Cynigion Heol y Felin wedi’u dylunio i gefnogi economi ymwelwyr Llangollen

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfleuster cartrefi modur arhosiad byr newydd ym Maes Parcio Heol y Felin yn Llangollen fel rhan o brosiect ehangach i gefnogi twristiaeth, gwella isadeiledd ymwelwyr a rhoi budd i fusnesau lleol.

Mae cynlluniau wedi’u cyflwyno ar gyfer cyfleuster cartrefi modur arhosiad byr newydd ym Maes Parcio Heol y Felin yn Llangollen fel rhan o brosiect ehangach i gefnogi twristiaeth, gwella isadeiledd ymwelwyr a rhoi budd i fusnesau lleol.

Mae’r cynnig yn cynnwys chwe bae dros nos ar gyfer cartrefi modur ac isadeiledd cysylltiedig, gan annog ymwelwyr i aros am gyfnod hirach yn y dref a gwario mewn siopau, caffis, bwytai ac atyniadau lleol.

Mae’r cais cynllunio yn dilyn gwaith gwella a wnaed eisoes ym Maes Parcio Heol y Felin, sydd wedi helpu i sicrhau bod y safle’n fwy diogel, mwy deniadol a mwy croesawgar i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys disodli pafinau bloc sydd ar goll ac sydd wedi torri, trwsio ffensys rhwng rhan uchaf y maes parcio a’r A539, ailbeintio llinellau baeau parcio, gosod seddi newydd, rheiliau a dodrefn stryd newydd, uwchraddio’r goleuadau a gosod mannau newydd i groesi’r llwybr troed.

Bwriedir i’r gwelliannau hyn, a ariennir gan grant, ategu’r ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer Lleoedd Parcio Dros Nos i Gartrefi Modur, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, trwy greu porth ymwelwyr o ansawdd uwch ger canol tref Llangollen.

Ni fydd y prosiect yn golygu colli 29 o ofodau parcio yn ystod y dydd ar y safle. Bydd yr ardal yn dal i fod ar gael fel ardal aml-ddefnydd yn ystod y dydd a bydd modd i geir barcio rhwng y baeau cartrefi modur. Gyda’r nos, mae angen mwy o le rhwng cartrefi modur er mwyn bodloni gofynion diogelwch tân. Dyna pam mae’r trefniadau dros nos yn wahanol i’r defnydd parcio yn ystod y dydd.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r cynnig hwn yn cefnogi economi ymwelwyr Llangollen mewn modd cyfrifol a reolir. Trwy ddarparu cyfleusterau dynodedig arhosiad byr dros nos ar gyfer defnyddwyr cartrefi modur, gallwn annog ymwelwyr i dreulio mwy o amser yn y dref a chefnogi busnesau lleol, wrth helpu i leihau effaith achosion o aros dros nos heb awdurdod. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn glir na fyddai’r cynllun yn cael gwared ar 29 o ofodau parcio yn ystod y dydd. Byddai’r maes parcio yn dal i fod ar gael i’w ddefnyddio yn ystod y dydd a byddai’r gosodiad dros nos yn adlewyrchu’r lle ychwanegol sydd ei angen er mwyn bodloni gofynion diogelwch cartrefi modur.

Mae’r cynnig ym maes parcio Heol y Felin yn ffurfio rhan o brosiect cyffredinol Lleoedd Parcio Dros Nos i Gartrefi Modur Sir Ddinbych. Ei nod yw mynd i’r afael ag achosion pan fo perchnogion cartrefi modur yn aros dros nos heb awdurdod mewn lleoliadau ar draws y sir lle nad oes hawl gyfreithiol i gysgu dros nos mewn cerbyd.

Mae’r cynllun wedi’i greu i helpu i atal problemau amgylcheddol a chymdeithasol a achosir gan wersylla anghyfreithlon, a darparu gwell cyfleusterau ar gyfer y rheiny sydd am aros dros nos am gyfnod byr mewn cartrefi modur a faniau gwersylla.

Ar draws Sir Ddinbych, bydd y prosiect yn cyflwyno cynigion ar gyfer ardaloedd dynodedig i gartrefi modur a faniau gwersylla aros dros nos mewn pum lleoliad, gan ganolbwyntio ar leoedd sydd eisoes yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac sy’n agos at fusnesau lleol a allai elwa o fwy o ymwelwyr.

Bydd ceisiadau cynllunio’n cael eu cyflwyno ar gyfer pob safle i alluogi gosod yr isadeiledd perthnasol. Ariennir y gwaith arfaethedig gan gyllid y Pethau Pwysig, Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi gwelliannau i isadeiledd hanfodol i ymwelwyr, a Chronfa Effaith Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Mae’r safleoedd, gan gynnwys Heol y Felin, wedi’u dewis oherwydd eu bod yn fannau problemus ar gyfer achosion o aros dros nos heb awdurdod, maen nhw’n boblogaidd gyda thwristiaid ac mae busnesau gerllaw a allai elwa o ymwelwyr yn defnyddio cyfleusterau dynodedig.

Byddai’r cyfleusterau yn darparu mannau parcio arhosiad byr dros nos i gartrefi modur am uchafswm o ddwy noson mewn meysydd parcio cyhoeddus neu ardaloedd sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n agos at drefi ac amwynderau presennol.

Ym mhob safle, bydd y canolbwynt ar ddarparu mannau parcio dros nos diogel, wedi’u cefnogi gan gyfleusterau sylfaenol i wagio dŵr gwastraff a dŵr budr ac ail-lenwi cartrefi modur gyda dŵr ffres. Bydd y lleoedd parcio yn rhai llawr caled i aros am gyfnodau byr yn unig. Ni chaniateir barbeciwiau, tanau, adlenni na phebyll.

Bwriedir galluogi defnyddwyr cartrefi modur sy’n aros ar safleoedd Cyngor Sir Ddinbych i dalu am aros yno trwy dariff newydd ar yr ap parcio ceir presennol ar eu ffôn symudol neu beiriannau talu ar y safle.

Os caiff caniatâd cynllunio ei roi, bydd gwaith ar Heol y Felin yn cynnwys mesurau i atal parcio heb awdurdod a chefnogi gwell rheolaeth ar aros dros nos.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw