Disgyblion Sir Ddinbych yn ymweld â siambr y cyngor fel rhan o ymweliad addysgol
Ymwelodd disgyblion o Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Carrog â siambr y Cyngor heddiw (16 Ebrill) fel rhan o ymweliad addysgol i Neuadd y Sir, Rhuthun.
Aeth dros 20 o ddisgyblion ar daith o amgylch y siambr, gan ddysgu am ei hanes, a'i gwahanol ddefnyddiau gan y cyngor a'r pwyllgorau.

Ymunodd y Pennaeth Addysg ac aelodau o staff democrataidd y Cyngor â'r disgyblion mewn sesiwn holi ac ateb, lle dysgon nhw fwy am weithrediadau'r cyngor a sut mae'n chwarae rhan yn eu haddysg a'u bywyd.
Cafodd y disgyblion hefyd ddysgu mwy am hanes rôl Cadeirydd y Cyngor, ac am wahanol bwyllgorau'r Cyngor.
Yn ogystal â'r daith o amgylch y siambr, cafodd y disgyblion hefyd roi cynnig ar y mecanweithiau o fewn y siambr, gan gynnwys y system bleidleisio a meicroffonau, yn ogystal â dysgu mwy am y system darlledu gwe a chyfieithu.

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg Cyngor Sir Dinbych:
“Hoffwn ddiolch i’r disgyblion am ddod draw heddiw i ymweld â’r siambr, cafwyd cwestiynau diddorol a chwilfrydig iawn ganddynt.
Mae’r gwaith y mae’r cyngor yn ei wneud yn effeithio ar sawl agwedd ar eu bywyd bob dydd, gan gynnwys addysg, ac mae’n bwysig iawn bod gan ein disgyblion yn Sir Dinbych wybodaeth eang am sut a pham mae’r cyngor yn rhedeg fel y mae.”