disgwylir iddo ddenu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn. Bydd yn creu 65 o swyddi newydd.

Bydd gan SC2 ofod dŵr 1,200 metr sgwâr, gyda reidiau dŵr y tu mewn a’r tu allan, ffrâm chwarae a sleidiau dŵr i blant, man gweithgareddau TAG Active,  ystafelloedd ar gyfer partïon, derbynfa, ardaloedd gwerthu, Pwll Sblasio y tu allan – dau bad sblasio gwlyb, ardaloedd ar gyfer gwelyau haul a therasau â chaffis i ddarparu adloniant chwarae gwlyb.

Rhyl Waterpark 1Bydd yno doiledau, yn ogystal â bar a theras ar gyfer masnachu gyda'r nos.

Lluniwyd y cynlluniau hyn mewn partneriaeth â chwmni Alliance Leisure, sef partner hamdden y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Cabinet Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: “Mae cyhoeddi’r enw yn garreg filltir arwyddocaol arall yn y prosiect cyffrous hwn.

“Roeddem am gael enw modern a brand sy’n cyflenwi cyfleusterau hamdden eraill y sir, a brand y gellir ei adnabod yn syth ac yn un y bydd pobl yn ei gofio.

“Mae'r gwaith adeiladu ar amser a bydd preswylwyr ac ymwelwyr ardal y promenâd wedi sylwi bellach ar yr adeiledd newydd sydd wedi ymddangos yno dros yr wythnosau diwethaf. Rydym yn hynod falch o'r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma ac mae gennym lawer o waith o’n blaenau i gael yr adeilad yn barod i agor y flwyddyn nesaf.”Rhyl Waterpark 2

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r gwaith o ddatblygu glan y môr yn dechrau siapio. Y gwaith ar SC2 yw'r gwaith diweddaraf mewn cyfres o brosiectau datblygu mawr. Mae’r gwaith o ailwampio Theatr y Pafiliwn ac agoriad bwyty 1891 eisoes wedi digwydd ac mae wedi gosod safon datblygu uchel. Mae gwesty Premier Inn a bwyty newydd sbon bellach wedi agor ac mae’r gwaith o ailwampio'r Tŵr Awyr hefyd wedi’i wneud.

“Mae hon yn bennod gyffrous i’r dref ac edrychwn ymlaen at weld prosiectau eraill yn dwyn ffrwyth dros y misoedd nesaf”.

Mae SC2 yn cael ei ariannu gan y Cyngor Sir, gyda chyfraniadau gan Gyngor Tref y Rhyl a Llywodraeth Cymru.

Mae’n fwy na pharc dŵr... rydym yn dod a’r TAG Active cyntaf yng Nghymru i SC2. Gwyliwch y fideo isod

 Dyma'r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans OBE i ddathlu’r carreg filltir arbennig yn hanes SC2.

Cadwch i fyny gyda'r holl newyddion diweddaraf yn SC2 trwy gofrestru i dderbyn diweddariadau rheolaidd ar eu gwefan.

Neu gallwch eu dilyn ar TwitterFacebook ac Instagram am yr holl wybodaeth ddiweddaraf.

Bwyty 1891

1891

Mae bwyty 1891 yn fwyty a bar newydd cyfoes a chwaethus ar y llawr cyntaf wedi'i leoli ar lan y dŵr yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl.

AMSERAU AGOR

Iau - Sadwrn 3.30pm tan hwyr (bwyd ymlaen 4.30pm – 9.30pm)

Sul 12.00pm – 9.00pm (bwyd ymlaen 12.00pm – 7.00pm)

Bydd y bwyty hefyd ar agor pan fydd sioeau mwy ar gael, felly holwch am ddyddiadau unigol.

I archebu bwrdd ffoniwch 01745 330 000 neu anfonwch e-bost ar 1891@sirddinbych.gov.uk

Dilynwch nhw ar Facebook neu ewch i'w gwefan i weld eu bwydlenni sampl.

Newyddion

Rhoi Cŵn ar Dennyn yng nghefn gwlad

Maee'r Cyngor Sir ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi ymuno i lansio ymgyrch newydd sbon sy'n annog pobl i gadw eu Take the Lead Launchhanifeiliaid ar dennyn yng nghefn gwlad agored y sir.

Mae’r ymgyrch Cadw Cŵn ar Dennyn nawr yn ei hail flwyddyn ac yn cael ei lansio cyn dechrau tymor y gwyliau y Pasg hwn. Mae’r ymgyrch yn targedu preswylwyr lleol â'r rhai sy'n ymweld â chefn gwlad a'i bwriad yw adeiladu ar lwyddiant cynllun y llynedd.

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys cynhyrchu fideos a fydd yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag eitemau yn y wasg leol ac ar-lein.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Roeddem wrth ein bodd gyda llwyddiant ymgyrch y llynedd ac roedd yn ymddangos fel pe bai pobl yn gwrando ar y neges. Fe welsom lawer mwy o bobl yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn rhoi eu cŵn ar dennyn yng nghefn gwlad - rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion.Take the Lead Skip

"Ond mae hon y math o neges sydd angen ei hailadrodd dro ar ôl tro er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posib, felly fe fyddwn yn rhannu negeseuon ein hymgyrch gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr ac yn annog y lleiafrif bach sy'n diystyru’r gyfraith i weithredu.

“Rydym wedi gweld rhai achosion lle mae defaid wedi eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn sy'n rhydd o'u tennyn. Dyma beth sydd angen i ni ei osgoi a thrwy weithio gyda pherchnogion cŵn fe allwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.

“Mae’n rhaid iddynt gofio eu bod yn croesi tir pori gwerthfawr lle mae yna ddefaid yn crwydro. Gall effeithiau ymosodiadau ar anifeiliaid fod yn ofnadwy, i’r anifail a’r tirfeddiannwr”.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori: “Rydym yn gwerthfawrogi pam fyddai pobl yn awyddus i fynd am dro yn ein cefn gwlad godidog o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae nifer o gerddwyr yn dod â chŵn gyda nhw a thra rydym am i hynny barhau, yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw bod pobl yn parchu'r Cod Cefn Gwlad.

“Mae digon o arwyddion yn rhybuddio a gwybodaeth am roi cŵn ar dennyn ac fe fyddwn allan dros y misoedd nesaf er mwyn siarad â pherchnogion a rhannu ein neges i gynulleidfa mor eang â phosib".

Gwrandewch ar beth sydd gan Ceri Lloyd, Swyddog Cefn Glad i'w ddweud ...

Take the lead LocationTake the Lead People

 

Y Cyngor yn galw ar bobl i beidio â bwydo’r gwylanod

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Sir Ddinbych yn lansio ymgyrch i geisio lleihau’r problemau a achoswyd gan wylanod.Seagull

Mae’r Cyngor yn derbyn cwynion am wylanod yn rheolaidd ac ystyrir y gwylanod hyn yn niwsans mawr, yn bennaf o fewn cymunedau arfordirol, ond maent hefyd yn bresennol yn y cymunedau mewndirol.

Mae’r Cyngor bellach yn edrych ar ffyrdd i fynd i’r afael â’r mater hwn a bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar annog preswylwyr ac ymwelwyr i beidio â bwydo’r gwylanod, yn gweithio gyda darparwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd a sicrhau bod biniau gwastraff bwyd yn cael eu gorchuddio yn ddigonol.

Cynhelir yr ymgyrch ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, ar ei gwefan, yn y wasg leol a thrwy weithio â chymunedau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai a’r Amgylchedd: “Rydym yn cydnabod yn llawn bod gwylanod yn rhan o fywyd bob dydd ym mhob cymuned arfordirol. Maent wedi bod yn bresennol ers sawl blwyddyn bellach ac maent yn parhau i ffynnu.

"Fodd bynnag, rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd gan breswylwyr ein cymunedau arfordirol, yn ogystal â rhai o’n trefi mewndirol, mewn perthynas â’r peryglon a achosir gan wylanod, yn enwedig pan maent yn cael eu denu at fwyd.

“Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor yn gyfyngedig, gan eu bod yn rhywogaeth a warchodir.  Rydym wedi rhoi cynnig ar dechnegau i’w dychryn yn debyg iawn i’r balwnau ‘Angry Birds’ a’r netin/bynting sydd wedi cael eu darparu i rai ardaloedd ac sydd wedi llwyddo i raddau.

“Yr hyn rydym ei angen yw cefnogaeth y cyhoedd. Drwy beidio â bwydo gwylanod a sicrhau bod gwastraff bwyd wedi’i orchuddio, gall hyn leihau’r cyfleoedd i wylanod blymio ar ganol ein trefi.”

Cynnig cyngor i drigolion wrth gyflwyno'r Credyd Cynhwysol

Mae trigolion Sir Ddinbych yn cael eu hatgoffa am rai o’r newidiadau i’r system fudd-daliadau sy’n cael eu cyflwyno gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno fesul cam gan y DWP ar draws Prydain fesul ardal côd post.

Mae eich gallu i’w hawlio a’r modd yr ydych yn rheoli eich hawliad yn dibynnu ar ble rydych yn byw a'ch amgylchiadau personol.

Bydd y newidiadau ond yn berthnasol i hawlwyr newydd a’r rhai sydd â’u hamgylchiadau wedi newid. 

Nid oes angen i hawlwyr eraill wneud unrhyw beth nes eu bod yn clywed gan y DWP am symud i Gredyd Cynhwysol.

 

Fel rhan o Wasanaeth Llawn y Credyd Cynhwysol, mae hefyd disgwyl i hawlwyr hawlio a rheoli eu cyfrif personol gyda’r DWP ar-lein.

I gefnogi trigolion a effeithir, mae’r gwasanaethau canlynol ar gael:-

  • Gall trigolion sydd angen mynediad i’r rhyngrwyd neu fynediad i gyfrifiadur i wneud eu hawliad a rheoli eu cyfrif ar-lein ymweld â llyfrgelloedd / Siopau Un Alwad lleol
  • Ar gyfer cwestiynau neu  gyngor ar geisio am Gredyd Cynhwysol a sut y gallai’r newidiadau effeithio arnoch chi, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth yn Sir Ddinbych ar 01824 703483 neu ewch i  https://www.citizensadvice.org.uk/wales/benefits/universal-credit/

Gallwch hefyd fynd i www.gov.uk/universal-credit

Gwybodaeth Cefndir

Mae'r Credyd Cynhwysol yn drawsnewidiad llwyr o’r system fudd-daliadau bresennol sy’n cael ei chyflwyno fesul ardal cod post ar draws Prydain, fesul cam, gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  Mae’n fudd-dal drwy brawf modd ar gyfer pobl o oedran gwaith sydd naill ai’n ddi-waith, neu’n gweithio ar incwm isel.  Mae’n disodli pum prif fudd-dal/ credyd treth (Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar Sail Incwm, Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith a Budd-dal Tai).  Mae Credyd Cynhwysol yn cyfuno’r holl fudd-daliadau hyn mewn un taliad misol i’r aelwyd.  Mae Gwasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol ar gyfer pobl sengl, cyplau a theuluoedd sy’n ymgeisio am y tro cyntaf neu sydd â newid sylweddol yn ei amgylchiadau. Mae hefyd yn hollol ddigidol h.y. mae disgwyl i hawlwyr hawlio a rheoli eu cyfrif personol gyda’r DWP ar-lein. 

Amcanion Credyd Cynhwysol

  • I wneud y system yn symlach i hawlwyr – h.y. un cais ac un taliad unigol.
  • Sicrhau fod pobl yn well yn ariannol wrth weithio nac ar fudd-daliadau.
  • I’w gwneud yn haws i bobl gael cyflogaeth.
  • I adlewyrchu realiti gwaith i’r hawlydd h.y. un taliad misol

Mae swyddogion Sir Ddinbych yn cynnal llu o weithgareddau i sicrhau fod y trigolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt a bod pob gwasanaeth a effeithir arnynt yn cael eu briffio ac yn barod.  Os hoffech chi gael unrhyw fanylion pellach, cysylltwch â Paul Barnes (01824 712660) neu Rachel Thomas (01824 712449).

Synau o Ewrop i’w clywed ar ymweliad â Llangollen

Dyfodol ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop oedd y pwnc trafod ar gyfer 25 o fyfyrwyr o Ewrop yn ystod eu hymweliad wythnos o hyd yn Sir Ddinbych.

Cynhaliwyd yr ymweliad â Llangollen gan Ysgol Dinas Bran fel rhan o Brosiect Erasmus, a sefydlwyd i ddeall pwysigrwydd ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop.  

Mae Dinas Bran wedi bod yn rhan o'r prosiect ers dwy flynedd, ac mae cynrychiolwyr wedi ymweld â nifer o wledydd Ewropeaidd.   Y mis hwn, tro'r ysgol oedd cynnal ymweliad wythnos o hyd ar gyfer disgyblion o Wlad Pwyl, Yr Eidal, Swistir, Yr Almaen a’r Alban. 

Arhosodd myfyrwyr gyda theuluoedd yn Nyffryn Dyfrdwy fel rhan o’r ymweliad cyfnewid.

Meddai Ifor Phillips, Pennaeth y Gymraeg yn Ysgol Dinas Bran: “Mae’r ysgol wedi bod yn ffodus iawn i gael bod yn rhan o brosiect mor bwysig. Mae myfyrwyr o bob rhan o Ewrop wedi cael cyfleoedd i ddysgu am yr ieithoedd lleiafrifol ac i glywed pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo a diogelu eu dyfodol.

“Yn ystod yr wythnos, gwnaethom gynnig blas iawn ar Iaith a diwylliant Cymru i’r myfyrwyr Ewropeaidd. Cawsant fynd i Noson Lawen a gig Cymraeg go iawn. Cawson nhw hefyd weld safleoedd yn Llangollen a Sir Ddinbych, yn ogystal ag ymweliad ag Eryri a Llanberis.

“Mae wedi bod yn fenter hynod o fuddiol ac mae wedi bod yn bleser hyrwyddo Iaith a diwylliant Cymru drwy ein gweithgareddau yn ystod yr wythnos”.

Ysgol Dinas Bran

Llyfryn Treth y Cyngor yn fyw ar-lein

Mae Eich Arian, canllaw Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer popeth sy'n gysylltiedig â threth y Cyngor ar  gael ar-lein yn awr.

Yn ddiweddar gosododd y Cyngor y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19. O ran treth y cyngor, mae hyn yn golygu cynnydd o 4.75% ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych (mae hyn yn cynnwys cynnydd yn elfen y cyngor sir, ynghyd â phraesept cynghorau tref/dinas/cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd). 

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynhyrchu llyfryn sy'n egluro’r  ffeithiau a'r ffigyrau y tu ôl i setliad treth y cyngor, sut y caiff arian ei wario a manylion am sut i dalu biliau treth y cyngor.

Mae'r llyfryn hefyd yn rhoi gwybodaeth am drethi busnes, gostyngiadau i fusnesau bach a pha fath o gymorth sydd ar gael os yw'r preswylwyr yn cael trafferth i dalu treth y cyngor.

Cynhyrchwyd y llyfryn yn electronig a gellir ei weld drwy glicio yma.

Y diweddaraf am Gynllun Corfforaethol y Cyngor Sir

Mae’r gwaith o lunio Cynllun Corfforaethol pum mlynedd newydd Sir Ddinbych yn mynd rhagddo’n dda iawn.Corporate Plan

Bydd y cynllun, sy’n cynnwys blaenoriaethau yn ymwneud â thai, yr amgylchedd, pobl ifanc a chymunedau cysylltiedig a chryf, yn gwella bywydau preswylwyr gyda buddsoddiad arfaethedig o £135 miliwn.

Mae’r ddau fwrdd rhaglen sy’n gyfrifol am fonitro’r Cynllun Corfforaethol wedi cwrdd, sef Bwrdd yr Amgylchedd a Chymunedau Cryf wedi eu Cysylltu a Bwrdd Pobl Ifanc a Thai. Mae cynlluniau bellach yn cael eu llunio ac mae disgwyl i’r prosiectau gael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd y Cyngor: “Rydym ni’n paratoi ar gyfer dechrau cyhoeddi’r prosiectau fydd yn helpu i sicrhau y bydd ein blaenoriaethau corfforaethol newydd yn cael sylw yn ystod y pum mlynedd nesaf.

“Bydd y blaenoriaethau hyn yn gwella bywydau ein preswylwyr ac yn parhau i wneud Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld.

“Mae angen buddsoddiad pellach o £135 miliwn i roi’r cynllun ar waith. Mewn cyfnod o ostyngiadau parhaus mewn cyllidebau, mae hwn yn swm uchelgeisiol, ond credwn fod uchelgais yn bwysig. Mae ein gallu i ddenu cyllid, crynhoi adnoddau gyda phartneriaid a manteisio ar allu ein cymunedau yn golygu y bydd siawns dda gennym ni o lwyddo.”

Y blaenoriaethau yw sicrhau bod pawb yn cael cefnogaeth i fyw mewn cartrefi sy’n diwallu eu hanghenion; bod cymunedau wedi eu cysylltu a chanddynt fynediad at nwyddau a gwasanaethau lleol, ar-lein neu drwy gysylltiadau cludiant da; bod y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau i wella annibyniaeth a gwytnwch; bod yr amgylchedd yn ddeniadol ac yn cael ei ddiogelu, gan gefnogi lles a ffyniant economaidd; a bod pobl ifanc yn dewis byw a gweithio yma, a chanddynt y sgiliau i wneud hynny.

Lluniwyd y blaenoriaethau yn dilyn ymgynghoriad Sgwrs y Sir gyda phreswylwyr a thrafodaethau gyda staff ac aelodau etholedig y Cyngor Sir, yn ogystal â chydweithwyr o sefydliadau eraill.

Yna cyflwynwyd y blaenoriaethau i aelodau etholedig a chawsant eu mabwysiadu gan y Cyngor.

Mae’r ‘Cynllun Corfforaethol, Gweithio Gyda’n Gilydd Er Lles Dyfodol Sir Ddinbych’ yn amlinellu'r pum prif flaenoriaeth ar gyfer 2017-2022. Am fwy o wybodaeth ewch i www.sirddinbych.gov.uk/cynlluncorfforaethol.

Diwrnod Lluoedd Arfog y DU 2018

Mae’r cyffro yn tyfu ar draws y rhanbarth ar gyfer y digwyddiad yn Llandudno ar 30 Mehefin. Mae cymaint o bobl eisiau dangos eu cefnogaeth a diolch i'n personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr, cadetiaid a'u teuluoedd am eu gwaith caled yn ein cadw'n ddiogel gartref a thramor.

Armed Forces Day

Ar 30 Mehefin, bydd gorymdaith o tua 1,000 o bersonél presennol, cyn-filwyr, cadetiaid a bandiau’n gorymdeithio, gan adael Cofeb Ryfel Llandudno am 11am i nodi dechrau dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog. Bydd yr orymdaith, sydd yn argoeli i fod yn wledd o sain a lliw, yn gorymdeithio lawr y ffordd sydd ger y Promenâd, gan orffen mewn saliwt o flaen nifer o westeion arbennig ac urddasolion y tu allan i Venue Cymru.

Yna caiff personél presennol, cyn-filwyr, teuluoedd, ffrindiau ac ymwelwyr gyfle i edrych o amgylch yr arddangosfeydd a gweithgareddau ar hyd Promenâd Llandudno a Chaeau Bodafon, gan gynnwys awyren ddisymud, cerbydau arfog a thanc deifio (oni bai y bydd yr asedau hyn angen cael eu defnyddio). Bydd yn gyfle gwych i’r cyhoedd gael mynd yn agos at asedau'r fyddin.

Bydd rhaglen lawn gan gynnwys map safle ar gyfer y digwyddiad yn cael ei chyhoeddi yn nes at yr amser.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog ac eraill yn Sir Conwy, ewch i www.conwy.gov.uk/digwyddiadau neu dilynwch nhw ar Facebook a Twitter.

Beth yw Dewis Cymru?

Dewis Cymru YW’R lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.Dewis 2

Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau.

Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae gennym ni wybodaeth sy’n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os hoffech chi wybod mwy am sut i ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, cliciwch yma.

Sut i ddefnyddio Dewis Cymru

Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, gallwch chi ychwanegu’ch manylion chi at Dewis Cymru, er mwyn i bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi’n haws. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gyfeirio pobl i gysylltu â chi!

Os hoffech chi ychwanegu manylion eich gwasanaeth chi at Dewis Cymru, cliciwch yma.

Dewis 1 Welsh

 

Treftadaeth

Datgloi celloedd Carchar Rhuthun

Mae celloedd Carchar Rhuthun bellach wedi ailagor ar gyfer tymor 2018. Caiff ymwelwyr archwilio’r celloedd lle bu carcharorion yn byw a gweithio, dysgu am y troseddau a gyflawnwyd ganddynt, y cosbau a gawsant a chewch glywed straeon am garcharorion gwaethaf y carchar!Ruthin Gaol 2

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Carchar Rhuthun wedi ennill Gwobr Trysor Cudd 2018 unwaith eto ar gyfer ‘atyniadau sydd yn darparu profiad arbennig a chofiadwy i ymwelwyr'!

Ynghyd â gweithgareddau i’r teulu cyfan yn ystod yr amseroedd agor arferol, rydym yn cynnal digwyddiadau arbennig ac eleni bydd hyn yn cynnwys Diwrnod yr Ail Ryfel Byd ar ddydd Gwener 1 Mehefin.

Dewch i ddarganfod mwy am yr Ail Ryfel Byd ar safle hanesyddol Carchar Rhuthun. Cewch gyfarfod merch o fyddin y tir a gwneuthurwr arfau a dysgu am gyfraniad arbennig y carchar yn ystod y rhyfel.

Addas i bob oedran.

10.30am tan 12.30pm a 1.30pm tan 3.30pm

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

Mae gwybodaeth am ddiwrnodau agored, amseroedd agor a phrisiau i’w gweld ar ein gwefan www.carcharrhuthun.co.uk

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook/Twitter/Instagram @carcharrhuthun

Gaol Opening Hours

Ruthin Gaol 1

Plas Newydd yn ailagor

Mae tŷ Plas Newydd a'r ystafell de wedi ailagor.Plas Newydd 1

Caiff ymwelwyr gyfle unwaith eto i ddysgu am stori ryfeddol Merched Llangollen a sut y gwnaethant redeg i ffwrdd o Iwerddon i sefydlu cartref gyda’u gilydd yng ngogledd Cymru. Bydd eu cartref gothig eithriadol ar agor i ymwelwyr archwilio a gweld sut llwyddodd y Merched i droi bwthyn Cymreig syml mewn i ffantasi o gerfiadau derw a gwydr lliw.

Bydd yr ystafelloedd te yn ailagor i gynnig amrywiaeth o ginio, teisennau a the prynhawn i ymwelwyr.

Mae llawer o waith wedi digwydd yng ngerddi Plas Newydd dros y gaeaf gan gynnwys parhau â’r gwaith o adfer y llwyni sydd yn rhan mor bwysig o’r ardd. Mae coed addurniadol newydd wedi cael eu plannu ar hyd a lled yr ardd hefyd. Yn sgil derbyn rhodd hael a gwerthfawr iawn gan Amanda Ponsbsy, bu modd i ni brynu coed i orffen adfer y llwyni, yn ogystal â phlanhigion a llwyni eraill ar gyfer yr ardd.

Yn ôl Neil Rowlands, Pen Arddwr Plas Newydd, dyma all ymwelwyr ddisgwyl ei weld y gwanwyn hwn:

 ‘Fe fydd y gerddi gyda'r gwanwn ar droed, yn edrych yn hyfryd gydag arddangosfeydd gwych o grocws, a thua diwedd y mis fe fydd yna arddangosfa hardd o friallu cynhenid.

Yn nes ymlaen yn y tymor, fe fydd yr ardd yn ffynnu, gyda phlanhigion parhaol i’w gweld yn eu holl ogoniant.

Fe fydd y parterre yn hardd, a bydd y lafant a’r hen rosod yn eu blodau ym mis Mehefin'.

Plas Newydd 2

 Ar agor rhwng 30 Mawrth a 30 Medi bob dydd rhwng 10.30am – 5.00pm

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld, gan gynnwys prisiau, ewch i www.plasnewyddllangollen.co.uk.  

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook/Twitter/Instagram @plasnewyddllangollen

 

Nantclwyd y Dre yn ailagor

Bydd Nantclwyd y Dre yn ailagor ar 7fed Ebrill ar gyfer tymor 2018. Rydym yn edrych ymlaen unwaith eto at groesawu ymwelwyr i fynd i archwilio tŷ tref pren hynaf Cymru a phrofi bywyd i’r bobl a fu’n byw uno dros y blynyddoedd, o'r cyfnod Canoloesol hyd at yr Ail Ryfel Byd.Nantclwyd Opening 3

Waeth beth oedd y tywydd, mae gwaith wedi parhau dros fisoedd y gaeaf yng ngerddi Nantclwyd gyda’n gwirfoddolwyr gwych yn cynorthwyo i gynnal a datblygu’r gerddi!

Yn ôl Garddwraig Nantclwyd, Hayley Proudfoot, gall ymwelwyr weld 24 math gwahanol o diwlipau, cennin pedr, clychau’r gog a blodau ar ein coed ffrwythau ar hyd a lled yr ardd y gwanwyn hwn. Bydd dros 40 math gwahanol o rosod yn blodeuo a bydd yr ardd lysiau yn ffynnu gydag amrywogaethau traddodiadol, gan gynnwys moron Ffrengig, moron amryliw, tatws 'pink fir apple' a ffa.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Nantclwyd y Dre wedi ennill Gwobr Trysor Cudd 2018 unwaith eto ar gyfer ‘atyniadau sydd yn darparu profiad arbennig a chofiadwy i ymwelwyr'!

Mae gwybodaeth am ddiwrnodau agored, amseroedd agor a phrisiau i’w gweld ar ein gwefan.

Nantclwyd Opening 2 

Mae gennym ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill yn Nantclwyd y Dre ar gyfer Gwanwyn 2018:

Helfa Trychfilod! - Dydd Llun, 28 Mai

11am tan 2pm

Helfa natur dywysedig o amgylch Gardd yr Arglwydd er mwyn gweld a dysgu am y trychfilod diddorol sy'n byw yma. Addas i bob oedran. Rhaid i bob plentyn ddod yng nghwmni oedolyn.

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

 

Diwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre – Dydd Sadwrn 9 Mehefin

10am tan 5pm

Dewch i archwilio Gerddi Nantclwyd a’n helpu ni gyda’n Blits Bioamrywiaeth. Siaradwch â’r arbenigwyr a dysgwch fwy am y creaduriaid a'r planhigion sydd yn Nantclwyd a sut y gallwch chi helpu bywyd gwyllt yn eich gardd. Beth wnewch chi ei weld yma?

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

 

Cwrdd â’r Garddwyr - Dydd Llun 25 Mehefin

2pm tan 3pm

Beth fyddai gardd heb ei garddwyr? Dewch i gyfarfod y rhai sy’n gweithio’n galed i gadw gerddi Nantclwyd y Dre’n iach ac yn ffynnu. Gofynnwch gwestiynau a cheisiwch gyngor ac ysbrydoliaeth gan ein tîm ymroddgar a chyfeillgar. Bydd y pnawn yn cynnwys cerdded o amgylch y safle a sesiwn holi ac ateb i ddilyn yng Ngardd y Gegin.

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

I gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar Facebook/Twitter/Instagram @nantclwydydre

Nantclwyd Opening 1

Canolfan Grefft Rhuthun

PROCESSIONS (GORYMDEITHIAU) yng Nghanolfan Grefft Rhuthun

Artist arweiniol – Lisa Carter Processions

Gwaith celf cyfranogiad torfol ledled y Deyrnas Unedig yw PROCESSIONS, i nodi 100 mlynedd y bleidlais i ferched, wedi’i gynhyrchu gan Artichoke a’i gomisiynu gan 14-18 NOW, yn seiliedig ar syniad gan Darrell Vydelingum.

Bydd PROCESSIONS yn gwahodd merched* a genethod ledled y Deyrnas Unedig i ddod at ei gilydd ar strydoedd Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain ar ddydd Sul, Mehefin 10fed, 2018 i nodi’r foment hanesyddol hon mewn portread byw, cyffrous o ferched yn yr unfed ganrif ar hugain.

*y rheiny sy’n uniaethu fel merched neu’n an-neuaidd (‘non-binary’).

Yn rhan o’r digwyddiad mae sefydliadau Celfyddyd ledled y Deyrnas Unedig wedi’u haseinio i ddewis artist i ddylunio a gwneud baner ar gyfer yr Orymdaith ar Fehefin 10fed. O ganlyniad, mae cant o artistiaid sy’n ferched wedi’u comisiynu i weithio â chymunedau’r Deyrnas Unedig i greu baneri 100 mlwyddiant ar gyfer PROCESSIONS.

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn falch o gyhoeddi ein bod ni’n un o’r sefydliadau artistiaid hynny sy’n cyfranogi yn y digwyddiad a’n prif artist fenywaidd fydd Lisa Carter.

Mae Lisa Carter yn byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Bydd ei gwaith, er â’i wreiddiau mewn paentio a dylunio, weithiau’n cyfuno’r prosesau hun â cherfluniaeth a gosodiadau.

www.lisa-carter.com

Fe wnaeth y merched - a ddaeth at ei gilydd ar y strydoedd gan mlynedd yn ôl - eu huanin yn weladwy â fflagiau, baneri, pinnau a rhosedi. Bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar destun a thecstilau, yn adleisio arferion ymgyrch y bleidlais, a bydd y baneri a wneir yn cynrychioli ac yn dathlu lleisiau gwahanol gwragedd a merched o wahanol gefndiroedd.

http://www.processions.co.uk/

Gwybodaeth am y digwyddiad

Yn rhan o’r digwyddiad mae sefydliadau Celf ledled y Deyrnas Unedig wedi’u haseinio i ddewis artist i ddylunio a gwneud banner ar gyfer yr Orymdaith ar Fehefin 10fed. O ganlyniad mae cant o artistiaid sy’n ferched wedi’u comisiynu i weithio â chymunedau ledled y Deyrnas Unedig i greu 100 o faneri canmlwyddiant ar gyfer PROCESSIONS.

Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn falch o gyhoeddi ein bod yn un o’r sefydliadau celf hynny sy’n cyfranogi yn y digwyddiad a’n hartist fenywaidd arweiniol fydd Lisa Carter.

Fe hoffem i CHI gymryd rhan a’n helpu i wneud banner yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar gyfer gorymdaith PROCESSIONS yng Nghaerdydd ar Fehefin 10fed 2018.

Gweithdai creadigol galw heibio â Lisa Carter.

Gweithdy 1: Gwneud ein dyfodol yn un a rennir

Sul 13eg o Fai 2018

1.30pm – 4.00pm

AM DDIM dim angen bwcio, yn addas i bob oed

Gwahoddiad i wneud poster/posteri wedi’u cyd-gynhyrchu, a’u hysbrydoli gan faneri’r Bleidlais. Bydd y gweithdy’n cyfuno sgrin-brintio gydag archwiliad o raffeg (geiriau a delweddau) i greu posteri mawr sy’n adlewyrchu ar y pryderon y bydd merched/genethod yn eu hwynebu heddiw. Crëwch eirfa o eiriau, sloganau a symbolau i lunio posteri gyda’ch gilydd ac yn unigol drwy dorri, gludweithio a chydosod.

Gweithdy 2: Gwneud Baneri

Dydd Sul, 27ain o Fai 2018

1.30pm – 4.00pm

AM DDIM dim angen bwcio, yn addas ar gyfer pob oed

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar destun a thecstilau. Yn rhan o’r gweithdy fe hoffem i chi ddod â darn o ffabrig scrap efo chi, neu hen gas gobennydd i wneud eich baner eich hun a mynd â hi adref y diwrnod hwnnw neu helpu i wneud ein banner fawr ar gyfer y Gorymdeithiad ar ddydd Sul, 10fed o Fehefin i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychioliad y Bobl, a roddodd yr hawl i bleidleisio i’r merched Prydeinig cyntaf.

Fe fydd yna ddefnyddiau sylfaenol ar gael fel ffabrig, templedi ar gyfer ffont a delwedd, gliw a chitiau gwnïo. Mae croeso i chi ddod â’ch rhai eich hun i’w gwneud yn bersonol a gallai hynny fod yn ffabrig eildro, hen ddillad, ffelt neu ddillad gwely.

Byddai sgiliau gwnïo a thecstilau’n ddefnyddiol ond nid yn angenrheidiol.

SGYRSIAU

Yn ogystal â chynnal cyfres o weithdai ymarferol rydyn ni hefyd yn gwahodd Curaduron/Ysgrifenwyr enwog i rannu eu gwybodaeth a’u mewnwelediad i fudiad hanesyddol y bleidlais mewn perthynas â CHREFFT.

Sgwrs brynhawn â Dr Melanie Miller

BENYWEIDD-DRA HANFODOL? CREFFT, CELFYDDYD A MUDIAD Y MERCHED

Dydd Sul, Ebrill 29ain 2018

2pm – 3pm

AM DDIM ffoniwch i neilltuo lle

Ffôn: +44 (0)1824 704774

Roedd baneri tecstil, ynghyd ag arteffactau gweledol eraill, â rhan allweddol yn yr ymgyrch dros y bleidlais i ferched.

Dan arweiniad Mary Lowndes a Sylvia Pankhurst, fe ddefnyddiai’r ‘Women's Social and Political Union (WSPU)’ ddyluniad a lliw i greu hunaniaeth glir ar gyfer ymgyrch y swffragetiaid.

A banner is a thing to float in the wind, to flicker in the breeze, to flirt its colours for your pleasure…’ Mary Lowndes ‘Banners and Banner-Making’ 1909.

Gwelwyd swffragetiaid gan rai fel merched anfenywaidd. Drwy wneud baneri a oedd yn ymgorffori sgiliau traddodiadol fel brodwaith, dangosodd y swffragetiaid nad oedd y merched a oedd yn hawlio’r bleidlais yn brin o ‘fedrau benywaidd’. Y cyfrwng oedd y neges.

Mae tecstilau wedi parhau i gael eu defnyddio o fewn gweithredaeth gymdeithasol a gwleidyddol.

Bydd y cyflwyniad hwn yn trafod y defnydd o decsatilau gan y swffragetiaid yn ogystal ag enghreifftiau mwy cyfoes.

Fe roddir ystyriaeth hefyd i’r term ‘benyweidd-dra hanfodol’ mewn perthynas â chrefft a chelfyddyd, ac ymchwiliad o’r defnydd o brosesau crefft o fewn arfer Celfyddyd Gain. Mae hwn yn destun sydd wedi’i drafod yn frwd am flynyddoedd, ond mae’n arbennig o gymwys o ystyried lleoliad y sgwrs hon.

Sgwrs fore â Dr Elizabeth Goring

Gwisgo’r Lliwiau: gemwaith a mudiad y bleidlais i ferched

Dydd Sul, Mai 28ain, 2018

11am – 12pm

AM DDIM ffoniwch i neilltuo lle Ffôn: +44 (0)1824 704774

Roedd gemwaith yn arf pwerus yn arfogaeth ymgyrchu merched Prydeinig a oedd yn ymladd am y bleidlais yn gynnar yn yr 20fed ganrif, ac roedd ymgyrchwyr y bleidlais i ferched yn soffistigedig yn y ffyrdd y bydden nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer mynegiant gwleidyddol. Câi’r rhan fwyaf o’r gemwaith hwn ei greu’n rhan o ymarferiad marchnata parhaus a ddyfeisiwyd ac a weithredwyd gan y ‘Women's Social and Political Union’ – yr WSPU – yn y blynyddoedd o 1908 i 1914. Bydd Elizabeth yn archwilio stori gemwaith y bleidlais drwy rai o’r naratifau personol a oedd yn gefndir i’r gemau a’r merched dygn a fyddai’n eu gwneud a’u gwisgo. Bydd hefyd yn trafod rhai o’r mythau a’r camddealltwriaeth sydd wedi datblygu ynghylch gemwaith swffragetiaid.

I gael gwybodaeth bellach ar ein digwyddiadau sydd ar ddod ewch i’n gwefan

http://www.ruthincraftcentre.org.uk/ 

 

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid