Disgyblion Rhuddlan yn dysgu am yr hanes o dan eu hystafelloedd dosbarth
O ganlyniad i sgwrs gan Archeolegydd Heneb, Ian Grant, cafodd aelodau’r clwb haf (Clwb Hwyl Jester’s) yn Ysgol y Castell yn Rhuddlan gyfle i ddysgu am yr hanes sydd o dan dir eu hysgol.
Disgyblion, cynrychiolwyr o'r Cyngor, Bryn Build a Heneb o flaen y gwaith newydd yn Ysgol y Castell, Rhuddlan.
Ar hyn o bryd mae gwaith ymestyn yn cael ei wneud yn Ysgol y Castell a fydd yn golygu bod 16 metr sgwâr o ofod ystafelloedd dosbarth ychwanegol yn cael ei ychwanegu at 4 ystafell ddosbarth, a fydd yn cynhyrchu estyniad cyfan o 64 metr sgwâr y bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd. Gan fod yr ysgol wedi'i lleoli ar safle a ddiogelir, mae’n rhaid i archeolegydd fonitro'r gwaith cloddio, ac mae’r gwaith diweddaraf, sef cloddio tir ar gyfer y tanc gwanhau ac estyniad yr iard, hefyd yn dod dan y gofyniad hwn.
Yn ystod y sgwrs, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am Ruddlan a safle eu hysgol drwy’r oesoedd, a sut mae’r dirwedd a’r darganfyddiadau archeolegol wedi helpu archeolegwyr i ddysgu rhagor am batrymau ymddygiad pobl o wahanol oesoedd allweddol, gan gynnwys yr oesoedd canol, ac yn gynt na hynny hyd yn oed.
Disgyblion yn mynychu sgwrs cyn ymweld â'r safle.
Cafodd y disgyblion weld rhai o’r darganfyddiadau archeolegol a ddarganfuwyd ar y safle o nifer o gloddiadau gwahanol (nid y gwaith cloddio mwyaf diweddar), a oedd yn cynnwys darnau o grochenwaith canoloesol, hen esgyrn anifeiliaid a darnau o offer a ddarganfuwyd.
Archeolegydd Heneb, Ian Grant.
Ar ôl y sgwrs a’r daith o’r hyn a ddarganfuwyd ar safle’r ysgol, cafodd y disgyblion weld y cynnydd ar y gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol gan Bryn Build, sy’n ymgymryd â’r gwaith, a oedd yn cynnwys gweld iard yr ysgol sydd wedi’i hymestyn a’r lle a gloddiwyd ar gyfer y tanc gwanhau.
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Roedd yn wych bod yn bresennol ar gyfer y sgwrs a’r daith yn Ysgol y Castell. Dysgais lawer am hanes diddorol safle'r ysgol, sy'n dyddio'n ôl ymhellach nag yr oeddwn i'n ei sylweddoli.
Roedd hefyd yn wych gweld y cynnydd ar y gwaith ymestyn, a fydd yn uwchraddio ac yn gwella dysgu a lles y disgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu yr un pryd ag y bydd yr estyniad yn cael ei adeiladu.”
Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Llywodraethwr Ysgol, Cynghorydd Sir ar gyfer Ward Rhuddlan a Chadeirydd y Cyngor:
“Mae mor bwysig bod disgyblion yn dysgu am hanes eu hardal, a’r straeon gwerthfawr a diddorol sydd o dan eu traed nhw.
Mae ymgysylltu â'u hanes lleol yn helpu disgyblion i ddysgu rhagor ynghylch sut a pham y mae’r ardal maen nhw’n byw ynddi fel y mae heddiw. Mae gan ddisgyblion Ysgol y Castell y cyfle prin i ddysgu am yr hanes sydd yn llythrennol o dan eu traed nhw, yng nghae eu hysgol.”
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cynghorydd Sir Ward Rhuddlan:
“Yn y cyfarfod roedd o’n braf gweld pa mor ymgysylltiedig a gwybodus oedd y plant.
Roedd nhw’n amlwg yn awyddus iawn i weld y gloddfa archaeolegol a’r arteffactau a oedd ar ddangos.
Mae'n bwysig i'r plant wybod am yr hanes, a bod rhai o'r creiriau a geir wrth ymyl yr ysgol yn Rhuddlan hyd at 9000 o flynyddoedd oed. Hoffwn ddiolch i staff Heneb am y cyflwyniad rhagorol ac i bawb a oedd yn rhan o'r gloddfa archaeolegol.
Ar ôl bod yn gweithio gyda'r ysgol am y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wrth fy modd bod yr estyniad angenrheidiol yn mynd rhagddo.”
Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.