Gwaith yn gwella effeithlonrwydd ynni ysgol

Bydd Ysgol Pant Pastynog yn gweld gwell effeithlonrwydd ynni a llai o gostau rhedeg yn dilyn cwblhau prosiect ar y safle.

Bydd Ysgol Pant Pastynog yn gweld gwell effeithlonrwydd ynni a llai o gostau rhedeg yn dilyn cwblhau prosiect ar y safle.

Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi gorffen y gwaith o wella’r amgylchedd dysgu ar gyfer disgyblion ac athrawon yr ysgol, yn ogystal â gostwng allyriadau carbon yr adeilad. Bu i bwyllgor Sam yr ysgol, sy’n cynnig llais i bob un o ddisgyblion yr ysgol, ysgrifennu at y tîm ynni’n awgrymu mesurau arbed ynni yr hoffen nhw eu gweld yn eu hysgol, gan weithio gyda’r tîm i gwblhau’r cynlluniau.

Mae’r tîm wedi rheoli prosiectau yn nifer o adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys ysgolion, i wella eu heffeithlonrwydd ynni a gostwng eu hallyriadau, fel rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn 2019.

Gyda chefnogaeth Gwasanaethau Plant ac Addysg y Cyngor, cafodd system baneli solar ffotofoltaidd 8.1kw ei gosod ar do’r ysgol. Disgwylir i’r prosiect arbed tua £3,200 y flwyddyn i’r safle mewn biliau tanwydd, a gostwng allyriadau’r safle o tua 3,400 cilogram o garbon y flwyddyn.

Bydd y paneli ffotofoltaidd newydd hyn yn cynhyrchu trydan i bweru’r safle, gan leihau’r pwysau ar y system grid lleol a helpu lleihau allyriadau carbon y safle.  Bydd pob cilowat a gynhyrchir gan y paneli ffotofoltaidd ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog.

Roedd y gwaith a wnaed yn yr ysgol hefyd yn cynnwys insiwleiddio’r atig yn well gan ychwanegu 150mm o ddeunydd inswleiddio, inswleiddio rhannau o’r wal geudod gyda Evobead, gosod goleuadau LED effeithlon, ac ychwanegu system newydd o reoli’r adeilad er mwyn gallu rheoli’r defnydd o ynni ar y safle’n well.

Meddai Helen Vaughan-Evans, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon a’n defnydd o ynni yn ein holl adeiladau. Mae hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau amgylcheddol, ac rwy’n falch iawn o weld fod y rhain yn uchelgeisiau y mae disgyblion ein Sir yn eu rhannu hefyd. Bydd hyn hefyd yn arwain at ostyngiad yng nghostau’r ysgol yn yr hirdymor.  Rwy’n ddiolchgar i’n staff ni, gyda chymorth staff a disgyblion yr ysgol, am ganiatáu i ni wneud y gwaith pwysig hwn yn Ysgol Pant y Pastynog.”

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw