Disgyblion o Fodelwyddan yn rhoi gobaith i fyd natur

Mae disgyblion ysgol gynradd ym Modelwyddan wedi torchi llewys i helpu i greu cynefin natur newydd ar dir eu hysgol. 

Mae disgyblion ysgol gynradd ym Modelwyddan wedi torchi llewys i helpu i greu cynefin natur newydd ar dir eu hysgol. 

Bu disgyblion Ysgol y Faenol yn cydweithio gyda Thîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar er mwyn datblygu dôl flodau gwyllt yn yr ysgol.

Mae’r plant eisoes wedi rhoi hwb i fyd natur yn yr ysgol eleni drwy blannu dros 1,000 o goed ar dir yr ysgol. 

Fe wnaethant hefyd helpu i adeiladu bwa helyg byw ar y safle sy'n darparu strwythur cynaliadwy ar gyfer gweithgareddau gwaith coed gwyrdd pellach gyda'r myfyrwyr, cynefin ar gyfer pryfed ac adar ac ardal naturiol i hyrwyddo dysgu am natur i'r ysgol.

Drwy dorchi eu llewys, helpodd y disgyblion i blannu dros 100 o flodau gwyllt i greu’r ddôl newydd i gefnogi peillwyr a darparu ardal addysg awyr agored arall i ddysgu am natur yn yr ysgol.   Roedd y rhywogaethau a blannwyd yn cynnwys: clafrllys, gludlys coch, meddyges las, llygad llo mawr, clust y gath, moronen y maes, bys y ceirw a’r bengaled.

Daeth y planhigion o blanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy a’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Fe wnaethom fwynhau bod yn ôl yn Ysgol y Faenol ar ôl gweithio gyda’r disgyblion i blannu’r holl goed a’r hwyl a gawsom gyda nhw wrth greu’r bwa helyg.  Maen nhw a’r staff yn angerddol iawn am gefnogi natur a bydd y prosiect diweddaraf hwn i greu’r ddôl yn helpu i greu cynefin gwych i’r holl anifeiliaid a phlanhigion ar dir yr ysgol.

 

 

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych fod y plant hyn wedi cael y cyfle i ddysgu am yr holl fanteision all ddod yn sgil creu dôl blodau gwyllt drwy ein tîm Bioamrywiaeth a da iawn nhw i gyd am dorchi eu llewys i helpu i blannu ased mor bwysig ar gyfer cefnogi natur yn lleol.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw