NEWYDDION

Gwaith ar ardal chwarae newydd i blant yn dechrau ym Marchnad y Frenhines

Mae gwaith adeiladu ar ardal chwarae newydd i blant a adeiladwyd ar safle Marchnad y Frenhines wedi dechrau'r wythnos hon.

Bydd yr ardal chwarae ym Marchnad y Frenhines yn cael ei lleoli yn agos at y mynedfeydd ochr, wrth ymyl Maes Parcio Stryd y Frenhines, a bydd yn cymryd tua 3 wythnos i'w chwblhau.

Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y comisiynu a’r profi yn dechrau, cyn agor yn llawn i'r cyhoedd.

Bydd yr ardal chwarae gynhwysol yn cynnwys mwy nag 20 o nodweddion chwarae, a bydd yn gallu darparu ar gyfer dros 40 o ddefnyddwyr ar unrhyw adeg benodol. Mae'r ardal chwarae wedi'i chynllunio ar gyfer plant o 0 - 10 oed a hŷn, a bydd yn cynnwys byrddau chwarae rhyngweithiol a synhwyraidd hefyd.

Wedi'i hadeiladu gyda Marchnad y Frenhines mewn golwg, thema'r ardal chwarae fydd bwyd a diod, gyda’r thema 'caffi' a 'hufen iâ' wedi'u hymgorffori yn rhai o'r offer chwarae.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Dinbych, Graham Boase:

“Mae’r ardal chwarae hon yn enghraifft wych o gydweithio, sy’n sicrhau bod lle gwych a chynhwysol arall yn y Rhyl i blant chwarae drwy gydol y flwyddyn, y tro hwn yn lleoliad eiconig Marchnad y Frenhines.

Rydym yn disgwyl i'r gwaith adeiladu gymryd tua thair wythnos i'w gwblhau, cyn y gellir dechrau profi a chomisiynu. Edrychaf ymlaen at weld ased gwych arall i'r lleoliad hwn yn agor yn y dyfodol agos.”

Meddai llefarydd ar ran KOMPAN UK:

“Gweithiodd KOMPAN UK gyda Marchnad y Frenhines i ddatblygu Ardal Chwarae sy’n ategu swyddogaeth y Farchnad yn berffaith, gyda thro hwyliog a chwareus.

Mae plant yn gallu defnyddio eu dychymyg a'u sgiliau chwarae rôl i weini neu fod yn gwsmer yn eu caffi eu hunain!

Mae'r Ardal Chwarae hon wedi'i chynllunio gyda phlant o bob lefel gallu mewn golwg. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau chwarae nad ydynt i gyd yn gofyn am gryfder corfforol, ond hefyd yn cynnig gweithgareddau i ddatblygu sgiliau echddygol bras a manwl drwy ddringo, cropian ac archwilio'r nodweddion chwarae. Mae chwarae yma yn datblygu sgiliau gwybyddol hefyd gyda gemau hwyliog a byrddau chwarae creadigol.

Rydym yn falch iawn o allu dylunio a gosod yr Ardal Chwarae hon ym Marchnad y Frenhines ac yn edrych ymlaen at osod mwy o gyfleusterau chwarae a ffitrwydd awyr agored cyffrous yn y Rhyl yn y misoedd nesaf! Dewch i ni Chwarae!”

Hafan Deg yn cynnal Digwyddiad Haf llwyddiannus

Fe gynhaliodd Canolfan Ddydd Hafan Deg yn Y Rhyl Ddigwyddiad Haf yn ddiweddar a gwahoddwyd y cyhoedd i ymuno yn hwyl yr haf gydag ystod o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.

Fel rhan o hwyl yr haf roedd amrywiaeth o Adloniant i Blant, Raffl, sesiwn Bingo, Bric a Brac ar werth a chafwyd ymweliad gan Scaly Safari Co a ddaeth â chyfeillion cennog i’r ymwelwyr eu gweld.

Gallai ymwelwyr hefyd gael celf henna wedi’i wneud ac roedd yna hefyd sesiwn greu barcud ar gyfer ymwelwyr iau.

Roedd lluniaeth gan gynnwys te, coffi a byrbrydau hefyd ar gael ar y diwrnod yn ogystal â danteithion wedi eu pobi.

Mae Canolfan Ddydd Hafan Deg yn cynnig ystod eang o gyfleusterau ac mae’n ganolbwynt i lawer o’r bobl hŷn sy’n byw yn yr ardal.  Ar hyn o bryd mae’r ganolfan ar agor 3 diwrnod yr wythnos fel canolfan gofal dydd ac mae amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal i’r bobl sy’n mynychu.

Fe wnaed gwaith adnewyddu allweddol i’r ganolfan ers iddi ddod yn ôl i ddwylo’r Cyngor yn 2023.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Mae Hafan Deg yn lle sy’n gofalu am y gymuned leol sy’n byw yn ardal y ganolfan ddydd ac roedd heddiw yn enghraifft hyfryd o hyn gyda’r hen a’r ifanc yn dod draw i fwynhau’r cyfleuster, yn ogystal â rhai ffrindiau cennog hefyd!”

Prawf Rhybudd Argyfwng Cenedlaethol ar 7 Medi

Bydd Llywodraeth y DU yn anfon Rhybudd Argyfwng prawf i ffonau symudol ledled y DU tua 3pm ddydd Sul, 7 Medi 2025.

Bydd Llywodraeth y DU yn anfon Rhybudd Argyfwng prawf i ffonau symudol ledled y DU tua 3pm ddydd Sul, 7 Medi 2025.

Rhybudd ArgyfwngDefnyddir y system Rhybuddion Argyfwng i rybuddio os oes perygl i fywyd gerllaw, gan gynnwys tywydd eithafol. Mae'n caniatáu anfon gwybodaeth a chyngor hanfodol at bobl yn gyflym mewn argyfwng.

Yn ystod y prawf, bydd ffonau symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn siren uchel am tua deg eiliad, hyd yn oed os yw’r sain i ffwrdd. Bydd neges hefyd yn ymddangos ar sgrin ffonau, gan ei gwneud hi'n glir mai prawf yn unig yw'r rhybudd.

Hwn fydd yr ail brawf o’i fath ac mae'n dilyn ymrwymiad y llywodraeth i brofi'r system yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn gweithio ac er mwyn i’r cyhoedd ymgyfarwyddo â'r rhybuddion. Mae hyn yn unol ag arfer safonol mewn gwledydd eraill.

Cyn y prawf cenedlaethol, mae'r llywodraeth wedi bod yn cynnal ymgyrch gwybodaeth gyhoeddus i hysbysu pobl bod y prawf yn digwydd, gan gynnwys targedu cyfathrebu at grwpiau agored i niwed, fel dioddefwyr cam-drin domestig. Bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys deunyddiau yn Iaith Arwyddion Prydain.

Optio allan

Gallwch ddarganfod sut i optio allan o rybuddion brys drwy ymweld â'r wefan ganlynol a fydd yn darparu cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanol ddyfeisiau - https://www.gov.uk/alerts/opting-out.cy

Cyngor Sir Ddinbych yn mabwysiadu darpariaethau pellach ar gyfer staff sy’n Maethu

Fel rhan o’i ymrwymiad i staff sy’n penderfynu dod yn Ofalwyr Maeth, mae’r Cyngor wedi mabwysiadu polisi absenoldeb sy’n Cefnogi Maethu, gan gynnig trefniadau gweithio’n hyblyg sy’n ymateb i anghenion Gofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor.

Mae’r polisi’n cadarnhau ymrwymiad y Cyngor i gefnogi staff sy’n Maethu, ac yn caniatáu 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig mewn cyfnod o 12 mis ar gyfer y rhai sy’n Maethu drwy raglen Maethu Cymru.

Mae modd i Ofalwyr Maeth sy’n gweithio i’r Cyngor ddefnyddio’r absenoldeb ychwanegol ar gyfer cyfnodau allweddol fel asesu a hyfforddi cyn eu cymeradwyo fel Gofalwyr Maeth a chyfarfodydd adolygu plant, cyfarfod adolygu blynyddol Gofalwyr Maeth a hyfforddiant. 

Gellir cymryd yr absenoldeb fel diwrnodau llawn neu hanner diwrnodau.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd y newid mewn polisi yn galluogi ein staff i gael mwy o amser a gofod i helpu gyda’u rolau pwysig fel Gofalwyr Maeth. 

Mae’r newid mewn polisi’n adlewyrchu ein hymrwymiad i’r aelodau anhygoel o staff sy’n penderfynu Maethu.” 

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Rwy’n falch iawn fod y polisi ar waith, mae’n arddangos ymrwymiad Sir Ddinbych i gefnogi staff sy’n dymuno maethu a’r rhai sydd eisoes yn maethu gyda ni. 

Mae gennym nifer o aelodau o staff ymroddedig a dawnus ar draws y Cyngor, rydym yn hyderus y byddai nifer ohonynt yn ofalwyr maeth rhagorol ac yn gobeithio bod y polisi hwn yn annog aelodau o staff i gysylltu â’r Tîm Maethu i drafod.”

Mae'r polisi newydd hwn hefyd yn un ffordd mae'r Cyngor yn trawsnewid un o'i wasanaethau i arbed arian yn y tymor hir.

Drwy gynyddu nifer y gofalwyr maeth yn y sir, mae'n galluogi'r Cyngor i ddarparu canlyniadau gwell i bobl ifanc mewn ffordd sydd hefyd yn fwy cost-effeithiol.

Carchar Rhuthun yn Derbyn Gwobr Traveller’s Choice Tripadvisor

Mae Carchar Rhuthun, carchar Fictoraidd hanesyddol yng nghanol Sir Ddinbych, sydd erbyn hyn yn amgueddfa, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi ennill gwobr fawreddog  Tripadvisor Traveller’s Choice Award unwaith eto ar gyfer 2025.

Mae hyn yn nodi’r ail flwyddyn yn olynol y mae Carchar Rhuthun wedi ennill y wobr yma, gan ei osod ymysg y prif atyniadau yng ngogledd Cymru, ac mae’n cydnabod ei ragoriaeth barhaus yn darparu profiadau rhagorol i ymwelwyr. 

Mae’r Traveller’s Choice Award gan Tripadvisor yn cael ei ddyfarnu’n flynyddol i atyniadau, darparwyr llety, a bwytai sy’n cael adolygiadau eithriadol o dda yn gyson ar blatfform Tripadvisor gan ymwelwyr.

Gall ymwelwyr â Charchar Rhuthun ymgolli eu hunain yn realiti bywyd mewn carchar Fictoraidd o dan y ‘system dawel’ enwog. Gyda’i isloriau atmosfferig, llawr uchaf sydd yn arddull Pentonville, a straeon am garcharorion enwog megis Coch Bach y Bala, mae’r Carchar yn cynnig cymysgedd o hanes a phensaernïaeth.  Mae arddangosfeydd rhyngweithiol, tywysydd sain cynhwysfawr, a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan, yn sicrhau bod y carchar yn gadael argraff ar bob ymwelydd.

Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu:

“Rydym wrth ein boddau ein bod wedi ennill Gwobr Traveller's Choice am yr ail flwyddyn. Mae wir yn brawf o ymroddiad ein tîm, sy’n gweithio’n galed gydol y flwyddyn i ddod â straeon y Carchar yn fyw mewn ffyrdd creadigol a difyr.

“Rydym ni mor ddiolchgar i’n hymwelwyr am eu geiriau caredig a’u cefnogaeth barhaus. Mae gwybod bod pobl yn gadael wedi’u hysbrydoli i adael adolygiadau mor gadarnhaol yn golygu popeth i ni.”

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae Carchar Rhuthun yn atyniad hynod boblogaidd yr ydym yn ffodus iawn i’w gael ar ein carreg drws yma yn Sir Ddinbych.

“Mae’r gydnabyddiaeth yma eto yn taflu goleuni ar ymrwymiad diwyro Carchar Rhuthun i gadw ei dreftadaeth unigryw tra’n cynnig profiadau deniadol, addysgiadol a chofiadwy i bobl o bob oed”.

I gael mwy o wybodaeth am Garchar Rhuthun ac i gynllunio eich ymweliad, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth neu e-bostiwch dîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych treftadaeth@sirddinbych.gov.uk   

Disgyblion Rhuddlan yn dysgu am yr hanes o dan eu hystafelloedd dosbarth

O ganlyniad i sgwrs gan Archeolegydd Heneb, Ian Grant, cafodd aelodau’r clwb haf (Clwb Hwyl Jester’s) yn Ysgol y Castell yn Rhuddlan gyfle i ddysgu am yr hanes sydd o dan dir eu hysgol.

Disgyblion, cynrychiolwyr o'r Cyngor, Bryn Build a Heneb o flaen y gwaith newydd yn Ysgol y Castell, Rhuddlan.

Ar hyn o bryd mae gwaith ymestyn yn cael ei wneud yn Ysgol y Castell a fydd yn golygu bod 16 metr sgwâr o ofod ystafelloedd dosbarth ychwanegol yn cael ei ychwanegu at 4 ystafell ddosbarth, a fydd yn cynhyrchu estyniad cyfan o 64 metr sgwâr y bydd yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu ar yr un pryd. Gan fod yr ysgol wedi'i lleoli ar safle a ddiogelir, mae’n rhaid i archeolegydd fonitro'r gwaith cloddio, ac mae’r gwaith diweddaraf, sef cloddio tir ar gyfer y tanc gwanhau ac estyniad yr iard, hefyd yn dod dan y gofyniad hwn.

Yn ystod y sgwrs, cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu am Ruddlan a safle eu hysgol drwy’r oesoedd, a sut mae’r dirwedd a’r darganfyddiadau archeolegol wedi helpu archeolegwyr i ddysgu rhagor am batrymau ymddygiad pobl o wahanol oesoedd allweddol, gan gynnwys yr oesoedd canol, ac yn gynt na hynny hyd yn oed.

Disgyblion yn mynychu sgwrs cyn ymweld â'r safle.

Cafodd y disgyblion weld rhai o’r darganfyddiadau archeolegol a ddarganfuwyd ar y safle o nifer o gloddiadau gwahanol (nid y gwaith cloddio mwyaf diweddar), a oedd yn cynnwys darnau o grochenwaith canoloesol, hen esgyrn anifeiliaid a darnau o offer a ddarganfuwyd.

Archeolegydd Heneb, Ian Grant.

Ar ôl y sgwrs a’r daith o’r hyn a ddarganfuwyd ar safle’r ysgol, cafodd y disgyblion weld y cynnydd ar y gwaith sy’n digwydd yn yr ysgol gan Bryn Build, sy’n ymgymryd â’r gwaith, a oedd yn cynnwys gweld iard yr ysgol sydd wedi’i hymestyn a’r lle a gloddiwyd ar gyfer y tanc gwanhau.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Roedd yn wych bod yn bresennol ar gyfer y sgwrs a’r daith yn Ysgol y Castell. Dysgais lawer am hanes diddorol safle'r ysgol, sy'n dyddio'n ôl ymhellach nag yr oeddwn i'n ei sylweddoli.

Roedd hefyd yn wych gweld y cynnydd ar y gwaith ymestyn, a fydd yn uwchraddio ac yn gwella dysgu a lles y disgyblion, a bydd cyfleusterau dysgu newydd yn cael eu hychwanegu yr un pryd ag y bydd yr estyniad yn cael ei adeiladu.”

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Llywodraethwr Ysgol, Cynghorydd Sir ar gyfer Ward Rhuddlan a Chadeirydd y Cyngor:

“Mae mor bwysig bod disgyblion yn dysgu am hanes eu hardal, a’r straeon gwerthfawr a diddorol sydd o dan eu traed nhw. 

Mae ymgysylltu â'u hanes lleol yn helpu disgyblion i ddysgu rhagor ynghylch sut a pham y mae’r ardal maen nhw’n byw ynddi fel y mae heddiw. Mae gan ddisgyblion Ysgol y Castell y cyfle prin i ddysgu am yr hanes sydd yn llythrennol o dan eu traed nhw, yng nghae eu hysgol.”

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, Cynghorydd Sir Ward Rhuddlan:

“Yn y cyfarfod roedd o’n braf gweld pa mor ymgysylltiedig a gwybodus oedd y plant.

Roedd nhw’n amlwg yn awyddus iawn i weld y gloddfa archaeolegol a’r arteffactau a oedd ar ddangos.

Mae'n bwysig i'r plant wybod am yr hanes, a bod rhai o'r creiriau a geir wrth ymyl yr ysgol yn Rhuddlan hyd at 9000 o flynyddoedd oed. Hoffwn ddiolch i staff Heneb am y cyflwyniad rhagorol ac i bawb a oedd yn rhan o'r gloddfa archaeolegol.

Ar ôl bod yn gweithio gyda'r ysgol am y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wrth fy modd bod yr estyniad angenrheidiol yn mynd rhagddo.”

Mae cam cyntaf y prosiect hwn wedi derbyn arian cyfatebol o 65% gan Lywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.  Mae 35% o’r cyllid sy’n weddill wedi dod yn bennaf o gyfraniad datblygwr a ddarparwyd gan ddatblygiad tai Tirionfa yn Rhuddlan.

Codi ymwybyddiaeth o fasnachwyr twyllodrus yn Sir Ddinbych

Yn dilyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau am fasnachwyr twyllodrus, mae Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn rhybuddio preswylwyr am y peryglon o droseddau stepen drws.

Gall masnachwyr twyllodrus effeithio ar unrhyw un, ond yn aml caiff yr henoed a phobl ddiamddiffyn eu targedu gan bobl sy’n cynnig gwasanaethau gwelliannau i’r cartref.

Gall galwyr gynnig gwasanaethau megis glanhau ffenestri/gwteri, gwaith atgyweirio ar lwybrau a dreifs, gwaith to neu adeiladu, garddio a chynnal a chadw coed, a chael gwared ar fwsog oddi ar doeau a gallant ymddangos yn unigolion dymunol, ond maent yn troi i fod yn benderfynol ac yn ddarbwyllol yn gyflym iawn wrth ddechrau mynd drwy eu ‘sgript’ gwerthu.

Yn aml defnyddir technegau codi braw megis dweud bod gwteri’n gollwng a fydd yn achosi tamprwydd, gwreiddiau coed a fydd yn difrodi sylfaeni. Gall fod yn hawdd iawn i bobl gael eu twyllo gan bobl o’r fath.

Mae rhai masnachwyr hefyd yn ymweld â thai pobl i werthu cynnyrch cartref, gan honni eu bod wedi cael eu rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar a bod y gwaith hwn yn rhan o’u cynllun adsefydlu.  Defnyddir y twyll hwn yn aml i ddarganfod ble mae’r henoed a phobl ddiamddiffyn yn byw, a bydd y masnachwyr yn aml yn pasio’r wybodaeth hon ymlaen. 

Mae Tîm Safonau Masnach y Cyngor yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus iawn wrth agor y drws i alwyr diwahoddiad, a pheidio â chytuno i’r gwaith neu brynu nwyddau neu wasanaethau drwy alwad stepen drws. 

Anogir trigolion hefyd i gadw llygad allan am eu cymdogion diamddiffyn a allai fod yn wynebu risg uwch o gael eu twyllo a rhoi gwybod am unrhyw bryderon i’r heddlu a’r Safonau Masnach.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

 “Mae masnachwyr twyllodrus a throseddau stepen drws yn peri risg, yn enwedig i breswylwyr hŷn a diamddiffyn yn Sir Ddinbych, felly mae’n bwysig bod pobl yn gwybod beth i’w wneud os ydyn nhw’n amau bod masnachwr sydd wedi bod i’w cartref yn masnachu’n amhriodol.

“Mae’n bwysig nad yw trigolion yn coelio’r tactegau codi braw, dulliau o werthu dan bwysau neu ostyngiadau o ran pris, ni fydd galwyr dilys yn meindio aros neu ddod yn ôl ar ôl i chi gael amser i wirio eu gwybodaeth.

“Rydym yn annog preswylwyr yn gryf i ymgyfarwyddo â chanllawiau’r Cyngor ar fasnachwyr twyllodrus a throseddau stepen drws trwy fynd i’n gwefan bwrpasol.”

I roi gwybod am fasnachwyr twyllodrus i Safonau Masnach, ffoniwch linell gymorth Gwasanaeth Dinasyddion Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. I gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg 0808 223 1144. Mewn argyfwng ffoniwch 999. Neu am ragor o wybodaeth ar sut i osgoi masnachwyr twyllodrus ewch i'n gwefan.

Morag y Munro yn serennu yn y sioe

Mae cerbyd 4x4 trydan cyntaf y DU yn cael blas ar ucheldiroedd Sir Ddinbych yn Sioe Dinbych a Fflint.

Mae cerbyd 4x4 trydan cyntaf y DU yn cael blas ar ucheldiroedd Sir Ddinbych yn Sioe Dinbych a Fflint.

Bydd Morag y Munro yn cael ei arddangos yn stondin Gwasanaethau Fflyd Sir Ddinbych yn sioe 2025 ar Awst 21.

Gyda phâr o gyrn ar fymper y cerbyd mewn teyrnged i'w wreiddiau o’r Alban, bydd ymwelwyr hen ac ifanc yn gallu ymgynefino â’r ychwanegiad newydd a fydd yn toc yn nodwedd gyfarwydd wrth symud ar draws tirwedd Bryniau Clwyd.

Mae dyfodiad Morag, y cyntaf o'i fath yn unrhyw le yn y DU, wedi'i wneud yn bosibl oherwydd cyllid gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a'r angen i ddisodli tryc codi sy'n cael ei bweru gan danwydd ffosil sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes yn y fflyd.

Mae'r ychwanegiad hwn yn rhan o ymgyrch barhaus y Cyngor i leihau ôl troed carbon ei Fflyd.

Bydd y Munro Series-M M280 yn cael ei ddefnyddio gan geidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i helpu gyda dyletswyddau dyddiol ar y bryniau a bydd wedi'i leoli ym Mharc Sirol Loggerheads.

Mae ganddo ystod gyrru trydan ‘yn byd go iawn’ o 170 milltir, capasiti tynnu o 3.5 tunnell ac mae'n gerbyd cynnyrch cyfres cyntaf o'r Alban mewn mwy na 40 mlynedd.

Wedi'i enwi'n Morag oherwydd ei natur debyg i'w gymheiriaid gwartheg yr Ucheldir, dewiswyd y Munro am ei allu i ymdopi â thirwedd Bryniau Clwyd a safleoedd bryniog eraill, ar ôl cael ei brofi'n drylwyr ar bob math o sefyllfaoedd oddi ar y ffordd a gallu ymdopi â graddiannau uwchlaw 40 gradd.

Mae cyflwyno Munro yn rhan o ymdrech barhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau allyriadau carbon y fflyd, gwella ansawdd yr aer, a lleihau costau cynnal a chadw a gwasanaeth hirdymor drwy ddisodli cerbydau ar ddiwedd eu hoes gyda cherbydau trydan cyfwerth.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  "Bydd Morag yn ychwanegiad gwych i gefnogi'r ceidwaid gyda gwaith ar draws tirwedd Clwyd a bydd yn hawdd i ymwelwyr â'r ardal ei weld hefyd.  Mae hefyd yn wych cael cerbyd trydan cyntaf, a ddatblygwyd gan y gwledydd cartref yn y DU, yn helpu i gynnal tirweddau Sir Ddinbych.

“Bydd yr ychwanegiad newydd hwn yn darparu milltiroedd mwy gwyrdd a glanach am gost tanwydd is a chyda'r costau cynnal a chadw cyffredinol yn llai hefyd, bydd yn darparu arbedion tymor hir.

“Mae'n gerbyd addas i weithredu yn yr ardal hon o harddwch naturiol eithriadol a byddwn yn annog pawb i ddod i weld Morag a sgwrsio â'n staff fflyd i ddysgu mwy yn y sioe.”

Tipio anghyfreithlon yn Llanferres

Bu digwyddiad sylweddol o dipio anghyfreithlon yn oriau mân fore Iau mewn cilfach yn Llanferres oddi ar yr A494.

Illegal fly-tipping in LlanferresCredir bod lori fawr wedi tipio tua 20 tunnell o wastraff rhwng 10pm nos Fercher, 13 Awst a 6am nos Iau, 14 Awst. Oherwydd y cyfaint enfawr o wastraff, mae Cyngor Sir Dinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr i'r mater hwn.

Dywedodd Tony Ward, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a'r Amgylchedd yn y Cyngor: “Hoffem sicrhau trigolion bod staff o'r Cyngor wedi trefnu i glirio’r gwastraff ddydd Llun, 18 Awst.

“Rydym am atgoffa pawb yn y sir fod ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. Gall tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff anghyfreithlon gael effaith niweidiol ar yr amgylchedd a gall hefyd arwain at ddirwyon sylweddol i'r rhai sy'n gyfrifol.

Os oes gan drigolion unrhyw luniau teledu cylch cyfyng neu gamera dash o’ch car neu unrhyw wybodaeth arall, gallwch ei gofnodi drwy un o’r ffyrdd canlynol:

Ffoniwch Cyngor Sir Ddinbych ar 01824 706 000 (8.30am – 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

Adroddwch arlein ar dudalen ‘Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon’ ar y wefan.

Llinell adrodd 24 awr Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 

Gwaith ar brosiect hen Ysbyty Gogledd Cymru i ddechrau yn fuan

(Cyn Ysbyty Gogledd Cymru)

Mae gwaith ar cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych wedi cyrraedd carreg filltir allweddol, ac mae’r contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer y gweithgaredd ecolegol cychwynnol.

Mae Cyngor Sir Ddinbych, pwy sy'n berchen ar y safle, wedi penodi Jones Bros Civil Engineering UK ar gyfer cam cynnar y gwaith diogelu ecoleg, gan gynnwys adeiladu dwy ysgubor ystlumod.

Mae'n gam hanfodol yn amserlen y prosiect, a fydd yn caniatáu ar gyfer dymchwel adeiladau presennol, cam a fydd yn gwella iechyd a diogelwch ar y safle ac yn cefnogi cam nesaf y datblygiad.

Nod cynllun cyn Ysbyty Gogledd Cymru yw cyflawni rhaglen o welliannau adfywio mewn tri cham gwahanol dros gyfnod o 12 mlynedd, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ddinbych a chefnogaeth gan bartneriaid allweddol gan gynnwys Uchelgais Gogledd Cymru.

Bydd y cynllun yn ailddatblygu'r safle diffaith 53 erw ac yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2*, cartrefi newydd, unedau masnachol, yn ogystal â mannau cymunedol gwyrdd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael ychydig yn llai na £20 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau y cytunwyd arnynt yn etholaeth Dyffryn Clwyd trwy ei gais 'Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol'. 

Dyrannwyd £3 miliwn o'r cyllid hwn yn y cais a gymeradwywyd tuag at gam un y prosiect drwy Raglen Dyffryn Clwyd.

Mae hyn yn ychwanegol at y £6.94 miliwn ar gyfer y prosiect a gafwyd drwy Uchelgais Gogledd Cymru fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei hariannu gan lywodraethau’r DU a Chymru.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Rhaglen Tir ac Eiddo y Cynllun Twf:

“Rwy’n falch iawn bod y cam cyntaf hwn mor agos at ddechrau.  

“Mae hon yn garreg filltir bwysig arall yn natblygiad prosiect cyn Ysbyty Gogledd Cymru.

“Mae’r cynlluniau hyn yn bwriadu adfywio tirnod hanesyddol amlwg yn Sir Ddinbych yn ogystal â chefnogi twf yr economi leol.”

Dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau Uchelgais Gogledd Cymru:

“Rydym ni’n croesawu’r penderfyniad gan Gyngor Sir Ddinbych i gymeradwyo’r cyllid o £3 miliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwaith Cam 1 yn cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i’r prosiect ac yn hanfodol o ran hwyluso datblygiad y safle a chyflawni’r prosiect cyfan. 

“Bydd y buddsoddiad mewn datblygu a darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant newydd ar y safle yn gatalydd ar gyfer adfywio’r dref a thwf economaidd ehangach ar draws y sir a’r rhanbarth.”

Dywedodd llefarydd Jones Bros:

“Mae adeiladau cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn adfeiliedig, yn cynnwys asbestos, ac yn fregus yn strwythurol, ac mae hyn yn bryder iechyd a diogelwch.

“Mae Jones Bros wedi diogelu’r safle ac mae ganddyn nhw ddiogelwch ar y safle i atal pobl rhag mynd i mewn iddo.

“Iechyd a diogelwch yw ein prif flaenoriaeth, a bydd y garreg filltir hon i adeiladu ysguboriau ystlumod yn chwarae rhan hanfodol i gynnal arolygon pellach, cysylltu â’r cyngor i alluogi opsiynau adfer a dymchwel y safle.”

Cynllun grant i gefnogi gwelliannau i eiddo masnachol yn agor

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn agor ei Grant Datblygu Eiddo Masnachol unwaith eto.

Mae’r grant ar agor i eiddo masnachol sydd wedi’u lleoli yng nghanol wyth prif dref a dinas ar draws y Sir ac mae’n rhaid iddynt fod o fewn ffiniau canol y ddinas neu dref yn un o’r canlynol i fod yn gymwys:  Corwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, y Rhyl, Rhuthun, Llanelwy.

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn cynnig grantiau buddsoddi cyfalaf i adfywio eiddo masnachol canol dinas a threfi Sir Ddinbych.

Gall y cynllun grant, sy’n ffurfio rhan o Brosiect Cynllun Gwella Eiddo Masnachol yn ehangach, ddarparu grant o £5,000 i £50,000 i brosiectau unigol er mwyn datblygu a diweddaru eiddo masnachol.

Mae cyllid ar gyfer hyd at 70% o brosiect ar gael i wella tu allan eiddo masnachol drwy’r cynllun hwn. Yr uchafswm y gellir gwneud cais amdano yw £50,000. 

Mae disgwyl i ymgeiswyr allu ariannu gweddill cost y prosiect eu hunain.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae Grant Datblygu Eiddo Masnachol Sir Ddinbych yn fenter wych sydd yn targedu eiddo gwag, segur neu flêr mewn canol trefi ar draws Sir Ddinbych er mwyn gwella amwynderau gweledol, hybu buddsoddiad, creu mwy o waith a chyfleoedd a gwneud canol trefi yn lleoedd mwy bywiog.

 “Bydd y cynllun newydd yma’n ased i unrhyw eiddo busnes neu fasnachol sydd wedi’u lleoli mewn canol trefi ar draws y Sir sydd eisiau gwella tu allan eu hadeiladau i helpu i wella eu heiddo a denu rhagor o fusnes. Nid yn unig y bydd o fudd i fusnesau sy’n derbyn y cyllid, ond bydd hefyd yn arwain at ganol trefi sy’n edrych yn well ar draws Sir Ddinbych a fydd yn gwella teimlad a chanfyddiad o’r ardaloedd, gan annog pobl leol i gymryd balchder yng nghanol eu tref.”

I gael mwy o wybodaeth am y cynllun a sut i ymgeisio am grant, ewch i wefan Cyngor Sir Ddinbych: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cyllid-a-grantiau/grant-datblygu-eiddo-masnachol-sir-ddinbych.aspx

Y Cyngor yn llongyfarch disgyblion ar ganlyniadau Lefel A

Mae Cyngor Sir Dinbych yn llongyfarch disgyblion Sir Ddinbych sy'n derbyn eu canlyniadau Lefelau A ag AS heddiw (Dydd Iau, 14eg Awst).

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch disgyblion Sir Ddinbych sydd wedi derbyn eu canlyniadau Lefel A ag AS heddiw. Mae hwn yn ddiwrnod enfawr iddyn nhw, ac yn gamp enfawr sy'n helpu i lunio eu camau nesaf.

Mae disgyblion wedi gweithio'n galed iawn unwaith eto eleni, a hoffwn eu llongyfarch ar y gamp hon.

Hoffwn hefyd estyn fy niolch i'r staff sy'n gweithio'n ddiflino yn ein ysgolion, ac yn helpu i wneud y dyddiau hyn yn bosibl. Mae gwaith partneriaeth gwych wedi sicrhau bod ein myfyrwyr wedi cyflawni'r canlyniadau gorau posibl, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein myfyrwyr gweithgar eto eleni.

Hoffem ddymuno'r gorau i bob dysgwr ar eu camau nesaf, mae'r dyfodol ar agor iddyn nhw, a byddwn yn eu hannog i'w afael â'r ddwy law.”

Gwelliannau i neuadd fwyta a diogelwch Ysgol dros yr haf

Mae gwaith wedi dechrau yr haf hwn ar welliannau yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen.

Mae Tîm Eiddo Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli dau faes gwaith yn yr ysgol i helpu i fod o fudd i ddisgyblion a staff ar y safle.

Er mwyn cefnogi lles disgyblion a staff, caiff gwaith ei wneud i ddisodli’r gwydr yn y neuadd fwyta bresennol.

Caiff ei ddisodli â tho fflat wedi’i inswleiddio, a fydd yn cynnwys goleuadau to polycarbonad newydd. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst.

Mae’r tîm eiddo hefyd yn dechrau ail gam o waith sydd â’r nod o wella diogelwch ar safle’r ysgol.

Bydd Cam 2 Cynllun Diogelu Ysgol Dinas Bran yn gweld gwaith yn cael ei wneud ar y safle i wella dulliau rheoli traffig cerddwyr a cherbydau. Bydd y datblygiad yn cynyddu gwahaniad oddi wrth risg posibl ar ochr y ffordd, er mwyn gwella diogelwch disgyblion yn yr ysgol.

Disgwylir i’r gwaith gael ei orffen erbyn diwedd mis Hydref. 

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rydym am gynnal yr amgylchedd gorau yn ein hysgolion ar draws Sir Ddinbych er mwyn cefnogi datblygiad disgyblion a hybu dysgu cryf. Rwy’n falch bod y gwaith hwn yn digwydd yn Ysgol Dinas Bran a hoffwn ddiolch i’r ysgol am eu gwaith ac i’r Tîm Eiddo am reoli’r prosiectau hyn.” 

 

Prom y Rhyl wedi'i ail-ddychmygu a'i hailwampio i ailagor

Ar ôl cau ar gyfer adnewyddu fel rhan o'r gwaith amddiffyn môr hanfodol y Cynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl, mae'r prom yn y Rhyl am ailagor i'r cyhoedd ar Awst 15fed.

Y Prom

Mae'r prom sydd wedi'i ailwampio wedi'i godi i amddiffyn yr arfordir ac mae ganddo arwyneb newydd. Mae rampiau mynediad newydd hefyd wedi'u hychwanegu at y dyluniad newydd i helpu gyda hygyrchedd.

Mae gwaith diweddar a wnaed ar y prom wedi gweld grisiau concrit wedi'u rhag-gastio wedi'u gosod, lefel y ddaear wedi'i chodi i ddarparu amddiffyniad rhag llifogydd. Hefyd mae draeniad, arwyneb a phalmant wedi'u gosod.

Ynghyd â'r gwaith hwn, mae goleuadau stryd wedi'u gosod ar gyfer lle mwy diogel a mwy disglair ac mae dodrefn stryd newydd, gatiau llifogydd a chanllawiau wedi'u hychwanegu.

Mi fydd y prom hefyd yn cael ei ddatblygu i gynnwys ardal ymarfer corff awyr agored i oedolion ar lan y môr, paneli chwarae gemau, paneli chwarae cerddorol, paneli cyfathrebu, paneli chwarae dychmygus gyda thema'r cefnfor, gêm ryngweithiol bywyd morol 'Dod o hyd i'r creaduriaid morol brodorol' yn ogystal â delweddau ffitrwydd ar y llawr ac ardal chwarae ryngweithiol. Mae’r gwaith gosod hyn dal ar y gweill.

Dan arweiniad yr artist Ffion Pritchard, a gafodd gymorth nifer o grwpiau cymunedol, bydd cyfres o furluniau newydd bywiog wedi'u hysbrydoli gan y gymuned hefyd yn cael eu gosod, a fydd yn ymestyn dros yr amddiffynfeydd arfordirol newydd.

Yn ogystal ag agor y prom newydd, mae ardal chwarae newydd Parc Drifft am agor yn ei lleoliad gwreiddiol, gyda dyluniad newydd a ddewiswyd gan y gymuned ym mis Medi.

Parc Drifft

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd:

“Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd y prom yn y Rhyl yn ailagor i'r cyhoedd ar Awst 15fed. Ar ôl y gwaith codi fel rhan o'r Gwaith Amddiffyn Môr, bydd y promenâd eiconig wedi'i ailwampio a'i ail-ddychmygu ar agor unwaith eto i'r cyhoedd ei fwynhau.

Mae'r gwaith a wnaed fel rhan o'r prosiect Amddiffyn Môr wedi bod yn hanfodol ac yn angenrheidiol i amddiffyn ein harfordir, ein cartrefi a'n busnesau rhag llifogydd a digwyddiadau tywydd garw  sydd ar gynnydd. Mae'r prom wedi'i godi'n sylweddol, ac mae mesurau amddiffyn rhag llifogydd newydd wedi'u gweithredu. Hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r prosiect bron â'i gwblhau.

Mae'r gwaith ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Canol y Rhyl yn gam pwysig o ran amddiffyn ein harfordir, ynghyd â Chynllun Amddiffyn Arfordirol Canol Prestatyn a gwblhawyd ac a agorwyd yn swyddogol yn ddiweddar.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y Rhyl.

Gyda Marchnad y Frenhines sydd newydd ei hailagor yn gweld niferoedd gwych o ymwelwyr, a Pharc Drifft sydd ar fin agor, ynghyd â Sinema newydd y Strand, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i'r Rhyl.”

Adeiladau’r Frenhines - dros 120 mlynedd o hanes eiconig yn y Rhyl

Gyda dyfodiad y rheilffordd i’r Rhyl ganol yr 1800au, golyga amser teithio haws a chyflymach i ymwelwyr dydd a thwristiaid, a ddaeth yn bennaf o ardaloedd diwydiannol y gorllewin-ganolbarth a gogledd-orllewin i ymweld â phier haearn modern newydd y Rhyl, Gerddi’r Gaeaf a myrdd o westai a thai llety oedd i’w gweld ar hyd y blaen. 

Ynghyd â’r traeth tywodlyd eang enwog y gwyddom amdano heddiw, sy’n cynnig llecyn hardd i fwynhau’r machlud haul a llwybr cerdded ymlaciol ar lan y môr, daeth y Rhyl yn gyrchfan glan y môr yr oedd rhaid ymweld â hi, ac yn em ar arfordir gogledd Cymru.

Adeiladwyd fel ‘Palas y Frenhines’ yn 1902, roedd Adeilad y Frenhines gwreiddiol yn rhyfeddod brics coch oedd yn llawn ystafelloedd dawnsio a theatrau, cyn i dân dinistriol dim ond pum mlynedd yn ddiweddarach yn 1907 olygu y bu’n rhaid ailadeiladu, a arweiniodd at enw newydd, sef ‘Theatr ac Ystafell Ddawnsio y Frenhines’. Daeth yn ganolbwynt yng nghanol y Rhyl gydag arlwy unigryw megis sglefr-rolio a pherfformiadau cerddorfaol min nos.

Daeth y theatr a’r ystafell ddawnsio yn ffynhonnell o ryddhad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe gynhaliodd y lleoliad Gymdeithas Gwasanaeth Milwrol Adloniant (ENSA), a oedd yn gwmni wedi'i gefnogi gan y Llywodraeth oedd yn helpu i roi hwb i forâl yn ystod un o gyfnodau anoddaf Prydain.

Croesawodd y lleoliad lawer o enwau enwog drwy’r fynedfa enwog yn cynnwys y ddeuawd gomedi enwog Laurel a Hardy ar eu taith olaf, Marty Wilde & The Wildcats a Sir Cliff Richard & The Shadows.

Yn ystod y 1960’s a’r 70au, bu newid yn y modd yr oedd y gymuned yn defnyddio’r lleoliad.  Ar ôl i’r theatr gau, cafodd yr ardal ei ailddatblygu’n gyflym mewn i’r farchnad enwog, a ddaeth yn farchnad dan do bywiog a phrysur a oedd yn gwerthu swfenîrs i dwristiaid, a daeth yn boblogaidd bob tywydd gyda thrigolion lleol, oedd yn gallu cyfarfod yno, waeth beth oedd y tywydd.

Er bod tueddiadau ar y stryd fawr yn newid, llwyddodd y lleoliad i gadw ymdeimlad cryf o gymuned, ac roedd lleoliad y farchnad yn darparu cysylltiad cryf o’r stryd fawr i’r promenâd.  Llwyddodd y stondinau i oresgyn, ond dros amser, daeth yr adeilad yn anniogel ac yn anaddas at y diben. Roedd angen diweddariad ac ailwampiad.

Yn 2018, rhoddwyd cynlluniau ar waith i greu delwedd newydd a modern ar gyfer Adeilad y Frenhines. 

Caffaelwyd yr hen adeiladau, ac yna cafodd y mwyafrif eu dymchwel oherwydd pryderon diogelwch, er mwyn gwneud lle ar gyfer yr adeilad rydym bellach yn ei alw’n Marchnad y Frenhines. Cafodd y fynedfa ar Stryd Sussex ei gadw a’i gynnwys mewn i’r dyluniad newydd.

Mae’r gofod newydd ar ei newydd wedd, a agorodd fis diwethaf yn cynnwys gwerthwyr bwyd annibynnol, bar dwy ochr, gofod lledlawr gyda gemau ac adloniant, a llwyfan modern, sy’n cynnal nosweithiau adloniant yn aml.  Mae Marchnad y Frenhines yn prysur droi yn ganolbwynt i’r gymuned yng nghanol y Rhyl, ac mae’n darparu bwyd blasus ac adloniant cyffrous i bobl y Rhyl a thu hwnt, gan roi bywyd newydd mewn i’r gofod eiconig yma unwaith eto. 

Mae dros 120 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r lleoliad agor fel ‘Palas y Frenhines’ yn ôl yn 1902, ond mae’r gwerthoedd craidd a wnaeth yr adeilad enwog mor eiconig yn dal i fodoli hyd heddiw, mae’r ysbryd cymunedol i’w deimlo ar du allan a thu mewn i Farchnad y Frenhines a’r gofod digwyddiadau.

Ers i’r drysau agor, mae miloedd wedi heidio i ymweld, i ymgynnull, i sgwrsio, i ganu, i ddawnsio a chyfarfod yn lleoliad Parêd y Gorllewin sydd yn prysur sicrhau ei le fel lleoliad y mae’n rhaid ymweld ag o ar arfordir gogledd Cymru.

Gwaith adnewyddu yn dechrau mewn ysgol ym Mhrestatyn

Mae gwaith wedi dechrau'r haf hwn i adnewyddu rhan o ysgol ym Mhrestatyn.

Mae Tîm Eiddo Cyngor Sir Dinbych, gyda chefnogaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor, yn rheoli rhaglen adnewyddu ar gyfer Bloc 1 deulawr yn Ysgol Uwchradd Prestatyn.

Bydd yr adnewyddu mewnol llawn yn cynnwys nenfydau crog newydd, gorchuddion llawr, gorffeniadau wal, sgertins derw a rheiliau dado.

Bydd y gwaith hefyd yn gweld drysau tân newydd yn cael eu gosod ynghyd ag uwchraddiadau mecanyddol a thrydanol.

Disgwylir i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref. 

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rydym yn falch o allu bwrw ymlaen â’r gwaith hwn i adnewyddu’r ardal hon o’r ysgol.  Bydd adnewyddu Bloc 1 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn gwella’r amgylchedd dysgu i ddisgyblion ac athrawon yn fawr.

“Rydym yn ddiolchgar i’r ysgol am eu cefnogaeth tra bod y gwaith pwysig hwn yn cael ei wneud.” 

 

 

Gwelliannau pellach i Bromenâd y Rhyl

Fe fydd gwaith yn cael ei wneud i wella ardaloedd ar hyd Promenâd y Rhyl.

Wedi’i ariannu gan brosiect Amddiffynfeydd Arfordirol a Chyllid Trosiannol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fe fydd y gwaith yn cael ei gydlynu a’i wneud gan adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych.

Mae’n dilyn gwaith diweddar a wnaed gan y tîm drwy gyllid Ffyniant Gyffredin i wella’r ardal, yn cynnwys ailwampio’r pedwar pwll ar hyd y promenâd.

Yn dilyn arolygon safle a gynhaliwyd yn ddiweddar, fe fydd y rownd nesaf o waith yn mynd i’r afael â phroblemau a ganfuwyd. 

Fe fydd prosiect Amddiffynfeydd yr Arfordir yn ariannu'r gwaith canlynol:

  • Ailosod canllawiau a phaneli sydd wedi rhydu. Fe fydd y rhain yn cael eu paentio i gyd-fynd â’r canllawiau a phaneli sydd eisoes yno.
  • Trin y strwythur gwylanod sydd wedi rhydu, a’i weldio a’i uno gyda deunydd gwrth-rydu, ei lanhau a’i ail-baentio i roi amddiffyniad ychwanegol.
  • Paentio’r colofnau a chanllawiau drws nesaf i’r Arena Digwyddiadau/Sealife Centre, fe fydd y goleuadau stryd a chanllawiau drws nesaf i’r ardal yma’n cael eu paentio hefyd.
  • Fe fydd hadau’n cael eu hau a bydd tirlunio meddal yn cael ei osod ar hyd wal yr amddiffynfeydd morol.

Fe fydd cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael ei ddyrannu er mwyn cwblhau’r gwaith canlynol, sydd bennaf o fewn yr Arena Digwyddiadau.

  • Fe fydd y lloches seddi’n cael ei ddiweddaru oherwydd problemau rhwd.
  • Cael gwared ar byst y seddi a chanopïau to. Mae’r strwythurau to presennol yn anniogel, felly mae’n rhaid eu tynnu. Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol wedi bod yn yr ardaloedd yma hefyd, ac i fynd i’r afael â hyn, fe fydd y pyst cefnogi a chanopïau'n cael eu tynnu i adael y seddi’n unig.
  • Paentio paneli dur addurniadol i gyd-fynd â’r gwaith paent presennol, sydd wedi cael ei wneud yn ddiweddar.
  • Trwsio cerrig copa sydd wedi'u difrodi mewn dau le, a bydd angen eu hailosod/amnewid.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n bleser gennym barhau â’r gwelliannau ar hyd Promenâd y Rhyl drwy’r cyllid y bu modd i ni gael gafael arno.  Fe fydd y gwaith yma’n cyd-fynd â’r ardaloedd sydd eisoes wedi cael eu gwella trwy gyfarwyddyd Gwasanaethau Stryd i wella’r rhan bwysig yma o’r Rhyl ymhellach."

Rhagwelir y bydd y rhaglen yma o waith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosibl cyn cyfnod y gaeaf.                    

Gwaith gwella wedi dechrau ym Mharc Gwledig Loggerheads

Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi

Mae gwaith i wella Parc Gwledig Loggerheads, porth i Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, wedi dechrau.

Yn dilyn cwblhau’r gwaith ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ar y safle yn gynharach eleni, bydd gwaith uwchraddio pellach yn dechrau yn y parc gwledig.

Yn 2023, gwnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau eu bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Gorllewin Clwyd.

Mae’r cyllid wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yng Ngorllewin Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Bydd y prosiect yn cynnwys adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi ynghyd â gwelliannau pellach i’r toiledau a gwaith tirlunio allanol, gan gynnwys sicrhau bod y safle yn fwy cynaliadwy trwy ychwanegu paneli solar.

Mae’r contract wedi’i ddyfarnu i ParkCity Multitrade Ltd, sy’n seiliedig yn Llanelwy a bydd y gwaith yn dechrau ganol fis Awst gan bara tan ddechrau mis Mawrth 2026.

Bydd Parc Gwledig Loggerheads ar agor i ymwelwyr trwy gydol y gwaith. Bydd darpariaethau amgen ar waith yn ystod y gwaith, fel toiledau dros dro, cyfleuster arlwyo dros dro newydd a chyffrous, gan arddangos cynnyrch o ogledd ddwyrain Cymru a mannau gwybodaeth i ymwelwyr.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Rydym wedi gweld cynnydd o ran nifer yr ymwelwyr â Pharc Gwledig Loggerheads dros y blynyddoedd diweddar a bydd prosiectau fel rhain, pan fyddan nhw wedi’u cwblhau, yn helpu i ddiogelu’r parc ar gyfer y dyfodol a bodloni disgwyliadau ymwelwyr.

“Mae’r safleoedd hyn yn ardaloedd Tirwedd Cenedlaethol poblogaidd, ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynnal a chadw a datblygu safleoedd fel rhain wrth iddyn nhw ddod yn fwyfwy poblogaidd i sicrhau bod modd i bawb sy’n ymweld â nhw barhau i’w mwynhau.”

Mae cynlluniau ar gyfer gwaith gwella Loggerheads i’w gweld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.

Lleihad allyriadau carbon diolch i fflyd gwyrddach

Mae allyriadau carbon maint jymbo-jet heb eu gwastraffu, diolch i fflyd wyrddach un gwasanaeth.

Ar hyn o bryd, mae tua 15 y cant o Fflyd Gwastraff y Cyngor wedi’u pweru gan drydan a’u defnyddio ar lwybrau addas ar gyfer casglu gwastraff.

Mae’r fflyd hon wedi gweld newidiadau ers 2022 er mwyn helpu i leihau ei hôl-troed carbon, ac ôl-troed carbon y Cyngor, wrth gasglu gwastraff ar draws y sir.

Ar ddechrau 2023, cyflwynwyd dwy lori casglu gwastraff e-Collect Dennis Eagle ar lwybrau yng ngogledd y sir. Mae’r cerbydau yn gallu teithio hyd at 100 milltir a chodi 1000 o finiau gydag un gwefriad.

Mae’r lorïau hyn yn darparu arbedion cost hirdymor trwy gostau rhedeg is o’u cymharu â cherbydau tanwydd ffosil, a chostau cynnal a chadw is oherwydd bod llai o rannau i’w cynnal ar y lorïau.

O fewn y deunaw mis diwethaf, daeth pum lori ailgylchu Electra e-Cargo yn rhan o’r fflyd. Mae’r cerbydau yn gallu teithio hyd at 155 milltir, sydd unwaith eto’n cynnig milltiroedd gwyrddach am gost is, a chostau cynnal a chadw is. Gellir eu gweld allan ar y ffordd hefyd, oherwydd mae enw ar flaen pob un, gallwch weld Christal Clean ar y ffyrdd.

Ar hyn o bryd, mae defnyddio’r cerbydau wedi arwain at arbedion carbon o 409,493kg yn erbyn y cerbydau disel cyfatebol. I roi hyn mewn persbectif, mae hyn yr un fath â Jumbo-jet 747 neu Airbus A380 wedi’u llwytho, tua 67 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd yn eu llawn dwf, neu tua phedwar Flying Scotsman.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym wedi edrych ar ein fflyd yn gyffredinol i weld lle gallwn ni leihau allyriadau trwy gyflwyno cerbydau trydan i ddisodli stoc sydd ar ddiwedd eu hoes a thrwy gefnogaeth ariannol.

“Mae’r gwasanaeth gwastraff yn bwysig, ac mae’r lorïau trydan hyn yn rhan annatod o helpu i leihau’r allyriadau carbon mae’r fflyd yn eu creu bob dydd.

“Mae ein hadran fflyd yn monitro ffyrdd addas o ddarparu gwasanaethau er mwyn lleihau ôl-troed carbon ein cerbydau yn rheolaidd, ac mae defnyddio cerbydau trydan yn enghraifft dda o hyn, a bydd yn helpu i leihau costau hirdymor hefyd, o’u cymharu â rhedeg cerbydau tanwydd ffosil.”

 

 

Bron i 3,500 yn Niwrnod Chwarae am Ddim yn y Rhyl

Ar 6 Awst daeth bron 3,500 o deuluoedd lleol i’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Am Ddim a gynhaliwyd ar Gaeau Chwarae Christchurch gan wasanaeth Ceidwaid Chwarae Cyngor Sir Ddinbych.

Caeau Chwarae Christchurch

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus iawn y llynedd, hwn oedd y 10fed tro i’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gael ei ddathlu yn Sir Ddinbych, sy’n hyrwyddo pwysigrwydd chwarae i blant ac yn helpu plant a theuluoedd i fwynhau’r gwyliau haf.

Cymerodd y plant ran mewn amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys llithren ddŵr, parti ewyn, adeiladu cuddfannau, llanast mawr, gwersyll ninja, ysgol goedwig, celf a chrefft a dinas bocsys cardbord.

Meddai Dawn Anderson, Rheolwr Gofal Plant a Datblygu Chwarae Sir Ddinbych:

“Hwn oedd y Diwrnod Chwarae prysuraf a’r un gorau ers i Sir Ddinbych gynnal y digwyddiad cyntaf un yn ôl yn 2015.

Dros y deng mlynedd ddiwethaf mae’r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth, ac wedi dod yn weithgareddau gwyliau haf allweddol i blant a theuluoedd ar hyd a lled y sir.

Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywydau plant ac mae hybu lles plant yn un o flaenoriaethau’r Cyngor.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Roeddwn i wrth fy modd yn cael mynd i’r digwyddiad blynyddol hynod boblogaidd a phwysig yma unwaith eto eleni, sy’n cael ei gynnal yn rhad ac am ddim i bobl Sir Ddinbych.

Yn ôl yr arfer, bu i bawb fwynhau eu hunain.

Hoffaf ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr a helpodd i wneud y 10fed Diwrnod Chwarae yn un arbennig.”

Lucy Cowley yn ennill Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Llongyfarchiadau i Lucy Cowley o Langollen ar ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam 2025.

Lucy Cowley gyda'r Cynghorydd Emrys Wynne

Cafodd Lucy ei magu dafliad carreg i ffwrdd ym mhentref Is-y-coed, ar gyrion Wrecsam.  Roedd hi’n un o bedwar i gyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Mae Lucy yn byw yn Llangollen ac mae’n athrawes yn Ysgol Gynradd Holt.  Ymdrodd at ddysgu’r Gymraeg yn 2019 ac mae hi bellach yn ymuno gydag eraill sy’n siaradwyr Cymraeg newydd ym mar gwin Gales yn Llangollen a hynny pob pythefnos.  Mae’r grwp yn cyd-drafod ac yn trefnu ymweliadau, gigiau a thripiau, a hynny dros lasied o win! 

Roedd Leanne Parry o Brestatyn hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y tlws, ynghyd a Rachel Bedwin o Fangor a Hammad Hassan Rind, sy’n byw yng Nghaerdydd.

Tiwtor Cymraeg Lucy oedd Non ap Emlyn, sydd wedi disgrifio datblygiad Lucy yn y Gymraeg yn “anhygoel”. Meddai Non: “Daeth hi fewn yn 2019 yn brin ei Chymraeg.  Roedd hi’n frwfrydig iawn … ac yn ymroi i bob tasg yn ardderchog, hefo llawer o hiwmor ac mae hi wedi gwella a gwella a bellach yn rhugl . Iddi hi mae’r Gymraeg yn fwy na iaith, mae’n ffordd o fyw a mae hi eisiau rhannu hwnna hefo pobl eraill."

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg: “Mae llwyddiant Lucy yn meistroli’r Gymraeg yn cadarnhau bod cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 er yn heriol, ond yn bosibl wrth i ni ennill rhagor o siaradwyr Cymraeg newydd.  Wrth longyfarch Lucy a dysgwyr eraill y Gymraeg ar eu llwyddiannau, rhaid diolch i’w tiwtoriaid sydd wedi eu harwain ar eu taith iaith cyffrous."

Cymeradwyaeth ar gyfer hwb cymunedol newydd yng Ngwyddelwern

Cafodd proses dendro'r prosiect ei chymeradwyo gan y Cabinet.

(Argraff Arlunydd)

Mae prosiect sy'n bwriadu darparu ystafell ddosbarth a chyfleuster cymunedol newydd i bentref yn Sir Ddinbych wedi cael ei broses dendro wedi'i chymeradwyo gan y Cabinet yn ddiweddar.

Bydd y prosiect, sydd wedi'i leoli ar safle Ysgol Bro Elwern, yn darparu ystafell ddosbarth, cegin a mannau ategol newydd ar gyfer yr ysgol ochr yn ochr â'r canolbwynt cymunedol newydd.

Mae'r prosiect gwerth £2.7 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant Cyfalaf yr Iaith Gymraeg a Phrydau Ysgol am ddim i ddarparu ystafell ddosbarth newydd a chegin o'r radd flaenaf ar gyfer yr ysgol gynradd, ac mae'r canolbwynt cymunedol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU fel rhan o gyllid grant ar gyfer 10 prosiect cyfalaf sydd â'r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun.

Bydd y canolbwynt cymunedol newydd yn cynnwys neuadd fawr a lle cyfarfod i ddarparu cyfleusterau gwell ar gyfer ymgysylltiadau cymdeithasol i'r gymuned leol.  Bydd yn cael ei reoli gan y Cyngor Cymuned a bydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cylch Meithrin yn rheolaidd. Bydd y cyfleuster hefyd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol lleol eraill gan gynnwys Merched y Wawr a'r Swyddfa Bost.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, Aelod Lleol Gwyddelwern:

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r pentref cyfan fod y prosiect hwn bellach yn symud ymlaen i’r cam nesaf.  Mae wedi bod yn llawer o waith caled i gyrraedd y pwynt hwn, fodd bynnag, rwy’n siŵr pan fydd y gwaith ar ddarparu canolfan gymunedol newydd, ochr yn ochr ag ystafell ddosbarth newydd a chegin o’r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Bro Elwern wedi’i gwblhau, y bydd yn dod yn ased gwerthfawr i bobl Gwyddelwern”.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n bleser clywed y gall y gwaith arfaethedig ar safle Ysgol Bro Elwern symud ymlaen i’r broses dendro nawr.  Bydd y prosiect nid yn unig yn darparu cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf ar gyfer un o’n hysgolion, ond bydd hefyd yn darparu canolfan gymunedol hanfodol i’r trigolion.

“Hoffwn ddiolch i’r aelod lleol a’r Cyngor Cymuned am eu hymrwymiad drwy gydol y broses hon ac mae Cyngor Sir Dinbych yn gyffrous i gefnogi’r prosiect wrth iddo fynd rhagddo”.

Tîm newydd yn dechrau i helpu yrru prosiect adferiad natur yn ei flaen

Mae rôl newydd, dros dro wedi cael ei lansio i helpu i gadw a gwella dolydd blodau gwyllt y Sir ymhellach. 

Mae Gweithwyr Gwasanaethau Stryd i Adfer Natur wedi cael eu penodi i helpu i gefnogi’r gwaith cynnal a chadw parhaus ar Ddolydd Blodau Gwyllt y Sir. 

Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn helpu ac yn amddiffyn natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y Sir. Llywodraeth Cymru sydd yn ei ariannu drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.

Mae gweithwyr Gwasanaethau Stryd yn cydweithio â thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i reoli’r dolydd yn y Sir, ochr yn ochr â’u dyletswyddau cynnal a chadw eraill.

Mae’r rôl newydd yma’n galluogi rheolaeth fwy dynodedig o ddolydd ar draws Sir Ddinbych i gynorthwyo â rheoli a gwella’r safleoedd yn rhan o’r ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a phrosiect Dolydd Blodau Gwyllt Cyngor Sir Ddinbych. Mae hi’n amser pwysig iawn o’r flwyddyn lle mae’r rheolaeth gywir yn hollbwysig i sicrhau bod y safleoedd yn sefydlu ac yn datblygu. 

Efallai y byddwch chi’n gweld ein gweithwyr allan yn torri a chasglu yn fuan yn rhai o’n safleoedd dolydd blodau gwyllt.  Fe fydd rhai o’r safleoedd sydd â nifer isel o flodau gwyllt yn elwa ar ôl cael ei dorri’n fuan i gael gwared â maetholion o’r safle er mwyn lleihau twf gwair ac annog rhagor o flodau gwyllt i ffynnu.

Fe fydd y tîm newydd hefyd yn helpu â gwaith arall sy’n ymwneud â natur a chynnal a chadw coed ledled y Sir y tu allan i dymor y blodau gwyllt.

 Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Fe fydd Cynorthwywyr Gwasanaethau Stryd i Adfer Natur yn ein helpu i wella i reoli ein dolydd ar draws y Sir. Fe fydd y tîm yn ein helpu i fod yn fwy uniongyrchol yn y modd yr ydym yn cynnal a chadw ein safleoedd, yn enwedig y rhai allai fod angen ymyrraeth fwy dwys i’w helpu i ffynnu’n gryfach i fod yn adnodd gwell ar gyfer natur leol. 

 “Fe fydd y tîm yma, ochr yn ochr â’n swyddogion Bioamrywiaeth yn cydweithio i gael effaith gwirioneddol a chadarnhaol ar gadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd pwysig yn Sir Ddinbych, ac ychwanegu amrywiaeth a lliw ar draws ein safleoedd i bobl o bob oed eu mwynhau ynghyd â’r peillwyr mewn perygl sy’n helpu i roi’r bwyd ar y bwrdd.”

 

Cefnogaeth am ddim i fusnesau sy’n cael problemau gyda’r rhyngrwyd

Mewn partneriaeth â Chadwyn Clwyd, mae gwasanaeth Swyddog Digidol Cyngor Sir Ddinbych yn cefnogi busnesau yn Sir Ddinbych sy’n cael trafferthion efo’r rhyngrwyd.

Mae cysylltiad da yn hanfodol i fusnesau, ond mae llawer o fusnesau yn wynebu heriau wrth drio cael cysylltiad dibynadwy a chyflym. Gyda sawl cynllun llywodraeth ar gael ac Openreach yn dal i ehangu eu cysylltiad ffibr y rhanbarth, gall fod yn anodd i berchnogion busnes ddal i fyny efo’r opsiynau sydd ar gael.

I helpu, mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol rhad ac am ddim, lle mae Swyddog Digidol penodol yn gallu darparu cyngor perthnasol, ymchwilio i faterion ar eich rhan, holi Openreach a darparu adroddiad manwl ar eich cysylltiad a’r atebion sydd ar gael.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i’w ddweud:

“Mae cysylltiad digidol yn hanfodol ar gyfer twf a chynaliadwyedd busnesau. Drwy’r gwasanaeth yma rydym ni’n gwneud yn siŵr nad yw busnesau Sir Ddinbych yn cael eu gadael ar ôl a bod ganddyn nhw fynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ffynnu yn yr oes ddigidol.

“Rydym ni’n deall y pwysau sydd ar fusnesau lleol, ac mae’r gwasanaeth hwn yn un ffordd rydym ni’n helpu i oresgyn rhwystrau a chreu cyfleoedd ar gyfer twf.”

Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac ar gael i bob busnes yn y sir yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth neu i gael cefnogaeth, cysylltwch â Philip Burrows, y Swyddog Digidol, ar philip.burrows@sirddinbych.gov.uk

#CronfaFfyniantGyffredin

Ymweliad Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol â Marchnad y Frenhines

Ymwelodd yr Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS â Marchnad y Frenhines sydd newydd agor yn y Rhyl, ddydd Mawrth (5 o Awst).

Fe’i croesawyd gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jason McLellan, ac fe fwynhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet daith o’r cyfleuster mis oed, yng nghwmni Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio, y Cynghorydd Alan James, AS dros Fro Clwyd, Gareth Davies a Rheolwyr Rhaglen ar gyfer y prosiect.

Yn ogystal â chael taith o amgylch y gofodau marchnad a’r gofod digwyddiadau, cwrddodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyda’r stondinwyr sy’n gweithio yn y gofod eiconig a Chyfarwyddwyr Rheoli o’r cwmni sy’n gweithredu’r cyfleuster.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr.  Mae’r ardal tu allan i’r farchnad yn cynnwys decin wedi’i godi a’i orchuddio sy’n rhoi lle i ymwelwyr fwyta tu allan.  Mae’r gofod digwyddiadau mawr wedi cynnal nifer o gyngherddau a sioeau poblogaidd iawn ers agor mis diwethaf.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

“Rwy’n falch o fod yn ôl yn y Rhyl a gweld Marchnad y Frenhines drosof fy hun, un o safleoedd allweddol yn y gwaith ailddatblygu canol tref y Rhyl, a phrosiect sydd wedi elwa o tua £6.5 miliwn o gymorth trwy Gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Gan gynnig amrywiaeth o fanwerthwyr a mannau bwys, ardal ddigwyddiadau a gofod bwyta tu allan, bydd y gofod newydd hwn yn creu swyddi, denu ymwelwyr a rhoi bywyd newydd i ganol y dref.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor:

“Mae’r cyfleuster anhygoel hwn wedi bod ar agor ers bron i fis bellach, ac rydym yn hynod o falch o’r ffordd mae’r wythnosau cyntaf wedi mynd. Dyma un o’r prosiectau allweddol o ran ymdrechion i adfywio’r Rhyl.

Mae’r farchnad yn llawn stondinwyr dawnus, ansawdd uchel, sydd wedi creu amgylchedd cymunedol cydweithredol yma. Mae adloniant poblogaidd wedi cael eu cynnal yn y gofod digwyddiadau, ac mae adborth y gymuned am y gofod marchnad wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Mae’r lleoliad wedi bod yn hynod o brysur ers i’r drysau agor fis diwethaf, ac rwy’n hynod o falch o’r cynnig modern o ansawdd uchel y mae’r lleoliad yn ei gynnig i bobl y Rhyl a thu hwnt. Rwy’n falch o weld y prosiect yn gweithredu ar ôl cyfnod agor llwyddiannus iawn. Mae dros 120 mlynedd o hanes yn y safle hwn, ac mae’n wych gweld y bennod ddiweddaraf yn dechrau.”

Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.

Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.

Yn ogystal ag ariannu adeilad y farchnad newydd, mae’r cyllid hwn wedi helpu’r Cyngor i gaffael safle Adeiladau’r Frenhines gyfan, dymchwel yr adeiladau presennol a oedd wedi adfeilio ac yn anniogel, ac adeiladu Marchnad y Frenhines newydd sef cam cyntaf datblygu’r safle eiconig ar y promenâd.   

Gwaith cynnal a chadw tymhorol yn dechrau mewn dolydd

Mae gwaith torri a chasglu gwair wedi dechrau mewn dolydd blodau gwyllt ar draws y sir y mis hwn.

Mae’r tîm Bioamrywiaeth a swyddogion Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i drefnu i dorri gwair ar safleoedd er mwyn cynnal a chefnogi’r dolydd. 

Sefydlwyd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn 2019, a luniwyd i ddod â chynefinoedd blodau gwyllt brodorol yn ôl i helpu i ddiogelu natur leol drwy greu ardaloedd gwyrdd a threfol cysylltiedig, yn ogystal â darparu gofod ar gyfer lles cymunedol a hamdden ar draws y sir.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfrannu’n ariannol drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru.

Cofnodwyd bron i 300 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol y llynedd, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.

Gyda’r tymor blodau yn dod i ben, yn arbennig yn sgil y tywydd sych dros y gwanwyn a’r haf eleni, bydd staff yn ymweld â dolydd gyda chyfarpar torri arbenigol i wneud y gwaith torri a chasglu tymhorol.  

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ein bod yn torri rhai o’n dolydd blodau gwyllt yn gynt na’r arfer.  Mae hyn yn rhan o gynllun cynnal a chadw’r flwyddyn hon lle mae rhai safleoedd, sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol i sefydlu, yn cael eu torri a’u casglu unwaith y bydd y blodau gwyllt wedi’u hadu.  Mae ein blodau gwyllt brodorol yn ffynnu mewn priddoedd gwael, felly mae’r holl doriadau yn cael eu clirio er mwyn lleihau’r maetholion yn y pridd a helpu’r blodau gwyllt brodorol i dyfu’n gryfach a hadu y tymor nesaf.

Bydd y gwaith torri a chasglu arferol yn cael ei gwblhau ar y safleoedd sy’n weddill drwy gydol mis Awst a Medi, ac mae rhywfaint o waith gwella pellach ar y gweill ar gyfer rhai safleoedd.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth: “Rydym yn dechrau’r gwaith torri a chasglu rŵan gan fod nifer o flodau eisoes wedi’u hadu a bydd hyn yn ein helpu i gynnal a gwella’r cynefinoedd ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Mae ein Tîm Bioamrywiaeth eisoes wedi dechrau gwaith i gasglu hadau o’r dolydd blodau er mwyn cynhyrchu eginblanhigion yn ein planhigfa goed i’w plannu yn ôl yn y dolydd. 

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect eleni, sy’n rhoi hwb mawr i bryfed peillio a bywyd gwyllt eraill.  Mae’r gwaith yma’n bwysig i gryfhau’r cynefin hwn er mwyn cefnogi natur yn ogystal â’n lles, a hynny ar ôl colli bron i 97% o’n dolydd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf.

Wrth i ni weld mwy o flodau gwyllt yn tyfu byddan nhw’n helpu i gynyddu bioamrywiaeth a lliw fel y gall cymunedau fwynhau’r ardal ac er mwyn cefnogi pryfed peillio sydd mewn perygl, sy’n helpu i roi bwyd ar ein byrddau.

Ychwanegodd: “Mae dolydd blodau gwyllt y sir yn fuddiol i les pobl leol a bywyd gwyllt ac yn bwysicach fyth, i genedlaethau’r dyfodol sef ein pobl ifanc yn Sir Ddinbych.”

 

 

Gadewch i ddychymyg eich plentyn flodeuo gyda Sialens Ddarllen yr Haf!

Mae Sialens Ddarllen yr Haf wedi cychwyn ar draws ein llyfrgelloedd, gyda dros 1,000 o blant eisoes wedi cofrestru! Ydych chi wedi ymuno â’r antur eto?

Mae thema hyfryd eleni, sef Gardd o Straeon - Anturiaethau ym Myd Natur a’r Awyr Agored, yn gwahodd plant i archwilio’r cysylltiad hudolus rhwng adrodd straeon a byd natur. Mae’r sialens, a grëwyd gan yr Asiantaeth Ddarllen ac a gyflwynir mewn partneriaeth â’r llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ffordd hwyliog o ddiddori darllenwyr ifanc yn rhad ac am ddim drwy gydol yr haf.

Gall plant gofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf am ddim ac maen nhw’n cael gwobr bob tro maen nhw’n dychwelyd llyfr. Mae gan ein llyfrgelloedd ddetholiad gwych o lyfrau i ddewis ohonyn nhw, yn llyfrau lluniau, llyfrau stori, comics neu lyfrau gwybodaeth - mae yna rywbeth i bawb.

Dyma oedd gan y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, i’w ddweud:

“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i ddarllen er pleser a chael mwynhad o lyfrau yn ystod gwyliau'r haf. Mae thema eleni’n cyfuno dychymyg a natur mewn ffordd hyfryd, gan annog darllenwyr ifanc i gysylltu â’r byd o’u cwmpas. Byddwn yn annog pob teulu i fynd draw i’w llyfrgell leol i gymryd rhan yn y gweithgareddau hwyliog sydd ar gael, ac i helpu eu plant i feithrin cariad oes at ddarllen.”

Mae llyfrgelloedd ar hyd a lled y sir hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i gefnogi sialens eleni, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu teuluoedd draw i gymryd rhan.

🎭Amser Stori gyda Mama G – Mae ein hoff gymeriad pantomeim yn dychwelyd i gyflwyno sesiynau stori bywiog yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

🦎Gweithdai Gwyddoniaeth Gwyllt – Dewch i gyfarfod yr anifeiliaid y tu ôl i’r straeon a dysgu popeth am eu cynefinoedd a’u hymddygiad mewn sesiynau rhyngweithiol llawn hwyl ym mhob llyfrgell.

🌱Natur er Budd Iechyd – Dewch i greu crefftau yn Llyfrgell Llangollen, a mwynhau sesiynau stori yng Ngardd Gymunedol Corwen.

Ydych chi’n barod am haf hudol llawn darllen, anturiaethau a dychymyg?

I weld lle mae eich llyfrgell agosaf ac i gael mwy o wybodaeth am Sialens Ddarllen yr Haf, ewch draw i’n gwefan

Y gymuned yn dod i gefnogi nythfa adar enwog

Mae’r gymuned wedi bod yn hynod gefnogol eleni o’r adar sydd dan fygythiad.

Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru a gwirfoddolwyr eraill yn edrych ar ôl nythfa 2025 ar Dwyni Tywod Gronant.

Mae’r safle yn croesawu’r adar yr holl ffordd o arfordir gorllewinol Affrica. Codwyd ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km ar hyd y traeth i warchod yr adar rhag ymosodiadau ar y tir. Bydd y ddwy ffens yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Y llynedd, cofnodwyd 166 o barau bridio a chyfanswm o 158 o gywion bach, a oedd ychydig yn fwy na nifer y cywion a gafwyd yn nhymor 2023.

Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan wrth ymyl y nythfa wedi galluogi pobl i wylio’r adar o bellter diogel.

Y tymor hwn mae’r nythfa wedi cael dau ymweliad gan ddisgyblion Ysgol y Llys ac ymweliadau gan Glwb Rhedeg Prestatyn a Gŵyl Gerdded Prestatyn.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae cael cefnogaeth leol i’r nythfa yn wych. Mae pawb wedi bod yn gefnogol a brwdfrydig iawn ar eu hymweliadau, ac eisiau clywed mwy am y gwaith rydym ni’n ei wneud i ddiogelu’r adar bach yma.

“Mae’r nythfa yn ased pwysig iawn i Sir Ddinbych a Chymru er mwyn i’r môr-wenoliaid bach ffynnu a goroesi a chael dyfodol disglair, ac mae cael cefnogaeth y gymuned yn helpu i amlygu cyfraniad y safle at ddiogelu’r adar yma.”

 

Parcio yng Nghefn Gwlad Llangollen dros wyliau'r haf

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros wyliau’r haf.

 Llun o Rhaeadr y Bedol yn Llangollen

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros yr haf ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal yn brysur.

Mae llawer o baratoadau wedi’u gwneud eisoes i reoli cynnydd yn nifer yr ymwelwyr:

  • Bydd ceidwaid cefn gwlad ychwanegol o gwmpas i reoli’r ardal a darparu cymorth a gwybodaeth i ymwelwyr.
  • Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle a’r ardal gyfagos, yn enwedig yn ystod yr adegau a ragwelir brysuraf.
  • Mae ffensys wedi’u gosod ger mynedfa maes parcio Rhaeadr y Bedol er mwyn atal pobl rhag parcio ar yr ymylon glaswellt a rhwystro traffig arall.
  • Mae arwyddion ymwybyddiaeth yn amlwg ar y safle gan gynghori gyrwyr i barcio’n gyfrifol.
  • Bydd y Cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran materion traffig yn y safle.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Rydym am i ymwelwyr fwynhau Rhaeadr y Bedol a’r ardaloedd cyfagos ond byddem yn argymell yn gryf iddynt gofio bod cyfyngiadau parcio yn bwysig o ran diogelwch y ffyrdd a sicrhau bod cyfle teg i bawb gael lle i barcio. Mae angen i yrrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio.

“Mae ein ceidwaid yn gweithio yn Rhaeadr y Bedol i ddarparu cyngor ac arweiniad i ymwelwyr sy’n dod i’r safle a byddwn yn gofyn i’r cyhoedd hefyd barchu’r rôl maen nhw yno i’w gwneud.

“Cynlluniwch eich diwrnod ymlaen llaw, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio dewisiadau eraill i ymweld â nhw ac o ran parcio os na fydd modd i chi ymweld â’ch dewis cyntaf o leoliad. Mae digonedd o atyniadau i ymweld â nhw yn Nyffryn Dyfrdwy.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw