Menter adfer y tirlun yn plannu dros 500 o goed yn Sir Ddinbych
Mae Tîm Coed y cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i reoli effaith Clefyd Coed Ynn yn y sir.

Mae Tîm Coed y cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i reoli effaith Clefyd Coed Ynn yn y sir.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Clefyd Coed Ynn wedi effeithio ar goed ar draws y sir, gyda llawer o goed yn marw neu’n gorfod cael eu torri am resymau iechyd a diogelwch.
Mae’r clefyd yn achosi i ddail y coed wywo ac mi fyddwch chi hefyd yn gweld creithiau ar y rhisgl. Nid oes dull hysbys o atal trosglwyddiad y ffwng hwn sy’n lledaenu drwy’r awyr, felly mae angen dulliau amgen o reoli ei effaith.
Mae’r goeden onnen frodorol (fraxinus excelsior) yn olygfa gyffredin iawn yn Sir Ddinbych ac mae hi’n goeden werthfawr iawn i fyd natur a phobl, gan wneud y clefyd hwn yn niweidiol iawn i’n hamgylchedd.
Yn ystod y gaeaf llwyddodd y prosiect ‘After Ash’, a drefnwyd gan Dîm Coed y cyngor i adfer y tirlun, i blannu dros 500 o goed ar ddau safle – yn Llandegla a Llanarmon.
Ariannwyd y gwaith hwn drwy’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Plannodd y tîm goed brodorol addas i’r lleoliadau a buddiol i fioamrywiaeth, gan ddarparu cynefinoedd gwerthfawr ar hyd y B5430 ac adfer gwrych ar hyd yr A542.
I helpu’r coed newydd i sefydlu, defnyddiodd y tîm wlân Prydeinig i atal chwyn ac i helpu i gadw lleithder yn y pridd.
Meddai Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae gwaith ein Tîm Coed drwy’r prosiect ‘After Ash’ wedi bod yn hanfodol i reoli effaith Clefyd Coed Ynn yn y sir ac mae plannu’r coed yma yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr i adferiad y dirwedd yn Llandegla a Llanarmon yn Iâl”.