ERTHYGLAU
Yr ysgol sy’n cynnal Diwrnod Mabolgampau yn wahanol
Mae Diwrnod Mabolgampau Ysgol Dinas Brân sydd wedi’i leoli ar fryn, o dan gastell Canoloesol yn Llangollen, yn disgyn ar ddiwrnod olaf y tymor eleni ac mae ychydig yn wahanol i'r hyn sy’n cael ei gynnal fel arfer.
Diwrnod Mabolgampau o'r awyr
Bydd gwasanaeth yn cychwyn y diwrnod, a chyflwyniad o lwyddiannau’r flwyddyn yn cael eu harddangos ar wal y Neuadd Chwaraeon, ynghyd â thrac sain gan fand o ddisgyblion, sy'n canu nifer o ganeuon mwyaf poblogaidd Oasis. Roedd y cyflwyniad hefyd yn cynnwys straeon athrawon am eu hanes nhw ym myd chwaraeon, gan nodi pwysigrwydd chwaraeon yn yr ysgol.
Pan fydd y cyflwyniad wedi gorffen, bydd y Diwrnod Mabolgampau (sydd wedi cael ei alw’n 'Gemau Olympaidd Dinas Brân' o’r blaen hefyd) yn dechrau.
Band a ffurfiwyd gan ddisgyblion yn chwarae yn y cyflwyniad
Mae trefnu'r diwrnod yn dasg fawr, ac mae'n dechrau'n gynnar wrth i Bennaeth yr Adran Addysg Gorfforol, Neil Garvey a staff eraill gyrraedd am 6am i baratoi.
Erbyn 9am, bydd caeau pêl-droed 5 bob ochr, cwrs golff gwallgof â sawl twll a chwrs rhwystrau wedi’i lenwi ag aer wedi'u gosod yng nghanol cae'r ysgol. Ymhellach ar hyd y cae mae bwrdd dartiau enfawr wedi’i lenwi ag aer ar gyfer 'dartiau pêl-droed' (defnyddir peli pêl-droed yn lle dartiau), wal ddringo, a goliau ymarfer anelu pêl-droed a rygbi. Yn ogystal â hyn, mae cystadleuaeth tynnu rhaff, canŵio ar y gamlas gerllaw, sesiynau Just Dance a digwyddiadau mwy traddodiadol fel rasys rhedeg (100m, 400m) a thaflu pwysau.
Wal ddringo
Bydd fan hufen iâ a stondin byrbrydau yn cyflenwi bwyd ar y dydd a bydd yr athrawon yn dewis y trac sain ar gyfer y digwyddiadau. Er y bydd elfen o gystadleuaeth mewn rhai digwyddiadau, mae'r diwrnod hwn wedi'i drefnu er mwyn i bawb gael hwyl a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.
Pan fyddan nhw ar y cae, bydd rhai disgyblion yn rhuthro i baratoi i ddringo'r wal ddringo, tra bod eraill yn gafael yn dynn yn eu pytwyr wrth iddyn nhw fynd draw at adran golff gwallgof y cae. Mae'r amrywiaeth sydd ar gael yn golygu bod llu o ddiddordebau a gweithgareddau yn cael eu cynrychioli ar y Diwrnod Mabolgampau hwn.
Nid oes unrhyw dablau, siartiau na safleoedd ar gyfer y mwyafrif helaeth o'r gweithgareddau sy’n cael eu cynnig heddiw, gan mai cymryd rhan yw nod y diwrnod mabolgampau hwn, a’r syniad yw y bydd yr amrywiaeth eang o weithgareddau yn helpu gyda chyfranogiad ac ymgysylltiad disgyblion.
Bydd pob blwyddyn yn cymryd eu tro yn ystod y dydd i gymryd rhan yn y llu o weithgareddau sydd wedi'u gwasgaru ar draws dau gae yr ysgol (a rhan o Gamlas enwog Llangollen) wrth iddyn nhw redeg, dringo, cicio, pytio, padlo a neidio yn rhan o Ddiwrnod Mabolgampau gwahanol, sy'n teimlo'n fwy o ddathliad na chystadleuaeth.
Yn y prynhawn, tro’r staff fydd hi a byddan nhw’n cymryd rhan mewn rasys sachau. Bydd athrawon gwyddoniaeth a daearyddiaeth yn neidio yn erbyn ei gilydd i gyrraedd y llinell derfyn yn gyntaf, a’r disgyblion i gyd yn eu cefnogi nhw.
Esboniodd Neil Garvey, Pennaeth yr Adran Addysg Gorfforol:
“Mae ein Diwrnod Mabolgampau ni ychydig yn wahanol i’ch Diwrnod Mabolgampau traddodiadol. Gwnaethom ni newid ein dull o gynnal Diwrnod Mabolgampau tua 12 mlynedd yn ôl i geisio cynyddu nifer y disgyblion sy'n cymryd rhan yn y digwyddiadau.
Y Pennaeth Adran blaenorol, Helen Davies, sefydlodd hyn, a gwnaethom ni gyfarfod fel tîm i lunio syniadau i helpu i newid yr holl syniad o ‘Ddiwrnod Mabolgampau’ er mwyn ceisio cael mwy o ddisgyblion i gymryd rhan. Ei syniad hi oedd hwn, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni wedi adeiladu arno bob blwyddyn. Bob blwyddyn, yr ydym ni wedi ychwanegu digwyddiadau newydd, ac wedi gweithio gyda busnesau lleol yn yr ardal i gael pethau fel cwrs rhwystrau mawr wedi’i lenwi ag aer a'r wal ddringo.
Ers i ni wneud y newidiadau, mae nifer y disgyblion sy'n cymryd rhan wedi cynyddu’n fawr. Mae'r disgyblion yn mwynhau'r dull hwn o gynnal Diwrnod Mabolgampau yn fawr iawn - gallwch ei weld ar eu hwynebau nhw.”
Dywedodd Jimi, disgybl yn Ysgol Dinas Brân:
“Dw i’n credu mai diwrnod mabolgampau Dinas Brân yw’r diwrnod mabolgampau gorau y gallech chi ei gael! Mae gennych chi bob math o ddigwyddiadau fel dringo, pêl-droed, popeth y byddech chi eisiau ei wneud, wir.
Eleni, gwnes i fwynhau'r wal ddringo fwyaf gan nad oeddwn wedi gwneud hyn o’r blaen. Gwnes i hefyd fwynhau ychydig o’r athletau.”
Dartiau pêl-droed
Dywedodd Maggie, disgybl arall yn Ysgol Dinas Brân:
“Mae Ysgol Dinas Brân yn cynnal Diwrnod Mabolgampau gwych ac mae’n rhoi cyfle i ddisgyblion nad ydyn nhw fel arfer yn cymryd diddordeb mewn chwaraeon i roi cynnig ar weithgareddau newydd.
Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y cwrs rhwystrau wedi’i lenwi ag aer gyda fy ffrindiau yn ogystal â’r rasys.
Dywedodd Mark Hatch, Pennaeth Ysgol Dinas Brân:
“Pwrpas y fformat hwn yw iechyd a lles, a rhoi cynnig arni. Mae'n ddiwrnod cynhwysol ac mae pawb yn cael rhoi cynnig ar rywbeth newydd, gwneud ymarfer corff a mwynhau eu hunain.
Mae'n ymwneud â rhoi cyfle i ddisgyblion fwynhau rhywbeth newydd a rhoi profiadau hollol wahanol iddyn nhw, a chreu diwrnod llawn hwyl hefyd.”
Planhigfa yn creu dyfodol cadarn i fyd natur lleol

Mae coeden sy’n gysylltiedig â llymaid mewn hen dafarn a phlanhigyn hynod o brin yng Nghymru yn elfennau o fyd natur Sir Ddinbych sydd wedi cael bywyd newydd diolch i safle arbennig yn y sir.
Ers 2021, mae planhigfa goed y Cyngor ar fferm Green Gates, Llanelwy wedi mynd o nerth i nerth.
Mae gwirfoddolwyr ac aelodau ymroddedig o dîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi bod yn brysur iawn yn datblygu’r blanhigfa, sy’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt o hadau er mwyn eu plannu ar hyd a lled y sir i ddiogelu a rhoi hwb i fyd natur.
Dyma flas i chi o rai o’r prosiectau llwyddiannus sydd wedi dwyn ffrwyth ar y safle.
Yn 2022, daethpwyd o hyd i blanhigyn tafod y ci – rhywogaeth sy’n prinhau, yn nôl arfordirol Prestatyn Beach Road West. Yn y 116 o flynyddoedd diwethaf, nid oes ond 18 cofnod o’r planhigyn hwn yn Sir Ddinbych.
Cymerwyd hadau o’r ddôl i’w plannu yn y blanhigfa, a diolch i ymdrechion y tîm eginodd blanhigion newydd i’w plannu mewn dolydd arfordirol eraill yn y sir.
Yn ystod 2023 gwnaethpwyd gwaith i ddiogelu a chefnogi dyfodol coeden hynafol yn Sir Ddinbych.
Casglodd y tîm a’r gwirfoddolwyr dros 15,000 o fes a’u plannu yn y blanhigfa.
Mae coed derw yn cael effaith bwysig ar fioamrywiaeth drwy gynnal mwy o ffurfiau ar fywyd nag unrhyw goeden gynhenid arall. Gall y goeden gynnal cannoedd o bryfed, ac mae hynny’n darparu ffynhonnell gyfoethog o fwyd i adar. Drwy gydol yr hydref bydd gwiwerod, moch daear a cheirw hefyd yn bwyta mes.
Yn 2024 rhoddodd y blanhigfa sylw i lwyn prin yn Sir Ddinbych.
Mae meryw’n brin yn Sir Ddinbych a dim ond mewn un man ar ael bryn ym Mhrestatyn y deuir o hyd iddynt. Mae’r llwyn yn rhywogaeth â blaenoriaeth i’w amddiffyn yn y Deyrnas Unedig, wedi dirywiad brawychus oherwydd pori gormodol a diflaniad porfeydd addas.
Gwnaed ymdrech i amddiffyn un llwyn meryw yn Sir Ddinbych yn 2008 pan fu’r Cyngor yn gweithio â Sw Caer wrth blannu llwyni ifanc ar ael y bryn ym Mhrestatyn er mwyn annog twf y meryw oedd yno eisoes.
Ymwelodd aelodau o’r tîm Bioamrywiaeth â’r safle i gasglu hadau i’w plannu yn ôl yn y blanhigfa goed gan fod meryw yn darparu cynefin gwerthfawr a bwyd i amrywiaeth o rywogaethau, yn cynnwys pryfed, adar a mamaliaid.

Eleni mae’r blanhigfa goed hefyd wedi cynnig llwncdestun i goeden hanesyddol a phrin yn y sir.
Mae tîm y blanhigfa wedi rhoi hwb i’r gerddinen. Mae dros 300 o’r 500 o hadau a gasglodd y tîm y llynedd wedi egino yn y blanhigfa.
Mae’r gerddinen yn goeden brin yn y sir ac yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.
Yn draddodiadol, roedd ffrwythau o’r goeden hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod hon wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r prosiectau eleni wedi cynnwys tyfu dros 1,000 o goed ysgaw drwy gymryd toriadau o ysgaw a oedd eisoes yn tyfu ar y safle. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr ysgawen, sy’n ffynhonnell llifynnau, i wneud y patrwm ar frethyn Harris.
Ac mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin.
Mae’r blanhigfa wedi bod yn tyfu cnwd o lwyfenni llydanddail i helpu’r rhywogaeth sydd dan fygythiad oherwydd clefyd llwyfen yr Isalmaen. Mae llawer o goed aeddfed wedi’u torri oherwydd y clefyd hwn, gan leihau twf a lledaeniad coed ifanc.
Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden i atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.
Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.
Mae coeden a oedd yn bwysig i’r Celtiaid ac sydd i’w gweld yn enw Ynys Afallon yn chwedl y Brenin Arthur hefyd ar gynnydd yn Sir Ddinbych.
Mae dros 2,500 o goed afalau surion yn adrodd stori newydd yn 2025 diolch i gefnogaeth y blanhigfa goed.
Mae cysylltiad hanesyddol cryf wedi bod rhwng coed afalau surion a chariad a phriodi. Byddai pobl ers talwm yn taflu hadau’r afalau i’r tân wrth ddweud enw eu cariad, ac os oeddent yn ffrwydro, byddai’r cariad yn para hyd byth. Roedd y Celtiaid yn llosgi’r prennau yn ystod gwyliau a defodau ffrwythlondeb.
Fe soniodd William Shakespeare am y goeden afalau surion yng nghyd-destun cariad yn ‘A Midsummers Night’s Dream’ a ‘Love Labours Lost’ hefyd.
Gall coed afalau surion dyfu’n 10 metr o uchder a byw am gan mlynedd, ac mae’r dail yn ffynhonnell o fwyd i wyfynod, yn cynnwys y gwyfyn tuswog llwyd, y smwtyn gwyrdd a’r gwalchwyfyn llygadog.
Mae’n ffynhonnell fwyd wych i fyd natur; mae adar wrth eu boddau â’r ffrwythau a llygod y maes, llygod cwta a moch daear hefyd yn mwynhau porthi ar yr afalau.
Profiadau byd natur gwerthfawr i gefnogi bioamrywiaeth
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws tiroedd a dyfroedd Sir Ddinbych i helpu i adfer natur
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws tiroedd a dyfroedd Sir Ddinbych i helpu i adfer natur, sy’n wynebu pwysau cynyddol yn sgil effeithiau dynol a newid hinsawdd.
Mae Llais y Sir wedi cael sgwrs ag Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth i ddarganfod sut mae hi wedi cyrraedd y swydd hon, sy’n cefnogi natur ar draws ein sir.

Treuliodd Evie’r rhan gyntaf o’i bywyd yn archwilio beth oedd gan awyr agored canolbarth Cymru i’w gynnig i unigolyn ifanc anturus.
Dywedodd: “Mae llawer o amaethyddiaeth yng nghanolbarth Cymru; mae’n wahanol iawn i fan hyn. Mae safleoedd cadwraeth yno, ond nid oedd llawer ohonynt yn lleol i mi. Fodd bynnag, treuliais oriau o’m bywyd cynnar yn ymgymryd ag anturiaethau amrywiol, sblasio mewn pyllau, dringo coed, dilyn afonydd; lle bynnag y gallwn i grwydro.”
Wrth ystyried ei hastudiaethau Lefel A, magodd Evie ddiddordeb mewn gyrfa yn yr awyr agored ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei hanturiaethau yn ei blynyddoedd cynnar.
“Mae’r byd naturiol wedi bod yn ddiddordeb bwysig i mi erioed, yn arbennig ecosystemau a chysylltedd y byd naturiol. Roedd gennyf feddwl academaidd, a’r cam nesaf naturiol i mi oedd dilyn gyrfa mewn Bioleg.
“Yn dilyn rhywfaint o waith ymchwil, dois o hyd i gwrs Sŵoleg, a phenderfynais mai hwn oedd y cam nesaf i mi. Mynychais Brifysgol Bangor lle treuliais 3 blynedd yn astudio Sŵoleg. Roedd yn wych cael Eryri ac Ynys Môn ar garreg drws ar gyfer dysgu a hamdden… roedd yn Brifysgol wych.”
Mae pobl sy’n caru anifeiliaid yn aml yn tueddu i astudio Sŵoleg i gynnal eu hangerdd am gadwraeth.
Eglurodd Evie: “Credaf fod nifer o bobl yn sylweddoli ar ôl cyrraedd na ellir astudio anifeiliaid yn unig. Mae’n rhaid dysgu am blanhigion hefyd, ac mae hynny’n wir am fy swydd bresennol. Mae planhigion yn sylfaen i bopeth.”
“Wrth astudio fy nghwrs israddedig, ymddiddorais mewn sŵoleg gymharol, sef astudio addasiadau unigryw anifeiliaid a’u hymddygiad. Mae hyn wedi fy arwain i lawr y llwybr anthropoleg ac esblygu, gan gynnwys ystyried sut mae anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i’w hamgylchiadau. Datblygodd hyn i fod yn ddiddordeb mewn cadwraeth, a’m hysgogodd i aros a chwblhau cwrs Meistr mewn Cadwraeth a Rheoli Tir.”
Llwyddodd Evie i ennill profiad yn ystod ei chyfnod ym Mangor, gan dreulio cyfnod yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chymdeithas Eryri.
“Roedd Cymdeithas Eryri’n weithredol iawn yn yr ardal ac yn sefydliad gwych i fyfyrwyr ennill profiad â hwy. Roeddent yn darparu cludiant, a oedd o gymorth mawr i mi fel myfyriwr heb gar. Cefais gyfle i wneud llawer o waith rheoli cynefinoedd ymarferol o ganlyniad.
“Roedd gennyf hefyd ffrindiau a oedd yn gwneud llawer o waith â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn yr ardal hon, felly fe wnes i rywfaint o waith rheoli cynefinoedd iddynt yn Ynys Môn hefyd. Treuliais amser gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac roeddwn yn ddiogn ffodus i gwblhau hyfforddiant arolygu llygoden bengron y dŵr gyda nhw. Dechreuais ymgymryd â rhywfaint o waith gwirfoddol tuag at ddiwedd fy nghwrs meistr.”
Cyn graddio gyda’i chwrs meistr, llwyddodd Evie i gael swydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar draws Cymru.
“Roedd yn seiliedig ar lefel strategol; roeddent yn ceisio dod â’u cynlluniau rheoli ar gyfer eu portffolios gwahanol at ei gilydd a dechrau gwireddu eu sgyrsiau ymarferol drwy baru prosiectau â chyllid.”
“Ymunais â’r tîm i helpu â chydlynu. Roedd yn swydd wych, yn enwedig i rywun a oedd newydd adael y Brifysgol - cefais brofiadau gwerthfawr iawn.”
Yn anffodus i Evie, fel miloedd o bobl eraill, daeth y swydd hon i ben yn sgil y pandemig Covid gan iddi dderbyn diswyddiad gwirfoddol o ganlyniad i’r effaith enfawr a gafodd y cyfnod hwn ar nifer o sefydliadau gwahanol yn y DU.
Fodd bynnag, llwyddodd Evie i ddod o hyd i swydd arall yn fuan iawn o fewn adran aelodaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer, yn ogystal â gweithio fel ceidwad coedwig gyda chwmni arall.
Cymerodd Evie ei chamau cyntaf yn Sir Ddinbych yn fuan ar ôl iddi symud i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel ceidwad yn Nyffryn Dyfrdwy.
Yn dilyn haf yn gweithio gyda thîm Dyffryn Dyfrdwy, treuliodd y naw mis nesaf yn Loggerheads, cyn symud ymlaen i weithio i Glandŵr Cymru.
Fe esboniodd: “Roeddwn wrth fy modd â’r swydd hon am sawl rheswm, ond yn teimlo nad oedd yn rhoi digon o amser i mi ymroi i ddatblygu rhai o’r sgiliau yr oeddwn yn teimlo oedd ar goll gennyf. Fe wnaeth fy swydd newydd fel ymgynghorydd ecolegol ar gyfer Glandŵr Cymru fy ngalluogi i ennill rhywfaint o’r profiad hwn a helpu i adfer Camlas Trefaldwyn.”
Cyfaddefodd Evie, yn dilyn blwyddyn â Glandŵr Cymru, gwelodd hysbyseb am ei swydd ddelfrydol, sef ei swydd bresennol.
Dywedodd: “Roedd gennyf brofiad ymarferol o reoli cynefinoedd a digon o brofiad ymgynghorol, ond un peth yr oeddwn yn awyddus iawn i’w ddatblygu oedd yr arolygon rhywogaethau a chynefinoedd, sy’n rhan wobrwyol iawn o’r sector.
“Teimlaf fod fy mod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn fy arbenigedd arolygu drwy dreulio amser allan yn crwydro. Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda; rwy’n cyrraedd adref ar ddiwedd y dydd yn teimlo’n hapus. Teimlaf fod ein prosiectau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae hynny’n ffordd dda iawn o fesur bodlonrwydd rhywun mewn swydd yn fy marn i.”

Mae uchafbwyntiau Evie yn ei swydd fel Swyddog Bioamrywiaeth hyd yma’n cynnwys dod ar draws madfall ddŵr gribog am y tro cyntaf ar un o’i safleoedd gwaith, a dod ar draws pathew am y tro cyntaf hefyd.
“Rwyf hefyd wrth fy modd yn cynnal arolygon madfall ddŵr gribog. Rydym wedi bod yn gwirio blychau a sicrhau bod y safleoedd yn cyrraedd y safon ofynnol… rydym yn codi’r caead ac yn cael cipolwg i weld a oes unrhyw beth yno! Mae’n hyfryd, yn enwedig pan geir arwyddion o feddiannaeth drwy weld trwyn bach yn pipian allan”.
Cyngor Evie i’r holl gefnogwyr natur o gwmpas sy’n awyddus i ddilyn ei olion traed yw: “ewch allan i wirfoddoli”.
Fe esboniodd: “Mae cael eich troed yn y drws yn arwydd o angerdd. Bydd datblygu’r cysylltiadau hynny gyda’r bobl gywir yn dysgu llawer i chi.”
A’i huchelgeisiau yn y swydd?
“Rwy’n gweithio’n galed ar hyn o bryd i gael fy nhrwydded gyntaf, sef trwydded madfall ddŵr gribog. Bydd ennill fy nhrwydded gyntaf yn garreg filltir enfawr i mi, a gobeithiaf y bydd mwy o’r rhain i ddod yn y dyfodol.
“Rwyf hefyd yn awyddus i gwblhau prosiect pyllau; mae gennyf nifer o ddyheadau mewn perthynas â hyn. Hoffwn greu pyllau newydd a rhwydwaith o bobl i rannu gwybodaeth â hwy ar draws Sir Ddinbych, a chreu adain ledaenu.
Ychwanegodd: “Felly rwy’n cynnal llawer o arolygon ar hyn o bryd ac yn chwilio ar draws safleoedd am blanhigion ar gyfer y blanhigfa goed er mwyn eu lledaenu a sicrhau ffynhonnell hadau lleol ar ein cyfer. Mae’n llawer o hwyl!”
Athrawon ar daith elusennol i Affrica
Yn ddiweddar, fe wnaeth tair athrawes adael Sir Ddinbych i fynd draw i dde cyfandir Affrica wrth iddynt gychwyn ar daith i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol mewn pentref pellennig yn y mynyddoedd.
Mae Rachel Costeloe, Tina Hughes, a Kathryn Packer yn athrawon cymwysedig sy’n gweithio i dîm cynhwysiant Cyngor Sir Ddinbych ac fe aethant ar daith 8,000 o filltiroedd o Sir Ddinbych i Lesotho, gwlad a’i ffiniau yn gyfan gwbl o fewn gwlad De Affrica, yn gynharach eleni.
Rachel Costeloe, Tina Hughes, a Kathryn Packer
Fe aeth y tair athrawes ar y daith yn eu hamser sbâr ar gyfer yr elusen ‘One Day’.
Yn rhan o griw o wirfoddolwyr yn gweithio ar gyfer yr elusen, bu’r tair athrawes yn helpu plant amddifad, a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen lefel o ofal sy’n anodd ei darparu yn lleol heb gymorth. Yn ystod eu pythefnos yno, bu Rachel, Tina a Kathryn yn darparu hyfforddiant i ysgol leol a dwy ysgol arbennig. Fe wnaethant hefyd gynnal rhaglen gefnogaeth i’r gymuned, yn darparu cymorth i rai oedd yn agored i niwed a rhai oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Wrth ymweld ag un o’r ysgolion arbennig, fe wnaethant weithio mewn partneriaeth â’r 'Lesotho Sport and Recreation Commission’ a darparu gweithgareddau chwarae a chwaraeon, yn cynnwys chwarae synhwyraidd.
Gan fod Lesotho wedi’i gefeillio â Chymru, fe wnaeth y tîm gynnal diwrnod diwylliannol, lle bu’r tair yn cynnal Eisteddfod fechan oedd yn cynnwys dawnsio gwerin a dawnsio i gerddoriaeth gyfoes gan y band Candelas.
Dywedodd Rachel Costeloe, Athrawes Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol:
“Rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael bod yn rhan o’r tîm. Fe wnes i ddarparu hyfforddiant trawma i’r athrawon yn yr ysgolion pan aethom ni yno, ac i rieni cartref y plant amddifad.
Alla’ i ddim diolch digon i fy nheulu a fy ffrindiau am eu holl gefnogaeth.
Mae’r holl brofiad wedi newid fy mywyd i ac rydw i’n cynllunio fy nhaith nesaf i Lesotho yn barod, a’r tro yma, fe fyddaf yn mynd â fy merch gyda mi.”
Dywedodd Tina Hughes, Athrawes Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol:
“Roedden ni’n ffodus iawn o gael ymweld â dwy ysgol arbennig tra oeddem ni yno – un yn Butha-Buthe a’r llall yn Leribe.
Fe fuom ni’n gweithio gydag academi chwaraeon Lesotho a rhai o’r chwaraewyr rygbi rhyngwladol i hyrwyddo sesiynau chwaraeon anabledd.
Fe fuom ni hefyd yn gweithio gyda staff addysgu, yn darparu hyfforddiant ac yn rhannu technegau ar ddatblygu cyfathrebu gan ddefnyddio byrddau craidd.”
Dywedodd Kathryn Packer, Athrawes Allgymorth Cefnogi Ymddygiad:
“Fe wnes i fynd â’r wybodaeth a’r adnoddau sydd gen i i Lesotho i ddarparu hyfforddiant 6 bricsen i’r athrawon, y plant a rhieni’r cartref.
Mae’r gemau a’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar y cof, sgiliau motor, datrys problemau, creadigrwydd a hyblygrwydd gwybyddol.
Roedd yn brofiad anhygoel, yn fraint ac yn bleser.”
Ers dychwelyd adref, mae’r cydweithwyr wedi parhau i gefnogi’r achos o bell, ond mae ganddynt eu tair gynlluniau i ddychwelyd i Lesotho yn y dyfodol, i barhau i gefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud yno.
Cariad at natur yn arwain at yrfa yn y sector cefn gwlad
Mae cariad diddiwedd un dyn at natur...
Mae cariad diddiwedd un dyn at natur wedi ei helpu i ddiogelu a meithrin coed a phlanhigion lleol Sir Ddinbych.
Cafodd Llais y Sir sgwrs gyda’n Cynorthwyydd Planhigfa Goed, Sam Brown i ddysgu sut mae ei arferion diogelu natur dros y blynyddoedd wedi arwain at yrfa yn y sector awyr agored.

Ganed Sam yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac fe’i magwyd yn Acrefair, pentref bychan hanner ffordd rhwng Llangollen a Wrecsam.
Mae’n cofio ei fam a’i dad yn ei helpu i ddysgu am bwysigrwydd yr awyr agored yn fachgen ifanc.
Meddai: “Mae fy rhieni wedi fy magu i garu natur, arferwn fynd i leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwarchodfeydd yr RSPB, Erddig (sydd ar garreg drws i ni), Castell y Waun, a Pharc Gwledig Tŷ Mawr. Roeddwn wrth fy modd yn crwydro a cherdded yn fy esgidiau glaw ar benwythnosau ac ar ôl ysgol… datblygodd fy nghariad at natur yn gynnar iawn yn fy mywyd.
“Roeddwn yn geidwad iau ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr gyda Chyngor Wrecsam, roeddent yn ei gynnal fel clwb mewn ffordd, dechreuais pan oeddwn i’n 8 oed a daliais i fynd nes yr oeddwn i’n 15 oed. Roeddwn yn gwneud hyn ar ôl ysgol, felly byddwn yn newid o’m gwisg ysgol, yn mynd i lawr yno yn fy esgidiau glaw erbyn 4 o’r gloch, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda nhw.”
Datblygodd Sam ei sgiliau cefn gwlad fel ceidwad iau drwy garthu’r anifeiliaid, rhwydo mewn pyllau ac arolygu gloÿnnod byw yn y parc.
“Roeddwn wrth fy modd yn gwneud hyn, a datblygais rai gwerthoedd proffesiynol, fel sut i ofalu am yr anifeiliaid, bod yn gyfeillgar a sgwrsio â phobl, a dilyn hyfforddiant hefyd, megis cwrs diogelwch afonydd.
Yn yr ysgol, derbyniodd Sam ddiagnosis o Ddyspracsia wrth astudio, ond fe wnaeth ei gariad tuag at natur ei helpu drwy hyn.
Eglurodd: “Roeddwn i’n mwynhau’r ysgol, ond doeddwn i ddim yn academaidd iawn, roeddwn yn aml yn edrych drwy’r ffenest yn gwylio’r adar a’r colomennod tu allan. Roedd gennyf lawer mwy o ddiddordeb yn hynny na’r gwersi.
“Ond roedd rhai o’r athrawon, gan gynnwys Miss Mills, fy athrawes wyddoniaeth, wedi sylwi ar hyn rywbryd. Pan oedd pawb arall yn gwneud tasgau gwyddonol ymarferol, gofynnodd i mi a’m ffrindiau fynd allan i gynnal arolwg adar ar gaeau’r ysgol. Cynhaliodd glwb garddio ar ôl ysgol hefyd, lle cawsom wneud pob mathau o bethau.”
Roedd Sam yn ystyried ei opsiynau ar ôl gorffen yr ysgol gan gynnwys gyrfa mewn Mecaneg neu Fioleg Môr, a oedd wedi bod ar ei feddwl ers yr oedd yn fachgen ifanc, ond roedd ei gariad at natur a’r cefn gwlad yn parhau i fod yn sbardun enfawr yn y cefndir.
“Roeddwn hefyd wrth fy modd â pheirianneg a cheir, ond nid oedd gennyf sgiliau mathemateg da, felly roeddwn i’n teimlo efallai y byddai hynny wedi bod yn anodd i mi.”
Fodd bynnag, roedd ei gariad at natur yn parhau, a chyfaddefodd Sam ei fod wedi cymryd y camau cyntaf tuag at yr yrfa mae’n ei fwynhau heddiw’n sydyn iawn.
Eglurodd: “Roeddem yn pori drwy’r cyrsiau yng Ngholeg Cambria, a dois o hyd i gwrs yng Ngholeg Llysfasi, sef Rheoli Cefn Gwlad, ac roedd Coedwigaeth a Chadwraeth yn opsiwn arall i mi hefyd.”
Cymerodd Sam ran mewn diwrnod agored yn y coleg yn gwneud rhywfaint o waith, ac roedd wrth ei fodd. Ymunodd â cham Lefel 2 o’r cwrs a threuliodd dair blynedd yn y coleg yn gweithio i gyflawni Lefel 3.
“Cwrddais â phobl wych, ac rwy’n dal i gysylltu â nhw o bryd i’w gilydd. Hyd heddiw, rwy’n dal i weithio gyda rhai ohonyn nhw hefyd. Mi wnes i wirioneddol fwynhau fy amser yn y coleg. Teimlaf fod y tiwtoriaid wedi fy ysbrydoli, ac roeddent bob amser yn barod i helpu.
Roedd un o’i diwtoriaid yn fotanegydd, ac fe helpodd Sam i ddatblygu ei wybodaeth am blanhigion, a dysgodd sgiliau gweithio mewn cefn gwlad gan diwtor arall.
“Pan orffennais i yn y Coleg, roeddwn rhwng dau feddwl i fynd i’r Brifysgol neu beidio, roeddwn i’n teimlo’n rhy ifanc, er bod y mwyafrif o bobl yr un oed â mi’n mynd… doeddwn i ddim yn teimlo’n barod i symud i ffwrdd o’m cartref.”
Cyfaddefodd Sam ei fod wedi chwarae â’r syniad o fynd i Brifysgol Aberystwyth neu John Moores yn Lerpwl i astudio Bioleg Môr, ond drwy ei ddiddordeb parhaus mewn natur a chefn gwlad, cafodd gyfle gwych, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.
“Mynychais gyfweliad am swydd fel ceidwad cefn gwlad yn nhîm Dyffryn Dyfrdwy, ni lwyddais i gael y swydd hon, ond cefais fy rhoi ar y rhestr o geidwaid wrth gefn. Byddwn yn gweithio diwrnod gyda nhw yma ac acw yn ystod cyfnodau prysur yn plannu coed a phethau felly, felly cefais brofiad da gyda nhw.
“Roeddwn i’n gwybod fy mod yn caru’r tir, a’r bobl a’r pethau ar y tir. Sylwais fy mod yn caru coed; mae Dyspracsia yn achosi i bobl i ddatblygu obsesiwn dros bethau. Roeddwn i’n gallu cofio’r rhywogaethau coed brodorol yn syth, a dois i adnabod y blodau gwyllt yn dda iawn hefyd. O oedran ifanc, roeddwn yn gwybod yng nghefn fy meddwl mai dyma’r oeddwn i wirioneddol eisiau ei wneud.”
Mae Sam yn Gristion, ac mae ei ffydd bob amser wedi bod yn bwysig iddo, ac mae natur, ynghyd â’i gredoau, yn sbardun enfawr ar gyfer ei ymrwymiad a’i waith.
“Rwy’n angerddol iawn am natur… Rwy’n Gristion, rwy’n credu mai Duw sydd wedi creu natur a’i fod yn haeddu parch, yr anifeiliaid, a’r planhigion. Mae’n adnodd gwych ar gyfer ein hiechyd ysbrydol, a’n iechyd cyffredinol, ac mae angen i ni gydnabod hynny a deall fod y Ddaear yn adnodd gwerthfawr, ac rwy’n awyddus i edrych ar ei hôl.”
Datblygodd Sam i fod yn arddwr angerddol pan adawodd y coleg gan dyfu planhigion gartref, ac mae’n cyfaddef mai yn ei ardd y mae hapusaf.
Treuliodd Sam gyfnod fel warden yn gofalu am aderyn prin yn nythfa’r Môr-wenoliaid Bach yng Ngronant hefyd.
“Cefais amser da iawn â’r Môr-wenoliaid Bach. “Roeddwn wrth fy modd yn gofalu amdanynt, roeddent yn anifeiliaid hyfryd.”
Gan ddilyn ei ddyletswyddau fel warden, derbyniodd Sam ei swydd bresennol fel Cynorthwyydd Planhigfa Goed ym mis Medi 2023, ac mae wedi bod yn brysur yn defnyddio ei sgiliau i hybu planhigion lleol a phoblogaeth goed y sir ers hynny.
“Rwyf wedi cael modd i fyw. Mae’n hyfryd cael cyfle i ddefnyddio fy sgiliau a mwynhau gwneud gwahaniaeth i rywbeth sydd mor agos at fy nghalon.”
Dyma ei gyngor i unrhyw un sy’n awyddus i ddilyn yn ei olion traed:
“Byddwn yn argymell i bawb achub ar bob cyfle i wirfoddoli. Ble bynnag yr ydych chi’n byw yn y sir, bydd gennych Ymddiriedolaeth Natur neu leoliad Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleol, yn ogystal â gwasanaeth cefn gwlad y Cyngor lleol a allai fod yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli.
“Hefyd, fel gwirfoddolwr, rydych yn dangos parodrwydd i wirfoddoli. Rwyf wedi dysgu gymaint drwy wirfoddoli. Teimlaf fy mod wedi dysgu mwy drwy wirfoddoli nag y gwnes i mewn unrhyw ran arall o’m haddysg. Felly mae gwirfoddoli’n bwysig, ac wrth gwrs… yr ymrwymiad a’r penderfyniad i ddal ati.”
Darganfod trysorau natur Y Rhyl
A oeddech chi’n gwybod fod yna nifer o leoliadau natur ar hyd a lled Y Rhyl..
A oeddech chi’n gwybod fod yna nifer o leoliadau natur ar hyd a lled Y Rhyl lle gallwch chi fynd ati i’w harchwilio?
O’r arfordir i’r dref mae yna ardaloedd sy’n llawn bywyd gwyllt yn blodeuo a golygfeydd i’w darganfod a all hefyd ddarparu lle gwych ar gyfer gweithgarwch corfforol.
Mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch yr ardaloedd natur yn Y Rhyl gan ddangos yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Yn nwyrain Y Rhyl mae gwarchodfa natur ifanc sydd o fewn cyrraedd i’r gymuned leol. Cafodd Gwarchodfa Natur Maes Gwilym ei chreu fel rhan o brosiect creu coetiroedd y Cyngor. Mae yna dros 2,500 o goed yn tyfu ar y safle a chafodd y coetir presennol ei hybu er mwyn gwella’r cynefin ar gyfer byd natur.
Cafodd llwybrau a fydd yn mynd â chi i’r warchodfa eu hadeiladu gan ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu a’u gorffen gyda llwch calchfaen.
Elfen arbennig yng ngwarchodfa natur Maes Gwilym yw’r ardal o wlyptir sy’n cynnwys pwll bywyd gwyllt byrhoedlog, sydd wedi ei ddylunio i ddal lefel isel o ddŵr gan ddarparu cynefin gwych i nifer o rywogaethau.
Gallwch hefyd alw heibio’r guddfan adar ar y safle sy’n galluogi ymwelwyr i fwynhau’r bywyd gwyllt yn yr ardal, sy’n cynnwys nifer o rywogaethau adar ar y rhestr goch a’r rhestr oren.
Mae gwrychoedd sydd wedi eu plannu yn tyfu’n gryf ar y safle ochr yn ochr â dolydd blodau gwyllt lliwgar. Wrth gerdded o amgylch fe allwch fanteisio ar yr ardaloedd eistedd sydd wedi eu cyflwyno yn yr ardal.
Plannwyd gwrychoedd hefyd sy’n annog dolydd blodau gwyllt presennol a rhai newydd. Cyflwynwyd ardaloedd eistedd a gosodwyd ffensys a gatiau newydd yn lle’r rhai a oedd wedi’u difrodi.
I fyny’r ffordd mae Safle Natur Cymunedol newydd Llys Brenig, sy’n nythu yn Ystâd Park View. Cafodd ei greu yn 2024 a phlannwyd 1,885 o goed ar y safle yn ogystal â chreu pwll a gwlyptir er budd bywyd gwyllt lleol, gosodwyd ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle a chrëwyd llwybrau a gosodwyd meinciau i alluogi preswylwyr lleol i gysylltu â byd natur ar garreg y drws.
Mae’n ardal fach wych i ymweld â hi ar ddiwrnod heulog, mae’n bosibl y gwelwch un neu ddau o gyfeillion pluog sydd wedi ymgartrefu yn y pyllau ar y safle.
Mae Gwarchodfa Natur Parc Bruton yn cynnig cyfle da i ymestyn eich coesau ar daith gylchol neu drwy archwilio’r llwybrau gan dorri drwy’r tiroedd tra’n mwynhau golygfeydd gwych o Fryniau Clwyd.
Fe welwch dirwedd amrywiol yn cynnwys coetir, gwrychoedd, dolydd blodau gwyllt a hyd yn oed coed ffrwythau wrth archwilio’r trysor hwn ac ochr yn ochr â’r planhigion a’r coed amrywiol cadwch lygad am y bywyd gwyllt lleol.
Gellir dod o hyd i daith gylchol wych arall i brofi natur wrth ymweld â Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield.
Mae ceidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan Natur er budd Iechyd wedi cyflawni gwaith sydd wedi arwain at agor perllan gymunedol a phwll gyda llwybr newydd a phont yn arwain at y safle hwn yng nghornel dawel y warchodfa.
Mae’r tîm wedi gwneud gwelliannau i’r llwybrau, wedi symud hen goed marw ac wedi tacluso’r golygfannau o amgylch y prif ddyfroedd.
Ac mae’n bosibl y gwelwch famal sy’n brin yn y DU wrth gerdded gan fod ardaloedd hefyd wedi eu gwella o amgylch y warchodfa natur i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Yr haf hwn bydd mwy o liw i’w weld yn yr ardal ger y llwybr beicio yn arwain i’r warchodfa natur o ochr Ysgol Tir Morfa.
Yn ystod yr hydref a’r gaeaf cafodd gwaith ei wneud i glirio’r mieri. Fe symudwyd coed marw i alluogi mwy o olau i ddod i’r ardal i gefnogi’r natur sy’n goroesi, fe blannwyd coed pisgwydd a chymysgedd o’r gribell felen, gorudd a heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt y coetir i gefnogi peillwyr.
Yn well na dim i fwynhau’r golygfeydd o’r bywyd gwyllt ar y dyfroedd mae golygfannau newydd wedi eu hagor ar hyd y llwybr cylchol, gyda rhai yn cynnwys clwydi cyll sydd newydd eu creu fel ffensys, sy’n galluogi ymwelwyr i werthfawrogi bywyd ym Mhwll Brickfield.
Ewch i weld atyniadau Sir Ddinbych yn eich cerbyd trydan
Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan sy’n byw yn lleol a thu hwnt, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i weld y golygfeydd.
Mae’r gwanwyn yma a’r haf ar ddod, a mwy o olau dydd yn creu cyfle perffaith i grwydro a gweld y gorau sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig.
Wrth deithio mewn cerbyd yn yr oes fodern, gallech fod yn defnyddio injan hybrid neu fodur trydan i’ch helpu i gyrraedd llefydd gyda llai o effaith ar ein hinsawdd.
Ers i bwyntiau gwefru cyhoeddus cyntaf Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer cerbydau trydan gael eu gosod yn haf 2022, mae dros 1.5 miliwn o filltiroedd o deithio wedi’u darparu drwy fwy na 22,000 o sesiynau gwefru.
Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan sy’n byw yn lleol a thu hwnt, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i weld y golygfeydd.
Mae’r rhwydwaith cerbydau trydan yn cynnig cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych yn mwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd ar un o’r safleoedd.
Eisiau blas ar deithio hen ffasiwn ar Reilffordd Llangollen? Gallwch gychwyn y profiad ym maes parcio Lôn Las yng Nghorwen, wrth orsaf y dref, lle mae pum pwynt gwefru cerbydau trydan i chi eu defnyddio, cyn mwynhau taith i’r oes o’r blaen i fyny ac i lawr y lein a chrwydro trefi Corwen a Llangollen tra mae’r car yn gwefru.
Wrth ddod at y rheilffordd o Langollen, mae pwyntiau gwefru ar gael ym maes parcio Heol y Farchnad a hefyd ym maes parcio’r Pafiliwn. Bydd y lleoliadau cyfleus yma hefyd yn rhoi amser i chi weld atyniadau fel Glanfa Llangollen, llwybr at Gastell Dinas Brân neu fwynhau’r golygfeydd o Afon Dyfrdwy’n llifo trwy ganol y dref.
Wrth neidio i’r car a gyrru draw i Ruthun, fel ddewch o hyd i bwyntiau gwefru ym maes parcio Cae Ddôl, sy’n eich rhoi chi o fewn tafliad carreg i ddysgu am Garchar Rhuthun a’i holl hanes, a gyda rhyw bum munud o gerdded, gallwch gyrraedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre.
Os ydych chi’n un am gelf a chrefft, mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael i’r cyhoedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, er mwyn i chi allu pori drwy bopeth mae’r ganolfan yn ei gynnig wrth bweru’r car at y daith nesaf.
Draw yn Ninbych, mae pwyntiau gwefru ar Lôn y Post, sy’n rhoi cyfle perffaith i chi weld adfeilion Castell Dinbych sy’n dal i daflu ei gysgod dros y dref.
Heb fod ymhell, yn Llanelwy, mae maes parcio’r Lawnt Fowlio yn y ddinas, sy’n fan cychwyn gwych i fwynhau taith gerdded hardd ar hyd Afon Elwy neu i fynd i ryfeddu at bensaernïaeth hyfryd yr Eglwys Gadeiriol.
Gan deithio am yr arfordir, yn y Rhyl mae’r lle delfrydol i wefru eich cerbyd. Mae nifer o bwyntiau gwefru ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, gan gynnwys rhai cyflym. Oddi yma, gallwch gerdded trwy ganol y dref at y promenâd i fwynhau tywod euraidd y traeth, neu droi at ardal yr harbwr a’r Llyn Morol lle mae rheilffordd fechan hynaf y byd. Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael ym maes parcio Ffordd Morley.
Ac yn olaf, wrth deithio i Brestatyn fel welwch chi bwyntiau gwefru (gan gynnwys rhai cyflym) ym meysydd parcio Rhodfa Rhedyn a Rhodfa’r Brenin, sy’n rhoi amser i chi fwynhau canol tref Prestatyn neu, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, fynd am dro i lawr at lan y môr i fwynhau’r atyniadau sydd yno.
Mae’r rhwydwaith cyhoeddus gwefru cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.
I weld mwy o wybodaeth am y lleoliadau yma, ewch i'n gwefan.
Hyfforddiant Cerbydau Trydan mewnol yn hwb i effeithlonrwydd
Mae rhaglen fewnol o hyfforddiant i yrwyr yn helpu cannoedd o aelodau staff i groesawu cerbydau nad ydyn nhw’n defnyddio tanwydd ffosil.
Mae rhaglen hyfforddiant Fflyd Cerbydau Trydan Cyngor Sir Ddinbych wedi hyfforddi dros 500 o aelodau staff hyd yma.
Mae fflyd y Cyngor yn parhau i gael ei thrawsnewid i ddefnyddio cerbydau nad ydyn nhw’n gollwng unrhyw allyriadau drwy’r beipen fwg, er mwyn helpu lleihau allyriadau carbon i fynd i’r afael â’r argyfwng Hinsawdd a Natur a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol yn 2019.
O’i gymharu â holl awdurdodau lleol Cymru, mae gan y Cyngor un o’r cyfrannau uchaf o gerbydau heb allyriadau (ZEVs) fel canran o’u fflyd, sef dros 20 y cant.
I gefnogi’r trawsnewid, lluniodd y Tîm Fflyd becyn hyfforddiant Cerbydau Trydan i holl aelodau staff y Cyngor a fyddai angen defnyddio cerbydau trydan yn ystod oriau gwaith, er mwyn eu helpu i yrru’r cerbydau’n ddiogel ac yn effeithlon.
Mae’r hyfforddiant mewnol yn cynnwys:
- Sut i ddefnyddio’r isadeiledd gwefru Cerbydau Trydan yn ddiogel ac yn effeithlon
- Defnydd effeithlon o systemau brecio atgynhyrchiol
- Dewis y ‘dull gyrru’ cywir ar gyfer amrywiol amodau / llwythi
Mae yna bedair lefel o gymhwyster ar gael i’r staff (mae’r hyfforddiant wedi cael ardystiad CBTM 1877):
- Lefel 1 Efydd – Ceir a faniau bychain
- Lefel 2 Arian – Fel lefel 1 + LGVs fel cerbydau ailgylchu gwastraff
- Lefel 3 Aur – Fel lefel 2 + Bysiau a Pheiriannau
- Lefel 4 Platinwm – Fel lefel 3 + Cymhwyster hyfforddwr
Eglurodd Martin Griffiths, Swyddog Arweiniol Symudedd y Fflyd, Cyngor Sir Ddinbych: “Fel rhan o strategaeth Newid Hinsawdd ac Adfer Natur y Cyngor, rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys ein Fflyd.
“Wrth i’n cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, rydym wedi bod yn cyflwyno rhai trydan, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn ein helpu i gwtogi ar yr allyriadau a gynhyrchir yn ogystal â lleihau ein costau hirdymor o ran milltiroedd a chynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau y mae ein Fflyd yn eu cyflenwi.”

Meddai David Baker, Uwch Swyddog Hyfforddi ac Asesu Gyrwyr, “Rhan allweddol o hyn yw helpu staff i ddysgu mwy am effeithiau cadarnhaol Cerbydau Trydan ar deithio a’r amgylchedd a’u hyfforddi i wneud y mwyaf o’r offer hyn.
“Mae ein hyfforddwr mewnol yn eu helpu i ddeall sut mae brecio atgynhyrchiol yn gweithio er mwyn ehangu amrediad a thraul gonfensiynol ar freciau arferol. Maen nhw’n edrych ar sut i yrru’n fwy llyfn er mwyn peidio â chyflymu’n galed, sy’n effeithio perfformiad y batri.
“Gall yr elfennau eraill a addysgir gynnwys sut i gynllunio taith er mwyn defnyddio’r cerbyd yn effeithiol, dod i arfer â throrym sydyn y cerbydau er mwyn gyrru’n ddiogel, a bod yn fwy ymwybodol o’u hamgylchiadau yn sgil distawrwydd Cerbydau Trydan.
“I bob pwrpas, mae’r hyfforddiant yn helpu’r aelodau staff i wneud y mwyaf o allu’r ceir hyn er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon a lleihau costau hirdymor. Mae hefyd yn helpu aelodau staff unigol i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â defnyddio cerbydau trydan yn eu bywyd personol.”
Mae llwyddiant hyfforddiant Cerbydau Trydan mewnol y Tîm Fflyd wedi dal sylw awdurdodau lleol eraill Cymru sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon eu cerbydau eu hunain.
Ychwanegodd Martin: “Rydym yn rhannu ein harferion da a’n profiadau gyda Chynghorau a Chyrff Sector Cyhoeddus eraill Cymru er mwyn eu helpu hwythau i bontio i ddefnyddio cerbydau heb allyriadau.
“Mae gallu cynnal yr hyfforddiant yn fewnol a dysgu o brofiadau ein staff o ddefnyddio Cerbydau Trydan wedi bod yn fantais fawr i’n helpu i drefnu ein fflyd i fynd i’r afael ag allyriadau carbon yn y dyfodol.”
Natur ar garreg y drws yn eich cymuned
Mae safleoedd natur newydd yn dod yn fyw yng nghanol cymunedau Sir Ddinbych wrth i’r dyddiau ddod yn gynhesach ac yn hirach.
Yn 2024 cafodd pedair ardal natur gymunedol newydd eu creu ar draws y sir i ddarparu cynefinoedd cryfach ar gyfer natur a lle i gymunedau lleol fwynhau hyfrydwch yr awyr agored.
Mae’n hawdd iawn dod o hyd i’r rhain i gyd wrth fynd am dro ac yma fe gewch gipolwg ar yr hyn sydd gan bob safle i’w gynnig i’r rhai sy’n hoff o fyd natur.

Fe dorchodd disgyblion Ysgol Henllan eu llewys i helpu i greu darn o hanes byd natur ar gyfer eu pentref.
Yn nythu ar dir y tu ôl i Ffordd Meifod, cafodd ardal Natur Gymunedol Henllan ei chreu gyda chymorth y disgyblion ochr yn ochr â cheidwaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych.
Fe fu’r disgyblion yn brysur yn palu gan helpu i blannu dros 1,700 o goed ar y safle. Hefyd cafodd llwybrau troed newydd eu creu, pwll, dolydd blodau gwyllt, man hamdden ac ardal bicnic, lloches i drychfilod (hynny yw “banc gwenyn”) ac ystafell ddosbarth awyr agored.
Mae ceidwaid cefn gwlad hefyd yn defnyddio techneg unigryw ar y safle i ddiogelu a chryfhau’r coed sy’n tyfu.
Defnyddiwyd cnu yn lle tomwellt o amgylch y coed gan ei fod yn cynnig ffordd fwy eco-gyfeillgar a charbon niwtral o gefnogi’r gwaith yn Henllan. Gallwch weld ardaloedd wedi eu gorchuddio gyda chnu o hyd sy’n helpu i ryddhau nitrogen i’r pridd gan ei fod yn pydru ac yn cadw lleithder yn dda yn y pridd o amgylch y coed.
I lawr y ffordd ar gyrion Llanelwy mae ardal natur gymunedol arall yn tyfu’n gryf.
O ganlyniad i gefnogaeth timau ieuenctid clwb pêl-droed y ddinas a Grŵp Gofal Elwy, mae Ardal Natur Gymunedol Glan Elwy yn gartref i bron i 2,000 o goed ar y safle. Mae’r ardal yn darparu ardaloedd cynefin cryfach i natur elwa ohonynt yn ogystal ag ardaloedd cymunedol i drigolion hen ac ifanc eu mwynhau a dysgu gan fywyd gwyllt lleol.
Mae’r ardal wedi ei lleoli ar hyd Afon Elwy a gallwch archwilio bywyd gwyllt yr ardal drwy gamu ar y llwyfan gwylio wrth y tir, mae yna lawer o anifeiliaid yn byw yma y gallwch gael cipolwg arnynt.

Fe helpodd Ysgol Bryn Hedydd Y Rhyl i roi bywyd newydd i Ardal Natur Gymunedol Llys Brenig.
Mae’r ardal wedi ei lleoli ger Ffordd Parc Elan ac fe helpodd y disgyblion, gyda chymorth y ceidwaid cefn gwlad, i blannu 1,885 o goed, cymysgedd o’r rhywogaethau llydanddail cynhenid sy’n briodol ar gyfer yr amodau lleol.
Roedd y perl hwn yng nghanol cymuned brysur hefyd yn cynnwys creu pwll a gwlyptir i gefnogi bywyd gwyllt, gosod ffensys newydd o amgylch y pwll ac o amgylch ffiniau’r safle a chreu llwybrau troed a gosod meinciau er mwyn galluogi pobl leol i gysylltu â natur ar garreg y drws.
Wrth ymweld heddiw fe allech chi weld cyfeillion pluog sydd eisoes yn mwynhau’r ardal newydd.
Ac mae ardal natur gymunedol fach gyda chalon fawr i’w gweld y tu allan i Glocaenog.
Yn Ardal Natur Gymunedol Clocaenog cafodd 18 o goed o wahanol rywogaethau eu plannu ar y safle, gyda phedair coeden ffrwythau a gwrychoedd terfyn.
Roedd gwaith arall ar y tir yn cynnwys gosod llwybr troed, ffensys a giât mynediad, dwy fainc, un bwrdd picnic a chreu ardal bwll, gan ei wneud y lle perffaith i wylio’r bywyd gwyllt yn mynd heibio yr haf hwn, yn arbennig gan fod blodau gwyllt lliwgar a blannwyd yn dechrau ymddangos.
Mae’r gwaith ar Ardaloedd Natur Cymunedol yn ystod 2024 a 2025 ochr yn ochr â gwaith creu coetiroedd mewn ysgolion ar hyd a lled y sir wedi cael cyllid o grant gwerth £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Caiff yr holl ardaloedd natur cymunedol eu datblygu i greu cynefin cryfach sy’n llawn rhywogaethau i natur elwa ohonynt yn ogystal ag ardal i ddisgyblion ysgol lleol a phreswylwyr ei fwynhau ac i ddysgu am y bywyd gwyllt sy’n ymweld â’r tir.
Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn dod â manteision eraill gan gynnwys gwella ansawdd yr aer, oeri gwres trefol a chyfleoedd i gefnogi lles corfforol a meddyliol.
Murlun newydd yn dod i’r Rhyl
Mae artistiaid wrthi’n rhoi’r cyffyrddiadau olaf i furlun trawiadol newydd fydd yn ymddangos ar hyd amddiffynfeydd arfordirol y Rhyl – teyrnged weledol bwerus i adfywio parhaus y dref.
Dan arweiniad yr artist a’r hwylusydd Ffion Pritchard, estynwyd gwahoddiad i bobl greadigol o bob cwr o Sir Ddinbych i gyfrannu at ymgyrch Ein Rhyl.
Wedi’i gefnogi gan Fwrdd Cymdogaeth y Rhyl – cydweithfa annibynnol sy’n cynnwys trigolion, perchnogion busnesau, gwleidyddion, swyddogion y cyngor, sefydliadau llawr gwlad a Balfour Beatty, nod y murlun yw arddangos calon a threftadaeth y dref glan môr, gan adael etifeddiaeth barhaol i genedlaethau’r dyfodol.
“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel,” meddai Ffion, o Fangor.
“’Da ni wedi gweithio gydag ystod eang o grwpiau cymunedol anhygoel ac wedi gweld faint o greadigrwydd a balchder sydd yma.
“O bobl ifanc i drigolion hŷn, mae gan bawb rywbeth gwerthfawr i’w rannu. Mae’r prosiect wedi dod â phobl ynghyd mewn ffordd bwerus, sy’n caniatáu iddyn nhw fynegi eu gweledigaeth o’r Rhyl – beth mae’n ei olygu iddyn nhw, y gorffennol a’r dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gallu helpu i arwain y broses honno.”
Bydd y murlun yn ymestyn dros hyd at 60 o unedau ac yn cael ei argraffu ar ddeunyddiau gwydn fel alwminiwm.
Ochr yn ochr â'r prif osodiad, mae gweithdai gydag ysgolion lleol, grwpiau ieuenctid a theuluoedd wedi helpu i lunio murlun bywiog sy'n adlewyrchu gorffennol, presennol a dyfodol y Rhyl.
Dywedodd Craig Sparrow, Cadeirydd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl: “Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymroddiad a'r creadigrwydd sydd wedi mynd i'r prosiect hwn. Mae wedi bod yn wych gweld y gymuned yn dod at ei gilydd, o grwpiau’r trydydd sector i artistiaid unigol, mae pawb wedi chwarae rhan.
“Mae prosiectau fel hyn yn dangos faint o dalent sydd yn y Rhyl, a sut y gall celf helpu i fynegi ein hanesion mewn ffordd ystyrlon a pharhaol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y murlun gorffenedig.
“Fe fydd yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono ac yn arddangos y gorau o'r Rhyl, i drigolion ac ymwelwyr.”
Mae cyfranogwyr wedi cynnwys Ysgol Tir Morfa, Prosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl, Ieuenctid LHDT Viva Cymru, Brighter Futures, Willow Collective, Ysgol Bryn Hedydd, a theuluoedd drwy weithdai yn llyfrgell y dref. Bydd y prosiect yn cael ei gwblhau fis Awst.

Gan weithio ar ran Cyngor Sir Dinbych, roedd ailddatblygiad Balfour Beatty o Barêd y Dwyrain yn cynnwys cael gwared ar yr hen bromenâd a'r morgloddiau, lledu a chodi'r promenâd newydd i wella mynediad i gerddwyr a beicwyr, ac adeiladu wal gynnal concrit i leihau'r risg o lifogydd — gan amddiffyn dros 600 o eiddo yng Nghanol y Rhyl.