llais y sir

Cefnogaeth i drigolion

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,000 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Mae’r Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrifon cynilo di-dreth hir-dymor a agorwyd ar gyfer pob plentyn a anwyd rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, lle’r oedd y llywodraeth yn cyfrannu blaendal cychwynnol a oedd yn o leiaf £250. Gellir tynnu’r arian ar ôl i’r cyfrif aeddfedu pan fydd y plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed.

Yn ôl data’r llywodraeth, mae bron i filiwn o bobl ifanc yn y DU dal heb hawlio eu Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant. Mae mwy na 800,000 o gyfrifon yn perthyn i bobl o gefndiroedd incwm isel - sydd yn achosi pryder nad yw’r rheiny sydd fwyaf angen yr arian yn cael mynediad ato.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol. Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Mae 5.3 miliwn o gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn agored ar hyn o bryd. Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu. Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall.

Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn. Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.  

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth o ran costau byw yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych www.cadenbighshire.co.uk

Arbed arian ychwanegol drwy hawlio Lwfans Priodasol

Gallai cyplau sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil yn Sir Ddinbych dderbyn hwb ariannol drwy rannu lwfansau treth sydd heb eu defnyddio.

Fe wnaeth bron i 70,000 o gyplau wneud cais fis Mawrth y llynedd.  A gyda’r dewis o ôl-ddyddio eu hawliad am 4 blynedd, gallai cyplau cymwys dderbyn cyfandaliad o dros £1,000, a lleihau eu bil treth ar gyfer blwyddyn dreth o hyd at £252.   

Er mwyn elwa o’r gostyngiad yn y dreth, mae’n rhaid i un partner dderbyn incwm sy’n is na’r Lwfans Personol o £12,570 a bod incwm y partner sy’n ennill mwy rhwng £12,571 a £50,270.  Mae’n rhaid i’r cyplau fod wedi’u geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1935.

Gall preswylwyr Sir Ddinbych ganfod a ydynt yn gymwys mewn 30 eiliad drwy ddefnyddio’r Gyfrifiannell Lwfans Priodasol ar-lein.

Dywedodd Sharon Evans, Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Cofrestru /Cofrestrydd Arolygol yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Cynhelir nifer o seremonïau priodasol a phartneriaethau sifil yma yn Sir Ddinbych bob blwyddyn. 

"Nid yw nifer o gyplau’n ymwybodol o’r cynllun treth, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n diwallu’r meini prawf i ddefnyddio’r gyfrifiannell a gwneud cais ar-lein yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ar hyn o bryd.” 

Y ffordd hawsaf o wneud cais am Lwfans Priodasol yw ar-lein yn https://www.gov.uk/lwfans-priodasol

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth o ran costau byw yn Sir Ddinbych ewch i'n gwefan neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych www.cadenbighshire.co.uk

Arbedwch arian ar eich biliau ynni

A ydych mewn dyled ac yn ansicr ynghylch sut i reoli hyn? Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am gyngor ar sut i ymdrin â'r sefyllfaoedd hyn. Gallwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r e-bost neu'r rhifau isod neu fel arall ewch i'w gwefan >> https://www.cadenbighshire.co.uk/.

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid