Danteithfwyd naturiol yn goron ar waith adfer natur

Canfod danteithfwyd arbenigol yn fuan yn nhymor prosiect adfer cynefin natur.

Canfod danteithfwyd arbenigol yn fuan yn nhymor prosiect adfer cynefin natur.

Yn ddiweddar fe lansiodd Gyngor Sir Ddinbych Brosiect Dolydd Blodau Gwyllt am y seithfed tro. 

Wedi’i sefydlu yn 2019, mae’r prosiect yn cynnwys tua 70 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n cynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Y llynedd, gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Ar gyfer 2026, mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor eisoes wedi darganfod ‘preswylydd’ newydd mewn dôl mewn tref. Mae yna alw mawr am y danteithfwyd ar fwydlen unrhyw gogydd. 

Mae’r tîm wedi canfod nifer o fadarch morel ar y safle sydd yn fadarch bwytadwy y mae galw amdanynt, ac mae’n rhaid eu coginio cyn eu bwyta.  Maen nhw’n taflu allan eu sborau i ailboblogi yn wahanol i fadarch arferol sydd i’w canfod yn y ddaear.

Mae yna briodweddau meddyginiaethol mewn madarch morel ac maent wedi bod yn cael eu defnyddio mewn meddyginiaeth draddodiadol o Tsieina.

Mae’r darganfyddiad yn dangos bod nod hirdymor o aeddfedu dolydd ar draws y Sir yn symud yn ei flaen oherwydd y prosiect. 

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae dod o hyd i’r fadarchen yma wedi bod yn wych gan ei fod yn dangos fod y gwaith rheoli yr ydym wedi’i wneud gyda’n cydweithwyr Gwasanaethau Stryd nid yn unig yn gwella amrywiaeth y blodau, ond bioamrywiaeth y pridd hefyd, fel y dangosir gan y preswylydd newydd yma yn y ddôl.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hi’n cymryd amser i’n dolydd dyfu ac aeddfedu mewn i gynefin sy’n darparu cefnogaeth gref i’r holl natur yn lleol. Mae canfod madarch morel yn enghraifft gadarnhaol o sut mae rheoli pridd ar ein safleoedd yn rhoi cyfle i fwy o rywogaethau ffynnu a goroesi yn ein dolydd.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw