Etholiad y Senedd 2026
Bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Bydd gan bob un o’r etholaethau newydd chwe Aelod, sy’n gwneud cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.
Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd ar wefan Senedd Cymru drwy deipio eich côd post i'r map.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ar 7 Mai 2026 ac yn byw yng Nghymru, bleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd. Dyma bum ffaith allweddol am y Senedd:
- Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru. Mae’r Senedd yn pasio deddfau am bob math o bethau sy'n effeithio ar fywyd trigolion bob dydd yng Nghymru.
- Y Senedd sy’n penderfynu ynghylch pethau fel ysbytai a meddygon teulu, ysgolion ac addysg, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ffermio, diwylliant, yr amgylchedd a’r Gymraeg.
- Ar 7 Mai 2026 bydd gan unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn un bleidlais i ddewis y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol y maent am iddyn nhw gynrychioli eu hardal nhw yn y Senedd.
- Bydd gan yr Aelodau o’r Senedd a gânt eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
- Mae’n amser gwych i gymryd rhan. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar wefan y Llywodraeth.