Teithiau cerdded yn Sir Ddinbych
Mae’r tîm twristiaeth wedi bod yn ceisio llonni misoedd y gaeaf gyda chyfres o deithiau cerdded gan eu blogiwr gwadd Julie Brominicks, awdur 'The Edge of Cymru'.
Mae pob taith yn hygyrch drwy gludiant cyhoeddus a bydd map syml er mwyn dilyn pob un. Mae 8 ar y gweill i gyd dros y misoedd nesaf, felly cadwch olwg amdanynt ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae arnom eisiau eich ysbrydoli i archwilio ychydig bach mwy ar ein rhan hardd o’r byd.
Dyma’r tair taith gyntaf
Mae Llwybrau Cymru yn dilyn llwyddiant pum blwyddyn thema Croeso Cymru hyd yma - antur, chwedlau, y môr, darganfod, yr awyr agored. Mae’r blynyddoedd thema yn cyflwyno Cymru fel cyrchfan groesawgar, gynhwysol sydd ar agor trwy’r flwyddyn, boed hynny i’r anturiaethwyr dewr neu ymwelwyr sy’n dymuno ymlacio. Gan weithio gyda blwyddyn thema Croeso Cymru, mae’r tîm twristiaeth wedi llunio cyfres o ffilmiau byrion i gyflwyno llwybrau yn yr ardal, dan y thema cerdded, beicio, hygyrchedd, treftadaeth, yr awyr agored, celf a chrefft a’r teulu. Bydd y rhain hefyd yn cael eu lansio ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ystod y misoedd nesaf.
Mae modd gweld y cyntaf yma.
Fforwm Twristiaeth Sir Ddinbych Ar-lein
Mawrth 2024
Sesiynau am ddim trwy Zoom
Arloesi a rhagoriaeth
Dydd Iau, 21 Mawrth: 2pm i 3.15pm
Gwen Davies Gwinllan y Dyffryn – O’r winwydden i win yn Nyffryn Clwyd
Tom Taylor Rheilffordd Llangollen – Atyniad y Flwyddyn yng Nghwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru 2023
Archebwch heddiw! https://Online-Tourism-Forum-Innovation-and-excellence.eventbrite.co.uk
Busnesau gyda straeon i'w hadrodd
Dydd Gwener, 22 Mawrth: 10.30am i 11.45am
Rob Price Gŵyl Rhuthun - Dathlu 30 mlynedd yn 2024
Gail Swan Siop Fferm Swans – Fferm fynydd draddodiadol a siop fferm sydd wedi ennill gwobrau
Archebwch heddiw! https://Online-Tourism-Forum-Businesses-with-stories-to-tell.eventbrite.co.uk
Y MANYLION
- Archebwch ar un neu'r ddau sesiwn.
- Bydd Zoom yn agor 30 munud cyn pob sesiwn er mwyn caniatáu amser i bawb gael mynediad.
- Anfonir y dolenni cyswllt Zoom trwy e-bost at y cyfranogwyr y diwrnod cyn bob sesiwn.
- Bydd y sesiynau'n cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau ar ôl pob cyflwyniad.
- Diweddariad byr gan y tîm twristiaeth
- Cynhelir cyfarfodydd yn Saesneg ond bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar Zoom