ERTHYGLAU
Rhyfeddodau naturiol yn ysbrydoli gyrfa mewn natur

Mae cariad at anifeiliaid ers yn blentyn ifanc ac ysbrydoliaeth gan athro a fu’n cefnogi natur yn Ynysoedd y Galapagos wedi helpu i siapio gyrfa sydd bellach yn amddiffyn ac yn diogelu bioamrywiaeth Sir Ddinbych.
Mae Ellie Wainwright yn rhan o Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor sydd yn gweithio’n galed gydol o flwyddyn yn cefnogi natur yn y Sir, yn sefydlu cynefinoedd newydd i helpu bywyd gwyllt lleol i ffynnu a goroesi, a helpu i addysgu pobl o bob oedran am yr hyn y gallant ei wneud eu hunain i amddiffyn eu bioamrywiaeth.
Fe aeth Llais y Sir draw i siarad gydag Ellie i ganfod beth sydd wedi ei hysbrydoli gydol ei gyrfa sydd yn llawn o brofiadau yn helpu natur ar hyd a lled y DU.
Meddai Ellie: “Fe dyfais i fyny ger llyn mewn tref fechan yn Swydd Northampton. Yn dymhorol, fe fyddai’r llyffantod bach yn dod drwy ein gardd ddiwedd yr haf ar ôl gadael y llyn, ac mae gen i atgofion o fy mrawd a minnau’n mynd allan ac yn creu gwestai llyffantod iddynt ac yn gafael ynddynt.
“’Dwi wedi caru anifeiliaid erioed, ond doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i eisiau ei wneud fel gyrfa nes fy mod yn y chweched dosbarth. Un o fy mhynciau Lefel A oedd Bioleg Ddynol a digwydd bod, roedd un o fy athrawon yn gadwraethwr.
“Roedd o wedi gweithio ar Ynysoedd y Galapagos i Operation Wallacea, sef sefydliad cŵl iawn sy’n cynnal ymgyrchoedd ymchwil bioamrywiaeth ar draws y byd, dwi’n meddwl mai crwbanod y môr yr oedd o’n ymchwilio iddynt. Dyna oedd y tro cyntaf i mi sylweddoli y gallai hyn fod yn yrfa, felly fe benderfynais mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud, ac fe ddechreuais edrych i mewn i brifysgolion oedd yn cynnig cyrsiau ecoleg a chadwraeth.
Er mwyn cefnogi’r yrfa yr oedd hi a’i bryd arno, fe aeth Ellie ati’n gyflym i wirfoddoli ar benwythnosau gyda’r grŵp Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lleol i gael profiad gwerthfawr tra’n gweithio yn un o’u coetiroedd.
Gan ddefnyddio ei phrofiad yn gwirfoddoli, fe ddechreuodd ar gwrs cadwraeth bywyd gwyllt ym Mhrifysgol Caint.
Meddai Ellie: “Roedd o’n gwrs da iawn lle dysgais am theori cadwraeth. Fy hoff fodiwlau oedd Bioleg Esblygol a Geneteg, a Newid Ymddygiad. Defnyddiodd llawer o ddarlithwyr enghreifftiau o ecosystemau trofannol gan fod nifer ohonynt wedi byw dramor ac wedi gweithio gyda rhywogaethau ym Madagascar, Mauritius, a Borneo.
“Er roedd yna un darlithydd oedd yn gwneud llawer o waith gyda rhywogaethau ymlusgiaid ac amffibiaid y DU, sydd yn agosach at fy ngwaith i rŵan.”
Rhwng ei hail a’i thrydedd flwyddyn, fe dreuliodd Ellie amser yn ychwanegu elfennau o Sŵoleg at ei dysgu ar gyfer ei phrofiad ymarfer proffesiynol gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Bywyd Gwyllt Durel yn Sŵ Jersey.
Meddai: “Fe weithiais fel myfyriwr ar leoliad/ceidwad sŵ dan hyfforddiant yn adran yr adar am bum mis, ac am y gweddill roeddwn i yn adran y mamaliaid ac roedd hynny’n hwyl mawr. Roedd hi’n hynod ddiddorol dysgu am yr holl rywogaethau gwahanol a sut maent yn eu cadw a’u bridio ar gyfer prosiectau cadwraeth gwahanol o amgylch y byd.”
Ar ôl graddio o’r Brifysgol, fe ddaeth Ellie i Sir Ddinbych am y tro cyntaf i ddarganfod natur y Sir.
Fe eglurodd: “Fe ymgeisiais am swydd fel Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol gyda AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy oedd yn swydd am dri diwrnod yr wythnos. Fe symudais fyny a rhannu tŷ yn Wrecsam ac fe ddatblygodd y swydd yn gyflym i fod yn un pump diwrnod yr wythnos.
“Fe weithiais gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd sydd yn brosiect hyfryd i gysylltu â phobl yn yr awyr agored i helpu eu hiechyd corfforol a meddyliol. Roeddwn i’n ceisio cynnwys bioamrywiaeth yn y gwaith yma cymaint â phosibl, yn ogystal â gweithgareddau megis ymwybyddiaeth ofalgar a chelfyddydau a chrefftau, roeddwn i bob amser yn ceisio cael pobl i gymryd rhan yn yr arolygon ystlumod.”
Ar ôl gweithio gyda Natur er Budd Iechyd, daeth Ellie yn Geidwad parhaol gyda AHNE gan weithio yn yr awyr agored yn ardaloedd Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn ystod y cyfnod yma fe fu’n monitro safleoedd megis Rhaeadr y Bedol yn ystod pandemig Covid a’r nifer o reoliadau y bu’n rhaid i’r cyhoedd eu dilyn.
Trwy gydol hyn, roedd gwirfoddoli yn dal i ddarparu profiadau a darganfyddiadau newydd i Ellie a fu’n help iddi symud ymlaen yn ei gyrfa bioamrywiaeth i’r swydd mae hi’n ei wneud heddiw i Gyngor Sir Ddinbych.
Meddai: “Roeddwn i wedi bod yn gwneud llawer o arolygon bywyd gwyllt gwirfoddol y tu allan i fy swydd dros y blynyddoedd; roeddwn i’n mynd allan gyda Grŵp Ystlumod Clwyd a Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru. Yn ogystal â helpu ag arolygon madfallod dŵr gribog gyda cheidwaid Wrecsam yn un o’u safleoedd a thrwy’r gwaith hefyd.”
Roedd cysylltu â Grŵp Mamaliaid Gogledd Cymru yn gyfle iddi astudio ystlum ‘Nathusius’ pipistrelle’ gan ddefnyddio dulliau diogel a thrugarog i ddal ystlumod i edrych sut maen nhw’n ymfudo.
“Roedd yn wych gan fod yna bobl wybodus iawn yn ei gynnal. Fe fyddech chi’n gallu gweld ystlumod yn agos a oedd yn rhyfeddol, fe ddysgais i lawer. Ar un pwynt roeddwn i’n rhyddhau ystlum Pipistrelle bychan, ond roedd yn amlwg wedi cynhesu ar fy nwylo a doedd o ddim eisiau gadael.
Yn sgil y profiad yma fe symudodd Ellie i swydd Swyddog Bioamrywiaeth Cynorthwyol yng Nghyngor Sir y Fflint.
Meddai Ellie: “Fe ddysgais i lawer yno, mae’n wahanol iawn i Sir Ddinbych gan fod yna fwy o ardaloedd trefol…fe fues i’n rhan o’u prosiect blodau gwyllt ac roedd modd i mi gynnal llawer mwy o arolygon natur a bywyd gwyllt yn y swydd honno, oedd yn brofiad gwych.
Yn ei swydd bresennol fel Swyddog Bioamrywiaeth, mae’n amlwg fod y tân y tu hôl i’w hangerdd i warchod natur yn dal i losgi mor gryf.
Meddai: “Dwi wrth fy modd yn cynnal arolygon a gweld y rhywogaethau rydym ni’n ceisio eu hachub a chreu mwy o gynefinoedd ar eu cyfer. Mae’n gwneud i chi feddwl pam rydych chi’n gwneud y swydd ac i mi…mae mor dda i fy iechyd meddwl fy hun.
“Bob tro dwi’n gweld llyffant; dwi mor hapus. Fe wirionais y tro cyntaf i mi weld madfall y twyni. Dwi wedi gweld fy mhathew cyntaf yn y swydd hefyd.
“Mae’r Prosiect Bywyd Gwyllt yn wych; dwi’n meddwl mai dyma un o’r prosiectau cadwraeth gorau y gall unrhyw Awdurdod Lleol ei wneud. Gall newid syml i’r ffordd y mae’r Cyngor yn rheoli ei laswelltiroedd olygu cymaint o fanteision i fywyd gwyllt.
“Dwi’n meddwl ei fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y Sir, rydym wedi troi 1820km o rwydwaith ymylon ffyrdd gwledig i gynefin gwair hir/blodau gwyllt dros yr haf. Yn ogystal â throi 60 o erwau o ymylon trefol a mannau gwyrdd i ddolydd blodau gwyllt ac maen nhw i gyd wedi gwella amrywiaeth y rhywogaethau.
Meddai Ellie: “Gan ein bod wedi bod yn cynnal arolygon blodau gwyllt ar y safleoedd bob tymor tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020, fe allwn ni ddweud yn bendant fod yr holl safleoedd trefol wedi gweld cynnydd yn amrywiaeth y rhywogaethau planhigion - rhai yn eithaf sylweddol! Dwi wrth fy modd gyda’r teimlad fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i fioamrywiaeth a gweld effeithiau cadarnhaol yn sgil ein gwaith. Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod i’n gwneud fy rhan i fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth a’r argyfwng newid hinsawdd.”
Ar hyn o bryd mae Ellie a’i chydweithwyr yn brysur yn creu Gwarchodfa Natur Green Gates sy’n 70 erw o faint sydd eisoes yn cynnwys planhigfa goed a blodau gwyllt lleol y mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi helpu i’w sefydlu.
Meddai Ellie: “Mae wedi bod yn mynd rhagddo ers tipyn, ond dwi’n meddwl ein bod wedi creu cynefin gwerthfawr iawn i fywyd gwyllt. Rydych chi’n cerdded o amgylch y safle rŵan ac maen llawn bywyd, rydym wedi gweld glas y dorlan, ac rydym ni wedi cael llysywod yn y ffrwd. Dwi’n gweld cudyll coch a bwncathod yn hela dros y glaswelltir garw, ac rydym ni wedi gweld tair neidr y glaswellt yr haf yma.
“Rydym ni wedi gosod 20 o byllau ar y safle, ac mae pob un ohonyn yn dechrau gwyrddu. Gan fod y rhywogaethau planhigion y dŵr gwahanol yn tyfu, rydym wedi cofnodi grifft ac mae yna fadfallod dŵr cyffredin yn rhai o’r pyllau newydd sbon hefyd. Rydym wedi cofnodi madfallod dŵr cribog ar y safle o’r blaen, ac rydym yn rhagweld y bydd safle’n bwysig iawn iddynt wrth symud ymlaen.”
Mae miloedd o goed sydd wedi’u tyfu o hadau sydd yn tarddu o’r Sir yn lleol gan Ellie a’r Tîm Bioamrywiaeth wedi cael eu plannu ar y safle hefyd, ac mae gwaith paratoi ar y gweill ar gyfer dau neu fwy o breswylwyr arbennig newydd yn y warchodfa’r flwyddyn nesaf.
Meddai: “Rydym wedi bod yn gweithio yn y cefndir ar Brosiect Afancod Sir Ddinbych, er mwyn asesu a fyddai’n ymarferol a dysgu am y rhywogaeth. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael mynd i Bafaria gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Afancod i weld cynefinoedd afancod fy hun. Roedd hi’n ddiddorol dysgu am y ffyrdd gwahanol maen nhw’n rheoli afancod ym Mafaria ers iddynt gael eu hailgyflwyno yn y 1960au, a beth y gellir ei ddefnyddio rŵan gan eu bod nhw’n ôl ym Mhrydain. Erbyn hyn, rydym ni’n llawer agosach at eu rhyddhau nhw mewn i’r man caeedig ar y safle.
Mae’r tîm wrthi’n gweithio ar gais am drwydded i gartrefu’r afancod yn y man caeedig sydd wedi’i greu, ac os bydd y cyfan yn gweithio’n iawn maent yn gobeithio cyflwyno’r preswylwyr newydd ar ôl haf 2026.
Gyda chymaint o brofiad o natur a bywyd gwyllt yn ei gyrfa hyd yn hyn, mae Ellie’n obeithiol y bydd mwy o bobl yn ei dilyn i ddarparu’r cymorth mae ein hamgylchedd ei angen.
Meddai: “Fe fyddwn i’n dweud fod angen i unrhyw un sydd eisiau mentro i faes cadwraeth fod â gradd y dyddiau hyn. Felly mae gwneud rhyw fath o addysg ffurfiol yn syniad da. A… gwirfoddoli, gwirfoddoli, gwirfoddoli. Rydych angen cael gymaint o brofiad â phosibl ac rydych eisiau rhoi cynnig ar gymaint â phosibl fel eich bod yn gwybod yn union eich bod eisiau mentro i’r maes.
“Fe wnes i dair blynedd o waith cadwraeth ymarferol sydd yn wych os ydych chi eisiau mynd amdani a gweld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud. Mae yna sawl llwybr gwahanol y gallwch ei gymryd. Rhowch gynnig ar bob un, gwnewch rywfaint o bob un i weld pa un ydych chi’n ei hoffi.”
Cogydd yn creu atgofion i ddisgyblion Clawdd Offa
Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin.

Mae cogydd o Brestatyn yn llenwi ffreutur gyda bwyd iach, ychydig o ddysgu a sawl powlen o wenu a chwerthin.
Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn y maes arlwyo eleni, mae Carol McWilliams yn brysur yn creu danteithion blasus i ddisgyblion Ysgol Clawdd Offa.
Fe alwodd Llais y Sir draw i’r gegin yn yr ysgol i ddarganfod yr ysbrydoliaeth sydd yn llyfr rysetiau Carol i ddatblygu ym maes arlwyo a darganfod beth yw’r cynhwysion cudd i gael llond ysgol o ddisgyblion yn hapus â’r bwyd.
Wedi’i geni ym Manceinion, fe symudodd Carol gyda’i theulu i’r Rhyl pan oedd hi’n saith mlwydd oed ac 20 mlynedd yn ôl fe symudodd i Brestatyn.
Meddai: “Fe wnes i astudio arlwyo yn y coleg, ac fe fues i’n gweithio mewn caffis yn rhan-amser. Fe weithiais yng nghaffi Russel yn y Rhyl a mwynhau, fe es i’r coleg arlwyo yng Ngholeg Llandrillo, astudio cwrs ar gadw gwesty ac arlwyo sy’n cynnwys popeth o wneud gwelyau i lanhau toiledau, drwodd i redeg gwesty.
“Roedd y cwrs arlwyo yn ymdrin â phob agwedd o arlwyo, o goginio i weini, a bryd hynny roedd yn well gen i weini. “Ar ôl y Coleg fe weithiais i lawr yn y de yn High Wycombe mewn canolfan gynhadledd fawr, yn gweini yno.
Roedd yna atynfa i ddychwelyd gartref am yrfa newydd ac fe deithiodd yn ôl i ogledd Cymru i weithio yn McDonalds am gyfnod er mwyn mireinio ei chrefft.
Dywedodd Carol: “Yna fe glywais am ysgol arlwyo, fe es amdani ac rydw i wedi bod yn y proffesiwn ers hynny…rydw i wedi bod yn y gwasanaeth am 30 mlynedd ac rydw i wrth fy modd.
Gan droi’r amserydd coginio yn ôl i’r dechrau, dechreuodd Carol yn Ysgol Tremeirchion yn edrych ar ôl 60 o ddisgyblion ac mae hi’n cyfaddef oedd yn lle gwych i hyfforddi i ddod i arfer ag amser paratoi, coginio a gweini bwyd i’r plant.
Yna fe symudodd hi i sicrhau bod plant yn Ysgol Bryn Hedydd, y Rhyl, yn llawn a hapus drwy dymor yr ysgol am 17 mlynedd cyn symud i Ysgol y Llys ac yna cyrraedd Ysgol Clawdd Offa yn 2027.
Wrth edrych yn ôl, fe eglurodd Carol: “Mae’n ffordd wych o ddechrau ac yna rydych chi’n symud ymlaen i ysgol fwy gan eich bod chi’n cael y cyfle yna yno. Mae’r ‘bosys’ yn grêt, maen nhw’n eich annog i gael cymwysterau ychwanegol ac os hoffech chi symud ymlaen a datblygu, rydych chi’n cael cyfle i symud i ysgol fwy.
I unrhyw un sydd â theuluoedd prysur, boed nhw’n bobl neu anifeiliaid, mae arlwyo mewn ysgolion hefyd yn golygu taro cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn ôl Carol.
Meddai: “Mae’n lle gwych i weithio, yn enwedig os oes gennych chi deulu, nid oes yna lawer o bobl sy’n gweithio ym maes arlwyo yn gallu dweud eu bod nhw ffwrdd bob gwyliau ysgol. Rydw i’n codi’n gynnar i fwydo’r anifeiliaid gan fod gen i bedwar ci, dau aderyn, dwy neidr, dwy gwningen, geco cribog, dau grwban, draig barfog…rydw i’n bwydo’r rheini gyntaf!
“Yna rydw i’n cael paned o goffi ac rydw i’n barod ar gyfer gwaith erbyn wyth o’r gloch, rydw i’n gwneud fy holl wiriadau diogelwch, yn paratoi’r gegin, edrych ar y fwydlen, gweld beth sy’n cael ei goginio heddiw a beth alla’ i ei baratoi ar gyfer yfory hefyd.”
Gan sefyll yng nghanol cyfleusterau cegin yr ysgol, mae Carol yn dangos pa mor flaengar yw ei rôl drwy ddangos sut mae’r gwaith paratoi yn cael ei wneud ar gyfer lasagne yfory, gan olygu mai dim ond y saws ffres i fynd ar ei ben sydd ei angen.
Diolch i ymdrechion Carol a’i thîm mae yna bob amser ddigon o ddewis ar gyfer y boliau bach bob dydd, yn ogystal â’r prif brydau.
Fe eglurodd: “Mae yna wastad ddewis, mae dyna ddau brif gwrs poeth, tatws trwy’u crwyn gyda dewis o lenwadau a detholiad o frechdanau. Rydym ni’n gweini ac yn paratoi detholiad o brydau ar gyfer plant sydd ag alergenau, anoddefiadau ac anghenion gofal arbennig er mwyn sicrhau ein bod yn gweini ar eu cyfer nhw.
Mae’r gwaith paratoi a choginio prysur werth yr ymdrech gan fod Carol yn cyfaddef bod gweld y plant yn gwenu a chwerthin amser cinio yn uchafbwynt diwrnod i’r tîm arlwyo.
“Mae’r disgyblion yn wych, mae pob diwrnod yn wahanol, rydym ni’n chwerthin am rywbeth mae rhywun wedi ei ddweud neu ei wneud bob dydd, ond chwerthin gyda nhw, nid arnyn nhw…maen nhw’n wych.”
Trwy gydol y flwyddyn yn yr ysgol mae’r disgyblion yn dysgu â thema, ac mae Carol a’i thîm wedi cael syniadau am sut i gario’r addysg yn ei flaen ac ychwanegu hwyl yn ffreutur ysgol.
“Mae gennym ni ddiwrnodau thema unwaith y mis, rydym ni newydd gael Blwyddyn Newydd Tsieineaidd ar y cyd ag un o athrawon yr ysgol, fe ddaeth hi ag addurniadau Tsieineaidd i mi eu defnyddio, roedd gen i beth adref, felly fe wnaethom addurno’r cownter gweini i’w wneud yn fwy o hwyl i’r plant.
“Ar y fwydlen y diwrnod hwnnw roedd chow mein cyw iâr a chrempogau llysiau, ynghyd â chyri cyw iâr a reis, ac i bwdin roedd gennym deisen euraidd, roedd yn hyfryd. Roedd y disgyblion wrth eu bodd, yn enwedig yn gweld y cownter wedi’i addurno gan wneud y cyfan yn fwy arbennig iddynt.”
Mae gweithio yng ngwasanaeth arlwyo’r ysgol hefyd yn rhoi cyfle i Carol a’i chydweithwyr gyfrannu at sut mae bwydlenni ysgolion dyddiol yn cael eu dylunio ar draws Sir Ddinbych.
Fe eglurodd: “Mae’r tîm rheoli yn creu’r fwydlen, ac fe fyddwn ni’n newid i fwydlen 3 wythnos newydd yn dechrau’r Pasg. Maen nhw’n gweithio gyda chogyddion ac yn dewis beth sydd yn boblogaidd a pha newidiadau y gellir eu gwneud ac yna ystyried yr adborth cyn i’r cynnwys maeth gael ei gydbwyso a’i ddadansoddi yn unol â rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru. Rydym ni newydd gael gwybod bod y fwydlen newydd wedi cael cymeradwyaeth Achrediad Aur gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Er mwyn cefnogi bwyta’n iach, ynghyd â’r dewisiadau o ran prif gyrsiau mae’r tîm arlwyo yn cynnig detholiad o ffrwythau, iogwrt a salad i fynd gyda’r brechdanau a thatws trwy’u crwyn.

Gyda’r gegin yn llawn arogleuon, ond y cwestiwn mawr ydi, beth yw pryd y dydd i ddisgyblion Clawdd Offa?
Meddai Carol gan wenu: “Maen nhw’n caru’r cyri yma, maen nhw’n caru cyri katsu gan mai goujons cyw iâr ydi o gyda saws cyri katsu cartref a reis, mae’n flasus yn hawdd i’w wneud ac yn andros o flasus, mae’r disgyblion wrth eu boddau.
Fel y gall Ralph, disgybl o Flwyddyn 6 ei gadarnhau - mae o’n cyfaddef ei fod o’n ‘ffan’ o Carol a sgiliau ei thîm…yn enwedig pan mae o’n llwglyd.
Meddai Ralph, sy’n ‘ffan’ mawr o’r tîm arlwyo wrth Llais y Sir: “Y cyri katsu, dwi’n caru hwnnw. Mae’r staff yn garedig iawn hefyd, yn lle gwneud cinio diflas maen nhw’n eich gwneud chi’n gyffrous i fynd.”
Gan edrych yn ôl ar 30 mlynedd o brofiad fel cogydd yr ysgol ym maes arlwyo ac yn dal i goginio danteithion i nifer o bobl ifanc, beth yw cyngor Carol i unrhyw un sydd eisiau ei dilyn hi a datblygu a chefnogi’r Gwasanaeth Arlwyo.
Gan gymryd eiliad i feddwl yn ei chegin, meddai Carol: “Mae’n ymwneud â chariad at bobl a bwyd…a bod â’r angerdd i fwydo plant gyda dewis o brydau maethlon iach a’u hannog i roi cynnig ar bethau newydd.”
Crëwch eich dôl fechan eich hun i helpu natur yn lleol

Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n hawdd rhoi help llaw i natur o’ch gardd gefn eich hun?
Mae paratoadau ar eu hanterth ar gyfer ein tymor Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt 2026. Dechreuodd y prosiect yn 2019 ac mae’n cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Gall preswylwyr ymweld â dolydd sydd wedi’u marcio â’r arwydd Caru Gwenyn, ond fe all y rhai sydd eisiau gwneud eu cyfraniad eu hunain o’u cartref hefyd greu eu dôl fechan i gefnogi natur yn lleol.
Y cam cyntaf yw penderfynu ar y lle gorau ar gyfer eich dôl yn eich gardd. Dewiswch ardal nad yw’n rhy gysgodol a lle’r ydych chi’n hapus i’r gwair dyfu’n hir. Gallwch ddewis yr ardd gyfan neu ddim ond darn a gadewch i’r ardal dyfu.
Yn ystod mis Ebrill yw’r amser gorau i wneud y penderfyniad i adael eich dôl fechan i dyfu fel y mae. Cofiwch ei bod hi’n cymryd amser i ddôl ffurfio ac mae hi’n bwysig gadael iddi ddatblygu i weld beth y bydd yn ei gynhyrchu.
Y blodau gwyllt a fydd yn ffynnu orau yn eich dôl yw llygad llo mawr, bengaled benddu a blodyn taranau.
Fe fyddwch chi’n dechrau gweld newidiadau yn eich dôl ddiwedd mis Mai wrth i’r blodau gwyllt ddechrau tyfu. Wrth i fis Mehefin gyrraedd, fe all y blodyn ei hun ddechrau ymddangos drwy eich dôl.

Fe fydd eich dôl fechan ar ei hanterth yn cefnogi natur ym mis Gorffennaf, mae hi’n amser da i gynnal helfa pryfed drwy eich ardal i ganfod pa bryfed sy’n mwynhau eich creadigaeth.
Yn ogystal â chwilio pa flodau gwyllt sydd gennych yn blodeuo yn eich dôl, cofiwch gadw golwg ar y mathau gwahanol o laswellt. Tra’n bod ni’n aml yn canolbwyntio ar blannu blodau gwyllt ar gyfer peillwyr, mae nifer o laswellt cynhenid yr un mor bwysig i lindys neu loÿnnod byw a rhywogaethau o wyfynod.
Mae mis Awst yn amser gwych i’ch dôl fechan gan y byddwch chi’n sylwi ar newid araf yn yr hyn sy’n blodeuo, gyda rhywogaethau cynharach yn dechrau hadu a rhywogaethau hwyrach yn cychwyn blodeuo. Mae rhywogaethau y gallech sylwi arnynt sy’n blodeuo ar ddiwedd yr haf yn cynnwys pengaled benddu a milddail, mae’r ddau yn wych i beillwyr sy’n ymweld â’ch gardd.
Yn ystod mis Awst mae hi hefyd yn amser i fonitro pryd y mae angen i chi dorri eich dôl fechan. Os oes gennych chi ddigon o flodau fe allech chi ei gadael tan fis Medi. Fe allwch chi hefyd amrywio’r amseroedd torri ar draws y flwyddyn neu rannau gwahanol o’ch dôl eich hun yn dibynnu ar y maint, i’w wneud yn fwy amrywiol i gefnogi natur. Fe fydd torri gwair yn cael gwared ar faeth o’r ddaear gan roi’r cyfle gorau i flodau gwyllt yn yr ardal i ffynnu.
Cofiwch gael gwared ar yr holl doriadau ar ôl i’r hadau ddisgyn ac ar ôl iddynt sychu. Awgrym da yw cadw eich ardal gompost mor bell i ffwrdd â phosibl o’ch dôl fechan i atal maeth dros ben rhag llifo yn ôl mewn i’r ardal ac effeithio ar dyfiant y blodau gwyllt.
Wrth i fis Medi symud yn ei flaen, mae hi’n amser i roi seibiant haeddiannol i’ch dôl fechan. Fe allwch adael y toriad nesaf tan fis Ebrill neu ei dorri sawl gwaith i gynnal yr ardal os ydi tywydd y gaeaf yn aros yn fwyn. Cyn i chi dorri eich dôl fechan, meddyliwch yn ôl ar yr hyn rydych wedi’i weld yn tyfu drwodd y tymor yma a’r pryfed a ymwelodd â’r safle fel cofnod wrth symud ymlaen ar gyfer pennod nesaf eich dôl fechan.
Llyfr stori arbennig yn dathlu gwaith i helpu aderyn prin
Mae llyfr arbennig yn helpu i ddiogelu hanes cefnogaeth ffermio bwysig ar gyfer aderyn dan fygythiad

Mae llyfr arbennig yn helpu i ddiogelu hanes cefnogaeth ffermio bwysig ar gyfer aderyn dan fygythiad.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhan o brosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru,” prosiect partneriaeth Adfer Gylfinir Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt.
Roedd y fenter hon yn rhan o raglen ehangach Gylfinir Cymru, partneriaeth Cymru gyfan sy'n ymroddedig i gefnogi poblogaethau Gylfinir sy'n bridio ledled y wlad, gan gynnwys yn Sir Ddinbych.
Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Treftadaeth y Loteri yn dod i ben ar gyfer y prosiect ond bydd y tîm Tirweddau Cenedlaethol yn dal i weithio i ddiogelu’r aderyn prin yn eu hardal.
Ers ei dechrau, mae’r rhaglen wedi helpu i gryfhau amodau sydd eu hangen ar gyfer adfer y gylfinir trwy wella dulliau rheoli cynefinoedd, gwella prosesau monitro a chasglu data, cynyddu capasiti lleol ar gyfer gweithredu ecolegol a meithrin perthnasoedd cryf ar sail ymddiriedaeth gyda ffermwyr.
I nodi’r gefnogaeth gymunedol enfawr a roddwyd i’r prosiect, bu staff y prosiect yn gweithio gyda’r awdur Peter Evans i ddarparu cofnod o’r gwaith a’r ymroddiad a welwyd er mwyn rhoi gobaith i’r gylfinir.
Mae llyfr o’r enw Sali and the Call of the Curlew wedi’i gyhoeddi. Mae’n cofnodi taith dymhorol y gylfinir ar ffermdir o safbwynt merch fach o’r enw Sali a’i Thaid sy’n ffermwr. Mae Sali yn dilyn Pegi y gylfinir, sy’n dychwelyd i’r fferm bob gwanwyn a’u taith i’r tymor bridio nesaf.
Lluniodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, gefndir y stori o’i phrofiadau a daeth yr awdur a gwirfoddolwr y prosiect, Peter Evans, â’i syniadau’n fyw gyda help gan ddisgyblion o Ysgol Caer Drewyn, Ysgol y Waun ac Ysgol Bro Dyfrdwy, ynghyd â’r storïwr, Fiona Collins.
Mae’r llyfr yn dangos helynt y gylfinir, ond gyda help ei Thaid, mae Sali yn gweld sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr ac mae’r ddau yn mynd ati i geisio sicrhau bod mwy o gywion yn goroesi’r tymor bridio ar y fferm.

Bu plant ysgol gynradd o Ysgol Bro Elwern ac Ysgol Betws Gwerful Goch yn helpu i ddod â’r llyfr stori yn fyw hefyd trwy liwio’r lluniau a grëwyd o bapur ar ffurf collage gan y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol dawnus, Jillian Howe.
Mae’r llyfr wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch i bobl â Dyslecsia hefyd, diolch i’r ffont a ddefnyddiwyd.
Yn derbyn lansiad swyddogol yn ysgol gynradd Llangollen Ysgol Gymraeg Y Gwernant gyda chefnogaeth Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych y Cynghorydd Arwel Roberts, bydd copïau Cymraeg a Saesneg ar gael yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych ac ysgolion sydd wedi helpu i gefnogi’r prosiect dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Eglurodd y Swyddog Gylfinir a Phobl Lleol, Sam Kenyon, sydd wedi arwain y prosiect dros y ddau dymor diwethaf, fod y llyfr yn ddathliad o’r gwaith caled gan bawb a roddodd help llaw i’r gylfinir ac ymgysylltu â’r rhaglen ehangach dros y ddwy flynedd.
“Roeddem am wneud rhywbeth arbennig i ddathlu diwedd y prosiect, yn enwedig yn dilyn y gefnogaeth wych a gawsom gan y ffermwyr, gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl eraill sydd wedi chwarae eu rhan i roi cyfle i’r aderyn hwn yn ein hardal. Rwyf mor falch o’r gefnogaeth mae’r gymuned ffermio wedi ei rhoi i’n gwaith, ac rwy’n gobeithio bod y stori hon yn amlygu’r ymrwymiad y gall llawer o bobl ei roi, ac y mae llawer yn ei roi i helpu’r gylfinir.
“Ar gyfer 2025, diolch i ymdrech gyfun pawb, llwyddodd chwe chyw i fagu plu, a oedd yn hwb i’r boblogaeth gylfinir leol. Mae’n addas bod modd i ni ddathlu’r ymdrechion gan bob cymuned a gymerodd ran trwy adael y llyfr hwn i aelodau iau y gymuned ei ddarllen a dysgu sut maen nhw a’n cymunedau gwledig yn gallu gwneud gwahaniaeth i’r gylfinir.
“Mae’n braf gweld sut mae pawb wedi dod at ei gilydd i helpu’r prosiect ac rwyf am ddiolch i Peter a disgyblion yr ysgol am nodi’r daith hynod o gadarnhaol hon. Ond gallwn eich sicrhau na fydd y Dirwedd Genedlaethol yn atal eu hymdrechion sydd eu hangen i ofalu am yr aderyn hynod a phrin hwn, a bydd gwaith yn parhau wrth i ni symud i’r dyfodol i ddarparu help i’r gylfinir eiconig.”
Taith Josh
Wedi i’w berthynas chwalu fe aeth Josh, sy’n 34 oed, i chwilio am gymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor blwyddyn dwethaf. Ym mis Chwefror 2025, rhoddwyd Josh mewn llety dros dro a chafodd ymarferydd cefnogi atal digartrefedd ei ddynodi ar ei gyfer.
Josh
“Roeddwn yn ddigartref ddechrau’r flwyddyn dwythaf. Roeddwn wedi bod yn ddigartref o’r blaen a chefais fy rhoi mewn llety dros dro yn flaenorol, ond nid oeddwn yn y meddylfryd iawn yn flaenorol i geisio datrys fy sefyllfa yn ehangach.
Dim ond am gyfnod byr yr oeddwn i yno’r tro hwn. Roeddwn yn gofyn i bawb, yn ceisio dod o hyd i fy fflat fy hun. Yn y diwedd mi ddes o hyd i un a symud allan o’r llety dros dro yn weddol gyflym.”
Fis yn ddiweddarach roedd Josh yn rhentu llety yn breifat er mwyn byw ynddo ac roedd yn awyddus i ysgrifennu’r bennod yn ei stori.
“Tra roeddwn yn y llety dros dro, fe soniodd fy ymarferydd cefnogi atal digartrefedd wrtha i am gyrsiau Intuitive Thinking Skills.
Roeddwn ychydig yn amheus am wneud y cyrsiau i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli tan i fi fynd arnynt nad oedd gen i mewn gwirionedd ddim byd i’w golli a phopeth i’w ennill o roi cyfle i’r cyrsiau.
Fe ddechreuais y cyrsiau ym mis Ebrill a mis Mawrth o 2025. Fe wnes i’r cwrs sgiliau ar gyfer bywyd gyntaf ac fe wnes i fwynhau yn fawr a dysgu llawer ohono.
Mae’n eich dysgu chi sut i ymdrin â’ch meddylfryd eich hun a sut rydych chi’n meddwl am broblemau. Roeddwn i’n arfer cael trafferth mawr gyda fy hyder ac yn amau fy hun drwy’r amser.
Gofynnwyd i mi ar ddechrau’r cwrs beth fyddwn i’n hoffi ei wella, ac felly fe nodais waith gyda fy hyder.”
Aeth Josh wedyn ymlaen i gymryd y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, gan ddysgu llawer mwy.
“Fe es ymlaen i wneud y cwrs gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, a ddysgodd fwy o agweddau technegol i mi. Fe fyddwn yn cael fy rhoi yn esgidiau pobl eraill ac fe ddysgais sut i helpu’r rhai hynny a allai fod yn fwy diamddiffyn.
Fe ddysgais sut i helpu eraill a allai fod yn wynebu amgylchiadau fel digartrefedd neu efallai yn cael trafferth gyda chamddefnyddio sylweddau.
Erbyn dechrau’r haf, cafodd Josh gynnig lleoliad fel llysgennad gyda’r tîm Intuitive Thinking gyda’r gobaith y byddai’r cynllun wedyn yn arwain at swydd barhaol o fewn y tîm ei hun.
“Roeddwn wir yn llawn cyffro gan mai hwnnw oedd y lleoliad roeddwn i ei eisiau fwyaf o’r rhai a gafodd eu cynnig i mi. Fe ddysgais i roi areithiau a gweinyddu hyfforddiant drwy gysgodi aelodau o’r tîm. Fe helpodd hynny fy hyder gymaint, sefyll i fyny a siarad o flaen pobl. Roeddwn yn ofnus iawn ar y dechrau, ond fe ddaeth yn haws ac yn haws dros amser.
Roeddwn rhyw ddeufis i mewn yn fy lleoliad gyda’r tîm pan ges gynnig swydd yn y sector ynni ac roeddwn yn teimlo na allwn wrthod y swydd.
Roedd y sgiliau roeddwn wedi eu dysgu yn ystod y cyrsiau roeddwn wedi eu cymryd, a fy lleoliad wedi rhoi gymaint o hyder i mi yn fy rôl newydd. Mae’r swydd hon mor wahanol i’r hyn rydw i wedi ei wneud o’r blaen, ac mae’r sgiliau newydd hyn wedi rhoi’r hyder i mi i fynd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Dyma beth rydw i wedi elwa fwyaf ohono.
Roeddwn wedi arfer parhau i wneud y pethau yr oeddwn yn gyfforddus â nhw cyn i mi wneud y cyrsiau hyn. Roeddwn yn gwneud yr hyn yr oeddwn i wastad wedi ei wneud, ond yn y pen draw roeddwn yn cael yr un canlyniadau. Roeddwn yn teimlo fel mod i wedi treulio blynyddoedd yn llonydd i ddweud y gwir.
Ers i mi fynd ar y cyrsiau hyn dydw i erioed wedi teimlo cystal yn fy mywyd. Mae’n swnio’n wallgof i ddweud y gall cwrs newid hynny, ond fe ddysgais pam rwy’n meddwl am bethau a sut i fynd i’r afael â’r meddyliau hynny.”
Mae Josh wedi dewis ffyrdd mwy cadarnhaol o dreulio’r amser.
“Rydw i wedi gwneud dewisiadau iachach yn fy mywyd nawr, roeddwn yn ei chael yn anodd gyda diflastod pan ddes i’n sobr tua phedair blynedd yn ôl, roeddwn i angen elfennau eraill.
Fe ddechreuais i chwarae golff a mynd i’r gampfa. Rydw i nawr yn aelod o Glwb Golff Y Rhyl.”
Mae Josh nawr wedi graddio o’r cyrsiau Intuitive Thinking gyda nifer o dystysgrifau, ac mae’n mwynhau ei rôl newydd yn y sector ynni.
“Dwi’n credu y byddai’r cyrsiau hyn o fudd i bawb; does dim rhaid i chi fod mewn sefyllfa wael i fynd arnynt. Wnewch chi ddim colli dim o ddysgu o’r cwrs hwn, cyn belled â’ch bod yn buddsoddi ynddo rydych yn mynd i elwa ohono.
Mae pobl wedi dweud eu bod yn gallu gweld newid yn fy hyder. O lle roeddwn i fis Chwefror i lle rydw i nawr, mae’n teimlo fel dau unigolyn gwahanol. Roeddwn i’n teimlo ar goll a doedd gen i ddim gobaith i ddweud y gwir. Fe ddysgodd fi i feddwl yn wahanol a meddwl yn rhesymegol am sefyllfaoedd. Mae wedi fy helpu i gael y ffocws a’r cymhelliant i gael yr hyn rydw i ei eisiau.
Roedd fel effaith pelen eira, cyn gynted ag y penderfynais i ddechrau helpu fy hun, fe ddaeth pethau’n well yn raddol.”
Adfer y Gorffennol, Adeiladu'r Dyfodol: Nantclwyd y Dre
Mae gan Nantclwyd y Dre bron i 600 mlynedd o hanes ac mae'n un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru.
Mae Rhuthun yn dref sy’n gyforiog o hanes. Llosgwyd hi i’r llawr gan Owain Glyndŵr yn y flwyddyn 1400 ac mae llawer o naws hanesyddol y dref fel rydym ni’n ei hadnabod hi heddiw yn dod o’r bensaernïaeth ffrâm goed a oedd yn gyffredin yn yr ardal yn ystod cyfnod ei hailadeiladu.

Ymysg y strydoedd hyfryd a’r adeiladau hanesyddol mae darn pwysig iawn o dreftadaeth adeiledig Rhuthun, sef Nantclwyd y Dre. Cafodd ei adeiladu yn wreiddiol fel tŷ neuadd i wehydd, felly mae bron i 600 mlynedd o hanes lleol yn perthyn iddo ac mae’n un o’r tai tref ffrâm goed hynaf yng Nghymru sydd ar agor i’r cyhoedd.
Mae bellach yn cael ei reoli gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a gall rhai sy’n ymweld â thŷ a gerddi hanesyddol Nantclwyd y Dre ail-fyw ei orffennol difyr drwy ymgolli mewn profiadau sain ac arddangosfeydd a gweld ei du mewn sydd oll yn rhoi cipolwg cyfareddol ar fywydau’r teuluoedd a fu’n byw yno.
Yn 2023, cafwyd cyllid i adfer rhannau o’r safle pan gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio gwarchod treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Cafodd y cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus hynny yng Ngorllewin Clwyd ac nid oes modd ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.
Fel un o’r prosiectau llwyddiannus, dyfarnwyd £667,000 i ailddatblygu rhannau o’r tŷ sy’n segur ar hyn o bryd ac sydd angen rhywfaint o waith atgyweirio i warchod y darn pwysig hwn o dreftadaeth leol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, creu cyfleoedd newydd ar gyfer yr atyniad i wella ei gynaliadwyedd at y dyfodol ac ychwanegu ambell beth cyffrous ar gyfer profiad yr ymwelwyr.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Hydref, yn canolbwyntio ar roi bywyd newydd i asgell orllewinol segur yr adeilad. Bydd y darn hwn o’r tŷ’n cael ei droi’n llety gwyliau, wedi’i ddylunio a’i ddodrefnu gan gadw at natur hanesyddol yr adeilad, a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar y llawr cyntaf gyda lle penodol ar gyfer y gwirfoddolwyr wythnosol sy’n rhan hollbwysig a gwerthfawr o’r gwaith beunyddiol yn Nantclwyd.


Fodd bynnag, cyn gallu dechrau ar y gwaith, roedd angen rhoi ystyriaeth i un set o drigolion sydd yno ers tro byd. Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych ymgynghori ag ecolegwyr i sicrhau na fyddai’r datblygiadau sydd ar y gweill yn tarfu ar fan clwydo ystlumod gwarchodedig, sy’n cynnwys cyfran bwysig o boblogaeth Cymru o Ystlumod Lleiaf ac Ystlumod Pedol Lleiaf. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i’r contractwyr, a gosodwyd lloches ystlumod fawr yn yr ardd, i roi mwy o le i’r creaduriaid bach yma ffynnu.
Bydd y gwelliannau sydd i ddod hefyd yn gwneud ardal y gegin yn fwy addas i arlwyo ar gyfer digwyddiadau, a bydd yr hafdy’n cael ei adfer i’w hen ogoniant i ymwelwyr ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf. Bydd hwn yn lle ychwanegol ar gyfer seremonïau sy’n cael eu cynnal yn y tŷ hanesyddol, fel priodasau a seremonïau partneriaeth sifil.
Mae’r prosiect yn cael ei wneud gan B&W Builders & Decorators ynghyd â TACP Architects ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2026. Mae dull mwy cynaliadwy wedi’i ddefnyddio i wneud y gwaith gwella hefyd, drwy ddefnyddio gwlân i inswleiddio’r adeilad yn hytrach na’r deunydd inswleiddio mwy cyffredin sy’n cael ei wneud o olew, sy’n creu mwy o allyriadau carbon a ddim yn adnewyddadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae dechrau ar y gwaith gwella yma yn Nantclwyd y Dre’n garreg filltir fawr i ddiogelu dyfodol safle hanesyddol mor amlwg yng nghanol tref Rhuthun.
“Mae Nantclwyd yn atyniad gwych i ymwelwyr ac yn ganolbwynt cymunedol i’n gwirfoddolwyr ymroddgar, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr ardaloedd newydd yn cael eu defnyddio a’u mwynhau gan ymwelwyr.
“Bydd lles yr ystlumod sydd yno’n parhau i fod yn flaenoriaeth wrth wneud y gwaith a byddwn mewn cyswllt cyson gyda’r ecolegwyr trwy gydol y cyfnod.”