Datganiad Unigryw ar y Piano mewn Tŷ Hanesyddol

Cyflwynir y datganiad gan y pianydd byd enwog Janusz Piotrowicz.

Mae tŷ a gardd hanesyddol Nantlcwyd y Dre yn falch iawn o gyflwyno cyfle prin i brofi datganiad cerddorol o’r radd flaenaf yn ei amgylchedd agos a hanesyddol, diolch i berfformiad unigryw a gynhelir ddydd Mawrth 21 Ebrill am 2pm. 

Cyflwynir y datganiad gan y pianydd byd enwog Janusz Piotrowicz, sy’n cael ei ddathlu fel “Bardd Meistrolgar y Piano” am ei ddyfnder llawn mynegiant a’i feistrolaeth dechnegol anhygoel.  Gyda gyrfa ryngwladol lwyddiannus dros sawl degawd, mae Mr Piotrowicz wedi perfformio’n eang mewn neuaddau cyngerdd a gwyliau mawr ym mhob cwr o’r byd, gan ennill cymeradwyaeth eang am ei ddehongliadau a’i sgiliau.

Mae’r rhaglen yn addo taith gerddorol gyfoethog ac atgofus, yn cynnwys gwaith rhai o’r cyfansoddwyr anwylaf ar gyfer y piano.  Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Consolation No. 3 gan Liszt,  Sonata in E gan Scarlatti, a detholiad o waith gorau Chopin yn cynnwys dau Noctwrn, Preliwdau a’r Berceuse telynegol.  Mae’r datganiad hefyd yn cynnwys Troika Tchaikovsky o The Seasons, ynghyd a phreliwdau gan Rachmaninov.

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym wedi cyffroi i gael croesawu Mr Piotrowicz i berfformio rhai o’i ddarnau yma yn Nantclwyd y Dre.

“Mae’r perfformiad arbennig hwn yn cynnig cyfle prin i brofi datganiad cerddorol yn amgylchedd agos a hanesyddol Nantclwyd y Dre, un o’r safleoedd treftadaeth a drysorir fwyaf yn Rhuthun”. 

Mae’r tocynnau’n costio £15 ymlaen llaw a £17.50 ar y drws. Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw yn Nantclwyd y Dre o ddydd Iau a dydd Sadwrn, rhwng 10:30am a 3:30pm. Fe’ch cynghori i’w harchebu’n gynnar rhag cael eich siomi.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy anfon e-bost at treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw