Gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i bob plentyn dwy oed yn Sir Ddinbych o fis Medi
Mae gofal plant a ariennir ar gyfer plant dwy oed i fod ar gael ledled Sir Ddinbych gyfan o fis Medi.
Bydd plant yn derbyn deuddeg awr a hanner o ofal plant a ariennir yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad cofrestredig.
Gellir defnyddio'r ddarpariaeth gofal plant hon o'r tymor ysgol ar ôl ail ben-blwydd plentyn, tan y tymor ysgol ar ôl eu trydydd pen-blwydd.
Mae'r ffenestr ymgeisio ar agor ar hyn o bryd ac mae'n cau ar 10 Awst.
Ar ôl eu cyflwyno, bydd ceisiadau'n cael eu hasesu ar ôl y dyddiad cau, gyda rhieni'n cael gwybod am y canlyniadau o 11 Medi.
Gellir gwneud ceisiadau ar y dudalen ar y ddolen ganlynol: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/gofal-plant-a-rhianta/teuluoedd-yn-gyntaf-a-dechraun-deg/gofal-plant-dechraun-deg.aspx
Ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cynnwys rhan fwyaf o'r sir, gyda Chorwen, Dinbych, Dyserth, Henllan, Llangollen, Gallt Melyd, Prestatyn, Rhuddlan a'r Rhyl yn y dalgylch presennol. Bydd y cyflwyniad diweddaraf hwn yn sicrhau bod pobman yn y sir wedi'i chynnwys yn y cynllun hwn. Mae'r ehangu'n bosibl yn dilyn cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran tîm Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf:
“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y rhaglen gofal plant hon ar gael ledled Sir Ddinbych o fis Medi ymlaen.
Gan ddarparu adnodd amhrisiadwy i deuluoedd ledled y sir, bydd ein holl blant dwy oed yn cael cynnig deuddeg awr a hanner o ofal plant wedi'i ariannu yn ystod tymor yr ysgol mewn lleoliad cofrestredig, gyda mwy o leoliadau bellach yn cael eu cynnig o ganlyniad i'r cyflwyniad diweddaraf hwn.
Hoffwn annog trigolion yn yr ardaloedd cymwys newydd i wneud cais trwy'r dudalen ar wefan y cyngor.”
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Bydd yr ehangu hwn ar ddarpariaeth gofal plant yn golygu bod pob ardal yn Sir Ddinbych bellach wedi'i chynnwys.
Gall teuluoedd ledled y sir wneud cais nawr i gael mynediad at y ddarpariaeth gofal plant am ddim i blant 2 oed, sy'n gymorth enfawr i rieni a theuluoedd, gan ddarparu darpariaeth gofal plant hanfodol yn ystod y tymor.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal plant, Sioned Williams:
"Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn dangos sut rydym yn cyflymu ein hymrwymiadau i ddarparu mwy o gefnogaeth i deuluoedd. Costau gofal plant yng Nghymru yw'r uchaf yn y DU ac rwy'n benderfynol o helpu i ostwng costau i deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, gan sicrhau hefyd y gall plant gael y dechrau gorau mewn bywyd, i gefnogi eu datblygiad. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar draws Cymru i sicrhau y gall pob teulu elwa o ofal plant mwy fforddiadwy a hygyrch."