Gofal Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych i ddathlu carreg filltir 20 mlynedd gyda sesiwn galw heibio yn y Rhyl
Bydd tîm Dechrau'n Deg y Cyngor yn cynnal sesiwn galw heibio am ddim ym mwyty 1891 yn y Rhyl, fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd Gwasanaeth Dechrau'n Deg yn Sir Ddinbych. Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 4ydd o Fawrth, 10:00am – 2:00pm.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i deuluoedd lleol gwrdd â’r gwasanaethau lleol sy’n cefnogi teuluoedd â babanod a phlant ifanc.

Yn ogystal â chwrdd â darparwyr gwasanaeth, gall teuluoedd gael cyngor a gwybodaeth gan dîm Dechrau'n Deg y Cyngor a gwasanaethau eraill. Bydd cyfleoedd i ganfod pa gefnogaeth sydd ar gael a’r gweithgareddau cyfeillgar i blant sy’n cael eu cynnal yn lleol.
Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg Sir Ddinbych, ar gyfer plant o’u geni hyd at eu 4ydd pen-blwydd, ynghyd â’u rhieni/gofalwyr, sy’n byw mewn ardaloedd cod post penodol.
Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Dyma gyfle gwych i deuluoedd lleol ddod i weld pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Dylai teuluoedd â phlant dan bedair oed wirio a ydynt yn gymwys er mwyn gweld a oes cefnogaeth ychwanegol ar gael iddynt.
Yn ogystal â darparu cefnogaeth, bydd ein tîm yn cyfeirio pobl at weithgareddau lleol sy’n addas i blant.”