Gwaith arloesol i wella Cysylltedd Digidol Sir Ddinbych
Mae cynlluniau arloesol ar y gweill i wella rhwydweithiau ffonau symudol ar draws Sir Ddinbych.

Mae cynlluniau arloesol ar y gweill i wella rhwydweithiau ffonau symudol ar draws Sir Ddinbych.
Mae tîm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar brosiect i ddefnyddio asedau’r awdurdod lleol i roi hwb i rwydweithiau ffonau symudol ar draws y sir.
Bydd y Cytundeb Mynediad Agored yn caniatáu i’r Cyngor wneud asedau penodol, polion goleuadau stryd yn bennaf, ar gael ar gyfer gosod technoleg symudol cell fach i wella signal.
Cyflwynodd swyddogion TGCh y gwaith hwn i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor yn ddiweddar.
Mae’r celloedd bach yn cynorthwyo â chynyddu capasiti heb fod angen isadeiledd mawr. Ar ôl eu gosod mae ganddynt y capasiti i wella cysylltedd digidol ar gyfer preswylwyr a busnesau, gan gynnig mynediad mwy dibynadwy i’r rhyngrwyd.
Ar ôl arwyddo cytundeb, bydd gweithredwr rhwydwaith ffonau symudol yn penderfynu a fyddai gosod eu celloedd bach ar asedau’r cyngor yn rhoi hwb i’w rhwydwaith.
Byddai’r Cyngor yn cadw rheolaeth lawn dros yr asedau y gellid eu defnyddio ar gyfer gosod celloedd bach i sicrhau bod y gwaith gosod yn cyrraedd yr holl safonau technegol, diogelwch a gweithredol.
Mae unrhyw ddatblygiad o dechnoleg cell fach yn niwtral o ran cost i’r Cyngor, bydd gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol yn talu ffi flynyddol a gytunwyd arni am osod y celloedd bach ar asedau.
Bydd pob Cytundeb Mynediad Agored yn gweithredu am gyfnod cychwynnol o 15 mlynedd, gan roi sefydlogrwydd i weithredwyr sy’n ystyried buddsoddi a chynnig eglurder hirdymor i’r Cyngor. Byddai gweithredwyr yn gyfrifol am yr holl gostau’n gysylltiedig ag arolygon, cyflenwad trydan, gosod, cynnal a chadw a symud offer. Bydd gofyn iddynt hefyd feddu ar yswiriant priodol, yn cynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwr, ac i indemnio’r Cyngor rhag unrhyw ddifrod neu golled sy’n deillio o’u hoffer neu weithgareddau.
Meddai Helen Vaughan-Evans, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau: “Mae gan y gwaith arloesol hwn y potensial i gefnogi ein preswylwyr a busnesau ar draws Sir Ddinbych. Drwy ganiatáu i osod y dechnoleg hon ar ein hasedau, gallwn helpu i roi hwb i gysylltedd digidol i bawb sy’n hanfodol i’r ffordd yr ydym yn byw rŵan.
“Mae gosod technoleg cell fach yn ein trefi yn helpu busnesau presennol i gysylltu’n well ac yn annog mwy o fusnesau i fuddsoddi yn yr ardal. Pan fo gweithredwyr yn dewis gosod offer ar asedau gwledig, gall yr isadeiledd hwn hefyd helpu i wella cysylltedd ar gyfer preswylwyr sydd, yn hanesyddol, wedi profi mynediad mwy cyfyngedig, gan helpu i ddatblygu safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol ar draws ein Sir .”