Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre
Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.
Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.
Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.


Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.
Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.
Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun.
“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.
“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”