CIPOLWG

Digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Prestatyn

Cynhelir digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Prestatyn ddydd Gwener 24 Ebrill

Cynhelir digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad ar gyfer cynllun gwella parth cyhoeddus Prestatyn ddydd Gwener 24 Ebrill, gan wahodd contractwyr, ymgynghorwyr a chyflenwyr i ddysgu mwy am y prosiect sydd ar y gweill.

Cynhelir y digwyddiad yn Llyfrgell Prestatyn rhwng 10:00am a 3:00pm a'i nod yw darparu gwybodaeth gynnar am gwmpas ac amcanion y cynllun.

Bydd cyfle i’r rhai sy’n mynychu cael trosolwg o’r cynigion ac ymgysylltu’n uniongyrchol â Thîm y Prosiect.

Mae'r digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad yn rhan o'r broses cyd-gaffael a'i fwriad yw helpu i lunio'r broses o gyflawni'r cynllun drwy annog deialog gynnar â'r farchnad. Anogir sefydliadau sydd â diddordeb mewn mynychu i gofrestru drwy GwerthwchiGymru.

Mae'r digwyddiad ymgysylltu hwn ar agor i bob parti sydd â diddordeb ac mae'n rhoi cyfle i ddeall y prosiect, yr amserlenni disgwyliedig, a'r dull caffael.

Mis o gydweithio ac effaith gadarnhaol i Sir Ddinbych yn Gweithio

Gwelodd mis Chwefror Sir Ddinbych yn Gweithio yn cyflawni gweithgarwch sylweddol ar lefel genedlaethol, leol a chymunedol, gan helpu i ehangu cyfleoedd i drigolion.

Ymunodd Sir Ddinbych yn Gweithio â phartneriaid yn nigwyddiad Trailblazer Cymru gyfan, gan ddod â’r tri ardal beilot Trailblazer ynghyd sef Blaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot. Darparodd y digwyddiad lwyfan i archwilio arferion sy’n datblygu, trafod y gefnogaeth sy’n cael ei darparu i bobl â rhwystrau cymhleth a lluosog, ac amlygu’r arloesedd sy’n digwydd ar draws y tair ardal. Atgyfnerthodd sut mae dulliau lleol, sy’n seiliedig ar gymunedau, yn llywio datblygiad cynnar Trailblazer ac yn dylanwadu ar gyfeiriad ehangach cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru.

Croesawodd Sir Ddinbych yn Gweithio newyddiadurwyr o The Guardian hefyd fel rhan o brosiect cenedlaethol parhaus y papur newydd, Against The Tide, sef cyfres fanwl sy’n archwilio profiadau pobl ifanc sy’n tyfu i fyny mewn trefi arfordirol ledled y DU.

Mae’r Rhyl yn un o’r cymunedau sy’n cael sylw yn y prosiect, a chanolbwyntiodd yr ymweliad ar yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc leol yn ogystal â’r gwaith dan arweiniad y gymuned sy’n agor cyfleoedd newydd. Fel rhan o’r ymweliad, mynychodd y newyddiadurwyr sesiwn Pobi a Phitsa Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarparwyd mewn cydweithrediad â Use Your Loaf Training Bakery.

Darparodd y sesiwn amgylchedd lle gallai cyfranogwyr feithrin hyder, dysgu sgiliau ymarferol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon. Rhoddodd gipolwg i The Guardian ar brofiadau dydd i ddydd pobl ifanc sy’n ymgysylltu â gwasanaethau Sir Ddinbych yn Gweithio, gan gynnwys rhai o’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu a’r partneriaethau cymunedol sy’n eu helpu i symud ymlaen.

Dangosodd yr ymweliad sut mae cefnogaeth gydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn helpu trigolion i feithrin hyder, cysylltu ag eraill a chymryd camau tuag at ddyfodol gwell.

Gwelodd mis Chwefror hefyd gynnal Ffair Swyddi hynod lwyddiannus gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn 1891 yn y Rhyl, gan ddod â dros 520 o drigolion ynghyd â mwy na 50 o arddangoswyr busnes.

Cysylltodd y digwyddiad geiswyr gwaith â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ar draws ystod eang o sectorau, gan gynnwys lletygarwch, manwerthu, adeiladu, gofal a gwasanaethau cyhoeddus. Cafodd mynychwyr gyfle i gwrdd â recriwtwyr yn uniongyrchol, gofyn cwestiynau am swyddi gwag cyfredol, a chael mynediad at gefnogaeth ar y pryd gan staff Working Denbighshire.

Arweiniodd y niferoedd cryf at lawer o drigolion yn sicrhau cyfweliadau dilynol neu’n cofrestru ar gyfer cymorth ychwanegol i’w helpu i symud yn nes at gyflogaeth. Mae’r ymateb cadarnhaol gan gyflogwyr a chyfranogwyr fel ei gilydd yn adlewyrchu momentwm cynyddol gwaith cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio a’i ymrwymiad i greu cyfleoedd gwirioneddol ac ymarferol i bobl leol.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr, Cyflogaeth Strategol:

“Roedd y gweithgareddau drwy gydol mis Chwefror yn atgyfnerthu pwysigrwydd cefnogaeth cyflogaeth a yrrir yn lleol, sy’n gydweithredol ac wedi’i seilio ar anghenion ein trigolion. Mae’r mewnwelediadau a gafwyd drwy’r digwyddiadau hyn yn dangos pa mor hanfodol yw’r gwaith hwn. Wrth symud ymlaen, bydd y profiadau hyn yn helpu i lunio’r ffordd rydym yn parhau i gefnogi pobl â rhwystrau cymhleth i gael mynediad at gyfleoedd.”

Gyda’i gilydd, mae’r ymgysylltiadau amlwg hyn yn dangos un o fisoedd mwyaf bywiog a chynhyrchiol Sir Ddinbych yn Gweithio hyd yma, gan amlygu’r galw cynyddol am ei wasanaethau.

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn parhau i gydweithio â phartneriaid a chymunedau i ddarparu cefnogaeth i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu personol.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, cyfleoedd hyfforddi a’r cymorth sydd ar gael, ewch i’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru.

Clirio sgwter plentyn oddi ar draeth ym Mhrestatyn wrth gasglu sbwriel

Cafodd sgwter plentyn ac eitemau eraill eu clirio oddi ar draeth Prestatyn yn ystod digwyddiad casglu sbwriel yn ddiweddar. 

Cafodd sgwter plentyn ac eitemau eraill eu clirio oddi ar draeth Prestatyn yn ystod digwyddiad casglu sbwriel yn ddiweddar. 

Wedi'i drefnu gan Dîm Risg Llifogydd Cyngor Sir Dinbych, llwyddodd 8 gwirfoddolwr i gasglu 11 bag o sbwriel o draeth Barkby a'r cyffiniau ar y diwrnod. Darparodd Cadwch Gymru'n Daclus hefyd rywfaint o'r offer casglu sbwriel a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad a gynhaliwyd yr wythnos hon trwy Hwb Casglu Sbwriel Cyngor Tref Prestatyn.

Daeth y grŵp o hyd i eitemau eraill hefyd yn cynnwys bymper car, rheiliau, bin a sgwter plentyn ar y traeth.

Trefnwyd y digwyddiad hwn i fynd i'r afael ag effaith sbwriel morol yn yr ardal a all greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, ac arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Gall cael gwared ar y sbwriel oddi ar y traeth hefyd gefnogi amddiffynfeydd naturiol fel glannau, twyni a dolydd morwellt gan eu bod yn gallu cynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr yn well. Mae’r sesiwn casglu sbwriel, sydd wedi dod yn ddigwyddiad misol, hefyd yn helpu i wella’r amgylchedd i breswylwyr lleol ac ymwelwyr. 

Cyngor i ymgysylltu â busnesau'r Rhyl wrth i'r prosiect fynd rhagddo

Arfordir y Rhyl o\'r awyr - 2

Yn dilyn cymeradwyaeth y cabinet i brosiectau Adfywio Lleol a ariennir gan Lywodraeth y DU symud i'r cyfnod cyn-adeiladu, bydd y cyngor nawr yn ymgysylltu â busnesau a thrigolion canol tref y Rhyl i ddatblygu'r gwaith dylunio ar gyfer y prosiect ymhellach.

Yn dilyn cyfnod y Pasg, bydd y cyngor yn dechrau rhaglen o ymgysylltu â busnesau lleol i drafod y cynllun arfaethedig yn fanylach.

Bydd y trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar faterion gweithredol allweddol, gan gynnwys danfoniadau a rheoli gwastraff, er mwyn sicrhau bod unrhyw aflonyddwch posibl yn cael ei leihau a bod effeithiau'n cael eu rheoli'n ofalus drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Nod y prosiectau yw trawsnewid yr ardal o amgylch Tŵr y Cloc yn ofod sy'n gyfeillgar i gerddwyr, trwy ei wneud yn fwy deniadol, hygyrch a gwell ei gysylltiad â'r promenâd.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Ysbrydoliaeth am beth i'w wneud yn Sir Ddinbych!

Ydych chi eisiau ysbrydoliaeth am y pethau gorau i’w gwneud yn Sir Ddinbych er mwyn cynllunio eich antur nesaf? Darllenwch y blogiau diweddaraf ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru.

Sir Ddinbych

2026 Dyddiadau ar gyfer gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch

Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.

Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.

Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.

Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth. Bydd swyddogion y cyngor yng nghwmni swyddog o adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru a fydd yn rhoi cyngor diogelwch ymarferol i gadw'ch car a'ch carafan yn ddiogel.

Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

  • Dydd Gwener 10/04 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 01/05 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 22/05 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 17/07 – 10am-3pm
  • Dydd Gwener 28/08 – 10am-3pm

Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.

Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@denbighshire.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk

Etholiad y Senedd 2026

Bydd Cymru yn cael ei rhannu’n 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026. Bydd gan bob un o’r etholaethau newydd chwe Aelod, sy’n gwneud cyfanswm o 96 Aelod yn cael eu hethol i’r Senedd.

Gallwch ddod o hyd i'ch etholaeth newydd ar wefan Senedd Cymru drwy deipio eich côd post i'r map.

Poster o fap etholaethau

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ar 7 Mai 2026 ac yn byw yng Nghymru, bleidleisio yn etholiad nesaf y Senedd. Dyma bum ffaith allweddol am y Senedd:

  1. Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru. Mae’r Senedd yn pasio deddfau am bob math o bethau sy'n effeithio ar fywyd trigolion bob dydd yng Nghymru.
  2. Y Senedd sy’n penderfynu ynghylch pethau fel ysbytai a meddygon teulu, ysgolion ac addysg, trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd, ffermio, diwylliant, yr amgylchedd a’r Gymraeg.
  3. Ar 7 Mai 2026 bydd gan unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn un bleidlais i ddewis y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol y maent am iddyn nhw gynrychioli eu hardal nhw yn y Senedd.
  4. Bydd gan yr Aelodau o’r Senedd a gânt eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb yng Nghymru.
  5. Mae’n amser gwych i gymryd rhan. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar wefan y Llywodraeth.

Gwaith Paratoi Prawf Traffig Prestatyn

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau prawf i gael system ddwyffordd ar Ffordd y Bont ym Mhrestatyn.

O 13 Ebrill ymlaen, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau prawf i gael system ddwyffordd ar Ffordd y Bont ym Mhrestatyn, er mwyn gweld a fydd hynny’n lleddfu tagfeydd yn yr ardal.

Gofynnwyd am y prawf yn dilyn adborth y bu i’r Cyngor ei dderbyn mewn ymgynghoriadau diweddar â’r cyhoedd, fel rhan o’r prosiect gwella’r parth cyhoeddus ar Stryd Fawr Prestatyn.

Cyn i’r prawf dechrau, bydd gwaith paratoi yn digwydd ddydd Sadwrn a dydd Sul (11 a 12 Ebrill). Bydd hyn yn cynnwys:

  • Bagio goleuadau ac arwyddion nad oes eu hangen yn ystod y prawf traffig
  • Newid marciau ffordd, addasu signalau a chodi arwyddion cyfeiriadol ar gyfer y prawf.
  • Bydd Ffordd y Bont ar gau o 8am ar 11 Ebrill a bydd yn ailagor unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, gallai hyn fod mor hwyr â 11pm ar ddydd Sul 12 Ebrill.
  • Bydd dargyfeiriad ar waith dros y penwythnos tra bod y gwaith paratoi yn digwydd.
  • Bydd y traffig sy'n mynd allan o waelod y Stryd Fawr sy'n gadael wrth y gylchfan fach yn cael ei gyfeirio tuag at rhan isaf y Stryd Fawr i Ffordd Penisardre.
  • Ar ddydd Sul 12 Ebrill, bydd lôn ar gau ar Ffordd Pendyffryn i Bridge Road (tua 4pm – 9pm) i guddio'r arwyddion gyda cherrig picker. Yn ystod yr amser hwn bydd dargyfeiriad unffordd ar waith.

Am ragor o wybodaeth am y prawf traffig cliciwch yma.

Gwaith gan wasanaethau stryd y Cyngor

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.’

Rhoddwyd hwb i dwristiaeth yn y sir dros dymor yr haf 2025 drwy help gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Llwyddodd gwasanaethau stryd Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau'r cyllid hwn o'r DU yn ystod tymor yr haf i alluogi'r tîm i ddarparu gwasanaethau glanhau strydoedd gwell drwy gydol y misoedd prysur sy’n denu twristiaid i’r sir.

Galluogodd y cyllid i’r gwasanaeth glirio a pharatoi ardaloedd cyhoeddus glân a chroesawgar yn ein prif drefi twristiaeth drwy gydol tymor yr haf.

Isod mae enghreifftiau o waith cyn ac ar ôl gan y tîm yn ystod tymor yr haf 2025.

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus/bd1a92ce-8acd-46b9-947c-45cb2e76d863

 

 

Gwelliannau i Barth Cyhoeddus Sgwâr San Pedr Rhuthun

Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i deg o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.

Bydd y gwaith arfaethedig yn cael ei wneud gan OBR Construction ar Sgwâr Sant Pedr a bydd yn ceisio ehangu’r posibiliadau ar gyfer cynnal digwyddiadau ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gefnogi hunaniaeth leol, gan hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref ar yr un pryd.

Bydd y Contractwr yn dechrau trwy sefydlu eu compownd safle o 9 Chwefror 2026. Yna bydd y gwaith yn dechrau gyda mân waith ac arolygon o 23 Chwefror, a bydd paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer yr ardal waith cyn i'r deunyddiau gael eu danfon ym mis Mawrth. Er mwyn helpu’r Contractwr i sefydlu’r safle yn rhwydd ac i osgoi unrhyw oedi neu ddifrod i gerbydau, gofynnwn yn garedig bod yr ardal o’r maes parcio cyhoeddus at Ffordd y Parc (a amlygwyd yn y ddelwedd isod fel Compownd y Contractwr) yn cael ei gadw’n glir o gerbydau cyn y 9fed Chwefror.

Cedwir mynediad i gerddwyr ar draws yr holl hawliau tramwy cyhoeddus bob amser, a bydd hanner y maes parcio sydd agosaf at orsaf betrol Texaco yn dal i fod ar gael ar gyfer preswylwyr a'r cyhoedd.

Rydym yn deall y gall gwaith yng nghanol y dref fod yn anghyfleus, a bydd y Contractwr yn sicrhau bod yr aflonyddwch yn cael ei gadw i'r lleiafswm bob amser. Bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul fel mai dim ond ardaloedd bach sy'n cael eu heffeithio ar unrhyw un adeg. Bydd manylion pob cyfnod yn cael eu cadarnhau cyn gynted â phosibl, a rhoddir rhybudd i bob preswylydd a busnes yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt wythnos cyn i'r gwaith ddechrau.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 8:00yb a 6:00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os oes angen gwaith y tu allan i'r oriau hyn, byddwn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw eto.

Drwy gydol y prosiect, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei reoli, bydd rampiau dros dro yn cael eu darparu ar gyfer hygyrchedd, bydd arwyddion clir a rhwystrau diogel yn eu lle. Bydd mynediad i eiddo a busnesau yn cael ei reoli, gyda chymorth ar gael os oes angen.

Bydd Swyddog Cyswllt y Busnes/Cyhoedd pwrpasol ar gael drwy gydol y gwaith i gynorthwyo gydag ymholiadau a threfniadau mynediad, a gellir cysylltu â nhw drwy e-bost: RuthinEnquiries@OBRConstruction.com

Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth tra bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflawni. Edrychwn ymlaen at gyflwyno cynllun gorffenedig a bydd o fudd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â Rhuthun. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni: RuthinEnquiries@OBRConstruction.com neu swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk      

Cymorth ariannol tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim

Mae cymorth ariannol ar gael tuag at gost gwisg ysgol a phrydau ysgol am ddim.

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch a ydych chi'n gymwys ar gael ar y poster isod.

I wneud cais ewch i www.sirddinbych.gov.uk/budd-daliadau neu sganiwch y cod QR.

Annog pobl ifanc i hawlio eu cynilion

Gallai nifer o oedolion ifanc yn Sir Ddinbych fod â chyfartaledd o £2,200 yn aros amdanynt yn eu cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant heb eu hawlio.

Child Trust FundCyflwynwyd Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant gan Lywodraeth y DU yn 2005. Agorwyd cyfrifon ar gyfer bron 6 miliwn o blant a anwyd yn y DU rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011.

Mae bron hanner nifer y Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant yng Nghymru heb eu hawlio o hyd. Yn ôl y Share Foundation, mae oddeutu 1240 o gyfrifon heb eu hawlio o hyd yn Sir Ddinbych.

Gall pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn gymryd rheolaeth o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant eu hunain, er na ellir tynnu’r arian o’r gronfa tan fyddant yn 18 oed. Gall teuluoedd barhau i dalu hyd at £9,000 y flwyddyn yn ddi-dreth i’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tan fydd y cyfrif yn aeddfedu.  Mae’r arian yn aros yn y cyfrif tan fydd y plentyn yn ei dynnu allan neu yn ei ail-fuddsoddi i mewn i gyfrif arall. Os nad oedd rhiant neu warcheidwad wedi gallu agor cyfrif i’w plentyn, bu i’r llywodraeth agor cyfrif cynilo ar ran y plentyn.

Bydd pob unigolyn 16 oed yn cael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i’w Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi gyda’u llythyr Yswiriant Gwladol.  Os oes unrhyw un yn ansicr am eu sefyllfa, yna dylent wirio gyda’u banc neu gymdeithas adeiladu. Fel arall, gall oedolion ifanc a rhieni chwilio ar www.gov.uk/child-trust-funds i ddod o hyd i ble mae eu Cronfa Ymddiriedolaeth Plant yn cael ei gadw.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol:

“Hoffwn annog yr holl bobl ifanc sy’n gymwys i wirio eu cyfrifon a hawlio yr hyn sy’n eiddo iddynt. Gellir symud y buddsoddiad i ISA oedolyn neu ei ddefnyddio ar gyfer eu haddysg, tai neu wersi gyrru.

Byddwn yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r adnodd ar-lein i’w olrhain, neu i rieni plant yn eu harddegau i siarad â nhw i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u Cronfa Ymddiriedolaeth Plant. Gallai hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w cynlluniau ar gyfer eu dyfodol yn enwedig mewn cyfnod pan fo arian yn dynn.”

Bu i’r cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant gau ym mis Ionawr 2011 a bu i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISA) Plant gymryd eu lle.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, ewch i www.gov.uk/child-trust-funds. Fel arall, ewch i https://www.meiccymru.org/do-you-have-money-hiding-in-a-child-trust-fund, anfonwch neges destun at 07943 114449 neu ffoniwch 080880 23456.

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Awydd dod yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Mwy o ardaloedd i dderbyn cymorth Dechrau’n Deg yn Sir Ddinbych

Mae mwy o ardaloedd yn Sir Ddinbych am dderbyn cymorth drwy gynllun gofal plant Dechrau’n Deg.

Mae’r ardaloedd ychwanegol yn cynnwys y Rhyl, Prestatyn, Gallt Melyd, Rhuddlan, Dyserth, Dinbych, Corwen, Llangollen, Llandrillo a Llanfair DC, ac mae’n berthnasol i deuluoedd sydd â phlentyn a gafodd ei ben-blwydd yn 2 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025.

Mae ehangu’r cynllun yn golygu y bydd teuluoedd yn yr ardaloedd newydd yn gymwys am 12 awr a hanner o ofal plant wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol. Gyda mwy o leoliadau yn cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'i ariannu, a chodau post newydd yn cael eu hychwanegu'n rheolaidd, anogir teuluoedd i wirio eu cod post gan ddefnyddio'r gwiriwr cod post ar y wefan.

Mae Dechrau’n Deg Sir Ddinbych yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw helpu plant i gael y cychwyn gorau posibl mewn bywyd er mwyn eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Bydd yr ehangiad diweddaraf hwn i gynllun Dechrau’n Deg yn golygu y bydd mwy o deuluoedd Sir Dinbych bellach yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant am ddim. Mae’r cymorth hwn o fudd mawr i rieni a theuluoedd.

Gall preswylwyr yn yr ardaloedd newydd wirio a yw eu cod post yn gymwys gyda’r gwiriwr cod post.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/gofal-plant-a-rhianta/teuluoedd-yn-gyntaf-a-dechraun-deg/dechraun-deg.aspx

Spotolau ar ein prif drefi

Mae ein Tîm Twristiaeth wedi bod yn tynnu sylw at bob un o'n prif drefi yn eu blog Gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae mwy o wybodaeth yn eu blog

Rhaglen Waith Sgwâr Sant Pedr

Dros y misoedd nesaf, cynhelir gwaith sydd wedi ei gynllunio'n ofalus i gwblhau cynllun gwella parth cyhoeddus Sgwâr Sant Pedr.

Dros y misoedd nesaf, cynhelir gwaith sydd wedi ei gynllunio'n ofalus i gwblhau cynllun gwella parth cyhoeddus Sgwâr Sant Pedr. Mae'r tabl isod yn rhoi trosolwg o'r camau gwaith arfaethedig, gan gynnwys ble a phryd y bydd pob cam yn digwydd.

Bydd systemau rheoli traffig a chau ffyrdd yn anochel a dim ond yn cael ei weithredu lle bo angen er mwyn amddiffyn y cyhoedd a gweithlu'r Contractwr. Bydd cau ffyrdd yn ystod gŵyl Rhuthun yn cael ei reoli gan isgontractwyr rheoli traffig y Contractwr er mwyn sicrhau dull cydlynol.

Mae'r holl ddyddiadau'n ddangosol* a gallai fod newid oherwydd y tywydd neu addasiadau i'r rhaglen, ond gwneir pob ymdrech i leihau'r aflonyddwch drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Cyfnod

Ardal

Dyddiadau (ddim ar gau am y cyfnod llawn)

Cyfnod 1

Stryd y Ffynnon a’r ardal y tu ôl i'r Hen Lys

3 Mawrth 2026 – 26 Mai 2026*

Cyfnod 2

Stryd y Farchnad

26 Mai 2026 – 28 Gorffennaf 2026*

Cyfnod 3

Stryd y Castell / Stryd Clwyd Uchaf

28 Gorffennaf 2026 – 18 Awst 2026*

Cyfnod 4

Sgwâr Sant Pedr

19 Awst 2026 – 16 Hydref 2026*

Cyfnod 5

Tŵr Cloc

22 Medi 2026 – 6 Tachwedd 2026*

 Yna mae gwaith gosod wyneb wedi ei gynllunio ar gyfer y cyfnod rhwng 9 a 18 Tachwedd 2026*.

Cyfnod 1 - Stryd y Ffynnon a’r ardal y tu ôl ac o amgylch ochr yr Hen Lys

Cyfnod 2 – Stryd y Castell

Cyfnod 3 – Sgwâr Sant Pedr – ochr ddwyreiniol a gorllewinol o amgylch y sgwâr a Stryd y Farchnad

Cyfnod 4 - Sgwâr Sant Pedr – ochr ogleddol y sgwâr a chyffyrdd â ffyrdd oddi ar y sgwâr

Y bwriad ar hyn o bryd yw cwblhau'r holl waith ail-wynebu gyda'r nos i leihau aflonyddwch.

Drwy gydol y prosiect, fe fydd mynediad i gerddwyr yn cael ei reoli, caiff rampiau dros dro eu darparu i sicrhau hygyrchedd, a bydd arwyddion clir a rhwystrau diogelu yn eu lle. Os oes unrhyw broblem, gellir cysylltu â’r Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd ar RuthinEnquiries@obrconstruction.com neu'r Tîm Prosiect ar swyddfarhaglencorfforaethol@sirddinbych.gov.uk.

Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cyd-weithrediad yn ystod y gwaith adeiladu.

Cymorth i gefnogi byw'n annibynnol yn hwyrach mewn bywyd

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid gan Independent Age ar gyfer prosiect newydd 3 blynedd sy'n cefnogi byw'n annibynnol yn hwyrach mewn bywyd.

Mae'r prosiect ar gyfer pobl dros 65 oed sy'n byw yn y Rhyl, Prestatyn a'r ardaloedd cyfagos a allai fod yn cael trafferth gyda phryderon ariannol, biliau cynyddol neu broblemau tai. Mae'r holl gefnogaeth am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddiduedd.

Cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych neu galwch heibio i un o'u sesiynau galw heibio. Mae mwy o wybodaeth am eu sesiynau galw heibio ar wefan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych.

Poster Byw\'n Annibynnol yn Hwyrach Mewn Bywyd

Cymorth gyda chostau ynni gan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Ydych chi'n cael trafferth gyda chostau ynni? Gall Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych eich helpu.

Mae eu prosiect Fuel-Sense yn parhau i gefnogi pobl yn y Rhyl a Phrestatyn, ac mae ganddyn nhw becynnau cynhesrwydd Fuel-Sense ar gael o hyd i unrhyw un sydd eu hangen.

Mae'r pecynnau'n cynnwys eitemau arbed ynni ymarferol fel bylbiau LED, atalyddion drafft, amseryddion cawod a mwy - yn rhad ac am ddim.

Os gallech chi neu rywun rydych chi'n ei gefnogi elwa, cysylltwch ar 01745 346785 neu ewch i wefan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych am ragor o wybodaeth.

Poster Fuel Sense

Gwaredu tir yn ardal Ffrith, Prestatyn

Mae'r Cyngor yn ymwybodol o wybodaeth anghywir sy'n cael ei rannu mewn fforymau lleol i Brestatyn bod y Cyngor yn bwriadu gwaredu tir cyhoeddus yn Nhraeth Ffrith ym Mhrestatyn. Nid yw hyn yn gywir.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad 'gwaredu tir' yn ymwneud â 26 erw o dir sy'n eiddo i'r Cyngor sydd ar hyn o bryd yn cael ei reoli'n breifat o dan brydles i Lakeside Ltd, perchnogion Parc Carafanau Teithio Traeth Ffrith. Mae hyn yn golygu, os bydd y cytundeb gwaredu tir arfaethedig yn mynd yn ei flaen, y bydd Lakeside Ltd yn dod yn berchnogion rhydd-ddaliadol ar oddeutu 22 erw o dir sydd eisoes dan brydles ganddynt gan y Cyngor ar hyn o bryd. Defnyddir y 22 erw hwn o dir ar hyn o bryd fel parc carafanau ac ni fydd unrhyw newid defnydd o dan y cynigion.

Bydd 4 erw arall o dir sydd ar brydles i Lakeside Ltd ar hyn o bryd yn cael ei ddychwelyd i reolaeth y Cyngor a bydd tîm Mannau Agored y Cyngor yn gofalu amdano. Dyma'r darn bach o dir rhwng Parc Carafanau Traeth Ffrith, a Chanolfan Bowlio Dan Do Ffrith.

Mae'r map isod yn dangos yr ardal dan sylw ac yn egluro'r cynigion yn ardal Ffrith:

Gwaredu Tir Ffrith

Ar hyn o bryd mae gan aelodau'r cyhoedd fynediad i'r darn hwn o dir trwy ganiatâd y llesddeiliaid presennol, Lakeside Ltd. Nid oes hawl tramwy cyhoeddus ac nid yw'n cael ei gynnal gan y Cyngor ar hyn o bryd. Mae dychwelyd y darn bach hwn o dir i reolaeth y Cyngor yn sicrhau'r tir fel man agored cyhoeddus ac yn sicrhau bod ei ddefnydd fel ffordd o gyrraedd y traeth yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae Traeth Ffrith ei hun yn dir hygyrch i'r cyhoedd sydd am ddim i bawb ei fwynhau, a bydd yn parhau i fod felly.

Cofrestru Llety Ymwelwyr yng Nghymru

Deddf newydd i gofrestru llety ymwelwyr yng Nghymru: Cyhoeddi gweminarau i helpu darparwyr i baratoi

Cofrestru llety i ymwelwyr - posterBydd gofyn i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer llety dros nos yng Nghymru — o westeion achlysurol i weithredwyr gwestai mawr — gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) pan fydd y gofrestr yn lansio'r hydref hwn.

Mae deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn golygu y bydd angen i bob darparwr sy'n cynnig llety i ymwelwyr, boed yn ystafell sbâr sengl, bwthyn gwyliau, gwely a brecwast, neu westy gwasanaeth llawn, gwblhau proses gofrestru ffurfiol. Mae'r gofyniad yn berthnasol p'un a yw gwesteion yn aros am un noson neu sawl wythnos.

Bydd y cynllun cofrestru llety ymwelwyr newydd yn lansio yn hydref 2026. Cyn hyn, mae'r ACC yn annog gwesteiwyr a busnesau i gofrestru am ddiweddariadau fel y gallant dderbyn nodyn atgoffa, canllawiau, a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r dyddiad cofrestru agosáu. Mae’r broses gofrestru’n rhad ac am ddim ac mae’n orfodol i bob darparwr llety gofrestru hyd yn oed os na chaiff yr Ardoll Ymwelwyr ei chyflwyno yn y pen draw yn y sir. Gallai gall darparwyr sy'n methu â chofrestru wynebu cosbau.

Gweminarau i Gefnogi Gwesteiwyr a Llwyfannau Archebu

Er mwyn helpu i baratoi'r sector, mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnig cyfres o weminarau am ddim wedi'u hanelu at ddarparwyr llety ymwelwyr, llwyfannau archebu a chyrff twristiaeth. Bydd y sesiynau hyn yn darparu diweddariadau diweddaraf ar y gofynion cofrestru newydd a chanllawiau clir, ymarferol ar sut y gall darparwyr llety gydymffurfio. Bydd hefyd sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwyr ACC.

Dyddiadau'r Gweminarau

Sesiynau Saesneg:

  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 11am–12pm
  • Dydd Mawrth 24 Mawrth 2026, 6pm–7pm

Sesiwn Cymraeg:

  • Dydd Iau 26 Mawrth 2026, 11am–12pm

Sut i Gofrestru ar gyfer Gweminar

Gallwch gofrestru ar gyfer gweminar ar y ddolen ganlynol - https://www.llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/hyfforddiant-digwyddiadau

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer hysbysiadau am y cynllun cofrestru newydd, ewch i https://registervisitoraccommodation.service.gov.wales/email-signup

 

Ymweliad i weld cynnydd cartrefi newydd Grŵp Cynefin yn Ninbych

Roedd cyfle heddiw (Dydd Llun, Mawrth 23) i Grŵp Cynefin arwain partneriaid o gylch safle fydd yn darparu 11 cartref carbon-isel yn nhref Dinbych. 

Bu prif swyddogion Grŵp Cynefin, Cyngor Sir Ddinbych, a’r contractwyr NWPS o’r Rhyl yn ymweld â datblygiad Stryd Henllan i weld y cynnydd ar y safle. 

Bydd y cynllun yn darparu 11 o gartrefi ar rent cymdeithasol, ac yn gyfuniad o dai a fflatiau modern, carbon-isel, â nodweddion ynni-effeithlon gan gynnwys paneli solar PV, fframiau pren a phympiau gwres ffynhonnell aer. Disgwylir i’r gwaith adeiladu ddod i ben dros yr haf, gyda’r cartrefi’n barod i’w gosod i denantiaid Grŵp Cynefin ym mis Medi 2026.

Dywedodd Mel Evans, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin, fod y cynllun yn gam pwysig wrth ymateb i anghenion tai lleol:

“Mae datblygiad Stryd Henllan yn ateb y galw am gartrefi fforddiadwy, o ansawdd, yn yr ardal. Trwy weithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n falch y byddwn ni’n gallu darparu cartrefi cynaliadwy sy’n galluogi pobl leol i aros yn eu cymunedau.

“Mae cefnogi cymunedau Cymru yn flaenoriaeth i ni fel Grŵp Cynefin, a diwallu hawl sylfaenol pobl i gartrefi cynnes, diogel o safon.” 

Dywedodd Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’r tai newydd ar Stryd Henllan yn adlewyrchu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i barhau i gynyddu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ynni‑ effeithlon ac o safon uchel ledled y sir. Mae ein gwaith strategol ym maes tai, gan gynnwys cydweithio â phartneriaid allweddol fel Grŵp Cynefin, yn ein helpu i sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion preswylwyr Sir Ddinbych heddiw ac yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.”

Os oes unrhyw un sydd â diddordeb mewn byw yn un o’r cartrefi newydd, gofalwch eich bod ar Gofrestr Tai Sir Ddinbych. Mae mwy o fanylion yma: Cartrefi i'w rhentu - Sir Ddinbych - Grŵp Cynefin

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw