BE SY' MLAEN

Wythnos Awyr Dywyll Cymru

Mae Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain prosiect Awyr Dywyll drwy Gymru gyfan.

Yn arwain ar ran wyth Tirwedd Ddynodedig Cymru, sef Parciau Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, ac AHNE Ynys Môn, Llŷn, Gŵyr a Dyffryn Gwy, bydd Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn rheoli’r prosiect Awyr Dywyll cenedlaethol.

Mae gan bob Tirwedd Ddynodedig uchelgeisiau Awyr Dywyll, a phob un wrthi ar wahanol gamau yn gwneud eu gwaith eu hunain yn lleol i wella eu hawyr dywyll.

I archebu un o'r digwyddiadau sy'n weddill ar gyfer Wythnos Awyr Dywyll Cymru cliciwch yma

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn dod i Rhyl

Gwahoddir ceiswyr gwaith ledled Sir Ddinbych i ymuno â Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio ddydd Mercher, 25 Chwefror, o 10am i 2pm yn Bar a Bwyty 1891, Pafiliwn y Rhyl.

Wedi'i gynnal mewn partneriaeth â Chanolfan Byd Gwaith, bydd y digwyddiad am ddim hwn yn dod â chymysgedd amrywiol o gyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd sy'n recriwtio'n weithredol ar gyfer ystod eang o rolau ar draws nifer o sectorau.

Gan adeiladu ar lwyddiant ffeiriau blaenorol - sydd wedi croesawu dros 40-50 o gyflogwyr ac wedi denu cannoedd o fynychwyr - mae digwyddiad hygyrch mis Chwefror hwn yn parhau ag ymrwymiad Sir Ddinbych yn Gweithio i chwalu rhwystrau i gyflogaeth a chysylltu pobl â chyfleoedd go iawn yn agos at adref.

Gall y rhai sy'n mynychu ddisgwyl cwrdd â chyflogwyr sy'n cynrychioli sectorau fel lletygarwch a hamdden, iechyd a gofal cymdeithasol, y lluoedd arfog, gweithgynhyrchu a mwy, gan adlewyrchu'r anghenion amrywiol o ran y gweithlu ar draws y rhanbarth. Bydd sefydliadau fel y Llynges Frenhinol, Heddlu Gogledd Cymru, Haven, a chymysgedd eang o gyflogwyr lleol sy'n cynnig llwybrau gyrfa lefel mynediad a phrofiadol yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae ein Ffair Swyddi i gyd yn ymwneud â chreu mynediad at gyfleoedd i bobl leol.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu amrywiaeth o gyflogwyr sy'n chwilio'n weithredol am ymgeiswyr, ac rydym yn annog trigolion i ddod draw, archwilio beth sydd ar gael, a sgwrsio'n uniongyrchol â sefydliadau sy'n barod i gyflogi.”

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Mae ein ffair swyddi yn gyfle gwych i drigolion gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a darganfod beth sy'n digwydd ar draws sectorau allweddol yn Sir Ddinbych. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt sbarduno sgyrsiau sy'n newid y dyfodol, meithrin eu hyder, a dangos i bobl yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael yma yn ein sir.”

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys ceiswyr gwaith, newidwyr gyrfa, pobl ifanc sy'n archwilio opsiynau, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn hyfforddiant neu gymorth cyflogaeth sydd ar gael trwy Sir Ddinbych yn Gweithio.

Am ragor o wybodaeth a diweddariadau, ewch i sirddinbychyngweithio.sirddinbych.gov.uk neu dilynwch Sir Ddinbych yn Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol trwy Raglen Cymunedau dros Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Cynhadledd Bionet: Dolydd Difyr

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dolydd a glaswelltir cynhenid? Ydych chi’n berchen ar dir neu’n ei reoli, ac eisiau rhoi hwb i adferiad byd natur a gwytnwch rhag yr hinsawdd?
Os felly, bydd Cynhadledd Bionet eleni: Dolydd Difyr yn ddelfrydol i chi.

Ymunwch â ni wrth dreulio diwrnod llawn yn canolbwyntio ar y cynefinoedd rhyfeddol hyn – beth ydyn nhw, pam eu bod o bwys a sut i’w rheoli er mwyn cael yr effaith fwyaf bosib. Byddwn yn ymchwilio’n fanwl i’r rhan hollbwysig y maent yn ei chwarae wrth gynnal bywyd gwyllt a hybu gwytnwch rhag yr hinsawdd ac yn rhannu astudiaethau achos o’r byd go iawn sy’n enghreifftiau o ddulliau rheoli effeithiol.

Yn ogystal â chyflwyniadau diddorol a chyfleoedd i rwydweithio, bydd yno hefyd stondinau difyr ar y diwrnod a Seremoni Wobrwyo Flynyddol Bionet.

Dydd Iau 5 Chwefror 2026
Venue Cymru, Llandudno

I gadw lle, ewch i’r dudalen Eventbrite yma - https://www.eventbrite.co.uk/e/marvellous-meadows-dolydd-diddorol-tickets-1975790457445?aff=oddtdtcreator

Digwyddiad gwybodaeth Hen Ysbyty Gogledd Cymru

Mae'r cyngor yn annog trigolion Dinbych i fynychu un o ddau ddigwyddiad gwybodaeth i drafod y gwaith dymchwel sydd am ddechrau ar y safle, sy'n ofynnol cyn y gall unrhyw waith ailddatblygu ddechrau.

Mae Hysbysiad Adran 80 wedi ei gyhoeddi sydd angen cael ei gyflwyno i'r cyngor o leiaf chwech wythnos cyn y gall y gwaith dymchwel ddechrau. Mae Jones Bros, sydd wedi cael eu contractio gan y cyngor i wneud y gwaith dymchwel ar gyngor, yn cynnal digwyddiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth am y gwaith dymchwel.

Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad drafod y cynllun ehangach gyda chynrychiolwyr o Jones Bros, Cyngor Sir Dinbych ac Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae manylion y digwyddiad isod:

📍 Canolfan gymunedol Eirianfa, Dinbych.

🗓️ Dydd Mawrth, 3 Chwefror rhwng 1:30pm-4:30pm a dydd Mercher, 4 Chwefror rhwng 9:30am-12:30pm.

Trefnir sesiwn ymgysylltu bellach gyda'r nos ar gyfer diwedd mis Chwefror.

Teithiau cerdded eirlys yn Nantclwyd y Dre

Dewch i archwilio gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre wrth i'r eirlys ddechrau blodeuo!

Wedi'i drefnu gan y tîm treftadaeth, gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch yr ardd gyda'r garddwr ar y safle a mwynhau te neu goffi. Nid oes angen archebu.

📆Dydd Gwener 6 a 13 Chwefror

⏰1pm – 3pm

*Mae ffioedd mynediad i'r ardd yn berthnasol

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw