Hafan Deg yn cynnal Digwyddiad Haf llwyddiannus
Fe gynhaliodd Canolfan Ddydd Hafan Deg yn Y Rhyl Ddigwyddiad Haf yn ddiweddar a gwahoddwyd y cyhoedd i ymuno yn hwyl yr haf gydag ystod o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.
Fel rhan o hwyl yr haf roedd amrywiaeth o Adloniant i Blant, Raffl, sesiwn Bingo, Bric a Brac ar werth a chafwyd ymweliad gan Scaly Safari Co a ddaeth â chyfeillion cennog i’r ymwelwyr eu gweld.

Gallai ymwelwyr hefyd gael celf henna wedi’i wneud ac roedd yna hefyd sesiwn greu barcud ar gyfer ymwelwyr iau.
Roedd lluniaeth gan gynnwys te, coffi a byrbrydau hefyd ar gael ar y diwrnod yn ogystal â danteithion wedi eu pobi.
Mae Canolfan Ddydd Hafan Deg yn cynnig ystod eang o gyfleusterau ac mae’n ganolbwynt i lawer o’r bobl hŷn sy’n byw yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae’r ganolfan ar agor 3 diwrnod yr wythnos fel canolfan gofal dydd ac mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal i’r bobl sy’n mynychu.
Fe wnaed gwaith adnewyddu allweddol i’r ganolfan ers iddi ddod yn ôl i ddwylo’r Cyngor yn 2023.
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Mae Hafan Deg yn lle sy’n gofalu am y gymuned leol sy’n byw yn ardal y ganolfan ddydd ac roedd heddiw yn enghraifft hyfryd o hyn gyda’r hen a’r ifanc yn dod draw i fwynhau’r cyfleuster, yn ogystal â rhai ffrindiau cennog hefyd!”