Cyflwyno prydau ysgol iachach cyn y daw rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru i rym
Mae’r gwaith yn parhau i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion er budd iechyd a lles y disgyblion

Mae’r gwaith yn parhau i hybu bwyta’n iach mewn ysgolion er budd iechyd a lles y disgyblion.
Bu Gwasanaeth Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych yn newid bwydlenni ysgol yn raddol yn ystod y deunaw mis diwethaf. Gwnaed hynny gan fod Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (2025) a bod y newidiadau’n dod i rym ar Hydref 31 eleni.
Yn unol â’r Canllaw Bwyta’n Iach, bydd y gofynion statudol newydd yn effeithio ar y bwyd a ddarperir gydol y diwrnod ysgol.
I gynorthwyo disgyblion a staff arlwyo i bontio’n esmwyth i’r drefn newydd, mae’r Gwasanaeth Arlwyo wedi addasu’r bwydlenni’n raddol i fodloni gofynion y rheoliadau newydd.
Mae ein bwydlen faethlon fesul tair wythnos eisoes yn bodloni’r safonau newydd, gan gynnwys:
- Gwell Dewisiadau o Bwdin: Darperir iogwrt Llaeth y Llan a phwdinau â ffrwythau deirgwaith yr wythnos bellach, a phwdinau pob â ffrwythau ddwywaith yr wythnos.
- Mwy o Lysiau: Mae’r staff arlwyo wedi ehangu’r dewis o lysiau bob dydd i sicrhau y gall pob disgybl gael o leiaf dau lysieuyn bob dydd.
- Maint Platiau: Dechreuir gweini prydau o wahanol faint i Fabanod a Phlant Iau ym mis Hydref. Cyflwynir hyn yn raddol gyda’r nod o gydymffurfio’n llwyr yn syth ar ôl hanner tymor mis Hydref.
- Dietau Arbennig: I fodloni anghenion dietegol myfyrwyr yn ddiogel, mae’n rhaid i rieni bellach ddarparu tystiolaeth feddygol ffurfiol i’r gwasanaeth arlwyo fel y gall staff ddarparu prydau addas.
Ddechrau’r tymor ym mis Medi, bydd bwydlenni ysgol yn symud yn nes at gydymffurfio’n llwyr â’r ddeddfwriaeth drwy ddarparu bara gwenith cyflawn hanner a hanner yn unig. Ni fyddwn ond yn rhoi caws, tiwna mayonnaise ac wy mayonnaise mewn brechdanau ac ni fyddwn yn darparu ham mwyach, gan fod y rheoliadau newydd yn cyfyngu ar gig wedi’i brosesu.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Wrth wella bwydlenni ysgol yn raddol i gydymffurfio â’r rheoliadau newydd, rydym wedi helpu disgyblion i ddod yn gyfarwydd â dewisiadau iachach mewn ffordd gadarnhaol a phwyllog. Mae hynny hefyd wedi sicrhau bod ein hysgolion yn gwbl barod am y rheoliadau newydd.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff arlwyo ymroddgar am eu gofal, proffesiynoldeb a’u hymrwymiad cyson i addasu bwydlenni, cefnogi ein disgyblion a rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn ein holl ysgolion. Mae’r newidiadau’n gam pwysig ymlaen wrth hybu iechyd a lles ein plant a phobl ifanc.”