Tîm newydd yn dechrau i helpu yrru prosiect adferiad natur yn ei flaen
Mae rôl newydd, dros dro wedi cael ei lansio i helpu i gadw a gwella dolydd blodau gwyllt y Sir ymhellach. 
Mae Gweithwyr Gwasanaethau Stryd i Adfer Natur wedi cael eu penodi i helpu i gefnogi’r gwaith cynnal a chadw parhaus ar Ddolydd Blodau Gwyllt y Sir.
Mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn helpu ac yn amddiffyn natur leol ac yn cefnogi lles cymunedol ar draws y Sir. Llywodraeth Cymru sydd yn ei ariannu drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Yn ystod tymor 2024, cofnodwyd 297 o wahanol rywogaethau o flodau gwyllt ar y safleoedd hyn a chyfanswm o 5,269 o flodau unigol, llawer iawn mwy nag sy’n tyfu mewn caeau lle torrir y gwair yn gyson.
Mae gweithwyr Gwasanaethau Stryd yn cydweithio â thîm Bioamrywiaeth y Cyngor i reoli’r dolydd yn y Sir, ochr yn ochr â’u dyletswyddau cynnal a chadw eraill.
Mae’r rôl newydd yma’n galluogi rheolaeth fwy dynodedig o ddolydd ar draws Sir Ddinbych i gynorthwyo â rheoli a gwella’r safleoedd yn rhan o’r ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol a phrosiect Dolydd Blodau Gwyllt Cyngor Sir Ddinbych. Mae hi’n amser pwysig iawn o’r flwyddyn lle mae’r rheolaeth gywir yn hollbwysig i sicrhau bod y safleoedd yn sefydlu ac yn datblygu.
Efallai y byddwch chi’n gweld ein gweithwyr allan yn torri a chasglu yn fuan yn rhai o’n safleoedd dolydd blodau gwyllt. Fe fydd rhai o’r safleoedd sydd â nifer isel o flodau gwyllt yn elwa ar ôl cael ei dorri’n fuan i gael gwared â maetholion o’r safle er mwyn lleihau twf gwair ac annog rhagor o flodau gwyllt i ffynnu.
Fe fydd y tîm newydd hefyd yn helpu â gwaith arall sy’n ymwneud â natur a chynnal a chadw coed ledled y Sir y tu allan i dymor y blodau gwyllt.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Fe fydd Cynorthwywyr Gwasanaethau Stryd i Adfer Natur yn ein helpu i wella i reoli ein dolydd ar draws y Sir. Fe fydd y tîm yn ein helpu i fod yn fwy uniongyrchol yn y modd yr ydym yn cynnal a chadw ein safleoedd, yn enwedig y rhai allai fod angen ymyrraeth fwy dwys i’w helpu i ffynnu’n gryfach i fod yn adnodd gwell ar gyfer natur leol.
“Fe fydd y tîm yma, ochr yn ochr â’n swyddogion Bioamrywiaeth yn cydweithio i gael effaith gwirioneddol a chadarnhaol ar gadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd pwysig yn Sir Ddinbych, ac ychwanegu amrywiaeth a lliw ar draws ein safleoedd i bobl o bob oed eu mwynhau ynghyd â’r peillwyr mewn perygl sy’n helpu i roi’r bwyd ar y bwrdd.”