Canmoliaeth i Wasanaeth Cymorth Cartref y Cyngor mewn adroddiad arolwg AGC

Cafodd Gwasanaeth Cymorth Cartref Cyngor Sir Ddinbych ei ganmol yn ei arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) mwyaf diweddar, a gyflawnwyd ddiwedd mis Awst y llynedd. Digwyddodd yr arolwg blaenorol yn 2023.

Roedd crynodeb o ganfyddiadau’r adroddiad yn canmol dull personol y Cyngor, gan ddweud fod pobl “yn cael canlyniadau llesiant rhagorol” a bod “staff cymorth yn darparu gofal a chymorth da iawn sy'n hybu ailsefydlu, annibyniaeth, cysylltiadau cymdeithasol, ac ymgysylltu â'r gymuned.”

Wrth arolygu, roedd AGC yn ystyried tair thema, Llesiant, Gofal a Chymorth, ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a gafodd eu sgorio yn ‘rhagorol’, ‘da’ a ‘da’ yn eu trefn.

Roedd crynodeb o’r adroddiad yn cydnabod fod pobl “yn defnyddio gwasanaethau i gefnogi pob agwedd ar eu hiechyd a'u llesiant” yn ogystal ag amlygu dull arweinyddiaeth a rheoli’r gwasanaeth, gan nodi bod “arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth yn dda”. Aeth ymlaen i ddweud bod “pob aelod o'r tîm yn cydweithio'n fewnol a gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella llesiant y bobl y maent yn eu cefnogi.”

Mewn perthynas â lles, cafodd y gwasanaeth sgôr “rhagorol”, gyda’r adroddiad yn nodi bod pobl yn derbyn cymorth sydd “wedi'i bersonoli'n fawr” a bod gan “bobl lais cryf iawn ac yn arwain y cymorth y maent am ei gael a sut mae angen darparu hwn bob dydd er mwyn cyflawni eu canlyniadau a'u nodau personol.”

Roedd yr adroddiad yn canmol cymorth wedi’i bersonoli gan y gwasanaeth, gan nodi bod staff yr Arolygiaeth yn gweld “fod y staff gofal yn mynd gam ymhellach i wella bywydau'r bobl y maent yn eu cefnogi” sy’n “cyfrannu at y bobl yn cael canlyniadau llesiant cadarnhaol yn gyson.”

Roedd yn amlygu ymhellach fod pobl “yn siarad yn gadarnhaol am y gwasanaeth ac maent yn canmol y staff gofal sy'n eu cefnogi'n fawr iawn.”

Mewn perthynas â gofal a chymorth, wrth ystyried dull y gwasanaeth i gynlluniau gofal personol roedd yn nodi bod cofnodion o’r gofal “wedi'u hysgrifennu'n broffesiynol ac yn adlewyrchu'r cymorth a nodwyd yn y cynlluniau personol.”

Roedd yr adroddiad yn canmol gwybodaeth diogelu’r gwasanaeth a chydweithrediad gyda gwasanaethau eraill, gan ddweud bod y “darparwr yn cydweithio â'r gweithwyr iechyd proffesiynol, y gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol a'r darparwyr tai i gefnogi'r bobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd. Roedd y gweithwyr proffesiynol y gwnaethom siarad â nhw yn gadarnhaol am y cydberthnasau gwaith gyda'r darparwr.”

Roedd hefyd yn nodi bod y “staff gofal yn siarad yn gadarnhaol am y gwaith y maent yn ei wneud, gan fod yn fodlon iawn ar helpu'r bobl i gyflawni eu nodau.”

Y thema olaf oedd arweinyddiaeth a rheolaeth, ac roedd yr adroddiad yn canmol gwaith y staff rheoli, gan nodi bod “uwch-aelodau o'r staff a'r dirprwy reolwyr yn goruchwylio pob un o'r timau cymorth, gan sicrhau bod digon o staff gofal ar gael, bod cymorth yn cael ei drefnu'n briodol a bod pwyntiau cyswllt i gael arweiniad.”

Adroddodd yr arolygiaeth “dywedodd y staff gofal wrthym fod y staffio yn ddigonol, felly nad ydynt yn gorfod rhuthro wrth gefnogi'r bobl.”

Cafodd dull datblygu’r gwasanaeth ei amlygu hefyd, wrth ddweud “mae'r darparwr yn ymrwymedig i ddatblygu'r gwasanaeth gan archwilio meysydd fel cydraddoldeb ac amrywiaeth, technoleg gynorthwyol, ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld ein tîm cymorth cartref yn cael ei gydnabod gan AGC am fynd tu hwnt i’r galw i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd preswylwyr Sir Ddinbych.

Nod y gwasanaeth yw cefnogi pobl i fyw’n dda, aros yn annibynnol a pharhau i gysylltu â’u cymunedau. Mae’r adroddiad arolwg hwn yn gadarnhaol iawn, ac yn glod i sgil ac ymroddiad ein staff sy’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gydag urddas a pharch bob dydd.”

Gweler yr adroddiad yn llawn: https://digidol.arolygiaethgofal.cymru/cyfeiriadur/gwasanaeth/SIN-00009249-RFGK

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw