NEWYDDION
Y Cyngor yn Amlinellu'r Camau Nesaf yn dilyn Pryderon am y Bagiau Ailgylchu Glas
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod ac yn deall pryderon a godwyd gan drigolion ac aelodau lleol ynghylch y bagiau ailgylchu cardbord glas, ac rydym am roi sicrwydd i bobl bod y tîm Gwastraff ac Ailgylchu wedi gwrando ar farn trigolion ac wedi ymrwymo i edrych ar y mater hwn yn ofalus.
Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ym mis Mai eleni, trafododd cynghorwyr hysbysiad o gynnig a oedd ar yr agenda ynghylch adolygu a diwygio'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.
Yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig, dechreuwyd ar waith i baratoi adroddiad llawn a fydd yn amlinellu'r opsiynau ynghylch cynwysyddion ailgylchu trigolion, gan gynnwys y bag cardbord glas.
Rhaid i'r Cyngor ddilyn y broses briodol, a bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi. Yn dilyn argymhellion y pwyllgor, bydd yn mynd gerbron y Cabinet yn yr hydref, lle gwneir penderfyniad ynghylch unrhyw newidiadau arfaethedig i'r Polisi Casglu Ailgylchu a Gwastraff na ellir ei Ailgylchu.
Tra bod y broses hon ar y gweill, rydym yn annog trigolion i barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau glas sy'n parhau i fod mewn cyflwr da, ar yr amod y gellir eu casglu'n ddiogel gan ein timau a'u gwagio i'r cerbyd casglu. Gall trigolion sydd â bagiau sydd wedi'u difrodi ac na ellir eu defnyddio mwyach archebu un newydd drwy wefan y Cyngor. Dylid bagiau newydd gyrraedd o fewn 4 wythnos.
Yn y cyfamser, gall trigolion gyflwyno eu cardbord i'w gasglu mewn bag addas arall o faint tebyg i'r bag ailgylchu cardbord glas a ddarperir gan y Cyngor. Bydd ein timau yn casglu'r rhain.
Hoffem ddiolch yn ddiffuant i drigolion am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu ac am y gefnogaeth y maent yn ei dangos i'n timau casglu. Mae eu hymrwymiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ein helpu i ddiogelu amgylchedd lleol Sir Ddinbych ac adeiladu sir lanach a mwy cynaliadwy ar gyfer cymunedau nawr ac yn y dyfodol.
Y Cyngor yn rhoi diweddariad am brosiect Cae Ddôl
Mae'r parc yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn dal ar agor i’r cyhoedd, er bod gwaith gwella wedi dechrau yno.
Efallai fod trigolion wedi sylwi bod gwaith uwchraddio wedi dechrau’n ddiweddar yng Nghae Ddôl er mwyn gwella profiadau a chyfleusterau i ymwelwyr a chefnogi swyddogaeth y parc fel ased cymunedol gwerthfawr.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.
Fel rhan o’r gwelliannau i ymwelwyr ar y safle, bydd y prosiect yn creu llwybr teithio llesol 480 metr o hyd a fydd yn ymdroelli drwy’r parc er mwyn gwneud y lleoliad yn fwy hygyrch i gerddwyr a beicwyr. Bydd pont newydd yn cael ei hadeiladu yn lle yr hen bont ganolog a bydd trac pwmpio newydd yn cael ei osod yn y parc hefyd.
Tra bo’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo mewn rhai rhannau o’r parc, gwneir pob ymdrech i amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar ddefnyddwyr y parc a sicrhau bod y parc yn dal i fod ar gael i bobl ei fwynhau dros fisoedd yr haf.
Gan y bydd angen gosod cyfyngiadau dros dro mewn rhai rhannau o’r parc wrth i’r gwaith adeiladu fynd rhagddo, gofynnwn i ymwelwyr ddilyn yr holl arwyddion a chanllawiau ar y safle.
Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys adnewyddu'r toiledau cyhoeddus, a fydd yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Tref Rhuthun ar ôl eu cwblhau. Tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, mae cyfleuster dros dro wedi'i osod yn y parc ac mae ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r gyfres hon o welliannau yng Nghae Ddôl yn dilyn ymlaen o waith gwella eithriadol o boblogaidd a gwblhawyd yn y parc chwarae ychydig flynyddoedd yn ôl.
"Hoffem sicrhau trigolion ac ymwelwyr fod parc Cae Ddôl yn parhau ar agor tra bo’r gwaith gwella pwysig hwn yn cael ei wneud a gwerthfawrogwn amynedd y cyhoedd yn ystod y cyfnod hwn.
“Disgwylir i’r prosiect hwn gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2027 ac edrychwn ymlaen at ddarparu gofod o ansawdd uchel y bydd y gymuned yn elwa ohono am flynyddoedd i ddod. Mae ymwelwyr y parc yn cael eu hannog i barhau i fwynhau’r parc a dilyn unrhyw arwyddion dros dro a allai fod mewn lle i sicrhau diogelwch y cyhoedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Nghae Ddôl ewch i’n gwefan.
Buddsoddiad mawr i ddod â mwy o gartrefi fforddiadwy a chyfleoedd busnes newydd i ganol tref y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cymryd cam sylweddol arall ymlaen wrth adfywio canol tref y Rhyl, gyda chynlluniau’n mynd rhagddynt i drawsnewid dau eiddo amlwg ar y Stryd Fawr yn gartrefi fforddiadwy ac unedau masnachol wedi’u hadnewyddu.
Mae’r Cyngor yn paratoi i benodi contractwr i gyflawni’r gwaith ailddatblygu yn 64 Stryd Fawr a 2–4 Ffordd Wellington, gan ddod â’r lloriau uchaf gwag yn ôl i ddefnydd fel cartrefi fforddiadwy modern ac ynni-effeithlon, tra hefyd yn adnewyddu’r unedau manwerthu ar y llawr gwaelod ar gyfer busnesau’r dyfodol.
Mae’r prosiect yn rhan o weledigaeth hirdymor y Cyngor i roi bywyd newydd i ganol tref y Rhyl drwy gynyddu nifer y bobl sy’n byw yng nghanol y dref, cefnogi busnesau lleol a chreu cymuned fwy bywiog a chynaliadwy.
Yn ogystal â darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen, bydd yr ailddatblygiad yn creu mannau masnachol deniadol ar gyfer busnesau bach, gan helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, cefnogi’r economi gyda’r nos a chryfhau dyfodol hirdymor canol y dref. Bydd y cynllun hefyd yn darparu cartrefi ynni-effeithlon sy’n helpu i leihau allyriadau carbon wrth wneud defnydd o adeiladau presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau:
“Mae’r datblygiad hwn yn un rhan yn unig o strategaeth y Cyngor i geisio adfywio canol trefi yn Sir Ddinbych ac mae’n garreg filltir gyffrous arall yn ein buddsoddiad parhaus yng nghanol tref y Rhyl. Trwy ddod â’r adeiladau amlwg hyn yn ôl i ddefnydd, rydym yn creu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen tra hefyd yn darparu mannau masnachol modern a fydd yn helpu i gefnogi busnesau lleol a denu mwy o bobl i ganol y dref.
“Mae prosiectau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio’r Rhyl mewn ffordd sy’n dod â budd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd cael mwy o bobl yn byw yng nghanol y dref yn helpu i greu cymuned fywiog a llewyrchus, gan wneud y defnydd gorau posibl o adeiladau presennol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r datblygiad yn cefnogi Strategaeth Tai a Digartrefedd Cyngor Sir Ddinbych drwy gynyddu’r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ac yn cyfrannu at Gynllun Corfforaethol y Cyngor drwy helpu i sicrhau bod digon o gartrefi o ansawdd da i ddiwallu anghenion lleol.
Disgwylir hefyd i’r cynllun ddarparu manteision ehangach i’r gymuned, gan gynnwys cefnogi cadwyni cyflenwi lleol yn ystod y gwaith adeiladu, gwella bioamrywiaeth, annog teithio llesol a gwella ymddangosiad y rhan bwysig hon o ganol tref y Rhyl.
Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni ar ôl cwblhau’r broses gaffael.
Cyngor yn mynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon ar lôn gefn yn y Rhyl
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi dirwy o £300 i rywun o’r Rhyl wedi i ymchwiliad ganfod eu bod wedi methu â chyflawni eu Dyletswydd Gofal gyfreithiol ynghylch Gwastraff Domestig.
Cymerwyd camau gorfodi wedi dod o hyd i swm o wastraff domestig oedd wedi’i ollwng ar lôn gefn rhwng Stryd y Baddon a Heol Gwynfa yn y Rhyl. Gweithredodd y Cyngor fel rhan o’i ymdrechion parhaus i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon a gwella’r amgylchedd lleol.
Wedi dod o hyd i’r gwastraff, aeth swyddogion Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor ati i bori drwy’r gwastraff a daethant o hyd i dystiolaeth o’r sawl a oedd yn gyfrifol am daflu’r gwastraff.
Ymchwiliwyd ymhellach i ganfod bod y preswylydd dan sylw wedi trefnu i rywun arall fynd â gwastraff o’u cartref ac wedi methu â chymryd camau rhesymol i sicrhau y câi ei waredu’n gyfreithlon. Yn sgil hynny, gollyngwyd y gwastraff yn anghyfreithlon ar lôn gefn.
Yn hytrach nag erlyn yr unigolyn gerbron llys, cyflwynodd y Cyngor Rybudd Cosb Benodedig o £300 am fethu â chyflawni’r Ddyletswydd Gofal ynghylch Gwastraff Domestig.
Dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae gan breswylwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad ydynt ond yn trosglwyddo eu gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w dderbyn neu gludwr gwastraff cofrestredig. Dylai unrhyw un sy’n trefnu i gael gwared â gwastraff ofyn bob amser am weld prawf dilys o fod yn Gludwr Gwastraff Cofrestredig a chadw cofnod o bwy bynnag a gasglodd eu gwastraff. Gall methu â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi os canfyddir yn nes ymlaen bod y gwastraff wedi’i ollwng yn anghyfreithlon.
Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych: “Mae tipio anghyfreithlon yn dal yn cael effaith fawr ar ein cymunedau ni, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae’n digwydd dro ar ôl tro ac yn boendod i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr. Mae llawer o bobl yn tybio bod eu cyfrifoldeb am eu gwastraff yn dod i ben ar ôl talu rhywun i gael gwared arno, ond mae’r gyfraith yn dweud yn bendant fod gan breswylwyr Ddyletswydd Gofal i sicrhau eu bod yn trosglwyddo’r gwastraff i rywun â’r awdurdod i’w gludo.
Bydd ein swyddogion yn dal i ymchwilio’n drylwyr i achosion o dipio anghyfreithlon ac yn cymryd camau priodol os canfyddir troseddau.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydyn ni’n benderfynol o wella’r amgylchedd ledled Sir Ddinbych a mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ble bynnag y mae’n digwydd. Mae gorfodi’n rhan bwysig o’r gwaith hwnnw, ond rydym hefyd yn awyddus i annog pobl i gymryd ychydig o gamau syml cyn cael gwared â’u gwastraff. Os ydi pobl yn gwneud yn siŵr fod pwy bynnag sy’n cael gwared â’u gwastraff wedi cofrestru, gyda’n gilydd mi fedrwn ni atal tipio anghyfreithlon ac amddiffyn ein cymunedau lleol.”
Mae modd i bobl gadarnhau a yw unigolyn neu fusnes wedi cofrestru’n gyfreithiol i gludo gwastraff drwy fwrw golwg ar Gofrestr Cludwyr Gwastraff Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cael gwared â’u gwastraff. Os yw rhywun yn dyst i achos o dipio anghyfreithlon neu’n dymuno rhoi gwybod am ddigwyddiad, dylent gysylltu â Chyngor Sir Ddinbych ar unwaith.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf ar ei hanterth
Ydych yn chwilio am weithgareddau hwyliog am ddim dros yr haf i blant? Cofrestrwch ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf yn eich llyfrgell leol! Thema Her eleni yw 'Cyfrolau’n Canu’, sy'n annog plant i barhau i ddarllen dros wyliau'r haf wrth ddarganfod llawenydd mewn cerddoriaeth a straeon.
Bydd llyfrgelloedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog am ddim, gan gynnwys sesiynau crefft, amseroedd stori, ymweliadau gan awduron a gweithdai cerddoriaeth. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd gweithdai rap a bît-bocsio am ddim i helpu i feithrin hyder gyda Mr Phormula, pencampwr technegau ‘loopio’ byw presennol Cymru, yn addas ar gyfer plant rhwng 6 a 12 oed.
Bydd y Welsh Whisperer, perfformiwr ac awdur, yn sôn am ei lyfr 'Llyfr Peiriannau'r Fferm' ac yn canu rhai caneuon.
Bydd yr awdur lleol Oliver Sykes yn cyflwyno ei sioe un dyn newydd sbon, 'Diesel and Me', dathliad doniol, bywiog a theimladwy o gymuned a'r teulu rydym yn ei greu o'n cwmpas, ar gyfer plant (5 oed a throsodd) a'r oedolion sy'n dod gyda nhw.
Mae ymuno â'r llyfrgell yn RHAD AC AM DDIM, ac mae benthyg llyfrau hefyd yn RHAD AC AM DDIM. Does dim angen poeni am ddirwyon am lyfrau hwyr chwaith. Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn!
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
"Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig llawer mwy na benthyg llyfrau – maent yn lleoedd croesawgar lle gall plant a theuluoedd ddysgu, creu a chael hwyl gyda'i gilydd. Mae Her Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant yn darllen dros y gwyliau, ac mae thema eleni, 'Ddarllen i'r Curiad', yn dod â cherddoriaeth a straeon ynghyd mewn ffordd hwyliog ac ysbrydoledig. Rwy'n annog teuluoedd ledled Sir Ddinbych i fanteisio ar y rhaglen wych o weithgareddau sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd yr haf hwn."
DIGWYDDIADAU

Mr Phormula
- Dydd Llun, 3 Awst (10.30am – 12.00pm) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
- Dydd Llun, 3 Awst (1.30pm – 3.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)
Y Welsh Whisperer
- Dydd Llun, 17 Awst (11.00am) – Llyfrgell Rhuthun (archebwch ymlaen llaw)
- Dydd Llun, 17 Awst (2.00pm) – Llyfrgell Dinbych (archebwch ymlaen llaw)
Oliver Sykes
- Dydd Mawrth, 25 Awst (11.00am) – Llyfrgell Prestatyn (archebwch ymlaen llaw)
- Dydd Mercher, 26 Awst (11.00am) – Llyfrgell Llanelwy (archebwch ymlaen llaw)
- Dydd Mercher, 26 Awst (2.00pm) – Llyfrgell y Rhyl (archebwch ymlaen llaw)
Clwb Book Beats – galwch heibio am straeon, crefftau a hwyl!
- Dydd Llun a dydd Gwener drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Prestatyn
- Dydd Mawrth a dydd Iau drwy gydol mis Awst (10.00am – 12.00pm) – Llyfrgell y Rhyl
Crefftau'r Haf
- Bob dydd Gwener (11.00am – 12.00pm) – Llyfrgell Llangollen (archebwch ymlaen llaw)
Ewch i'ch llyfrgell leol i gofrestru a dechrau antur ddarllen eich plentyn! I weld lle mae'r llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan.
Archifau’n gweithio gydag Ysgol Rhuthun i warchod hanes
Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn gweithio ochr yn ochr â gweinyddwyr Ysgol Rhuthun, FRP Advisory, i ddiogelu treftadaeth ddogfennol yr ysgol, gan sicrhau bod yr hanes yn cael ei gadw ac yn hygyrch am genedlaethau i ddod.
Gyda dros 700 mlynedd o hanes, mae Ysgol Rhuthun wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y gymuned leol, nid yn unig fel canolfan addysg ond fel cyflogwr hefyd. Er bod yr ysgol bellach wedi cau ei drysau, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod ei chofnodion hanesyddol yn cael eu cadw yn hytrach na’u colli.
Ar yr un pryd, mae Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio i gefnogi plant a’u rhieni neu ofalwyr sy’n cael eu heffeithio gan gau’r ysgol. Anogir teuluoedd i gysylltu â’r Cyngor os oes arnynt angen cyngor neu gymorth gyda sicrhau lle mewn ysgol. Mae gwybodaeth am dderbyniadau ysgol ar gael ar wefan y Cyngor.
Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru eisoes yn gofalu am ystod eang o gasgliadau ysgol ar draws y rhanbarth, yn cynnwys Ysgol Howell yn Ninbych ac Ysgol Grove Park yn Wrecsam. Mae’r gwasanaeth archifau wedi ymrwymo i gadw unrhyw gofnodion sydd wedi goroesi o Ysgol Rhuthun i’r un safon uchel, gan sicrhau eu bod ar gael i gefnogi ymchwil, hanes teuluol, addysg a threftadaeth gymunedol.
Meddai’r Archifydd, Sarah Roberts: “Mae archifau ysgol yn fwy na chasgliadau o ddogfennau gweinyddol. Maent yn adrodd hanes disgyblion, staff a chymunedau lleol, gan gofnodi bywyd bob dydd ochr yn ochr â cherrig milltir a chyflawniadau arwyddocaol. Mae cadw’r cofnodion hyn yn helpu i warchod hunaniaeth unigryw’r ysgol tra’n creu adnoddau parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae cau Ysgol Rhuthun yn newyddion trist iawn i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol a’r gymuned ehangach. Ein blaenoriaeth yw cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd drwy’r cyfnod anodd hwn, mae ein Gwasanaeth Addysg ar gael i roi cyngor ac arweiniad i helpu rhieni a gofalwyr i sicrhau lleoedd ysgol priodol ar gyfer eu plant.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Cyngor Sir Ddinbych: “Mae Ysgol Rhuthun wedi bod yn rhan bwysig o hanes yr ardal ers canrifoedd. Er bod y bennod hon wedi dod i ben, mae’n bwysig nad yw hanes nodedig yr ysgol yn cael ei golli. Drwy weithio gyda gweinyddwyr i gadw ei chofnodion, gallwn helpu i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu deall a gwerthfawrogi cyfraniad yr ysgol i addysg ac i fywyd ein cymuned.”
Mae gan y Gwasanaeth Archifau ddiddordeb hefyd mewn unrhyw gofnodion gan unrhyw gyn-ddisgyblion neu aelodau o’r gymuned, yn cynnwys lluniau o’r ysgol, newyddlenni neu brosbectysau. Gall unrhyw un sydd â deunyddiau yr hoffent eu cynnig i’r Gwasanaeth Archifau, gysylltu drwy anfon neges e-bost at archives@newa.wales neu drwy ymweld â gwefan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru am fwy o wybodaeth.
Cyngor yn annog masnachwyr i wirio diogelwch teganau poblogaidd
Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.

Anogir manwerthwyr i sicrhau bod eu nwyddau’n cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
Wedi’r ymgyrch yn ddiweddar i fynd i’r afael â nwyddau ffug yn y sir, pan feddiannwyd mwy na 600 o eitemau, mae tîm Safonau Masnach y Cyngor yn atgoffa siopwyr a’u cwsmeriaid i fod yn wyliadwrus wrth i’r ffasiwn ddiweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol gyrraedd y silffoedd.
Mae ‘Squishy Dumplings’ a ‘NeeDoh’ ymysg y teganau mwyaf newydd sydd wedi dod yn boblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ac wrth i’r galw amdanynt gynyddu, mae swyddogion wedi sylwi hefyd fod yno fwy o fersiynau ffug ar werth ledled y sir.
Wrth ymrwymo i fynd i’r afael â nwyddau ffug, mae’r tîm Safonau Masnach yn annog manwerthwyr i sicrhau bod eu stoc yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac yn atgoffa pobl o’r arwyddion cyffredin i gadw golwg amdanynt er mwyn adnabod nwyddau ffug.
Ymysg yr arwyddion bod nwyddau’n ffug mae:
- Enw a chyfeiriad y gwneuthurwr. Os yw’r gwneuthurwr y tu allan i’r Deyrnas Unedig, dylai nwyddau ddangos enw a chyfeiriad y gwneuthurwr yn ogystal â’r mewnforiwr.
- Math, swp, rhif model neu rif cyfres.
- Marc CE a/neu UKCS – mae’r marciau hyn yn fodd i’r gwneuthurwr ddatgan bod y tegan yn ddiogel, ac mae’n rhaid i’r marc fod ar y tegan ei hun neu’r deunydd pecynnu, a bod yn barhaol a hawdd ei ddarllen.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Rydyn ni wedi sylwi fod ffasiynau ar gyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar dwf mewn gwerthu nwyddau ffug. Wrth i’r teganau ‘squishy’ ddod yn fwy poblogaidd, mae’r galw amdanynt yn cynyddu a throseddwyr yn ceisio gwneud elw drwy wneud fersiynau ffug yn rhad.
“Mae’r nwyddau go iawn wedi bod drwy gyfres o brofion diogelwch llym ac efallai’n wir na fydd y rhai ffug yn bodloni’r un safon, sy’n creu perygl i ddefnyddwyr, a phlant yn enwedig, gan fod y rhai ffug yn debygol o fod â’r labeli anghywir neu ddim o gwbl, ac wedi’u gwneud o ddefnyddiau anaddas.
“Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â gwerthu nwyddau ffug drwy addysgu siopwyr a’u cwsmeriaid a chynnal ymweliadau ag amryw safleoedd ledled y sir. Buont yn ymweld â nifer o fannau yn ddiweddar, ac fe feddiannon nhw symiau mawr o nwyddau ffug a rhai a fedrai fod yn beryglus.”
Os oes rhywun wedi prynu tegan neu unrhyw beth arall y maent yn amau ei fod yn ffug, dylent roi gwybod i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth drwy ffonio 0808 223 1144 (llinell Saesneg: 0808 223 1133 neu fynd i’w gwefan - https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Defnyddwyr/get-more-help/if-you-need-more-help/
Gall busnesau gysylltu â Thîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar nwyddau ffug drwy wefan Cyngor Sir Ddinbych.
Cynaeafu hadau blodau gwyllt i helpu natur ffynnu ledled Sir Ddinbych
Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych

Mae gwaith yn mynd rhagddo i hybu dyfodol blodau gwyllt cynhenid Sir Ddinbych.
Mae timoedd Bioamrywiaeth a Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn cydweithio i gynhyrchu cymysgedd hadau lleol cynhenid i Sir Ddinbych er mwyn cefnogi’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor.
Mae’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor yn cynnal ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cefnogi lles cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae gwaith cynaeafu hadau yn digwydd yn nolydd blodau gwyllt y sir sydd yn gyfoethog o ran rhywogaethau.

Gan ddefnyddio cynaeafwr brwsh wedi’i dynnu gan ATV, mae hadau cynhenid penodol i safle yn cael eu casglu drwy ddull effaith isel, gan na fydd y peiriant yn torri na difrodi’r llystyfiant yn ddifrifol.
Unwaith iddynt gael eu casglu, bydd y cymysgedd o hadau o’r safleoedd a ddewiswyd ar gyfer cynaeafu, yn cael eu defnyddio i helpu rhai o’r dolydd llai amrywiol, drwy hadu yn ystod cyfnod yr hydref.
Casglwyd hadau o ddolydd lleol y sir y llynedd gan eu hadu ar safle yn Ffordd Colomendy Dinbych nad oedd yn ffynnu. Mae’r tîm Bioamrywiaeth wedi nodi atgyfodiad y blodau gwyllt yn ystod arolwg yno'r tymor hwn.
Meddai Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Gall y safleoedd dolydd blodau gwyllt sy’n gyfoethog o ran rhywogaethau, a grëwyd trwy ddod a glaswelltir amwynder a lleiniau trefol i reolaeth blodau gwyllt trwy dorri a chasglu tymhorol, helpu i wella ein dolydd llai amrywiol. Rydym yn cynaeafu hadau o ystod amrywiol o blanhigion, ac unwaith cânt eu hadu ar y safleoedd dewisol, gobeithio bydd trigolion yn gweld mwy o amrywiaeth y flwyddyn nesaf. Gan helpu i ddarparu adnodd cefnogi cryfach i beillwyr a bywyd gwyllt lleol hefyd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect pwysig ar gyfer adfer cynefinoedd sydd wedi’u difrodi’n ddifrifol ers y 1930au. Rwy’n gwybod bod y tîm Bioamrywiaeth, ynghyd â’n gweithwyr gwasanaethau stryd, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i reoli a datblygu ein dolydd. Mae defnyddio safleoedd aeddfed i roi help llaw i safleoedd llai amrywiol, trwy’r gwaith hadu hwn yn dangos gwerth yr amser ac ymdrech mae pawb wedi ei roi i warchod natur trwy gydol y prosiect hwn.”
Cabinet yn cymeradwyo Strategaeth Ddigidol newydd
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo Strategaeth Ddigidol 2026-2031 newydd, gan nodi sut y bydd technoleg yn helpu i wella gwasanaethau i breswylwyr.
Trafodwyd y strategaeth hon mewn cyfarfod diweddar o’r Cabinet, ac mae’n nodi’r dull pum mlynedd i ddefnyddio adnoddau digidol er mwyn cefnogi gwasanaethau gwell sydd yn fwy effeithlon.
Ei weledigaeth yw creu Cyngor sydd yn hyderus yn ddigidol, yn darparu gwasanaethau cynhwysol, diogel sydd yn hawdd i’w defnyddio ac i fodloni anghenion preswylwyr.
Fe fydd y strategaeth yn arwain gwelliannau digidol ar draws y Cyngor, a helpu staff, preswylwyr ac Aelodau Etholedig i elwa o wasanaethau symlach a chydgysylltiedig.
Mae’n cynnwys pedwar o egwyddorion arweiniol a naw amcan i siapio penderfyniadau digidol, buddsoddiadau a chyflawniadau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r strategaeth wedi cael ei siapio gan adborth gan staff ac Aelodau, trafodaethau gydag uwch arweinwyr, meincnodi gyda sefydliadau eraill, ac adolygu systemau a galluoedd digidol presennol y Cyngor.
Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Bydd y strategaeth hon yn helpu i ni wneud defnydd gwell o dechnoleg ddigidol i ddarparu gwasanaethau sydd yn fwy cynhwysol, yn fwy diogel ac wedi’u dylunio o amgylch anghenion preswylwyr. Mae’n rhoi fframwaith clir i ni ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod ac mae’n cefnogi ein huchelgais o groesawu cyfleoedd digidol yn y dyfodol.”
I gael mwy o wybodaeth am y Strategaeth Ddigidol ewch i yma