BE SY' MLAEN

Ffair swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn dychwelyd fis Medi

Mae unigolion ar draws Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ddydd Mercher, 10 Medi, o 10am tan 2pm ym Mar a Bwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl.

Wedi’i chynnal mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith, mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod ag amrywiaeth o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd – a phob un yn recriwtio i swyddi gweigion mewn sectorau amrywiol. Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad diwethaf yn y gwanwyn, a ddenodd dros 50 o gyflogwyr, mae’r ffair ym mis Medi yn mynd i fod yn fwy ac yn well byth.

Mae’r cyflogwyr sydd wedi cadarnhau yn cynnwys y Lluoedd Arfog, Shotton Mill, Warner Hotels, Clwyd Alyn, Leader Optic a Kids Planet, a fydd yn cynnig rolau lletygarwch, gofal, gweithgynhyrchu, addysg a mwy.

Bydd yna hefyd awr dawel o 1pm tan 2pm i unrhyw un sydd eisiau amgylchedd llai prysur a mwy hygyrch.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Byd Gwaith i ddod â chyfleoedd yn uniongyrchol at ein cymunedau.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn enghreifftiau gwych o gefnogi pobl leol i gael gwaith ac arddangos y busnesau gwych sy’n recriwtio ar draws Sir Ddinbych a thu hwnt.”

Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau:

“Mae ffeiriau swyddi yn rhoi cyfle gwych i drigolion Sir Ddinbych weld cyflogwyr wyneb yn wyneb i drafod y rolau sydd ar gael. Mewn llawer o achosion, mae ceiswyr gwaith yn cwrdd â nhw yr wythnos ganlynol ar gyfer cyfweliadau, a all arwain at gyflogaeth.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Sir Ddinbych yn Gweithio ar lawer o brosiectau amrywiol gan roi cyfle i’n cwsmeriaid dyfu a chyrraedd eu potensial.”

Mae’r digwyddiad ar agor i bawb, pa un ai ydych chi’n chwilio am swydd newydd, yn edrych ar eich opsiynau gyrfa neu angen hyfforddiant a chefnogaeth.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n gwefan neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

 

 

Ailadeiladu a Ffynnu: Sesiynau Lles Lego am ddim yn dod i Sir Ddinbych

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gwahodd oedolion (16+ oed) i gymryd rhan mewn cyfres unigryw o sesiynau lles creadigol yr hydref hwn, lle bydd Lego ar gael i oedolion.

Mae “Ailadeiladu a Ffynnu” yn rhaglen o sesiynau am ddim am bedair wythnos sy’n cael eu cynnal bob prynhawn Mawrth rhwng 12:30 a 2:30pm, gan ddechrau 16 Medi tan 7 Hydref 2025. Fe gynhelir y sesiynau yn Llyfrgell y Rhyl. 

Nod y sesiynau yw rhoi hwb i les, hyder a datblygiad personol drwy bleser syml ond pwerus adeiladu Lego.

Fe arweinir y sesiynau gan Floss Barrett, artist blodau LEGO a fu ar ei thaith ei hun o wella wedi’i ysbrydoli gan y rhaglen.  Fe ddechreuodd Floss adeiladu gyda LEGO yn dilyn ymosodiad â chyllell a’i gadawodd gydag anafiadau difrifol i’w dwy law.  Yn rhan o’i hadferiad corfforol, fe ddechreuodd ddefnyddio LEGO i ailadeiladu cryfder a symudedd yn ei bysedd, ond yn fuan fe ddarganfu ei fod yn adnodd hollbwysig i ailadeiladu ei lles.

Mae Floss yn wirfoddolwr angerddol sy’n arbenigo ym Mlodau Botanegol LEGO ac mae’n awyddus i gyflwyno pobl eraill i’r tawelwch, creadigrwydd a phleser y gall yr hobi unigryw yma ei ennyn.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae cefnogi pobl i deimlo’n well, i gredu yn eu hunain ac i archwilio cyfleoedd newydd wrth wraidd popeth yr ydym ni’n ei wneud. Mae Ailadeiladu a Ffynnu yn enghraifft wych o sut y gall creadigrwydd a chysylltiad ysbrydoli pobl i symud ymlaen.”

Caiff y fenter ei chyflwyno gan Barod, Sir Ddinbych yn Gweithio a Floss, ac mae’n cefnogi pobl i wella eu lles, magu hyder, a chymryd camau tuag at gyflogaeth neu hyfforddiant.

Meddai Floss Barrett, gwirfoddolwr gyda Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Pan oeddwn i’n teimlo eithriadol o isel, rhoddodd LEGO ofod i mi ddianc. Fe ddaeth yn hafan ddiogel i mi, yn fyd lle gallwn i fod yn fi.  Rydw i eisiau i bobl eraill deimlo’r un tawelwch, ffocws a chreadigrwydd. Bu LEGO yn help i mi wella ac rydw i wir yn credu y gall helpu pobl eraill hefyd.”

Fe fydd y sesiynau yn ymlaciol, yn gynhwysol ac ar agor i bob oedolyn, pa unai ydych chi eisiau gwella eich lles, ail-fagu hyder, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.  Nid oes angen profiad, ac fe fydd Floss a thîm Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i gynnig cefnogaeth i’r rhai sy’n bresennol drwy gydol.

Gallwch fynychu dim ond un sesiwn, neu’r pedwar, ond mae llefydd yn brin, felly mae’n rhaid archebu lle. I gadw eich lle, ewch i'n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw