Cyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu darpariaethau pellach ar gyfer staff sy’n Maethu

Fel rhan o’i ymrwymiad i staff sy’n penderfynu dod yn Ofalwyr Maeth, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi absenoldeb sy’n Cefnogi Maethu, gan gynnig trefniadau gweithio’n hyblyg sy’n ymateb i anghenion Gofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor.

Mae’r polisi’n cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gefnogi staff sy’n Maethu, ac yn caniatáu 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig mewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y rhai sy’n Maethu drwy raglen Maethu Cymru.

Mae modd i Ofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor ddefnyddio’r absenoldeb ychwanegol ar gyfer cyfnodau allweddol fel asesu a hyfforddi cyn eu cymeradwyo fel Gofalwyr Maeth a chyfarfodydd adolygu plant, cyfarfod adolygu blynyddol Gofalwyr Maeth a hyfforddiant. 

Gellir cymryd yr absenoldeb fel diwrnodau llawn neu hanner diwrnodau.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd y newid mewn polisi yn galluogi ein staff i gael mwy o amser a gofod i helpu gyda’u rolau pwysig fel Gofalwyr Maeth. 

Mae’r newid mewn polisi’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r aelodau anhygoel o staff sy’n penderfynu Maethu.” 

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Rwy’n falch iawn fod y polisi ar waith, mae’n arddangos ymrwymiad Sir Ddinbych i gefnogi staff sy’n dymuno maethu a’r rhai sydd eisoes yn maethu gyda ni. 

Mae gennym nifer o aelodau o staff ymroddedig a dawnus ar draws y Cyngor, rydym yn hyderus y byddai nifer ohonynt yn ofalwyr maeth rhagorol ac yn gobeithio bod y polisi hwn yn annog aelodau o staff i gysylltu â’r Tîm Maethu i drafod.”

Mae'r polisi newydd hwn hefyd yn un ffordd mae'r Cyngor yn trawsnewid un o'i wasanaethau i arbed arian yn y tymor hir.

Drwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth yn y sir, mae'n galluogi'r Cyngor i ddarparu canlyniadau gwell i bobl ifanc mewn ffordd sydd hefyd yn fwy cost-effeithiol.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw