Cefnogi Bioamrywiaeth gyda Diwrnod Natur BIONET yn Nantclwyd y Dre
Mae’r trefniadau ar y gweill ar gyfer Diwrnod Natur blynyddol BIONET yn nhŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre, yn Rhuthun.
Estynnir gwahoddiad i gadwraethwyr, unigolion sy’n frwdfrydig dros yr amgylchedd ac unrhyw un sy’n mwynhau cymryd rhan ym myd natur i ddigwyddiad rhad ac am ddim a gynhelir ddydd Sul 9 Awst rhwng 11am a 3pm, ar gyfer cwrdd â sefydliadau bywyd gwyllt lleol a mwynhau gweithgareddau llawn hwyl i’r teulu, gan gynnwys paentio wynebau, sesiynau adrodd straeon byw a gweithdai gwehyddu helyg.
Mae Partneriaeth Natur Gogledd Ddwyrain Cymru, BIONET, yn cwmpasu Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, ac yn gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Ariennir y Diwrnod Natur gan gynllun Partneriaeth Natur Lleol Llywodraeth Cymru drwy’r CGGC.
I gael rhagor o fanylion, ewch i dudalen digwyddiadau Facebook BIONET https://www.facebook.com/NEWBioNet?locale=en_GB
