Etifeddiaeth coeden dderwen hanesyddol wedi'i diogelu am flynyddoedd i ddod

Credir bod yr hen goeden dderwen wedi bod yn sefyll yng Nghae Ddôl ers dros 500 mlynedd.

Mae gwaith i ddiogelu etifeddiaeth coeden dderwen hanesyddol yn Rhuthun wedi'i gwblhau'n ddiweddar.

Credir bod yr hen goeden dderwen wedi bod yn sefyll yng Nghae Ddôl ers dros 500 mlynedd, ac yr oedd yn cael ei hedmygu'n fawr gan ymwelwyr â'r parc am genedlaethau cyn iddi ddod i lawr yn ystod Storm Darragh yn 2024.

Fodd bynnag, ar ôl cwblhau prosiect diweddar a oedd yn ceisio diogelu etifeddiaeth y goeden, gall trigolion ac ymwelwyr edmygu'r goeden dderwen unwaith eto yn ei ffurf newydd yn y parc.

Ar ôl iddi syrthio yn ystod Storm Darragh, comisiynodd tîm coed y Cyngor y gweithiwr coed lleol, Stephen Faherty, i gerflunio'r boncyff i greu sedd lle gall pobl sy'n mynd heibio edmygu ei faint a'i statws, tra cafodd ei ganghennau mawr eu cerflunio’n i greu meinciau unigryw i greu man eistedd newydd.

Dywedodd Stephen Faherty:

“Roedd yn bleser cael fy ngwahodd gan Gyngor Sir Ddinbych i weithio ar y prosiect hwn. Rwyf wedi byw yn yr ardal ac felly rwy’n deall pa mor bwysig yw'r goeden i gymuned Rhuthun.

“O ran y prosiect hwn, yr oedd hi'n bwysig creu rhywbeth a fyddai'n dod â'r gymuned at ei gilydd a thalu teyrnged i'r goeden hanesyddol a safai yno unwaith.

“Cafwyd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect o'r ffordd yr oedd y goeden dderwen wedi cwympo yn dilyn y storm, wrth i’r meinciau o amgylch y boncyff bwysleisio maint y goeden.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n deall pa mor arwyddocaol oedd yr hen goeden dderwen i Gae Ddôl, ac yr ydym ni’n falch o'r ffordd y mae'r prosiect wedi diogelu ei hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni’n gobeithio trwy ddefnyddio pren yr hen goeden dderwen i greu ardal ar yr un safle, y bydd yn caniatáu i ymwelwyr gadw cysylltiad â’r hen goeden.

“Hoffwn ddiolch i dîm coed y Cyngor ac i Stephen am eu gwaith caled wrth gwblhau'r prosiect hwn, ac rwy'n gobeithio y gall cymuned Rhuthun yn awr ddechrau creu atgofion newydd yn y man cymunedol newydd hwn.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw