llais y sir

Gwanwyn 2018

Gogledd Ddwyrain Cymru yn Dathlu ei Lwybrau at y Môr

Mae ffilm newydd yn arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi cael ei ryddhau, yn rhan o ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru. Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu'r ffilm, i ysgogi ymwelwyr newydd i brofi Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru at y Môr.Routes to the Sea 1

Wedi’i ariannu gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, mae’r ffilm yn archwilio beth sydd gan y rhanbarth i gynnig i dwristiaeth, o’r ardaloedd mewndirol at yr arfordir; gan amlygu’r llwybr beiciau, llwybr yr arfordir, treftadaeth a thraethau yn ogystal â gweithgareddau gan gynnwys paragleidio a marchogaeth ceffylau yn Nhalacre. Dangosir yr amrywiaeth o brofiadau dŵr awyr agored sydd ar gael yn yr ardal hefyd, gan gynnwys hwylio, pysgota, nofio, padl fyrddio ar eich traed a sgïo dŵr.

Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2016, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £848m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Yn 2018 rydym yn dathlu arfordir arbennig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig ar ein harfordir, gyda digwyddiadau ac atyniadau arbennig ymlaen gydol y flwyddyn. Rwy’n falch iawn bod cyllid Croeso Cymru wedi galluogi’r Gogledd-Ddwyrain i weithio gyda’i gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth a dangos rhai o deithiau ysbrydoledig yr ardal at yr arfordir eleni."

Routes to the Sea 2Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych, “Diolch i bawb a gyfrannodd at y broses o wneud y ffilm, gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i brofi peth o'n gweithgareddau morol ac arfordirol. Bydd buddsoddiadau allweddol yn ein cyrchfannau arfordirol, fel y datblygiadau yn Y Rhyl, o help i gynyddu ymwybyddiaeth a nifer yr ymwelwyr â’r ardal ac yn creu swyddi a fydd yn hybu'r economi lleol."

Mae’r ffilm yn ddechrau cyfres o ffilmiau byrion a fydd yn cael eu rhyddhau drwy’r flwyddyn, yn arddangos themâu amrywiol gan gynnwys cerdded, beicio, bywyd gwyllt, treftadaeth, bwyd a diod, traethau, yn ogystal â gweithgareddau dŵr awyr agored. Bydd cyfres o flogiau a delweddau proffesiynol Blwyddyn y Môr hefyd yn cael eu rhyddhau er mwyn denu ymwelwyr hen a newydd i’r ardal.

Meddai Cyd Sylfaenydd Follow Films, Graham Cooper, wnaeth gynhyrchu'r ffilmiau, “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru drwy fy oes, ond mae gweithio ar brosiectau fel hyn yn fy atgoffa pa mor lwcus ydym o fyw mewn ardal o’r fath. Rwy’n dod o hyd i gymaint o weithgareddau newydd, gwych wrth gynhyrchu ffilmiau fel hyn, ac mae’r angerdd sydd gan fusnesau tuag at Ogledd Ddwyrain Cymru yn wych i'w weld."

Am fwy o wybodaeth ar y llefydd a'r gweithgareddau sydd yn y ffilm, ewch i http://www.northeastwales.wales/

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...