Dewch i Ddarganfod Sir Ddinbych â’ch Cerbyd Trydan!

Mae hi’n dymor yr haf, ac felly mae mwy o olau dydd yn creu cyfle perffaith i grwydro a gweld y gorau sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig.

Wrth deithio mewn cerbyd yn yr oes fodern, gallech fod yn defnyddio injan hybrid neu fodur trydan i’ch helpu i gyrraedd llefydd gyda llai o effaith ar ein hinsawdd drwy ddarparu rhagor o filltiroedd am bris llai. 

Ers i bwyntiau gwefru cyhoeddus cyntaf y Cyngor ar gyfer cerbydau trydan gael eu gosod yn haf 2022, mae dros 4.5 miliwn o filltiroedd o deithio wedi’u darparu drwy fwy na 63,000 o sesiynau gwefru.

Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan Sir Ddinbych a’r rhai sy’n byw y tu allan i’r sir, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i fwynhau golygfeydd Sir Ddinbych.

Mae ein rhwydwaith gwefru cerbydau trydan yn cynnig cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych a mwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd ar un o’r safleoedd.

A yw Rheilffordd Llangollen ar frig eich rhestr o atyniadau i ymweld â hwy yn Sir Ddinbych?  Gallwch ddechrau eich profiad ym Maes Parcio Lôn Las Corwen ger gorsaf y dref, sydd â phump o bwyntiau gwefru y gallwch eu defnyddio i bweru eich cerbyd trydan.  Beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy deithio ar hyd llinell y rheilffordd tra mae eich dull cludiant modern yn gwefru?

Os ydych chi’n dechrau ar ochr Llangollen y rheilffordd, mae pwyntiau gwefru ar gael ym maes parcio Heol y Farchnad a hefyd ym maes parcio’r Pafiliwn. Bydd y lleoliadau gwych hyn hefyd yn rhoi amser i chi weld atyniadau fel Glanfa Llangollen, dringo’r llwybr i Gastell Dinas Brân neu fwynhau’r golygfeydd o Afon Dyfrdwy’n llifo trwy Langollen. 

Wrth neidio i’r car a gyrru draw i Ruthun, fe ddewch o hyd i bwyntiau gwefru ym maes parcio Cae Ddôl, sy’n eich rhoi chi o fewn tafliad carreg i ddysgu am Garchar Rhuthun. Os nad yw hynny’n ddigon o hanes i chi, gyda rhyw bum munud o gerdded, gallwch gyrraedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre.

Diddordeb mewn celf a chrefft? Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, er mwyn i chi gael amser i bori drwy bopeth mae’r ganolfan yn ei gynnig wrth bweru’r car at y daith nesaf yn Sir Ddinbych.

Wrth fynd yn eich blaenau tua Dinbych, mae mannau gwefru trydan ar Lôn y Post yn y dref, sy’n rhoi cyfle perffaith i chi ddringo i bwynt uchaf y dref i weld adfeilion Castell Dinbych a muriau’r dref. 

Heb fod ymhell, yn Llanelwy, mae maes parcio’r Lawnt Fowlio yn y ddinas, sydd â chyfleusterau gwefru ac yn fan cychwyn gwych i fwynhau taith gerdded hardd ar hyd Afon Elwy neu i fynd i ryfeddu at bensaernïaeth hyfryd yr Eglwys Gadeiriol.

Os ewch chi yn eich blaenau i’r arfordir, mae’r Rhyl yn lleoliad perffaith i fwynhau seibiant a gwefru eich cerbyd.  Mae gan faes parcio Gorllewin Cinmel nifer o fannau gwefru, gan gynnwys cyfleusterau gwefru cyflym os ydych chi ar frys.  Os byddwch yn dewis gwefru eich cerbyd yn fan hyn, gallwch fynd am dro drwy ganol y dref tuag at yr arfordir i fwynhau traethau euraidd a phromenâd hyfryd y Rhyl, crwydro ardal yr harbwr, neu beth am gamu’n ôl i’r gorffennol drwy neidio ar Reilffordd Fach y Rhyl sy’n cylchu’r Llyn Morol.  Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael ym maes parcio Ffordd Morley.

Ac yn olaf, wrth deithio i dref arfordirol gyfagos Prestatyn, fe welwch chi bwyntiau gwefru (gan gynnwys rhai cyflym) ym meysydd parcio Rhodfa Rhedyn a Rhodfa’r Brenin, sy’n rhoi amser i chi fwynhau canol tref Prestatyn neu, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, fynd am dro i lawr at lan y môr i fwynhau’r atyniadau sydd yno.

Mae’r rhwydwaith cyhoeddus gwefru cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.

I gael rhagor o wybodaeth am y lleoliadau hyn, ymwelwch â’n gwefan.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw