Cogydd yn creu atgofion i ddisgyblion Clawdd Offa

Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin.

Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin. 

Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y maes arlwyo eleni, mae Carol McWilliams yn brysur yn creu danteithion blasus i ddisgyblion Ysgol Clawdd Offa.

Fe alwodd Llais y Sir draw i’r gegin yn yr ysgol i ddarganfod yr ysbrydoliaeth sydd yn llyfr rysetiau Carol i ddatblygu ym maes arlwyo a darganfod beth yw’r cynhwysion cudd i gael llond ysgol o ddisgyblion yn hapus â’r bwyd.

Wedi’i geni ym Manceinion, fe symudodd Carol gyda’i theulu i’r Rhyl pan oedd hi’n saith mlwydd oed ac 20 mlynedd yn ôl fe symudodd i Brestatyn.

Meddai:  “Fe wnes i astudio arlwyo yn y coleg, ac fe fues i’n gweithio mewn caffis yn rhan-amser. Fe weithiais yng nghaffi Russel yn y Rhyl a mwynhau, fe es i’r coleg arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, astudio cwrs ar gadw gwesty ac arlwyo sy’n cynnwys popeth o wneud gwelyau i lanhau toiledau, drwodd i redeg gwesty. 

“Roedd y cwrs arlwyo yn ymdrin â phob agwedd o arlwyo, o goginio i weini, a bryd hynny roedd yn well gen i weini.  “Ar ôl y Coleg fe weithiais i lawr yn y de yn High Wycombe mewn canolfan gynhadledd fawr, yn gweini yno.

Roedd yna atynfa i ddychwelyd gartref am yrfa newydd ac fe deithiodd yn ôl i ogledd Cymru i weithio yn McDonalds am gyfnod er mwyn mireinio ei chrefft.

Dywedodd Carol: “Yna fe glywais am ysgol arlwyo, fe es amdani ac rydw i wedi bod yn y proffesiwn ers hynny…rydw i wedi bod yn y gwasanaeth am 30 mlynedd ac rydw i wrth fy modd.

Gan droi’r amserydd coginio yn ôl i’r dechrau, dechreuodd Carol yn Ysgol Tremeirchion yn edrych ar ôl 60 o ddisgyblion ac mae hi’n cyfaddef oedd yn lle gwych i hyfforddi i ddod i arfer ag amser paratoi, coginio a gweini bwyd i’r plant. 

Yna fe symudodd hi i sicrhau bod plant yn Ysgol Bryn Hedydd, y Rhyl, yn llawn a hapus drwy dymor yr ysgol am 17 mlynedd cyn symud i Ysgol y Llys ac yna cyrraedd Ysgol Clawdd Offa yn 2027.

Wrth edrych yn ôl, fe eglurodd Carol: “Mae’n ffordd wych o ddechrau ac yna rydych chi’n symud ymlaen i ysgol fwy gan eich bod chi’n cael y cyfle yna yno.  Mae’r ‘bosys’ yn grêt, maen nhw’n eich annog i gael cymwysterau ychwanegol ac os hoffech chi symud ymlaen a datblygu, rydych chi’n cael cyfle i symud i ysgol fwy.

I unrhyw un sydd â theuluoedd prysur, boed nhw’n bobl neu anifeiliaid, mae arlwyo mewn ysgolion hefyd yn golygu taro cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn ôl Carol.  

Meddai:  “Mae’n lle gwych i weithio, yn enwedig os oes gennych chi deulu, nid oes yna lawer o bobl sy’n gweithio ym maes arlwyo yn gallu dweud eu bod nhw ffwrdd bob gwyliau ysgol.  Rydw i’n codi’n gynnar i fwydo’r anifeiliaid gan fod gen i bedwar ci, dau aderyn, dwy neidr, dwy gwningen, geco cribog, dau grwban, draig barfog…rydw i’n bwydo’r rheini gyntaf! 

“Yna rydw i’n cael paned o goffi ac rydw i’n barod ar gyfer gwaith erbyn wyth o’r gloch, rydw i’n gwneud fy holl wiriadau diogelwch, yn paratoi’r gegin, edrych ar y fwydlen, gweld beth sy’n cael ei goginio heddiw a beth alla’ i ei baratoi ar gyfer yfory hefyd.”

Gan sefyll yng nghanol cyfleusterau cegin yr ysgol, mae Carol yn dangos pa mor flaengar yw ei rôl drwy ddangos sut mae’r gwaith paratoi yn cael ei wneud ar gyfer lasagne yfory, gan olygu mai dim ond y saws ffres i fynd ar ei ben sydd ei angen. 

Diolch i ymdrechion Carol a’i thîm mae yna bob amser ddigon o ddewis ar gyfer y boliau bach bob dydd, yn ogystal â’r prif brydau. 

Fe eglurodd:  “Mae yna wastad ddewis, mae dyna ddau brif gwrs poeth, tatws trwy’u crwyn gyda dewis o lenwadau a detholiad o frechdanau.  Rydym ni’n gweini ac yn paratoi detholiad o brydau ar gyfer plant sydd ag alergenau, anoddefiadau ac anghenion gofal arbennig er mwyn sicrhau ein bod yn gweini ar eu cyfer nhw.

Mae’r gwaith paratoi a choginio prysur werth yr ymdrech gan fod Carol yn cyfaddef bod gweld y plant yn gwenu a chwerthin amser cinio yn uchafbwynt diwrnod i’r tîm arlwyo.

“Mae’r disgyblion yn wych, mae pob diwrnod yn wahanol, rydym ni’n chwerthin am rywbeth mae rhywun wedi ei ddweud neu ei wneud bob dydd, ond chwerthin gyda nhw, nid arnyn nhw…maen nhw’n wych.”

Trwy gydol y flwyddyn yn yr ysgol mae’r disgyblion yn dysgu â thema, ac mae Carol a’i thîm wedi cael syniadau am sut i gario’r addysg yn ei flaen ac ychwanegu hwyl yn ffreutur ysgol.

“Mae gennym ni ddiwrnodau thema unwaith y mis, rydym ni newydd gael Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar y cyd ag un o athrawon yr ysgol, fe ddaeth hi ag addurniadau Tsieineaidd i mi eu defnyddio, roedd gen i beth adref, felly fe wnaethom addurno’r cownter gweini i’w wneud yn fwy o hwyl i’r plant. 

“Ar y fwydlen y diwrnod hwnnw roedd chow mein cyw iâr a chrempogau llysiau, ynghyd â chyri cyw iâr a reis, ac i bwdin roedd gennym deisen euraidd, roedd yn hyfryd.  Roedd y disgyblion wrth eu bodd, yn enwedig yn gweld y cownter wedi’i addurno gan wneud y cyfan yn fwy arbennig iddynt.”

Mae gweithio yng ngwasanaeth arlwyo’r ysgol hefyd yn rhoi  cyfle i Carol a’i chydweithwyr gyfrannu at sut mae bwydlenni ysgolion dyddiol yn cael eu dylunio ar draws Sir Ddinbych.

Fe eglurodd:  “Mae’r tîm rheoli yn creu’r fwydlen, ac fe fyddwn ni’n newid i fwydlen 3 wythnos newydd yn dechrau’r Pasg.  Maen nhw’n gweithio gyda chogyddion ac yn dewis beth sydd yn boblogaidd a pha newidiadau y gellir eu gwneud ac yna ystyried yr adborth cyn i’r cynnwys maeth gael ei gydbwyso a’i ddadansoddi yn unol â rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru.  Rydym ni newydd gael gwybod bod y fwydlen newydd wedi cael cymeradwyaeth Achrediad Aur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Er mwyn cefnogi bwyta’n iach, ynghyd â’r dewisiadau o ran prif gyrsiau mae’r tîm arlwyo yn cynnig detholiad o ffrwythau, iogwrt a salad i fynd gyda’r brechdanau a thatws trwy’u crwyn. 

Gyda’r gegin yn llawn arogleuon, ond y cwestiwn mawr ydi, beth yw pryd y dydd i ddisgyblion Clawdd Offa?

Meddai Carol gan wenu: “Maen nhw’n caru’r cyri yma, maen nhw’n caru cyri katsu gan mai goujons cyw iâr ydi o gyda saws cyri katsu cartref a reis, mae’n flasus yn hawdd i’w wneud ac yn andros o flasus, mae’r disgyblion wrth eu boddau.

Fel y gall Ralph, disgybl o Flwyddyn 6 ei gadarnhau - mae o’n cyfaddef ei fod o’n ‘ffan’ o Carol a sgiliau ei thîm…yn enwedig pan mae o’n llwglyd. 

Meddai Ralph, sy’n ‘ffan’ mawr o’r tîm arlwyo wrth Llais y Sir: “Y cyri katsu, dwi’n caru hwnnw. Mae’r staff yn garedig iawn hefyd, yn lle gwneud cinio diflas maen nhw’n eich gwneud chi’n gyffrous i fynd.”

Gan edrych yn ôl ar 30 mlynedd o brofiad fel cogydd yr ysgol ym maes arlwyo ac yn dal i goginio danteithion i nifer o bobl ifanc, beth yw cyngor Carol i unrhyw un sydd eisiau ei dilyn hi a datblygu a chefnogi’r Gwasanaeth Arlwyo. 

Gan gymryd eiliad i feddwl yn ei chegin, meddai Carol: “Mae’n ymwneud â chariad at bobl a bwyd…a bod â’r angerdd i fwydo plant gyda dewis o brydau maethlon iach a’u hannog i roi cynnig ar bethau newydd.” 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw