Y gymuned yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad ‘Cwrdd â’ch Cymdogion’ yn Ninbych
Daeth preswylwyr Llwyn Eirin at ei gilydd yn HWB Dinbych yn ddiweddar ar gyfer digwyddiad cymunedol llwyddiannus ‘Cwrdd â’ch Cymdogion’.
Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tai a Chymunedau’r Cyngor, daeth y digwyddiad â phreswylwyr Llwyn Eirin, sydd wedi symud i’w cartrefi newydd yn ddiweddar, ynghyd â sefydliadau partner er mwyn cryfhau cysylltiadau cymunedol, cwrdd â chymdogion ac i dynnu sylw at yr ystod eang o gymorth sydd ar gael iddynt yn Ninbych.
Cafodd trigolion Llwyn Eirin gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Dechrau'n Deg / Teuluoedd yn Gyntaf, Tai Sir Ddinbych, a Sir Ddinbych yn Gweithio yn HWB Dinbych. Roeddent hefyd yn gallu cymryd rhan mewn crefftau gyda'r artist lleol Jude Wood (trwy DLL Cyf) a helpodd lluniaeth ysgafn i greu awyrgylch hamddenol a chroesawgar i helpu i gefnogi'r trigolion newydd, gyda'r teuluoedd yn mynychu drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Roedd yn wych gweld cymaint o breswylwyr yn dod i’r digwyddiad ac yn cymryd y cyfle i gysylltu â’i gilydd ac â’r gwasanaethau sydd ar gael yn lleol.
“Mae dod â phartneriaid at ei gilydd o dan un to yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael mynediad at gyngor a chymorth, tra hefyd yn helpu i adeiladu perthnasoedd cryfach o fewn y gymuned.
“Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos cryfder yr ysbryd cymunedol sydd gennym yma yn Ninbych, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at brynhawn mor gadarnhaol.”

Hoffai’r Cyngor ddiolch i’r holl bartneriaid a phreswylwyr a gefnogodd y digwyddiad ac a helpodd i’w wneud yn llwyddiant, ac rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr Llwyn Eirin yn hapus iawn yn eu cartrefi newydd.
Cefnogwyd y datblygiad gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Tai Arloesol, gan alluogi Cyngor Sir Ddinbych i weithio gyda Chwmni Buddiant Cymunedol Creu Menter o’r Rhyl i gydosod cydrannau oddi ar y safle ar gyfer y dull modern hwn o adeiladu tai.
Mae datblygiad Llwyn Eirin yn rhan o Raglen Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Ddinbych, sy’n darparu cartrefi cyngor newydd ledled y sir i ddiwallu angen lleol.
NODYN
Mae cartrefi Llwyn Eirin wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus, gan gynnig inswleiddio rhagorol a llai o ddefnydd o ynni. Mae gan yr eiddo bympiau gwres ffynhonnell ddaear, gan olygu nad oes angen cyflenwad nwy, ac mae paneli solar wedi’u gosod. Bydd hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon ac yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd.