Croesawu Dinasyddion Prydeinig Newydd i Sir Ddinbych mewn Seremoni Ddinasyddiaeth

Daeth trigolion o wyth gwlad gwahanol yn ddinasyddion swyddogol Prydeinig mewn seremoni ddinasyddiaeth a gynhaliwyd yng Nghyngor Sir Ddinbych ar 28 Gorffennaf. Yn ystod o seremoni, croesawyd dinasyddion newydd oedd yn wreiddiol o'r Philipinau, Unol Daleithiau America, Bangladesh, Colombia, Uganda, Nepal, India a Sri Lanka, gan nodi'r cam olaf yn eu taith i ddod yn ddinasyddion Prydeinig.

Seremoni dinasyddiaeth

Trefnwyd y digwyddiad arbennig gan Wasanaethau Cofrestru Sir Ddinbych, ac yn bresennol roedd Cadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Bobby Feeley; y Cynghorydd Joan Butterfield sydd hefyd yn Faer y Rhyl; Is-Arglwydd Raglaw Clwyd, Rob Jones; ac Uchel Siryf Clwyd, David Jones.

Yn ystod y seremoni, gwnaeth y dinasyddion newydd naill ai lw neu gadarnhad o deyrngarwch i'w Fawrhydi Brenin Siarl III a gaddo eu teyrngarwch i'r Deyrnas Unedig, ei gwerthoedd democrataidd, ei hawliau a'i rhyddid.

Croesawyd y dinasyddion newydd gan y Cofrestrydd Arolygol Sharon Evans, oedd yn gweithredu ar ran Swyddfa Gartref y DU a Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU. Wrth siarad yn ystod y seremoni, atgoffwyd y mynychwyr fod dinasyddiaeth Brydeinig nid yn unig yn dod â hawliau a chyfleoedd, ond hefyd gyfrifoldebau, gan gynnwys parchu eraill, cynnal gwerthoedd democrataidd a chyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas.

Roedd y seremoni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y doniau, y cefndiroedd a'r profiadau amrywiol y mae dinasyddion newydd yn eu dwyn i Sir Ddinbych a'r DU.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Bobby Feeley: "Roedd yn bleser croesawu ein dinasyddion Prydeinig mwyaf newydd i Sir Ddinbych. Mae seremonïau dinasyddiaeth bob amser yn achlysuron arbennig, gan ddathlu nid yn unig gyflawniad unigol ond hefyd yr amrywiaeth gyfoethog sy'n cryfhau ein cymunedau.

"Rydym wrth ein bodd bod y trigolion hyn wedi dewis gwneud Sir Ddinbych yn gartref iddynt ac yn estyn croeso cynnes iddynt fel aelodau o'n cymunedau."

Yn dilyn y seremoni, cyflwynwyd tystysgrifau dinasyddiaeth a rhodd bach o groeso gan y cyngor i bob dinesydd newydd cyn tynnu llun grŵp.

Daeth y seremoni i ben gyda llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd ddinasyddiaeth a chroeso cynnes i'r gymuned leol.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw