Disgyblion uwchradd y Rhyl yn cefnogi natur yn lleol
Mae disgyblion ysgol uwchradd wedi helpu i gefnogi natur ar safle eu hysgol.

Mae disgyblion ysgol uwchradd wedi helpu i gefnogi natur ar safle eu hysgol.
Yn ddiweddar ymunodd disgyblion Crist y Gair â staff o dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych i helpu i wella dôl blodau gwyllt a grëwyd fis Ebrill diwethaf.
Mae hyn yn dilyn gwaith diweddar yn datblygu ardaloedd o wrychoedd a choetir yn yr ysgol gyda chymorth y disgyblion. Plannwyd 260 metr o wrychoedd ac 14 o goed safonol i helpu cynyddu bioamrywiaeth a’r canopi coed yn yr ysgol, er mwyn adfer byd natur a chynnig ardal les addysgol awyr agored i’r disgyblion.
Bu’r disgyblion a swyddogion Bioamrywiaeth yn cydweithio i ychwanegu 200 o blanhigion i’r ddôl a fydd yn helpu i ddarparu ffynhonnell wych o fwyd i beillwyr megis gwenyn.
Roedd y rhywogaethau’n cynnwys: llygad llo mawr, meddyges las, gludlys coch, clafrllys, bysedd y cŵn, moronen y maes, crafanc brân y gweunydd, melynydd Brych a’r bengaled.
Fe ddaeth y planhigion a fu’n hwb i natur o amgylch yr ysgol o blanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy a’r Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Roedd hi’n wych dychwelyd i Grist y Gair gan fod y plant a’r staff mor frwdfrydig dros gefnogi natur yn lleol o amgylch safle’r ysgol. Fe fydd cynyddu amrywiaeth y blodau gwyllt yn y ddôl yn gwella’r gefnogaeth mae’r ddôl yma’n ei rhoi, gan ddarparu lloches i fywyd gwyllt lleol i ffynnu a goroesi. Fe fydd datblygu’r ddôl hefyd yn rhoi lle gwych i ddisgyblion astudio natur ar garreg drws yr ysgol.”
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych fod y plant hyn wedi cael y cyfle i ddysgu am yr holl fanteision all ddod yn sgil dôl blodau gwyllt drwy ein tîm Bioamrywiaeth a da iawn nhw i gyd am dorchi eu llewys i helpu i ddatblygu a gwella ased mor bwysig ar gyfer cefnogi eu natur yn lleol.”