Gogledd Ddwyrain Cymru yn Dathlu ei Lwybrau at y Môr
Mae ffilm newydd yn arddangos rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi cael ei ryddhau, yn rhan o ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru. Mae Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu'r ffilm, i ysgogi ymwelwyr newydd i brofi Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru at y Môr.
Wedi’i ariannu gan Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol Croeso Cymru, mae’r ffilm yn archwilio beth sydd gan y rhanbarth i gynnig i dwristiaeth, o’r ardaloedd mewndirol at yr arfordir; gan amlygu’r llwybr beiciau, llwybr yr arfordir, treftadaeth a thraethau yn ogystal â gweithgareddau gan gynnwys paragleidio a marchogaeth ceffylau yn Nhalacre. Dangosir yr amrywiaeth o brofiadau dŵr awyr agored sydd ar gael yn yr ardal hefyd, gan gynnwys hwylio, pysgota, nofio, padl fyrddio ar eich traed a sgïo dŵr.
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi’r rhanbarth, ac yn ystod 2016, cyfanswm yr effaith economaidd oedd £848m ac fe wnaed dros 11 miliwn o ymweliadau.
Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Yn 2018 rydym yn dathlu arfordir arbennig Cymru, ac yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod profiadau epig ar ein harfordir, gyda digwyddiadau ac atyniadau arbennig ymlaen gydol y flwyddyn. Rwy’n falch iawn bod cyllid Croeso Cymru wedi galluogi’r Gogledd-Ddwyrain i weithio gyda’i gilydd er mwyn codi ymwybyddiaeth a dangos rhai o deithiau ysbrydoledig yr ardal at yr arfordir eleni."
Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Cyrchfan Sir Ddinbych, “Diolch i bawb a gyfrannodd at y broses o wneud y ffilm, gobeithiwn y bydd yn ysbrydoli ymwelwyr i brofi peth o'n gweithgareddau morol ac arfordirol. Bydd buddsoddiadau allweddol yn ein cyrchfannau arfordirol, fel y datblygiadau yn Y Rhyl, o help i gynyddu ymwybyddiaeth a nifer yr ymwelwyr â’r ardal ac yn creu swyddi a fydd yn hybu'r economi lleol."
Mae’r ffilm yn ddechrau cyfres o ffilmiau byrion a fydd yn cael eu rhyddhau drwy’r flwyddyn, yn arddangos themâu amrywiol gan gynnwys cerdded, beicio, bywyd gwyllt, treftadaeth, bwyd a diod, traethau, yn ogystal â gweithgareddau dŵr awyr agored. Bydd cyfres o flogiau a delweddau proffesiynol Blwyddyn y Môr hefyd yn cael eu rhyddhau er mwyn denu ymwelwyr hen a newydd i’r ardal.
Meddai Cyd Sylfaenydd Follow Films, Graham Cooper, wnaeth gynhyrchu'r ffilmiau, “Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych i weithio arno dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi byw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru drwy fy oes, ond mae gweithio ar brosiectau fel hyn yn fy atgoffa pa mor lwcus ydym o fyw mewn ardal o’r fath. Rwy’n dod o hyd i gymaint o weithgareddau newydd, gwych wrth gynhyrchu ffilmiau fel hyn, ac mae’r angerdd sydd gan fusnesau tuag at Ogledd Ddwyrain Cymru yn wych i'w weld."
Am fwy o wybodaeth ar y llefydd a'r gweithgareddau sydd yn y ffilm, ewch i http://www.northeastwales.wales/
Ydych chi'n trefnu digwyddiadau?
Mae’r Tîm Twristiaeth wedi lansio proses ddigwyddiadau newydd a symlach ar gyfer trefnwyr digwyddiadau sy'n dymuno ymgysylltu gyda'r awdurdod.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n gwefan.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen hysbysu o’r dudalen hon a chael llawer o gyngor defnyddiol am gynnal digwyddiad diogel a llwyddiannus.
Gall y Tîm Twristiaeth hefyd hyrwyddo eich digwyddiad drwy’r Llyfryn Be Sy ‘Mlaen a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol, unwaith mae ffurflen hysbysu wedi ei dychwelyd.
Rhaglen lawn yn Fforwm Twristiaeth nesaf Sir Ddinbych
Gwahoddir busnesau twristiaeth i Fforwm sy’n amlinellu’r datblygiadau diweddaraf yn eu diwydiant ym mis Ebrill. Gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys cynrychiolwyr o Croeso Cymru a Grŵp SweetSpot sy’n trefnu digwyddiadau chwaraeon blynyddol o ansawdd uchel gan gynnwys Taith Prydain OVO Energy, ras feicio broffesiynol fwyaf y DU, mae’n addo bod yn ddigwyddiad mawr i bawb sy’n rhan o’r sector twristiaeth.
Cynhelir Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych ar ddydd Iau, 12 Ebrill yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy am 10.30am. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle gwych i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu profiadau, gwybodaeth a syniadau. Bydd amrywiaeth o stondinau gwybodaeth yn bresennol gan gynnwys Cadwyn Clwyd, Cadwch Gymru’n Daclus, Helfa Gelf, Menter Iaith Sir Ddinbych, Gŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Llangollen, CADW, Croeso Cymru a llawer mwy.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: “Gyda’r prif dymor twristiaeth yn nesáu’n gyflym; mae’r Fforwm yn ffordd wych i bobl o’r un meddylfryd gyfarfod a chael gwybod am y datblygiadau twristiaeth diweddaraf. Nid yw ar gyfer busnesau twristiaeth yn unig, mae’n gyfle da i fyfyrwyr ac unrhyw un gyda diddordeb mewn twristiaeth i glywed gan y sawl sy’n gweithio yn y diwydiant yn rhannu ei profiadau.”
Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi Sir Ddinbych ac yn 2016 roedd cyfanswm yr effaith economaidd dros £479 miliwn, sef cynnydd o 50% o gymharu â 10 mlynedd yn ôl a bron 6 miliwn o ymwelwyr â’r Sir yn 2016.
Mae'r perchennog busnes lleol Tommy Davies a enillodd Person Twristiaeth Ifanc y Flwyddyn yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales yn ddiweddar yn rhedeg Cabanau Pren Coed-y-Glyn yng Nglyndyfrdwy ger Llangollen, yn dod i ddweud ei stori. Dywedodd Tommy: “Mae’n wych gweld Sir Ddinbych a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru yn tyfu mewn poblogaeth dros y blynyddoedd diwethaf a chroesawu gwesteion o bob rhan o’r byd i’n hardal hardd. Mae’r Fforwm yn blatfform gwych i bawb yn y sector i ddod at ei gilydd a rhannu eu straeon, syniadau a chynlluniau i sicrhau twf twristiaeth cynaliadwy yn y dyfodol.”
Bydd Croeso Cymru hefyd yn bresennol i rannu gwybodaeth ar Ffordd Cymru – y teulu o dri llwybr cenedlaethol newydd sy’n croesi tirwedd mwyaf epig y wlad fel ffordd o ddangos hanes, arfordir ac atyniadau anhygoel Cymru. Bydd yna lawer o gyfleoedd cyffrous i’r sector fanteisio ar yr ymgyrch arloesol hwn i ddod â mwy o ymwelwyr i’r rhanbarth.
I archebu lle yn y Fforwm anfonwch e-bost i: tourism@denbighshire.gov.uk, ffôn: 01824 706223 neu https://denbighshiretourismforum2018.eventbrite.co.uk/
5 Taith
Fel rhan o’r dasg o wrando ar anghenion busnesau lleol a Chynllun Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych, mae adran twristiaeth a marchnata Sir Ddinbych wedi datblygu cynnyrch newydd sbon i hyrwyddo’r Sir i ymwelwyr. Mae’n faint defnyddiol A5 sy'n agor i ddarparu map o atyniadau lleol a phethau i'w gwneud. Bydd ar gael o fis Ebrill mewn Canolfannau Croeso a Phwyntiau Gwybodaeth i Dwristiaid yn ogystal â llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden.
Os hoffech weld copi gellir ei lawrlwytho yma, neu os hoffech dderbyn copi anfonwch e-bost at twristiaeth@sirddinbych.gov.uk.
Be sy'mlaen yn Sir Ddinbych
Edrychwch ar ein llyfryn newydd sydd newydd ei rhyddhau. Mae fersiwn electronig ar gael i'w lawrlwytho ar wefan Darganfod Sir Ddinbych. Byddwch hefyd yn dod o hyd i lawer o wybodaeth a syniadau eraill ar beth i'w wneud yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf.